Mae Llwybr 2 ar agor

Ardal derbynwyr grantiau

AB ac AHG

Pwy sy’n gallu cyflwyno cais?

Addysg Bellach (AB):

Sefydliadau cymwys i wneud cais:

  • unrhyw sefydliad cyhoeddus sy’n cael ei reoleiddio neu ei gofrestru yng Nghymru, ac sy’n gweithredu o Gymru sy’n weithgar ym maes addysg bellach, ac sy’n cynnig amrywiaeth o gyrsiau ar wahanol lefelau o fewn Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru, gan arwain at gymwysterau achrededig
  • cyrff cydgysylltu cenedlaethol, rhanbarthol neu leol sy’n gweithredu yng Nghymru ac yn goruchwylio darpariaeth addysg bellach
  • consortiwm o sefydliadau/darparwyr nid-er-elw, sy’n cynnwys un sefydliad arweiniol sy’n gwneud cais ar ran dau neu fwy o ddarparwyr addysg bellach, ym maes addysg bellach. Rhaid i bob aelod o’r consortiwm gael ei reoleiddio neu ei gofrestru yng Nghymru, a bod yn gweithredu o Gymru. Rhaid cytuno ar bartneriaid consortiwm a’u henwi ar adeg y cais a ni chaniateir i sefydliadau sy’n gwneud cais godi ffi am gael eu cynnwys mewn cais gan gonsortiwm

Nid yw sefydliadau er elw ac unig fasnachwyr yn gymwys i wneud cais na chael eu henwi fel partneriaid consortiwm. Dylech gyfeirio at ganllaw cymhwyster Taith i gadarnhau a yw eich sefydliad yn bodloni’r gofyniad cymhwyster nad yw’n gweithredu er elw.

Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol (AHG):

Sefydliadau cymwys i wneud cais:

Unrhyw sefydliad cyhoeddus neu nid-er-elw sy’n cael ei reoleiddio neu ei gofrestru yng Nghymru, ac sy’n gweithredu o Gymru sy’n weithgar ym maes addysg a hyfforddiant galwedigaethol, sy’n cynnig amrywiaeth o gyrsiau, gan arwain at gymwysterau achrededig, gan gynnwys:

  • cyrff cydgysylltu cenedlaethol sy’n gweithredu yng Nghymru ac yn goruchwylio’r ddarpariaeth addysg neu hyfforddiant ym maes addysg a hyfforddiant galwedigaethol
  • sefydliadau anllywodraethol nid-er-elw, mentrau cymdeithasol a sefydliadau nid-er-elw, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i elusennau cofrestredig a chymdeithasau corfforedig elusennol, cwmnïau budd cymunedol, cwmnïau cyfyngedig drwy warant sydd ddim yn gweithredu er elw sydd yn cynnal, hyfforddi neu weithio gyda dysgwyr a phrentisiaid ym maes addysg a hyfforddiant galwedigaethol
  • consortiwm o sefydliadau a darparwyr nid-er-elw, sy’n cynnwys un sefydliad arweiniol sy’n gwneud cais ar ran dau neu fwy o ddarparwyr addysg a hyfforddiant galwedigaethol, ym maes addysg a hyfforddiant galwedigaethol. Rhaid i bob aelod o’r consortiwm gael ei reoleiddio neu ei gofrestru yng Nghymru, a bod yn gweithredu o Gymru. Rhaid cytuno ar bartneriaid consortiwm a’u henwi yn y cais a ni chaniateir i sefydliadau sy’n gwneud cais godi ffi am gael eu cynnwys mewn cais gan gonsortiwm.

Nid yw sefydliadau er elw ac unig fasnachwyr yn gymwys i wneud cais na chael eu henwi fel partneriaid consortiwm. Dylech gyfeirio at ganllaw cymhwyster Taith i gadarnhau a yw eich sefydliad yn bodloni’r gofyniad cymhwyster nad yw’n gweithredu er elw.

Chwech o fyfyrwyr a’u cefnai i’r camera yn edrych ar gofeb Medi 11eg yn Efrog Newydd. Y mae yna nifer o entrychdai wedi e’u hadlewyrchu yn erbyn yr awyr las dwfn yn y cefndir. Six students facing away from the camera looking at the September 11 memorial in New York. There are a number of skyscrapers reflected against a deep blue sky in the background.

Angen cefnogaeth?

Ydych chi'n teimlo bod angen mwy o gefnogaeth arnoch chi, neu eisiau trafod eich syniad gyda Taith? Llenwch y ffurflen fer hon a byddwn ni mewn cysylltiad yn fuan iawn i drefnu cyfarfod un i un.

Cliciwch yma i drefnu cyfarfod un i un

Oes gennych chi brosiect Taith byw eisoes?

Ardal derbynwyr grantiau

Yn yr ardal derbynwyr grantiau gallwch chi gael mynediad at bopeth sydd ei angen arnoch chi i'ch helpu chi i redeg eich prosiect Taith. Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n dewis y Llwybr a'r Flwyddyn gywir i sicrhau eich bod chi'n cael mynediad at y wybodaeth berthnasol.

Dysgu mwy
Becky Gittens AS yn cyfarfod â disgyblion o Ysgol Dinas Brân yn llyfrgell eu hysgol

Cysylltwch â ni

Os oes angen rhywfaint o gefnogaeth ychwanegol arnoch chi, neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau.

Cysylltwch â ni

Archwiliwch

grŵp o fyfyrwyr yn edrych ar dechnoleg mewn ystafell fawr / a group of students looking at technology in a large room

Hafan

Criw o bobl yn sefyll o flaen y Taj Mahal ar ddiwrnod heulog.

Pwy sy’n gallu cymryd rhan?

Pam cymryd rhan?

Straeon

We are pleased to share the stories from some participants of the Taith programme across the FE and VET sector, who have visited countries all over the world.

View Stories
Golygfa o lyn â mynyddoedd yn y cefndir. Mae rhai pobl yn cerdded i lawr llwybr a gellir gweld pobl eraill yn y pellter.