Mae Llwybr 2 ar agor

Ardal derbynwyr grantiau

Addysg Oedolion

Pwy sy’n gallu cyflwyno cais?

Sefydliadau cymwys i wneud cais:

Unrhyw sefydliad nid-er-elw sy’n cael ei reoleiddio neu ei gofrestru yng Nghymru, ac sy’n gweithredu o Gymru, sy’n gweithio ym maes addysg oedolion gan gynnwys:

  • awdurdodau cyhoeddus lleol a rhanbarthol, cyrff cydlynu a sefydliadau eraill sydd wedi’u cofrestru ac sy’n gweithredu o Gymru sydd â rôl ym maes addysg oedolion
  • sefydliadau anllywodraethol, mentrau cymdeithasol a sefydliadau nid-er-elw, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i elusennau cofrestredig a chymdeithasau corfforedig elusennol, cwmnïau budd cymunedol, cwmnïau cyfyngedig drwy warant sydd ddim yn gweithredu er elw
  • consortiwm o sefydliadau/darparwyr, sy’n cynnwys un sefydliad arweiniol sy’n gwneud cais ar ran dau neu ragor o ddarparwyr addysg oedolion, ym maes Addysg Oedolion. Rhaid i bob aelod o’r consortiwm gael ei reoleiddio neu ei gofrestru yng Nghymru, a gweithredu o Gymru. Rhaid cytuno ar bartneriaid consortiwm a’u henwi ar adeg y cais a ni chaniateir i sefydliadau sy’n gwneud cais godi ffi am gael eu cynnwys mewn cais gan gonsortiwm

Gall sefydliadau nid-er-elw sy’n gweithio ym maes addysg oedolion, nad ydynt wedi’u rheoleiddio neu eu cofrestru yng Nghymru ond sy’n gweithredu ledled y DU, ac sydd â phrofiad amlwg a diweddar o gyflwyno gweithgareddau yng Nghymru, hefyd fod yn gymwys i wneud cais ar yr amod eu bod nhw’n bodloni’r meini prawf canlynol:

Cyflwynir tystiolaeth foddhaol i ddangos:

  • sut bydd gweithgarwch arfaethedig y rhaglen o fudd i Gymru a
  • bod y cyfranogwyr arfaethedig naill ai (i) ar gyfer symudedd allanol, yn gyfranogwyr sy’n ymgymryd â sefydliad cymwys yng Nghymru, neu (ii) ar gyfer symudedd mewnol, bydd y cyfranogwyr yn ymgymryd â gweithgarwch dysgu yng Nghymru

Rhaid i sefydliadau sy’n gwneud cais feddu ar brofiad diweddar ac amlwg o ddarparu gweithgaredd yn y sector y maent yn gwneud cais ar ei gyfer.

Nid yw sefydliadau er elw ac unig fasnachwyr yn gymwys i wneud cais na chael eu henwi fel partneriaid consortiwm. Dylech chi gyfeirio at ganllaw cymhwyster Taith i gadarnhau os yw eich sefydliad yn bodloni’r gofyniad cymhwyster nad yw’n gweithredu er elw.

Chwech o fyfyrwyr a’u cefnai i’r camera yn edrych ar gofeb Medi 11eg yn Efrog Newydd. Y mae yna nifer o entrychdai wedi e’u hadlewyrchu yn erbyn yr awyr las dwfn yn y cefndir. Six students facing away from the camera looking at the September 11 memorial in New York. There are a number of skyscrapers reflected against a deep blue sky in the background.

Angen cefnogaeth?

Ydych chi'n teimlo bod angen mwy o gefnogaeth arnoch chi, neu eisiau trafod eich syniad gyda Taith? Llenwch y ffurflen fer hon a byddwn ni mewn cysylltiad yn fuan iawn i drefnu cyfarfod un i un.

Cliciwch yma i drefnu cyfarfod un i un

Oes gennych chi brosiect Taith byw eisoes?

Ardal derbynwyr grantiau

Yn yr ardal derbynwyr grantiau gallwch chi gael mynediad at bopeth sydd ei angen arnoch chi i'ch helpu chi i redeg eich prosiect Taith. Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n dewis y Llwybr a'r Flwyddyn gywir i sicrhau eich bod chi'n cael mynediad at y wybodaeth berthnasol.

Dysgu mwy
Becky Gittens AS yn cyfarfod â disgyblion o Ysgol Dinas Brân yn llyfrgell eu hysgol

Cysylltwch â ni

Os oes angen rhywfaint o gefnogaeth ychwanegol arnoch chi, neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau.

Cysylltwch â ni

Archwiliwch

Grŵp mawr o bobl yn sefyll am lun y tu mewn, mae gan dri o bobl offerynnau cerdd / A large group of people posing for a photo indoors, three people have musical instruments

Hafan

Grŵp sy’n eistedd yn yr awyr agored ac yn cael pryd o fwyd. Mae babi ar lin yn mlaen y llun a ffenestr tŷ yn y cefndir.

Pwy sy’n gallu cymryd rhan?

Grŵp o oedolion yn sefyll am lun o flaen eglwys gadeiriol yn Norwy. Mae'r grŵp yn dal baner fawr Cymru a llawer o fflagiau bach Norwyaidd / A group of adults posing for a photo in front of a cathedral in Norway. The group are holding a large Welsh flag and lots of small Norwegian flags

Pam cymryd rhan?

Straeon

We are pleased to share the stories from some participants of the Taith programme across the Adult Education sector, who have visited countries all over the world.

View Stories
Golygfa o lyn â mynyddoedd yn y cefndir. Mae rhai pobl yn cerdded i lawr llwybr a gellir gweld pobl eraill yn y pellter.