Cafodd 20 o fyfyrwyr blwyddyn 10 o Ysgol Uwchradd Casnewydd y cyfle i deithio i Japan ym mis Chwefror 2025. I dros hanner y myfyrwyr, dyma oedd eu profiad cyntaf o fynd dramor, a daeth y daith yn gyfle nid yn unig i wella eu haddysg, ond i gyflwyno’r myfyrwyr i ddiwylliannau newydd a datblygu eu sgiliau iaith.
Fe wnaethon ni siarad â Lina, Kiara, Mia, Chaylun, Elisia a Hannah, a’u hathrawes Siân Vaughan am eu profiad anhygoell:
Beth oedd amcanion eich prosiect?
Siân Vaughan: “Amcanion y prosiect oedd cyflwyno diwylliant arall i’n myfyrwyr, rhoi profiad uniongyrchol o ddefnyddio eu sgiliau iaith, a gwelliant addysgol ar draws y cwricwlwm gan gynnwys technoleg, gwyddoniaeth, celf a hanes. Yn ogystal, roedd hwn yn gyfle i hyrwyddo twf personol yn ein myfyrwyr, sydd â diffyg hyder mewn sefyllfaoedd anghyfarwydd, ac i roi ysbrydoliaeth a dyheadau gyrfa iddyn nhw drwy edrych ar ddatblygiad technoleg.”
Sut wnaeth y myfyrwyr baratoi ar gyfer y daith?
Siân Vaughan “Cyn yr ymweliad, cafodd pob myfyriwr wers Siapaneg gan Gymdeithas Siapan, lle dysgon nhw ymadroddion sylfaenol ynghyd â’r pethau i’w gwneud a’r pethau i beidio â’u gwneud yn niwylliant Siapan. Roedden nhw’n gallu rhoi ar waith yr hyn roedden nhw wedi’i ddysgu a sylweddoli pa mor bwysig yw gwneud ymdrech i ddysgu’r pethau sylfaenol.”
Beth oedd y broses ymgeisio?
Lina: “Cynhyrchodd ein hysgol broses ymgeisio, lle roedd yn rhaid i ni greu cyflwyniad yn seiliedig ar debygrwydd a gwahaniaethau ffyrdd o fyw yn Siapan a’r DU, i’w gyflwyno o flaen y dosbarth. Profodd hyn ein hymrwymiad oherwydd yn amlwg roedd yn eithaf allan o barth cysur llawer o bobl i wneud hyn. Dewisodd ein hathro ddetholiad o bobl ac yna roedd proses gyfweld.”
Ai dyma oedd profiad cyntaf unrhyw un o deithio dramor?
Siân Vaughan: “O’r 20 myfyriwr, roedd llai na hanner wedi bod dramor a 2 heb gael pasbort o’r blaen. Dechreuodd yr antur yn y maes awyr i fwy na hanner y myfyrwyr gan nad oedden nhw wedi hedfan erioed.”
Kiara: “Dyma oedd fy nhro cyntaf i fynd dramor a’r tro cyntaf i mi gael pasbort. Roeddwn i’n teimlo’n ofnus iawn ar y dechrau. Ond yna, ar ôl gadael, dydw i ddim yn gwybod pam roeddwn i mor ofnus, a dweud y gwir.”
Mia: “Nid dyma oedd fy nhro cyntaf dramor, ond dyma oedd fy nhro cyntaf ar awyren, felly roeddwn i ychydig yn nerfus am hynny. Roedd yn gam mawr i mi. Ond pan es i ar yr awyren sylweddolais i nad oedd hi mor ddrwg â hynny mewn gwirionedd.”
Beth allwch chi ddweud wrthym ni am yr ymweliad â’r ysgol yn Siapan?
Siân Vaughan: “Profodd y myfyrwyr sut beth yw bywyd mewn ysgol Siapaneaidd drwy dreulio amser mewn ysgol ganol yn Nhalaith Aichi.
I ddechrau, roedd myfyrwyr Cymru a Japan yn swil, ond newidiodd hyn yn fuan ar ôl iddyn nhw ddechrau gweithio gyda’i gilydd. Nid oedd y rhwystr iaith yn broblem, ac roedden nhw’n dal i gael hwyl gyda Saesneg a Japaneg sylfaenol.
Mae Siapan bob amser yn gwneud yn dda yn nhablau cynghrair PISA ac roedd y myfyrwyr yn disgwyl i fywyd ysgol fod yn wahanol iawn. Daethan nhw i sylweddoli bod yr ysgol yn seiliedig ar barch a bod yr ystafell ddosbarth yn draddodiadol iawn ac nid yn uwch-dechnoleg fel yr oedden nhw wedi meddwl i ddechrau. Mae cael y cysylltiad â’r Ysgol Uwchradd Iau wedi caniatáu i’n myfyrwyr aros mewn cysylltiad â’u cyfoedion.”
Chaylun “Roedd yn wahanol iawn i’n hysgol ni. Pan aethon ni yno gyntaf, roedd pawb yn groesawgar ac yn garedig iawn.”
Mia: “Yn yr ysgol fe wnaethon ni chwarae rhai o’u gemau traddodiadol ac fe gawson ni i gyd gylchdroi o gwmpas yr ystafell ddosbarth. Arhoson ni yn yr ystafell ddosbarth am ginio a chawson ni brofi sut beth oedd bwyta yno hefyd. Roedd y myfyrwyr yn gweini’r cinio ac ar y diwedd, fe wnaethon ni i gyd glirio popeth ac wedyn brwsiodd y myfyrwyr eu dannedd. Fe wnaethon ni fwyta reis a physgod gyda chawl miso a charton o laeth. Mae hyn yn wahanol iawn i’r hyn rwy’n ei fwyta bob dydd yn yr ysgol ac mae gymaint yn iachach! Bydd yr atgof o fod mewn ysgol Siapaneaidd bob amser yn aros gyda mi. Roedd yn ffordd wych o weld sut mae myfyrwyr ochr arall y byd yn dysgu. Maen nhw’n barchus iawn ac maen nhw hyd yn oed yn glanhau eu hystafelloedd dosbarth eu hunain!”
Pa weithgareddau eraill wnaethoch chi gymryd rhan ynddynt yn ystod y daith?
Chaylun: ”Aethon ni i lawer o gysegrfeydd a themlau gwahanol a phrofon ni ddiwylliant a thraddodiadau Siapan yn wirioneddol. Aethon ni hefyd i ddosbarth gwneud swshi a gwnaethon ni’r seremoni de draddodiadol, lle yfon ni de matcha a rhoi cynnig ar y past ffa coch a’r pwdin hwn.”
Siân Vaughan: “Cawson ni gyfle hefyd i ymweld â Llysgenhadaeth Prydain yn Tokyo lle dysgodd y myfyrwyr am gyfleoedd swyddi tu allan i’r DU ynghyd â deall rôl llysgenhadaeth a phwysigrwydd hyrwyddo Cymru ledled y byd. Yn ddiamau, ysbrydolodd hyn fwyafrif helaeth o’n myfyrwyr, sydd bellach yn meddwl am y cyfleoedd sydd o’u blaenau.
Yn dilyn ein cyfarfod â chynrychiolwyr o Swyddfa Ryngwladol Llywodraeth Cymru, mae un fyfyrwraig yn anelu at fod yn gynrychiolydd dros Gymru yn Tsieina (mae ei thad yn Gymro a’i mam yn Tsieineaidd) ac mae hi eisoes yn meddwl am gyrsiau prifysgol.”
Lina: “Ar ôl cwrdd â’r cynrychiolydd yn y llysgenhadaeth, sylweddolais i pa mor eang yw’r ystod o swyddi sydd yna, ac roedd hyn yn pwysleisio’r pwysigrwydd o wybod ail iaith. Dangosodd wir i mi fod cymaint mwy gallwn i wneud gyda gwahanol raddau.”
Beth ddysgoch chi o’ch profiad yn Japan?
Lina: “Fe wnaethon ni ddatblygu ein sgiliau rheoli amser ac arian. Ar wahân i hyn, rwy’n credu ei fod wedi ein dysgu sut i fod yn fwy cymdeithasol a hyderus, ac ar ôl mynd trwy hynny i gyd yn annibynnol, mae gennych chi ymdeimlad o gyflawniad.”
Chaylun: “Mae’n debyg iddo wneud i mi eisiau profi pethau mwy traddodiadol. Wrth fod allan mewn gwlad wahanol, yn amlwg, roeddwn i’n nerfus iawn i siarad Siapaneg, ond unwaith roeddwn i yno, teimlais i’n gyfforddus. Ac mae wedi gwneud i mi eisiau mynd allan a mentro i leoedd newydd.”
Siân Vaughan: “Wrth i’r ymweliad fynd yn ei flaen, cynyddodd hyder y myfyrwyr ac roedden nhw’n defnyddio eu sgiliau Siapaneg pryd bynnag y bo modd. Roeddwn i’n gallu clywed pawb yn dweud ‘arigato’ a ‘konichiwa’.
Mae tasgau syml fel cofrestru yn y maes awyr, i gyfleu eu hoffterau a’u cas bethau bwyd i weinyddion, wedi bod yn drawsnewidiol i’r myfyrwyr. Tra yn Siapan, cawson nhw ddigon o gyfleoedd i drefnu eu hunain ac ymdrin ag amrywiaeth o sefyllfaoedd fel siopa ar eu pen eu hunain a gofyn am help yn y gwesty. Er mor ddibwys mae’n swnio, mae’r rhain wedi gwneud gwahaniaeth mawr i’n myfyrwyr.”
Beth fu effaith ehangach y prosiect Taith?
Siân Vaughan “Ni feddyliodd y myfyrwyr erioed bydden nhw’n cael profiad mor anhygoel ac fe wnaethon nhw amsugno pob cyfle a phrofiad tra yn Siapan.
Maen nhw wedi dod yn fwy hyderus yn eu bywydau bob dydd a gallan nhw gyfathrebu’n fwy effeithiol â’u cyfoedion ac oedolion.
Dywedodd yr holl fyfyrwyr fod y daith wedi gwneud iddyn nhw eisiau teithio mwy ac bydden nhw wrth eu bodd yn ymweld â Siapan eto yn y dyfodol. Agorodd y daith eu llygaid i’r gwahanol gyfleoedd sydd ar gael ar ôl gorffen yr ysgol.
Rydyn ni wedi gallu rhannu ein profiadau mewn gwasanaethau ac mewn gwersi ac mae hyn wedi ennyn chwilfrydedd ymhlith ein myfyrwyr. Mae wedi dangos i’n myfyrwyr fod unrhyw beth yn bosibl a bod y temlau, y cysegrfeydd a’r cestyll yn real ac nid dim ond rhywbeth rydych chi’n ei weld ar y teledu.
Mae diweithdra yn broblem fawr yn ein hardal, ac rwy’n credu’n gryf bod y prosiect yn dechrau torri’r cylch ac yn ysbrydoli’r myfyrwyr i feddwl am yrfaoedd dramor neu’r diwydiant teithio a thwristiaeth neu hyd yn oed STEM i enwi ond ychydig. Faint o bobl yn Bettws all ddweud eu bod nhw wedi cael eu hysbrydoli i fod mewn proffesiwn penodol oherwydd cyfnewid ysgol i Siapan?”