Cysylltwch

Llwybr 2 - Adnoddau cymorth a gweminarau

Os nad ydych chi’n gyfarwydd â chyllid Taith, neu’n heb ymgeisio am grantiau o’r blaen, yna rydyn ni wedi creu rhai adnoddau i helpu.  Yn y tabl isod fe welwch ddolenni i ddogfennau ategol a fideos i’ch helpu i ddeall y meini prawf asesu, sut i ddefnyddio’r ffurflen gais a’r cyfrifydd grant.

Pe hoffech chi  ymuno â ni ar un o’n gweminarau cymorth byw, edrychwch ar yr opsiynau isod.  Cliciwch ar y ddolen i gofrestru i fynychu. Os na allwch fynychu’r sesiynau byw, yna mae dolenni fideo yn y tabl isod lle byddwch yn dod o hyd i fersiynau wedi’u recordio ymlaen llaw o’r wybodaeth a ddarparwyd.

Os ydych chi angen mwy o gefnogaeth, neu eisiau trafod eich syniad gyda Taith?

Llenwch y ffurflen fer hon a byddwn ni mewn cysylltiad yn fuan iawn i drefnu cyfarfod un-i-un.

Cliciwch yma

Adnodd cymorth neu weminar

Manylion

Canllaw Llwybr 2 (2024) a Chwestiynau’r Cais

Mae’r ddogfen hon yn nodi’r cwestiynau rydyn ni’n eu gofyn yn ein cais ac yn rhoi rhywfaint o gyngor ar yr hyn rydyn ni’n edrych amdano yn eich atebion.

Cyflwyniad i Llwybr 2

Mae’r fideo hwn yn rhoi trosolwg o alwad ariannu Taith Llwybr 2 2024. Mae’n cynnwys manylion o’r meini prawf cymhwysedd a’r cyllid sydd ar gael, yn ogystal â rhoi arweiniad ar sut i baratoi ar gyfer eich cais.

Llwybr 2 Cyfrifydd Grant

Bydd y fideo hwn yn eich arwain trwy gwblhau’r Cyfrifydd Grant i baratoi cyllideb eich prosiect Llwybr 2.

Gweminarau – Taith Llwybr 2 2024 

 

Yn y weminar hon byddwn yn darparu trosolwg o alwad ariannu Taith Llwybr 2 2024.  Byddwn yn rhannu manylion y meini prawf cymhwysedd, gweithgareddau a chostau cymwys yn ogystal â darparu arweiniad ar sut i baratoi am eich cais.

Bydd cyfle hefyd i godi unrhyw gwestiynau gyda thîm Taith.

 

8 Hydref 12.00-13.30  Sesiwn Saesneg 

8 Hydref 16:00-17:30 Sesiwn Cymraeg 

22 Hydref 12:00-13:30 Sesiwn Cymraeg

22 Hydref 16:00-17:30 Sesiwn Saesneg

Guide Book Icon / Eicon llyfr canllaw

Canllaw Llwybr 2

Mynd yn ôl i dudalen Llwybr 2

Dewch ar daith gyda ni

Cofrestrwch i fod ar ein rhestr bostio i gael y newyddion diweddaraf ynglŷn â’r rhaglen.

Drwy gofrestru, rydych chi’n cytuno â’n polisi preifatrwyddy, gan gynnwys trosglwyddo eich gwybodaeth i’n platfform marchnata, Mailchimp. Gallwch ddad-danysgrifio ar unrhyw adeg.