Mae cyllid Llwybr 1 ar gau ar hyn o bryd.  Bydd yn ail-agor 28 Ionawr 2026

Ardal derbynwyr grantiau

Llwybr 1 - Adnoddau cymorth a gweminarau

Os ydych chi angen mwy o gefnogaeth, neu eisiau trafod eich syniad gyda Taith,  llenwch y ffurflen fer hon a byddwn ni mewn cysylltiad yn fuan iawn i drefnu cyfarfod un-i-un.

Llenwch y ffurflen

Adnodd cymorth neu weminar

Manylion

Taith  Llwybr 1 – Cyflwyniad i Alwad Ariannu 2026 

 

Bydd y weminar hon yn rhoi trosolwg o alwad ariannu Llwybr 1, sy’n agor ar gyfer ceisiadau ar 28ain o Ionawr 2026.  

Yn ystod y sesiwn byddwn yn trafod:  

  • Beth yw Llwybr 1  
  • Meini prawf cymhwysedd allweddol  
  • Y broses ymgeisio a’r amserlenni  

Byddwn hefyd yn ateb eich cwestiynau am y galwad ariannu a chyflwyno cais. 

Llwybr 1 2026 yw galwad ariannu olaf Taith – peidiwch â cholli’ch cyfle i wneud cais!

Dyddiad: Dydd Mercher 21 Ionawr | Amser: 12:00-13:00 (sesiwn Saesneg)

Dyddiad: Dydd Mercher 21 Ionawr | Amser: 16:00-17:00 (sesiwn Cymraeg)

Cyflwyniad i Llwybr 1 

Mae’r fideo hwn yn rhoi trosolwg o alwad ariannu Taith Llwybr 1 2026. Mae’n cynnwys manylion o’r meini prawf cymhwysedd a’r cyllid sydd ar gaelyn ogystal â rhoi arweiniad ar sut i baratoi ar gyfer eich cais. 

Cyflwyniad i Llwybr 1 

Fideo cyfrifydd grant

Canllaw cam wrth gam i gwblhau cyllideb eich prosiect ar gyfer eich cais Llwybr 1 2026.

Fideo cyfrifydd grant

Cymhwysedd cyllid

Cyn i chi wneud cais am arian, gwiriwch fod eich sefydliad(au) yn gymwys drwy ddarllen y canllaw cymhwysedd hwn. Bydd angen i chi gwblhau ffurflen gymhwysedd fel rhan o’r broses gais ac mae’r canllaw hwn yn eich helpu i ddeall a ydych yn gallu gwneud cais a beth sydd angen i chi ei gael yn barod i’ch helpu i gwblhau’r ffurflen gymhwysedd.

Cymhwysedd cyllid

Hyrwyddwyr Taith

Bydd Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru (WCIA) yn cefnogi’r rhai sydd am wneud cais drwy’r cynllun Grantiau Bach nad ydynt wedi derbyn cyllid Taith o’r blaen. Byddant yn cefnogi ymgeiswyr o’r sectorau Ysgolion, Ieuenctid ac Addysg Oedolion. Bydd y cymorth hwn yn cynnwys ymgysylltiad un i un yn bersonol ac yn rhithwir, yn ogystal â chymorth â cheisiadau. Mae eu cyfranogiad yn rhoi cyfle i ymgeiswyr gael cymorth wedi’i deilwra i helpu i ddatblygu syniadau prosiect, cynllunio cylch bywyd y prosiect a chwblhau’r ffurflen gais.

Os teimlwch y gallech elwa o drafod prosiect Taith cynllun Grantiau Bach posib â WCIA, cysylltwch â ni yn Taith drwy ymholiadau@taith.cymru

Guide Book Icon / Eicon llyfr canllaw

Canllawiau Llwybr 1

A line of people smiling and laughing. Some are wearing Basotho (mokorotlo) hats.

Mynd yn ôl i dudalen Llwybr 1

Dewch ar daith gyda ni

Cofrestrwch i fod ar ein rhestr bostio i gael y newyddion diweddaraf ynglŷn â’r rhaglen.

Drwy gofrestru, rydych chi’n cytuno â’n polisi preifatrwyddy, gan gynnwys trosglwyddo eich gwybodaeth i’n platfform marchnata, Mailchimp. Gallwch ddad-danysgrifio ar unrhyw adeg.