Yn ôl ym mis Hydref 2025, cynhaliodd Taith ddigwyddiad dathlu yn y Senedd i nodi tair blynedd o’r rhaglen a’r effaith anhygoel mae hi wedi’i chael ar bobl, sefydliadau, ysgolion a chymunedau ledled Cymru.
Roedd yn anrhydedd i ni groesawu cant a saith deg o fynychwyr, clywed gan bymtheg o siaradwyr ysbrydoledig, ac arddangos gwaith tua phedwar deg o gyfranwyr yn ein marchnad. Ychwanegodd perfformiad gan ddawnswyr Avant Cymru uchafbwynt gwych i’r diwrnod. Roedden ni’n wedi ein syfrdanu gan y nifer a ddaeth, yr ymgysylltiad, a’r nifer o negeseuon o ddiolch a gwerthfawrogiad a dderbynion ni wedi hynny. Adlewyrchiad clir o ba mor ystyrlon oedd y digwyddiad i gynifer o bobl o fewn cymuned Taith.
Rydyn ni’n arbennig o ddiolchgar i Heledd Fychan AS am noddi’r digwyddiad, ac iddi hi a Mark Drakeford AS am gymryd yr amser i siarad.
Roedd eu myfyrdodau ar werth a manteision pellgyrhaeddol cyfnewid rhyngwladol yn atseinio’n ddwfn gyda phawb a oedd yn bresennol. Roedd yn ysbrydoledig clywed eu safbwyntiau ar sut mae rhaglenni fel Taith yn ehangu gorwelion, yn cryfhau cymunedau, ac yn cyfoethogi cysylltiadau Cymru â’r byd ehangach.
Roeddem hefyd wrth ein bodd yn croesawu cynrychiolwyr o Wasanaeth Ieuenctid Caerdydd, a ymunodd â ni i gofnodi’r digwyddiad ar ffilm. Ym mis Chwefror 2025, ariannodd Taith un ar ddeg o bobl ifanc rhwng 13 a 17 oed o Wasanaeth Ieuenctid Caerdydd, llawer ohonynt yn dod o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, i deithio i’r Unol Daleithiau, lle buon nhw’n cydweithio â Myfyrwyr Teledu Ysgol Uwchradd Carlsbad, un o’r rhaglenni cyfryngau ysgol uwchradd â’r sgôr uchaf yn y wlad. Yn ystod eu hymweliad, dysgon nhw am wneud ffilmiau, datblygu sgiliau newydd, a chael profiad ymarferol.
Ffilmiodd y cynrychiolwyr o Wasanaeth Ieuenctid Caerdydd ddigwyddiad dathlu Taith a chynhyrchu fideo gwych sy’n dangos effaith wirioneddol Taith yn bwerus.
Gwyliwch y fideo yma
Newyddion diweddaraf o'r rhaglen.