Mae Llwybr 2 ar agor

Ardal derbynwyr grantiau
Iwerddon

Learning and Work Institute yn datblygu anodd i annog rhagor o oedolion i ymgysylltu â chyfleoedd dysgu cymunedol yng Nghymru

Rhannwch hyn!
Grŵp o bobl yn eistedd o amgylch bwrdd yn trafod. Mae cyfrifiaduron, papurau a diodydd ar y bwrdd.

Drwy eu prosiect Llwybr 2 Taith, mae’r National Learning and Work Institute, ynghyd â’u partneriaid consortiwm a grŵp o ddysgwyr sy’n oedolion, wedi datblygu adnodd ddysgu newydd o’r enw ‘Grymuso Llysgenhadon Dysgwyr’. Mae’n darparu mewnwelediad i ffyrdd newydd o ymgysylltu dysgwyr cymunedol sy’n oedolion, yn enwedig y rhai byddai’n cael y budd mwyaf o gyfleoedd dysgu fel oedolion.

Drwy hyfforddi dysgwyr sy’n oedolion i fod yn llysgenhadon dysgwyr, mae’r prosiect yn grymuso unigolion sydd wedi profi gwerth dysgu fel oedolyn yn bersonol. Mae’r llysgenhadon hyn yn deall anghenion eu cymunedau a’r rhwystrau y mae pobl yn eu hwynebu wrth gael mynediad at gyfleoedd dysgu. Mae eu profiad byw yn eu galluogi i gysylltu â phobl eraill, hyrwyddo buddion dysgu gydol oes, a hyrwyddo cyfranogiad ehangach.

Gwyliwch y fideo hwn i ddysgu sut mae’r adnodd hwn yn cefnogi sector addysg oedolion mwy cynhwysol, ymgysylltiedig sy’n cael ei arwain gan ddysgwyr, gan helpu i lunio darpariaeth y dyfodol yng Nghymru.

Dewch ar daith gyda ni

Cofrestrwch i fod ar ein rhestr bostio i gael y newyddion diweddaraf ynglŷn â’r rhaglen.

Drwy gofrestru, rydych chi’n cytuno â’n polisi preifatrwyddy, gan gynnwys trosglwyddo eich gwybodaeth i’n platfform marchnata, Mailchimp. Gallwch ddad-danysgrifio ar unrhyw adeg.