Mae cyllid Llwybr 2 yn cefnogi arloesedd addysgol trwy bartneriaethau cydweithredol rhyngwladol dan arweiniad Cymru sy’n mynd i’r afael â mater penodol neu flaenoriaeth sector yng Nghymru.
Mae cyfnewid rhyngwladol yn galluogi rhannu gwybodaeth, arbenigedd a dysgu cydweithredol rhwng sefydliadau Cymreig a rhyngwladol, i ddatblygu theori ac ymarfer mewn addysg yng Nghymru ac yn rhyngwladol. Bwriad cyllid Llwybr 2 yw cefnogi prosiectau na fyddent yn bosibl heb fewnbwn ac arbenigedd sefydliadau partner rhyngwladol.
Y sectorau sy’n gymwys ar gyfer cyllid yw:
- Ysgolion
- Ieuenctid
- Addysg Oedolion
- Addysg Bellach ac Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol

Gall staff a dysgwyr sy’n cymryd rhan ym mhrosiectau Llwybr 2 ddatblygu eu dealltwriaeth, eu gwybodaeth a’u defnydd o thema neu destun allweddol a byddan nhw’n datblygu allbwn i’w rannu ag eraill yn eu sector ac yn ehangach. Trwy ledaenu allbwn, mae prosiectau Llwybr 2 yn creu buddion hirdymor ehangach i addysg yng Nghymru ac yn cyfrannu at hyrwyddo nodau rhaglen Taith yn ogystal â helpu i gael effaith gadarnhaol ar ddatblygiadau polisi mewn sectorau ledled Cymru ac yn rhyngwladol.
Mae ymweld â phartner rhyngwladol, sef yr hyn a elwir yn symudedd, yn elfen allweddol o brosiectau Llwybr 2, ond nid yw buddion symudedd i gyfranogwyr unigol yn ffocws i brosiectau Llwybr 2. Yn lle hynny, mae symudedd rhyngwladol yno i gefnogi datblygiad a chwblhau allbwn y prosiect.
Mae Taith wedi ymrwymo i wneud cyfnewid rhyngwladol yn fwy cynhwysol a hygyrch. Mae ein strategaeth ar ei newydd wedd yn canolbwyntio ar gefnogi pobl a dangynrychiolir yn flaenorol mewn cyfnewid rhyngwladol i gael mynediad at gyfleoedd. Mae hyn yn cynnwys pobl o gefndiroedd difreintiedig, cefndiroedd lleiafrifoedd ethnig, Pobl Anabl a phobl ag anghenion dysgu ychwanegol.
Mae Llwybr 2 ar agor a bydd yn cau am 12yp ar y 6 Tachwedd, 2025.

Canllaw Llwybr 2

Adnoddau cymorth a gweminarau

Dechreuwch eich cais yma
Beth am gael cipolwg ar rai o’r prosiectau mae Taith wedi eu hariannu’n barod?
Edrychwch ar ein tudalen Prosiectau wedi eu Cynllunio
Unrhyw gwestiynau?
Os oes gennych unrhyw gwestiynau cysylltwch â’r tîm. Rydyn ni bob amser yn hapus iawn i helpu.
ymholiadau@taith.cymru