Cysylltwch

Bwrdd Cynghori

TrosolwgPwy ydyn niBeth rydyn ni’n wneudEin strategaethPartneriaid RhyngwladolNewyddion

Mae’r Bwrdd Cynghori yn cynghori’r tîm rhaglen ar ddatblygu a chyflwyno Taith.

Mae’n dod â chynrychiolwyr o sefydliadau cenedlaethol ynghyd sydd â phrofiad ac arbenigedd mewn addysg a chyfnewid rhyngwladol.

Fel rhan o’i gylch gorchwyl, mae’n darparu goruchwyliaeth gadarn lefel uchel o bob rhan o’r sectorau addysg ac ieuenctid ynghyd â Llywodraeth Cymru.

Mae’r Bwrdd Cynghori’n cyfarfod yn rheolaidd a chyhoeddir ei gofnodion ar y dudalen hon o dan y rhestr o’i aelodau.

 

Kirsty Williams - Chair of the Advisory Board

Kirsty Williams

Cadeirydd

Gwasanaethodd Kirsty Williams am 22 mlynedd yn y Senedd.  Yn 2008 cafodd ei hethol yn arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, y fenyw gyntaf i arwain un o’r pedair prif blaid wleidyddol yng Nghymru.  Rhwng 2016 a 2021 hi oedd y Gweinidog Addysg, gan arwain cenhadaeth genedlaethol o ddiwygio addysg. Ymddeolodd o wleidyddiaeth rheng flaen ym mis Mai 2021. Ochr yn ochr â’i rolau yn Taith, mae hi’n Is-gadeirydd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys ac yn gwasanaethu ar nifer o fyrddau sefydliadau cymunedol ac elusennol yn y sir. Mae’n byw ar y fferm y teulu yng nghanol Bannau Brycheiniog ac yn wirfoddolwr brwdfrydig yng Nghlwb Ffermwyr Ifanc Pontfaen a Samariaid Powys.

Anne Marie Graham - Aelod o'r Bwrdd Cynghori

Anne Marie Graham

Mae rhaglen Taith yn creu cyfleoedd sy’n newid bywydau, a hoffwn gyfrannu’n bersonol i’w llwyddiant hirdymor fel aelod o’r Bwrdd Cynghori. Fel yr israddedig cyntaf yn fy nheulu – o deulu un incwm – golygodd fy ngrant Erasmus yn y 1990au cynnar ei bod hi’n bosib i mi astudio dramor wrth leihau’r pwysau ariannol arnaf i a’m nheulu, felly rwy’n gwybod o brofiad personol yr effaith y gall rhaglen fel Taith ei chael. Edrychaf ymlaen at weithio gyda’m cydweithwyr ar y Bwrdd Cynghori i sicrhau y gall unigolion ledled Cymru elwa o gyfleoedd symudedd byd-eang.

Rwyf wedi gweithio ar amrywiaeth o raglenni a mentrau sy’n cefnogi unigolion i gymryd rhan mewn rhaglenni symudedd rhyngwladol. Fel Prif Weithredwr presennol Cyngor Materion Myfyrwyr Rhyngwladol y DU, a Chyn-gyfarwyddwr rhaglen Ysgoloriaethau Chevening ar gyfer Y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu, gallaf gynnig cyfoeth o brofiad wrth oruchwylio a sicrhau llywodraethu da a chynaliadwyedd ariannol ar y lefel uchaf. Yn flaenorol, sefydlais i’r rhaglen Ryngwladol Go Cangen Ryngwladol Prifysgolion y DU yn 2013 i roi’r Strategaeth Symudedd Allanol y DU gyntaf ar waith ac ysgogi cyfranogiad yn y DU a thramor.

Rwyf yn ymrwymedig i sicrhau bod symudedd rhyngwladol yn hygyrch ac yn gyfartal i bawb. Gobeithiaf ddod â’m profiad o reoli rhaglenni symudedd, ynghyd â’m harbenigedd o fonitro a gwerthuso llwyddiant ac effaith, i sicrhau bod Taith yn gwireddu ei huchelgeisiau ar gyfer cyfartaledd a chynhwysiant, gan gynnig symudedd trawsnewidiol i gynifer o unigolion â phosib.

Chelsea Ljutic - Aelod o'r Bwrdd Cynghori

Chelsea Ljutić

Bron i bymtheng mlynedd yn ôl, fel myfyriwr ifanc yn Ottawa, gwrthodais gynnig i astudio dramor ym Mhrifysgol Abertawe am resymau ariannol. Yn llawn siom, addewais i y byddwn i’n teithio i Gymru rhyw ddiwrnod. Bellach, fel dinesydd deuol Prydain a Chanada sydd wedi gweithio ac astudio mewn sawl gwlad, gallaf siarad yn hyderus am effaith profiadau dysgu rhyngwladol sy’n gallu newid bywydau. Maent yn meithrin ein datblygiad personol ac yn ein helpu i ddatblygu gwydnwch emosiynol. Maent yn pontio bylchau ieithyddol a diwylliannol, gan weithredu fel diplomyddiaeth feddal, a chan ein galluogi ni i ddatblygu sgiliau y mae galw cynyddol amdanynt mewn cymdeithasau ac economïau.

Yn anffodus, mae gan addysg ryngwladol hanes hir i eithrio pobl nad ydynt yn gallu ei fforddio na fforddio’r amser na’r pellter. Gall hyn ehangu’r bwlch o anfanteision, gan wneud teithio – a’r cyfleoedd trawsnewidiol sy’n ynghlwm â hynny – yn rhywbeth sydd y tu hwnt i gyrraedd llawer o bobl. Dyna pam rwyf wedi bod yn gefnogwr brwd o raglen Taith ers iddi ddechrau. Mae Taith yn sicrhau bod cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant wedi’u gwreiddio sylfaeni ei strategaeth. Mae Taith yn cydnabod y rhwystrau i gyrchu cyfleoedd byd-eang, ac yn gweithio i leihau’r rhain mewn ffordd greadigol. Mae Taith yn cydnabod yn glir nad oes gan anfantais ffiniau ac nad yw addysg yn gyfyngedig i’r ystafell ddosbarth.

Fy angerdd dros nodau cynhwysol Taith sydd wedi fy ysgogi i ymuno â’r Bwrdd Cynghori. Mynd i’r afael ag anfantais addysgol yw’r llinyn sydd wedi uno cyfnodau gwahanol fy ngyrfa, yn y sectorau preifat a chyhoeddus. Yn fwy diweddar, cefais y fraint o weithio ar gryfhau cysylltiadau dwyffordd rhwng Cymru a Chanada ym meysydd addysg ac Ymchwil a Datblygu, ac roedd Taith wrth wraidd y gwaith hwn.

Roeddwn wrth fy modd i gael fy mhenodi i’r Bwrdd Cynghori yng nghamau cynnar darpariaeth Taith. Rwyf yn cynnig cefndir cryf mewn datblygu strategaeth, rhwydweithiau helaeth yn y sector addysg byd-eang, a chefndir ym meysydd polisi ac eiriolaeth ym myd addysg. Gobeithiaf gyfrannu fy sgiliau a’m gwybodaeth i sicrhau hirhoedledd a chynaliadwyedd Taith – fel y gall gael yr effaith fwyaf ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Hayley Bendle - Aelod o'r Bwrdd Cynghori

Hayley Bendle

I mi, ni ellir byth tan-ddweud manteision teithio a phrofiadau rhyngwladol. Cefais fy ngeni a’m magu yng Nghastell-nedd, ac yn wreiddiol, ehangwyd fy ngorwelion drwy wyliau teulu i Sbaen. Cefais fy ysbrydoli i astudio Ffrangeg, Sbaeneg a Phortiwgaleg yn y brifysgol, a threulio amser yn ystod fy Mlwyddyn Dramor fel Cynorthwyydd Iaith Saesneg yn agos i Seville, yn Sbaen. Roedd y cyfle heb ei ail hwn wedi newid fy mywyd, gan gynyddu fy angerdd am hyd yn oed fwy o gysylltiad ac ymdrochiad, fel Au Pair yn Provence ac Aelod o’r Cast yn Disneyland Paris.

Ers hynny, rwyf wedi ymrwymo i ymgymryd â’m taith fy hun ym maes addysg ryngwladol, gan ymroi fy ngyrfa weithio fy hun hyd yma i oleuo, annog a grymuso hyd yn oed fwy o ddysgwyr ifanc yng Nghymru, o bob cefndir. Yn y gorffennol, rwyf wedi bod yn Bennaeth Ieithoedd Tramor Modern ac yn Gyfarwyddwr Gyrfaoedd ac Addysg Uwch mewn ysgolion uwchradd ac annibynnol yng Nghaerdydd ac yn y Bari, a bellach rwy’n cynnig cyngor am brifysgolion rhyngwladol ac arweiniad i ddysgwyr yn Academi Seren yng Nghymru. Wedi fy ysgogi gan fy mhrofiad personol, rwy’n ymdrechu i sicrhau na chaiff yr un dysgwr ei adael ar ei hôl hi gan eu helpu i wneud penderfyniadau gwybodus am eu dyfodol.

Er fy mod i’n parhau i fod yn ymroddedig i’m galwedigaeth i helpu i wneud y sefyllfa’n un fwy cyfartal a gweithio’n uniongyrchol gyda dysgwyr ifanc, mae bod ar ochr greadigol cyflwyno mentrau cenedlaethol a rhyngwladol wedi fy nenu’n fawr. Ers 2019, rwyf wedi fy ethol i weithredu ar amrywiaeth o fyrddau nid-er-elw ac elusennol, gan gynnig (ymysg eraill) International ACAC (sef cydweithrediad byd-eang o fwy na 3,500 o gwnselwyr prifysgol a chydweithwyr ym maes derbyn myfyrwyr sy’n cefnogi dysgwyr wrth iddynt bontio i addysg uwch ryngwladol), ac IC3 Movement, symudiad  byd-eang i sefydlu cwnsela gyrfaoedd a choleg o safon ym mhob ysgol ym mhedwar ban byd.

Nid oes angen dweud bod addysg ryngwladol wedi bod yn gonglfaen i’r unigolyn rwyf wedi datblygu i fod, yn bersonol ac yn broffesiynol. Rwyf wrth fy modd i ymuno â Bwrdd Cynghori Taith, i chwarae rhan strategol bellach wrth gyflwyno cyfleoedd cyfnewid trawsnewidiol i’r holl ddysgwyr ifanc yng Nghymru, waeth beth fo’u cefndir.

Lem van Eupen - Aelod o'r Bwrdd Cynghori

Lem van Eupen

Fel rhywun sy’n angerddol iawn am gydweithio rhyngwladol a rhaglenni cyfnewid ym maes addysg, rwyf yn gyffrous i gyfrannu at genhadaeth Taith o greu cyfleoedd sy’n newid bywydau i ddysgwyr a phobl ifanc ledled Cymru drwy raglenni cyfnewid dysgu rhyngwladol. Mae penderfyniad y Deyrnas Unedig i ymadael â’r Undeb Ewropeaidd wedi arwain at ganlyniadau pellgyrhaeddol, ac un o golledion mwyaf amlwg y penderfyniad hwn oedd cyfranogiad y DU fel gwlad rhaglen yn rhaglen Erasmus +. Mae’r niwed a achoswyd gan Brexit yn parhau i effeithio’n ddifrifol ar faes addysg. Dyma hyd yn oed fwy o reswm i groesawu’r fenter gan Lywodraeth Cymru i sefydlu rhaglen amgen yn frwdfrydig.

Fel Cyfarwyddwr Asiantaeth Addysg a Hyfforddiant Genedlaethol Erasmus + yr Iseldiroedd a Deon Sefydliad Addysg Uwch yn yr Iseldiroedd, mae gennyf brofiad personol o natur drawsnewidiol astudio neu interniaeth dramor i bobl ifanc. Mae’r effaith wedi bod yn fawr iawn i fyfyrwyr â llai o gyfleoedd. Felly, mae ymrwymiad Taith i gynhwysiant ac amrywiaeth yn bwysig iawn i mi’n bersonol. Fel Asiantaeth Genedlaethol yr Iseldiroedd, rydym wedi dewis cynhwysiant fel un o’n blaenoriaethau cenedlaethol, ac rydym wedi datblygu strategaethau a dulliau penodol i gynnwys grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli yn Erasmus+. Rwyf yn awyddus i rannu profiadau gyda chi a dysgu gan eraill am yr hyn y gellir ei wneud i gynnig mwy o ‘ryngwladoli i bawb’.

Rwyf yn gobeithio y bydd fy nghyfranogiad at fyd addysg a chydweithrediad rhyngwladol, a’m profiad mewn rolau rheoli, cynghori a goruchwylio, a’m rhwydwaith ym mhob rhan o Ewrop o fudd i Taith a’i chyfranogwyr.

Nabil Ali - Aelod o'r Bwrdd Cynghori

Nabil Ali

Mae ychydig yn ystrydebol dweud hyn, ond mae teithio dramor yn hollol drawsnewidiol – mae wedi helpu i greu fy nghymeriad, fy ngwerthoedd a’m barn am gymdeithas. Rwyf y person ydw i heddiw diolch i hyn. Serch hynny, nid yw hi bob amser yn hawdd – fel person Pacistanaidd Prydeinig cwiar o ganol dinas Manceinion, mae wedi bod yn brofiad grymusol ond heriol hefyd. Ers hynny, rwyf wedi treulio’r rhan fwyaf o’m bywyd proffesiynol a phersonol yn brwydro dros raglenni cyfnewid rhyngwladol sy’n fwy cyfartal, yn fwy cynhwysol ac i amrywiaeth ehangach o bobl yn ein cymdeithas. Roedd yn fraint i mi gyfrannu at ddylunio Taith yn y camau cynnar, gan weithredu fel rheolwr datblygu polisi wrth arwain gwaith datblygu ac ymgysylltu Taith yn y sector addysg uwch yng Nghymru. Mae wedi bod yn fraint hyd yn oed yn fwy i ailymuno fel aelod o’r Bwrdd Cynghori.

Rwyf yn edrych ymlaen at gynnig fy mhrofiad o ddatblygu polisi addysg ryngwladol a pholisi symudedd drwy fy ngwaith ar draws y sector addysg ac ymchwil yn y DU ac yn Ewrop, drwy weithio mewn ysgolion, addysg bellach, addysg uwch ac ymchwil. Yn ogystal â bod yn rhan o dîm Gweithredol Taith gwych yn y gorffennol, gan eu helpu i ddatblygu eu polisi a’u strategaeth yn y dyddiau cynnar, roeddwn i hefyd yn arweinydd polisi ar gyfer Erasmus+ gyda Changen Ryngwladol Prifysgolion y DU, gan weithio gyda’r Adran Addysg yn eirioli am Gynllun Turing gweithredol a chynhwysol. Rwyf hefyd wedi gweithio gyda UKRI yn y gorffennol ym Mrwsel, gan weithredu fel pwynt cyswllt cenedlaethol ar gyfer rhaglen Marie Skłodowska-Curie i annog cymuded ymchwilwyr.

Mae Taith yn gynllun neilltuol sy’n rhoi cynhwysiant ac amrywiaeth wrth wraidd rhaglenni cyfnewid rhyngwladol – nid oes yr un cynllun arall yn gwneud hyn yn yr un ffordd. Edrychaf ymlaen at ddefnyddio fy sgiliau a’m safbwyntiau wrth gyflwyno newid go iawn yng Nghymru drwy amrywio rhaglenni cyfnewid rhyngwladol, yn enwedig i rymuso unigolion LHDTQRA+ a lleiafrifoedd sydd wedi’u radicaleiddio ledled Cymru a’u cefnogi’n well.

Siân Hughes - Aelod o'r Bwrdd Cynghori

Siân Hughes

Mae teithio’n cynnig profiadau dysgu a bywyd heb eu hail, a dyma rywbeth rwy’n ei wybod o brofiad personol.  Rwy’n siarad Cymraeg a thyfais i fyny yn Llangefni, sef cymuned wledig yn Ynys Môn, yng ngogledd Cymru. Roeddwn yn ddigon ffodus i gymryd rhan mewn rhaglenni cyfnewid rhyngwladol yn ystod fy ieuenctid – yn yr ysgol ac ym Mhrifysgol Caerdydd – ac mae hyn wedi fy ngalluogi i gael profiad personol o’r llawenydd mawr mae teithio ac archwilio diwylliannau amrywiol yn gallu ei gynnig. Roedd wir yn drawsnewidiol.

Mae’r profiadau hyn wedi ysgogi fy mrwdfrydedd am ddysgu ieithoedd, fy chwilfrydedd diwylliannol ac wedi ysbrydoli fy newisiadau gyrfa. Rwyf wedi byw ym Mrwsel yng Ngwlad Belg ers mwy nag 20 mlynedd ac wedi cael y cyfle i gefnogi mathau gwahanol o sefydliadau – o fusnesau newydd sbon i gorfforaethau byd-eang a chwmnïoedd dan berchnogaeth breifat – mewn materion corfforaethol, cyfathrebiadau ac adnoddau dynol. Drwy fod yn ddwyieithog ac yn frwdfrydig am ddiwylliannau eraill, rwyf wedi gallu eu helpu i bontio bylchau ieithyddol a diwylliannol a gweithio gyda thimoedd mewnol a rhanddeiliaid allanol mewn ffordd sy’n gynhwysol ac yn ystyrlon. Ac o’m hochr i, yn gallu gweithio gyda phobl o wahanol wledydd a chefndiroedd, rwyf o hyd yn dysgu, yn tyfu ac yn dysgu sgiliau newydd.

Mae’r rhain yn sgiliau sy’n berthnasol yn yr holl sectorau, mewn gwahanol fathau o swyddi a dyma pam mae’r rhaglen Taith mor gyffrous i mi. Rwyf wrth fy modd i gyfrannu fy mhrofiad a’m sgiliau i’r Bwrdd Cynghori, gan helpu i gefnogi hyd yn oed fwy o ddysgwyr a phobl ifanc o Gymru, o bob math o gefndir, i ddechrau ar eu teithiau eu hunain a fydd yn cyfoethogi eu bywydau.g journeys. 

Hannah Pudner - Aelod o'r Bwrdd Cynghori

Hannah Pudner

Rwy’n gwybod o brofiad personol am nerth profiadau rhyngwladol. Roeddwn yn ddigon ffodus i dreulio blwyddyn yn astudio a gweithio yn America yn syth ar ôl graddio. Roedd yn drawsnewidiol i mi o ran datblygiad personol a datblygiad proffesiynol – agorodd drysau i mi i bobl newydd, syniadau newydd a gorwelion newydd. Rwyf am i bawb yng Nghymru gael mynediad at gyfleoedd tebyg, yn enwedig y rhai hynny sydd wedi gorfod goresgyn heriau a rhwystrau i gyrraedd lle maen nhw.  I’r perwyl hwn, mae’n arbennig o galonogol i weld ymrwymiad cadarn Taith i gydraddoldeb a chynhwysiant.

Rwy’n arbenigwr datblygu sefydliadol yn Abertawe. Rwy’n gweithio gyda sefydliadau sy’n cael eu harwain gan werthoedd, megis Partneriaeth John Lewis, Greenpeace UK, The Good Law Project i ddatblygu gweithluoedd hyderus, cynhwysol a deinamig. Cyn troi’n weithiwr rhyddlaw, roeddwn i’n Ddirprwy Brif Swyddog Gweithredol United Purpose, asiantaeth datblygu rhyngwladol gyda throsiant blynyddol gwerth £30 miliwn, sy’n ceisio gweithio i liniaru tlodi absoliwt mewn rhan o rannau tlodaf Affrica a De-ddwyrain Asia. Yn ogystal, treuliais i 12 o flynyddoedd mewn rolau cynyddol uchel ym maes addysg uwch yn y DU.  Treuliais i lawer o’r amser hwn yn cynyddu llais y dysgwr gydag undebau myfyrwyr ac roeddwn i’n croesawu’r cyfle i ddysgu pa mor bwysig yw llais y dysgwr i Taith.

Rwyf wrth fy modd i fod yn rhan o Taith, ac edrychaf ymlaen at gyfrannu’r holl wybodaeth, sgiliau a phrofiadau rwyf wedi’u datblygu mewn arweinyddiaeth, datblygu sefydliadol, cydraddoldeb a llais y dysgwr i’w llwyddiant yn y dyfodol.

Zenny Saunders - Ex Officio Member, Advisory Board

Zenny Saunders

Aelod yn rhinwedd ei swydd

Zenny Saunders, Dirprwy Gyfarwyddwr Diwygio Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol, Llywodraeth Cymru. Dechreuodd Zenny ei gyrfa yn yr Adran Gwaith a Phensiynau cyn ymuno â Llywodraeth Cymru yn 2001 lle mae wedi gwneud amrywiaeth o swyddi mewn meysydd yn ymwneud â llywodraeth leol, addysg, cyflogadwyedd a sgiliau, a deddfwriaeth. Bu Zenny hefyd yn gweithio i Lywodraeth y DU ar secondiad am 5 mlynedd gan gefnogi Ysgrifennydd Gwladol Cymru i gyflawni’r setliad datganoli. Yn y rolau hyn mae Zenny wedi cyflawni rhaglenni allweddol gan gynnwys Deddf Llywodraeth Cymru 2006, gwaith y CCUHP yng Nghymru, sefydlu system Gymreig o gyflog ac amodau athrawon, a sefydlu gwasanaeth cyflogadwyedd Cymru’n Gweithio. Mae ei rolau wedi cynnwys gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol yn helaeth a sicrhau bod gwelliannau yn y sector addysg yn canolbwyntio ar y dysgwr. Daeth Zenny yn Ddirprwy Gyfarwyddwr Diwygio AHO yn 2019 gan arwain ar ddeddfwriaeth a sefydlu’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, a fydd yn goruchwylio’r sector addysg ôl-16 yng Nghymru. Mae Zenny hefyd yn arweinydd Llywodraeth Cymru ar y Rhaglen Cyfnewid Dysgu Rhyngwladol, Taith. Yn ystod yr ymateb i Covid darparodd Zenny arweiniad i Strategaeth Gwirfoddoli LlC. Mae gan Zenny 3 o blant, mae’n Llywodraethwr ALl mewn Ysgol Uwchradd yng Nghaerdydd ac yn aelod Llywodraeth Cymru ar Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Caerdydd.

Cofnodion cyfarfod y Bwrdd Cynghori

Cofnodion

Cofnodion

Atodiad 1

Atodiad 2

Cofnodion

Cofnodion

Cofnodion

Cofnodion

Dewch ar daith gyda ni

Cofrestrwch i fod ar ein rhestr bostio i gael y newyddion diweddaraf ynglŷn â’r rhaglen.

Drwy gofrestru, rydych chi’n cytuno â’n polisi preifatrwyddy, gan gynnwys trosglwyddo eich gwybodaeth i’n platfform marchnata, Mailchimp. Gallwch ddad-danysgrifio ar unrhyw adeg.