Mae cyfnewid rhyngwladol pwerus ag ariannwyd gan Taith wedi arwain at lansio Our Voice Our Journey (OVOJ), sefydliad newydd dan arweiniad ieuenctid sy’n mynd i’r afael â thrais ac anghydraddoldeb ar sail rhywedd yng Nghymru.
Ganwyd y syniad yn ystod prosiect Taith dan arweiniad Plan International UK, a aeth ag wyth o bobl ifanc ac wyth o oedolion ar daith a newidiodd eu bywydau i Seland Newydd. Yn ystod y symudedd hwn, fe wnaethon nhw gysylltu â sefydliadau gwaelodol, gan gynnwys ‘She Is Not Your Rehab’, gan archwilio sut y gall adrodd straeon ac iachâd cymunedol fynd i’r afael â niwed rhyng-genedlaethol.
Roed y profiad wedi ysbrydoli’r cyfranogwyr i fynd y tu hwnt i’r prosiect, gan ffurfio sefydliad newydd sy’n canolbwyntio ar newid systemau a grymuso pobl ifanc. Mae OVOJ bellach yn cefnogi pobl ifanc ledled Cymru i herio normau niweidiol, arwain ymgyrchoedd, a chreu dyfodol tecach a mwy diogel.
Mae’r fideo hwn yn dangos y daith, y lleisiau y tu ôl iddi, a sut roedd cyllid Taith wedi helpu i droi cyfnewid i mewn i ddull newydd, nad yw’n ceisio cefnogi unigolion yn unig, ond sy’n canolbwyntio ar fynd i’r afael â strwythurau, naratif a diwylliannau ehangach sy’n caniatáu i niwed barhau.