Mae cyllid Llwybr 1 ar gau ar hyn o bryd.  Bydd yn ail-agor 28 Ionawr 2026

Ardal derbynwyr grantiau
Byd-eang

Dathlu tair blynedd o Taith

Rhannwch hyn!

Dros y tair blynedd ddiwethaf, mae Taith wedi bod yn trawsnewid bywydau drwy gyfnewidiau dysgu rhyngwladol. Mae’r fideo hwn yn dathlu effaith anhygoel y cyfleoedd hyn, gan ddod â disgyblion, myfyrwyr, pobl ifanc, dysgwyr sy’n oedolion, athrawon, staff a gweithwyr ieuenctid ledled Cymru ynghyd.

Drwy Taith, mae cyfranogwyr wedi meithrin hyder, gwneud ffrindiau oes, a darganfod diwylliannau newydd. I lawer, mae’r cyfnewidiau hyn wedi agor drysau na fyddent erioed wedi dychmygu eu bod yn bosib—boed hynny’n cael pasbort am y tro cyntaf, camu y tu allan i’w parth cysurus, neu ddysgu i weld y byd o safbwynt gwahanol.

Mae Taith yn chwarae rôl hanfodol mewn helpu pobl i gysylltu, dysgu, a thyfu. Mae’r cyfnewidiau hyn yn grymuso unigolion o bob cefndir, yn enwedig y rhai sy’n wynebu’r heriau mwyaf, i brofi addysg y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth ac i ehangu eu gorwelion.

Dyna pam ei fod yn bwysig.

Dewch ar daith gyda ni

Cofrestrwch i fod ar ein rhestr bostio i gael y newyddion diweddaraf ynglŷn â’r rhaglen.

Drwy gofrestru, rydych chi’n cytuno â’n polisi preifatrwyddy, gan gynnwys trosglwyddo eich gwybodaeth i’n platfform marchnata, Mailchimp. Gallwch ddad-danysgrifio ar unrhyw adeg.