Mae Llwybr 2 ar agor

Ardal derbynwyr grantiau
Sbaen

Disgyblion o Ysgol Martin Sant yng Nghaerffili yn dod â dysgu ieithoedd yn fyw yn Sbaen

Rhannwch hyn!
Grŵp o ddisgyblion Sbaenaidd a Chymreig yn sefyll gyda'i gilydd y tu allan o flaen murlun

Cymerodd grŵp o 30 o ddisgyblion o Ysgol Martin Sant yng Nghaerffili ran mewn cyfnewid rhyngwladol gyda myfyrwyr yn Algeciras yn Sbaen. Cysylltodd y prosiect y myfyrwyr trwy brofiadau diwylliannol ac ieithyddol trochol. Daeth y prosiect â dysgu ieithoedd yn fyw a rhoddodd gyfle cyntaf i lawer o’r myfyrwyr deithio dramor. 

Mae eu hathro Sbaeneg Francisco Lopez yn sôn am y profiad a’r effaith mae wedi’i chael:

Pam wnaethoch chi wneud cais am gyllid Taith? 

Gwnaethon ni gais am gyllid Taith gyda’r nod o ail-fywiogi diddordeb mewn Sbaeneg yn ein hysgol. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, roedden ni wedi gweld gostyngiad yn nifer y myfyrwyr sy’n astudio TGAU a Safon Uwch—tuedd anffodus a welir ledled Cymru—ac roedden ni am gynnig profiad ystyrlon, trochol i fyfyrwyr a fyddai’n dod â’r iaith yn fyw y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth. Roedd y cyllid yn gyfle unigryw i wneud hynny.

Un o’r prif gymhellion dros geisio am gyllid oedd sicrhau bod myfyrwyr o gefndiroedd llai breintiedig yn cael mynediad at yr un profiadau cyfoethog â’u cyfoedion. I lawer o’n disgyblion, dyma’r tro cyntaf iddyn nhw deithio dramor, ac roedd yn hynod bwysig i mi yn bersonol wneud y cyfle hwn yn hygyrch ac yn gynhwysol. Helpodd cyllid Taith i lefelu’r cae chwarae, gan roi cyfle i bob myfyriwr dyfu mewn hyder, annibyniaeth ac ymwybyddiaeth ddiwylliannol.

Disgybl o Sbaen a Chymru yn gweithio gyda'i gilydd mewn gwers wyddoniaeth

Allwch chi ddweud wrthym am eich ysgol bartner a rhai o’r gweithgareddau y cymerodd y myfyrwyr ran ynddynt? 

Ysgol uwchradd yn Algeciras, Sbaen yw IES Las Palomas.

I ddechrau, fe wnaethon ni drefnu cyfarfodydd rhithwir byw yn ystod gwersi iaith. Roedd y sesiynau hyn yn caniatáu i fyfyrwyr o’r ddwy ysgol ymarfer eu sgiliau sgwrsio Sbaeneg a Saesneg mewn amser real wrth ddysgu am fywydau beunyddiol ei gilydd, systemau addysg a hobïau. Rhannodd y myfyrwyr lythyrau, fideos a lluniau ar blatfform digidol gan gyflwyno eu hunain a’u bywyd ysgol. Roedd y safle rhyngweithiol hwn yn caniatáu i ddysgwyr ymarfer eu hiaith, cyfnewid gwybodaeth am eu diwylliannau a meithrin cysylltiadau cyn cyfarfod wyneb yn wyneb. Mwynhaodd y myfyrwyr ddarllen postiadau ei gilydd ac ymateb, a helpodd i ddatblygu eu sgiliau ysgrifennu a’u hymwybyddiaeth ddiwylliannol mewn amgylchedd diogel a diddorol.

Creodd y prosiect gyfleoedd hefyd i arddangos diwylliant, hanes a hunaniaeth Cymru. Dysgodd disgyblion a staff yn Algeciras am Gymru, ein hiaith a’n traddodiadau. Uchafbwynt mawr oedd ymweliad myfyrwyr o Algeciras â Chymru, lle cawson nhw brofiad o fywyd mewn ysgol a chymuned Gymreig.

Creodd ein hysgol bartner yn Algeciras “Gornel Gymreig” yn eu hysgol hefyd, lle gwnaethon nhw arddangos gwybodaeth am Gymru, ei diwylliant a’i hiaith.

Ydy Sbaeneg eich disgyblion wedi gwella ers dechrau’r prosiect?

Mae dysgu ieithoedd mewn lleoliad go iawn wedi cael effaith sylweddol ar ruglder a hyder myfyrwyr yn Sbaeneg. Mae cymryd rhan mewn sgyrsiau go iawn, yn bersonol ac yn rhithiol, wedi cryfhau eu gallu i gyfathrebu’n naturiol.

Grŵp o ddisgyblion Sbaenaidd a Chymreig a'u hathrawon y tu allan i adeilad y Senedd yng Nghaerdydd

Ers dychwelyd, rydyn ni wedi gweld gwelliant amlwg yn sgiliau siarad a gwrando’r myfyrwyr. Mae llawer wedi dod yn fwy hyderus wrth ddefnyddio Sbaeneg yn ddigymell, ac mae eu hynganiad a’u rhuglder wedi gwella’n sylweddol. Bu newid hefyd mewn agwedd—mae myfyrwyr yn fwy brwdfrydig, ac mae sawl un wedi mynegi diddordeb mewn parhau â Sbaeneg ar lefel Safon Uwch a hyd yn oed yn y brifysgol.

Un o’r canlyniadau mwyaf gwerth chweil yw’r brwdfrydedd cynyddol mewn gwersi. Mae’r myfyrwyr yn fwy parod i fentro gyda’r iaith ac ymgysylltu mewn trafodaethau. Mae’r profiad hefyd wedi ennyn chwilfrydedd am ddiwylliannau ac ieithoedd eraill, gan ehangu eu rhagolygon byd-eang.

Rwy’n arbennig o falch o’r ffaith bod y myfyrwyr yn dal i fod mewn cysylltiad â’u cyfoedion yn Sbaen ac yn defnyddio Sbaeneg i gyfathrebu a chynnal eu cyfeillgarwch.

Mwynheais y daith gyfnewid yn fawr iawn oherwydd iddi roi cyfleoedd gwych i mi. Mwynheais i allu mynd i wlad arall a phrofi eu hiaith, eu diwylliant, eu hanes a’u pobl. Dysgais i lawer am eu hanes a’u ffyrdd o fyw, fel strwythur eu diwrnod a’u hamserlen ysgol. Roeddwn i wrth fy modd yn mynd i’r holl safleoedd hanesyddol drwy gydol y daith ac fe wnes i fwynhau’n fawr. O ran iaith, ces i  gyfle gwych i wella fy ngallu i siarad yr iaith a chyfathrebu ag eraill, a mwynheais hynny. Ces i gyfle hefyd i wneud ffrindiau newydd a mwynheais i hynny ac rwy’n dal mewn cysylltiad â chwpl o bobl a gyfarfûm â nhw. Mwynheais i hefyd eu cael nhw i gyd yn dod draw i Gymru a’u gweld yn dysgu am ein hanes, ein diwylliant a’n hieithoedd.

Kate Bailey, Disgybl

Beth yw’r effaith ar yr ysgol gyfan?

Mae’r prosiect wedi gwella dimensiwn rhyngwladol ein hysgol yn sylweddol. Mae wedi cryfhau ein cwricwlwm ac wedi grymuso athrawon trwy gyfleoedd datblygiad proffesiynol. Mae hyn wedi arwain at addysgu a dysgu gwell, mwy o ymgysylltiad myfyrwyr, a dyheadau uwch ar draws gwahanol grwpiau dysgwyr.

Mae ein partneriaeth â’r ysgol Sbaenaidd wedi sefydlu model cynaliadwy ar gyfer cydweithrediadau rhyngwladol yn y dyfodol, gan ymgorffori dysgu byd-eang yn niwylliant ein hysgol. Mae’r profiad hwn hefyd wedi cryfhau ein gallu i gyflawni prosiectau rhyngwladol, gan roi’r hyder i staff ymgysylltu mewn partneriaethau a datblygu cwricwlwm pellach.

Diolch i brosiect Taith, rydyn ni hefyd wedi llwyddo i sicrhau Gwobr Ysgol Ryngwladol y Cyngor Prydeinig, dyhead hirhoedlog i’n hysgol!

Disgyblion o Sbaen a Chymru yn gweithio gyda'i gilydd mewn gwers coginio

Dysgodd y daith lawer i mi am y tebygrwyddau a’r gwahaniaethau yn y ffordd y mae pobl yn Sbaen yn byw, o’i gymharu â ni yng Nghymru. Dysgais i lawer o bethau am Sbaen, fel y diwylliant, y bobl, y bwyd a’r hanes. Roeddwn i’n gwerthfawrogi’r daith hon, ac roeddwn i’n hapus fy mod i wedi gwneud llawer o ffrindiau newydd, ac rwy’n dal i siarad â rhai ohonyn nhw ar-lein heddiw. Rhoddodd y daith y cyfle i mi ddysgu pethau am Sbaen na allwch chi eu dysgu mewn ystafelloedd dosbarth, a dangosodd i mi sut beth yw bywyd ac addysg i blentyn Sbaenaidd. Mwynheais i gyfathrebu â’r myfyrwyr Sbaeneg a dysgu geiriau ein hieithoedd i’n gilydd, ac ymweld â lleoedd anhygoel gyda nhw.

Dylan Evans, Disgybl

Dewch ar daith gyda ni

Cofrestrwch i fod ar ein rhestr bostio i gael y newyddion diweddaraf ynglŷn â’r rhaglen.

Drwy gofrestru, rydych chi’n cytuno â’n polisi preifatrwyddy, gan gynnwys trosglwyddo eich gwybodaeth i’n platfform marchnata, Mailchimp. Gallwch ddad-danysgrifio ar unrhyw adeg.