Ardal derbynwyr grantiau
Fflorida, Yr Unol Daleithiau

Profiad diwydiant trawsnewidiol Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant i fyfyrwyr Teithio a Thwristiaeth

Rhannwch hyn!
Myfyrwyr a staff PCYDDS yn sefyll am lun mewn cyntedd mawr ac yn dal baner fawr gyda baner Cymru a PCYDDS arni.

Ym mis Mai 2025, aeth grŵp o fyfyrwyr Rheoli Teithio a Thrafnidiaeth Rhyngwladol ar brofiad dysgu rhyngwladol trawsnewidiol yn Fflorida. Drwy bartneriaethau cryf â’r diwydiant ac integreiddio academaidd wedi’i gynllunio’n ofalus, galluogodd y prosiect fyfyrwyr i ymgysylltu’n uniongyrchol ag arweinwyr byd-eang yn y diwydiannau teithio, twristiaeth a lletygarwch, gan gynnwys Disney, Universal, Royal Caribbean, a Marriott.

Beth oedd nod eich prosiect?

Prif nod y daith oedd dod â dysgu academaidd yn fyw drwy drochi myfyrwyr mewn profiad ‘Byw, Dysgu, Gweithio’, yn arddull Disney. Dyluniwyd y prosiect i:

  • Alinio’n uniongyrchol â modiwlau academaidd y myfyrwyr mewn rheoli atyniadau a digwyddiadau.
  • Darparu dysgu profiadol sy’n cysylltu damcaniaeth â gweithrediadau yn y byd go iawn.
  • Annog datblygiad personol, hyder, a dinasyddiaeth fyd-eang.

Roedd y weledigaeth yn syml ond yn bwerus: gwneud y byd yn ddarlithfa.

Myfyrwyr a staff PCYDDS yn sefyll am lun o flaen llyn gyda Hard Rock Café yn y cefndir. Mae un o'r myfyrwyr mewn cadair olwyn.

Cyflwynwyd y prosiect mewn partneriaeth ag Yummy Jobs, sefydliad sy’n recriwtio ar ran Disney ac Universal, gyda chefnogaeth Royal Caribbean International. Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi datblygu perthnasau hirhoedlog gyda’r arweinwyr diwydiant hyn, gan bartneru â Disney ers 1988, Yummy Jobs ers 2000, a Royal Caribbean Group ers 2015.

Rhoddodd y perthnasau hyn gyfle heb ei ail i fyfyrwyr brofi’r diwydiant teithio a thwristiaeth yn uniongyrchol. Drwy gydol y daith, roedd myfyrwyr yn gallu rhwydweithio ag uwch reolwyr ar draws y sefydliadau hyn, gan gael mewnwelediad go iawn i lwybrau gyrfa rhyngwladol a disgwyliadau’r diwydiant.

Dywedwch wrthym am rai o’r gweithgareddau buodd eich cyfranogwyr yn cymryd rhan ynddynt?

Mae ein myfyrwyr yn ymgymryd â hyfforddiant diwydiant teithio tystysgrifedig cyn y daith sy’n eu helpu i baratoi ar gyfer y daith.  Roedd hwn yn brofiad newydd i fyfyrwyr nad oeddent wedi teithio heb eu teulu o’r blaen, ac i un dysgwr dyma’r tro cyntaf iddo adael Cymru a mynd dramor ar awyren.

Roedd myfyrwyr yn byw gyda’i gilydd mewn fila fawr, gan annog dysgu grŵp a chydweithio.  Roedd yr amgylchedd cymunedol yn meithrin cefnogaeth gan gyfoedion ac annibyniaeth, gyda myfyrwyr yn siopa, yn coginio, ac yn cynnal sesiynau trafod academaidd dyddiol cyn ac ar ôl ymweliadau.

Roedd gweithgareddau dysgu allweddol yn cynnwys:

  • Ymweld â holl barciau thema Disney ac Universal i ddadansoddi gwasanaethau gwesteion, rheoli atyniadau, a strategaethau gweithredol yn feirniadol.
  • Teithiau y tu ôl i’r llenni, ymweliadau â safleoedd gwestai, a sesiwn addysgol yng nghampws myfyrwyr Disney.
  • Trên cyflymder uchel i Miami, gan gynnwys ymweliadau ag ardaloedd amlddiwylliannol a mynychu rodeo traddodiadol i archwilio twristiaeth ddiwylliannol.
  • Ymweliad ar long Celebrity Cruises, lle cyfarfu myfyrwyr â’r Uwch Reolwr Teithiau Glannau ac archwilio gweithrediadau mordaith yn fanwl.

Creodd myfyrwyr ddyddiaduron fideo a myfyrdodau diwylliannol hefyd, a chafodd llawer ohonynt eu dal gan ddefnyddio camerâu 360 gradd i’w rhannu yn ystafell addysgu ymdrochol y brifysgol.

Dau fyfyriwr yn edrych dros falconi ar olygfa o ddŵr ac adeilad yn y cefndir. Dim ond cefn y myfyrwyr allwch chi eu gweld ac mae 'UWTSD Tourism & Events' wedi'i argraffu ar eu crysau.
Beth oedd uchafbwyntiau ac effeithiau eich profiad?

Yr uchafbwynt gorau oedd gweld trawsnewidiad y myfyrwyr.  O deithwyr petrusgar i ddinasyddion byd-eang hyderus. Mynegodd llawer o fyfyrwyr nad oeddent erioed wedi dychmygu gwneud cais i gwmnïau fel Disney, Universal, neu Royal Caribbean, ond yn dilyn y profiad hwn, mae sawl un eisoes wedi gwneud:

  • Mae dau fyfyriwr wedi gwneud cais i Disney.
  • Mae un wedi gwneud cais i ymuno â’r diwydiant mordeithio.
  • Mae un arall wedi sicrhau swydd rheolwr dan hyfforddiant ryngwladol yn UDA.

Mae effaith don y prosiect wedi ymestyn y tu hwnt i’r cyfranogwyr uniongyrchol:

  • Mae darlithwyr bellach yn defnyddio’r cynnwys 360 gradd i gefnogi cyflwyno’r cwricwlwm ehangach.
  • Mae’r delweddau ymdrochol wedi’u hintegreiddio i wythnosau a seminarau cynefino, gan fod o fudd i fyfyrwyr eraill trwy annog trafodaeth feirniadol a dysgu myfyriol.
  • Mae cynnydd amlwg wedi bod yn niddordeb myfyrwyr mewn lleoliadau rhyngwladol a theithiau maes ar draws rhaglenni Twristiaeth a Digwyddiadau y brifysgol.

Un llwyddiant arwyddocaol oedd y gallu i gynnwys myfyriwr â phroblemau symudedd ym mhob agwedd ar y profiad. Gyda chyllid ychwanegol gan Taith, llogwyd sgwter symudedd, gan sicrhau mynediad llawn i bob gweithgaredd dysgu. Roedd hyn o fudd uniongyrchol i’r myfyriwr ond fe greodd hefyd drafodaethau grŵp ystyrlon ynghylch hygyrchedd, cydraddoldeb a chynhwysiant yn y diwydiant teithio a digwyddiadau.

Darparodd y daith ryngwladol hon lawer mwy na chyfoethogi academaidd; datblygodd hyder ac ysbrydoliaeth, ac agorodd ddrysau i gyfleoedd gyrfa. Dychwelodd y myfyrwyr wedi’u cyfarparu’n well yn academaidd, ond hefyd wedi’u trawsnewid yn bersonol ac yn awyddus i ymgysylltu â chyfleoedd byd-eang.

Beth yw eich myfyrdodau ar eich profiad Taith?
Myfyrwyr a staff PCYDDS yn sefyll am lun o flaen arddangosfa flodau o Moana a Maui Disney.

Beth oedd eich profiad o’r broses ymgeisio?

Roedd y broses ymgeisio fewnol ar gyfer Taith yn syml, a chawsom gefnogaeth ragorol gan ein Tîm Symudedd Rhyngwladol. Darparodd Taith gyllid ychwanegol ar gyfer hygyrchedd hefyd, a gafodd effaith enfawr ar ein deinameg grŵp a’n dysgu.

A fyddech chi’n gwneud cais eto?

Yn bendant. Roedd y profiad yn drawsnewidiol i’n myfyrwyr.

A fyddech chi’n argymell Taith i eraill?

Heb os nac oni bai. Ein cyngor ni fyddai: cynlluniwch yn drylwyr, cysylltwch y daith yn glir â chanlyniadau dysgu, a pharatowch y myfyrwyr ymlaen llaw i gael y gorau ohoni. Mae hyfforddiant cyn y daith ac amcanion clir yn allweddol.

Dewch ar daith gyda ni

Cofrestrwch i fod ar ein rhestr bostio i gael y newyddion diweddaraf ynglŷn â’r rhaglen.

Drwy gofrestru, rydych chi’n cytuno â’n polisi preifatrwyddy, gan gynnwys trosglwyddo eich gwybodaeth i’n platfform marchnata, Mailchimp. Gallwch ddad-danysgrifio ar unrhyw adeg.