Mae Clybiau Bechgyn a Merched Cymru (BGC Cymru) yn sefydliad gwaith ieuenctid gwirfoddol cenedlaethol sy’n helpu pobl ifanc ledled Cymru i fyw bywydau iach a hapus. Mae’n eu cefnogi i ddatblygu sgiliau newydd, cael hwyl, a chael effaith gadarnhaol yn eu cymunedau. Mae llawer o’r bobl ifanc mae BGC Cymru yn eu cefnogi yn dod o gefndiroedd difreintiedig ac dydyn nhw erioed wedi teithio y tu hwnt i’w hardal leol.
Yn y fideo hwn, mae staff BGC Cymru yn tynnu sylw at sut mae rhaglenni cyfnewid rhyngwladol yn cynnig profiadau sy’n newid bywydau; gan helpu pobl ifanc i feithrin sgiliau newydd, cryfhau rhwydweithiau cymorth, a thyfu mewn hyder a gwydnwch. Maen nhw hefyd yn rhannu sut mae Taith, fel sefydliad Cymreig, yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol diolch i’w ddull hyblyg a hygyrch sydd wedi’i deilwra i anghenion grwpiau ieuenctid a phobl ifanc ledled Cymru.