Erthygl gan Tom Woodward, Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Prifysgolion Cymru.
Mae gwerthusiad annibynnol terfynol o Gymru Fyd-eang III wedi cadarnhau cyfraniad sylweddol y rhaglen at gryfhau safle Cymru yn y dirwedd addysg fyd-eang. Wedi’i chyflwyno gan Prifysgolion Cymru a’i hariannu gan Taith, nod y rhaglen oedd gwella gwelededd, cyrhaeddiad, ac effaith sectorau addysg uwch a phellach Cymru mewn marchnadoedd rhyngwladol allweddol. Er gwaethaf gweithredu mewn cyfnod o reolau mewnfudo newidiol, heriau yn ymwneud â Brexit, a phwysau ariannol ledled y sector, canfu gwerthusiad Wavehill fod Cymru Fyd-eang III wedi dangos llwyddiannau clir o ran ehangu ôl troed byd-eang Cymru a meithrin ymgysylltu rhyngwladol ystyrlon.
Lansiodd y rhaglen â phedwar amcan craidd—tyfu niferoedd myfyrwyr rhyngwladol, cryfhau partneriaethau, cynyddu enillion allforio, ac ehangu ymwybyddiaeth fyd-eang ac enw da sefydliadau Cymru—ac roedd yn adeiladu ar gamau cynharach ond gyda chwmpas ac uchelgais llawer mwy. Cyflwynwyd gweithgareddau ar draws ardaloedd blaenoriaeth gan gynnwys India, Fietnam, Gogledd America, ac Ewrop.
Cyflwyno Strategol mewn Cyd-destun Byd-eang Newidiol
Noda’r gwerthusiad fod Cymru Fyd-eang III wedi’i gyflwyno yn ystod cyfnod hynod ddeinamig ar gyfer addysg uwch ryngwladol. Creodd polisïau mewnfudo llymach y DU, cyfyngiadau ar ddibynyddion myfyrwyr, a goblygiadau parhaus ar ôl Brexit rwystrau i recriwtio myfyrwyr ledled y DU. I Gymru, roedd yr heriau hyn yn golygu bod hyrwyddo rhyngwladol cydlynol hyd yn oed yn fwy hanfodol.
Dilyswyd rhesymeg y rhaglen yn gryf gan randdeiliaid ar draws addysg uwch a phellach. Amlygon nhw bwysigrwydd cynyddol ymgysylltu rhyngwladol ar gyfer cynaliadwyedd sefydliadol ac uchelgeisiau pŵer medal ehangach Cymru. Pwysleisiodd sawl un bod dull unedig, Cymru‑gyfan tuag at addysg ryngwladol bellach nid yn unig yn werthfawr, ond yn hanfodol.
Cyflawniadau Allweddol
Cryfhau Proffil Rhyngwladol Cymru
Daeth y brand Astudio yng Nghymru i’r amlwg fel un o asedau mwyaf pwerus Cymru Fyd-eang III. Trwy ymgyrchoedd digidol, digwyddiadau, cynnwys marchnata, ac ymgysylltu targedig, cynhyrchodd Astudio yng Nghymru 1.4 biliwn argraff, 18.4 ymweliad â’r wefan, a bron i 900,000 arweiniad, sy’n dangos cyrrhaeddiad rhyngwladol ehangol y brand. Tyfodd canfyddiadau cadarnhaol o Gymru’n sylweddol gydag adnabyddiaeth ac ymwybyddiaeth brand yn dyblu rhwng 2022 a 2025.
Tyfu Partneriaethau a Chydweithio
Roedd datblygu partneriaethau yn llwyddiant amlwg arall. Ffurfiwyd neu hwyluswyd mwy na 110 o bartneriaethau ffurfiol ac 87 prosiect sydd wedi derbyn cyllid sbarduno ar draws marchnadoedd blaenoriaeth. Cefnogodd y mentrau hyn cysylltiadau ymchwil, cydweithrediadau addysgu, ymgysylltu ar lefel system, a meithrin perthnasau hirdymor. Disgrifiodd rhanddeiliaid Cymru Fyd-eang yn gyson fel “galluogydd allweddol” cydweithio rhyngwladol, gan helpu sefydliadau i fanteisio ar gysylltiadau strategol a’u troi’n bartneriaethau parhaol.
Cefnogi Recriwtio Myfyrwyr Rhyngwladol
Er gwaethaf anwadalrwydd byd-eang, daeth y gwerthusiad o hyd i lwybrau twf sylweddol mewn sawl marchnad. Cynyddodd cofrestriadau o ranbarthau blaenoriaeth yn gyffredinol, gyda thwf sylweddol o India a’r Unol Daleithiau. Chwaraeodd gweithgareddau marchnata Astudio yng Nghymru rôl bwysig mewn codi ymwybyddiaeth a dylanwadu ar wneud penderfyniadau cam cynnar ymhlith darpar fyfyrwyr yn fyd-eang.
Sylfaen Cryf ar Gyfer Uchelgeisiau Byd-eang Cymru yn y Dyfodol
Mae Cymru Fyd-eang wedi dangos yr hyn sy’n bosib pan fydd ein prifysgolion, ein colegau a’n partneriaid yn gweithio gyda’i gilydd gyda gweledigaeth ryngwladol a rennir. Mae’r rhaglen wedi cryfhau enw da Cymru yn fyd-eang, wedi gweithredu mewn marchnadoedd allweddol, ac wedi creu cyfleoedd parhaol i fyfyrwyr a sefydliadau. Ar adeg o gystadleuaeth fyd-eang ddwys, mae Cymru Fyd-eang wedi dangos y gall Cymru berfformio’n well na’r disgwyl ar lwyfan y byd
Edrych i’r Dyfodol
Mae’r gwerthusiad yn cloi gydag argymhellion i gynnal ac adeiladu ar effaith y rhaglen—gan amlygu gwerth strategaeth addysg ryngwladol genedlaethol, buddsoddiad parhaus yn y brand Astudio yng Nghymru, ac integreiddiad dyfnach ar draws blaenoriaethau llywodraethol a sector.
Wrth i Gymru Fyd-eang III ddod i ben, mae’r dystiolaeth yn glir: mae’r rhaglen wedi gadael etifeddiaeth gref a chadarnhaol, gan leoli Cymru fel cenedl allblyg, gydweithredol ac uchelgeisiol mewn addysg fyd-eang.
Mae’r rhaglen Cymru Fyd-eang wedi cael ei hymestyn o 1 Awst 2026 i 31 Gorffennaf 2027, wedi’i hariannu’n uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru. I ddysgu rhagor am y rhaglen, cliciwch yma.
Newyddion diweddaraf o'r rhaglen.