Mae ceisiadau Llwybr 1 ar agor nawr! 

Ardal derbynwyr grantiau
Ffrainc

Taith trochi iaith Ffrangeg yn ehangu gorwelion disgyblion Ysgol Uwchradd yr Helyg

Rhannwch hyn!

Ym mis Mehefin 2025, aeth Ysgol Uwchradd yr Helyg ag ugain disgybl 13–15 oed a thri aelod o staff i Nantes i gymryd rhan mewn cyfnewid diwylliannol ac ieithyddol â Collège Victor Hugo. I sawl disgybl, dyma oedd eu tro cyntaf yn teithio dramor. Er mai canolbwynt y daith oedd datblygu sgiliau ieithyddol, cynigiodd y profiad fanteision personol, cymdeithasol ac addysgol llawer ehangach.

Mae Joanne Brace a Myriam Vrigneau o Adran Ffrangeg yr Helyg, a drefnodd y daith  gyda chefnogaeth gan  International Links Global, yn myfyrio ar y cyfnewid a’r effaith a gafodd ar y disgyblion a chymuned yr ysgol.

Beth oedd nodau ac amcanion yr ymweliad?

Y prif nodau oedd rhoi profiad dilys ac ymdrochol yn Nantes i ddisgyblion sy’n astudio Ffrangeg. Roedden ni eisiau iddyn nhw ddatblygu eu sgiliau ieithyddol, dyfnhau eu dealltwriaeth ddiwylliannol a gwerthfawrogi’r gwahaniaethau a’r pethau cyffredin rhwng bywyd yng Nghymru ac yn Ffrainc. I lawer o ddisgyblion, dyma oedd eu tro cyntaf yn teithio dramor, felly roedd hefyd yn ymwneud ag ehangu eu gorwelion, magu hyder a’u helpu i feithrin cysylltiadau ystyrlon â’u cyfoedion Ffrengig.

Beth wnaethoch chi i baratoi’r disgyblion ar gyfer y daith, yn enwedig y rhai nad oeddent erioed wedi bod dramor o’r blaen?

Roedd ein paratoadau yn canolbwyntio ar sicrhau bod pob disgybl yn teimlo’n barod a’u bod yn cael eu cefnogi. Mewn gwersi Ffrangeg, gwnaethon ni ymarfer iaith ymarferol a oedd yn berthnasol i’r daith. Fe wnaethon ni hefyd gynnal sesiwn friffio fanwl i ddisgyblion a’u teuluoedd i egluro beth i’w ddisgwyl, lleihau pryder ac ateb cwestiynau.

Un o’r elfennau allweddol oedd gwneud y daith yn hollol gynhwysol. Daeth 35% o’n disgyblion ar y symudedd hwn o gefndiroedd difreintiedig felly cawsom sgyrsiau cyfrinachol gyda theuluoedd i egluro y gallai cyllid Taith dalu am basbortau, fisâu, bagiau neu unrhyw gost hanfodol arall. Sicrhaodd hyn nad oedd unrhyw ddisgybl yn colli allan oherwydd rhwystrau ariannol.

Beth oedd argraff gyntaf y disgyblion wrth gyrraedd Nantes?

Ar ôl cyrraedd Nantes, roedd argraffiadau cyntaf y disgyblion yn ddwys, yn enwedig i’r rhai a oedd yn profi teithio dramor am y tro cyntaf.

I lawer, roedd y daith ei hun, hedfan a llywio meysydd awyr, yn gyffrous ac yn gwbl newydd. Diflannodd unrhyw flinder wrth gamu allan i hinsawdd boeth Nantes. Roedd y golygfeydd, y synau a’r awyrgylch yn teimlo’n wahanol ar unwaith, a sylweddolodd y disgyblion yn gyflym eu bod yn profi rhywbeth arbennig.

Disgybl RO:

Roedd fy mhrofiad yn yr ysgol Ffrengig yn wych… Roedd yn anhygoel gweld pobl yn byw eu bywydau bob dydd yn Ffrangeg, ac mae wedi gwneud i mi deimlo’n gyffrous ac yn fwy penderfynol o barhau i ddysgu’r iaith

A oedd yna unrhyw eiliadau annisgwyl sy’n sefyll allan?

Un o’r agweddau mwyaf cofiadwy oedd cryfder y cyfeillgarwch a ffurfiwyd gyda disgyblion yng Colège Victor Hugo. Roedd prydau gyda’r nos, gemau awyr agored, dawnsio, canu ac amser hamddenol gyda myfyrwyr preswyl yn eiliadau pwerus y mae disgyblion yn dal i siarad amdanynt. Bydd y cysylltiadau digymell hyn yn aros gyda nhw am oes.

Sut wnaeth y profiad ddylanwadu ar hyder y disgyblion y tu hwnt i iaith?

Gwnaeth y profiad ddatblygu eu sgiliau ieithyddol ond hefyd eu hyder cyffredinol a’u gallu i weithio fel rhan o dîm.  Cryfhaodd teithio, llywio lleoedd newydd ac addasu i amgylchedd ysgol gwahanol eu hannibyniaeth a’u gwydnwch. Daeth disgyblion yn fwy hyderus drwy gamu y tu allan i’w parthau cysurus a rheoli sefyllfaoedd newydd.

Gofynnodd un disgybl i bennaeth yr ysgol Ffrengig am y posibilrwydd o ddychwelyd yno i astudio yn y dyfodol, yn enwedig oherwydd ei bod yn ysgol breswyl lle byddai hynny’n bosib.

Disgybl AN:

Mae’n rhoi syniad i fi o’r llwybr yr hoffwn ei gymryd yn y dyfodol gan fod gennyf ddiddordeb mewn ieithoedd a theithio, gan roi agwedd hollol newydd ar fywyd i fi.

Sut mae’r profiad wedi effeithio ar yr ysgol a’r staff?

Bu cynnydd amlwg mewn brwdfrydedd dros Ffrangeg ymhlith disgyblion a gymerodd ran, sy’n cael ei adlewyrchu mewn cynnydd tair gwaith yn y disgyblion sy’n astudio TGAU Ffrangeg o’i gymharu â’r llynedd, ac rydym yn priodoli hyn yn uniongyrchol i effaith y cyfnewid.

Disgybl SA:

Mae Taith wedi cael effaith arna i ac ar bawb arall a gymerodd rhan. Doeddwn i erioed wedi clywed paragraffau a sgyrsiau Ffrengig, a syrthiais mewn cariad â’r iaith, ac rwy’n gobeithio parhau i ddysgu Ffrangeg.

Mae trafodaethau wedi bod hefyd ar ymgorffori dulliau addysgu newydd.  Mae’r staff ieithoedd yn bwriadu cyflwyno mwy o weithgareddau sy’n canolbwyntio ar siarad i wersi, yn enwedig y rhai sy’n annog trafodaeth gyda chyfoedion, gan adlewyrchu’r mathau o ryngweithiadau a fwynhaodd y disgyblion yn ystod y cyfnewid. Mae llwyddiant y cyfnewid hefyd wedi arwain at fwy o gefnogaeth i’r adran ieithoedd gan uwch arweinwyr.

Sut wnaeth rhieni ymateb i’r prosiect?

Roedd adborth gan rieni yn gadarnhaol iawn. Gwnaethant ganmol y drefniadaeth, y gwerth a’r profiad cyffredinol yn uchel iawn. Nododd llawer fod yr ymweliad wedi hybu brwdfrydedd eu plentyn dros Ffrangeg, creu cyfeillgarwch gyda disgyblion Ffrengig a darparu atgofion bythgofiadwy. Rhannodd llawer y byddai eu plant yn “dwli mynd yn ôl eto.”

Sut wnaeth cyllid Taith yr ymweliad yn bosib?

Roedd cyllid Taith yn hanfodol. Hebddo, ni fyddai’r ymweliad wedi gallu digwydd.

Gwnaeth y cyllid y cyfnewid yn hollol hygyrch drwy dalu am gostau hanfodol i deuluoedd na fyddent wedi gallu cymryd rhan fel arall. Galluogodd Ysgol Uwchradd yr Helyg i sefydlu a chryfhau partneriaeth ystyrlon â Collège Victor Hugo hefyd, gan sicrhau manteision hirdymor i garfannau’r dyfodol.

Dewch ar daith gyda ni

Cofrestrwch i fod ar ein rhestr bostio i gael y newyddion diweddaraf ynglŷn â’r rhaglen.

Drwy gofrestru, rydych chi’n cytuno â’n polisi preifatrwyddy, gan gynnwys trosglwyddo eich gwybodaeth i’n platfform marchnata, Mailchimp. Gallwch ddad-danysgrifio ar unrhyw adeg.