Cysylltwch

Bwrdd ILEP Ltd

TrosolwgPwy ydyn niBeth rydyn ni’n wneudEin strategaethPartneriaid RhyngwladolNewyddion

Bwrdd Rhaglen Cyfnewid Dysgu Rhyngwladol Gyfyngedig (ILEP Ltd)

Bwrdd y Cyfarwyddwyr sydd â throsolwg gweithredol dros Taith. Bwrdd y Cyfarwyddwyr sydd hefyd yn pennu’r weledigaeth a’r cynllun strategol ar gyfer Taith i sicrhau ei fod yn cael ei gyflwyno’n effeithiol a’i fod yn llwyddo yn yr hirdymor.

Mae’r Bwrdd yn cynnwys chwe chyfarwyddwr anweithredol, ac mae’n ofynnol i o leiaf ddau ohonynt fod yn annibynnol o Brifysgol Caerdydd.

Cylch gorchwyl Bwrdd ILEP Ltd yw:

  • Hyrwyddo llwyddiant hirdymor y cwmni a Taith
  • Sefydlu pwrpas, gwerthoedd a strategaeth Taith
  • Rhoi cyngor ac arweiniad arbenigol
  • Asesu a rheoli risgiau
  • Sicrhau cydymffurfiaeth a sefydlogrwydd ariannol
  • Sicrhau bod polisïau ac arferion yn gyson â gwerthoedd Taith
  • Sicrhau cydymffurfiaeth â’r Cytundeb Grant a osodwyd gan Lywodraeth Cymru

Cefnogir y Bwrdd gan Fwrdd Ymgynghorol Taith sy’n rhoi arweiniad ar faterion sy’n ymwneud â chyflwyno’r Rhaglen a’i chyfeiriad yn gyffredinol.

Cynhelir cyfarfodydd Bwrdd ILEP Ltd yn chwartero, a chyhoeddir y cofnodion.

Ben Coates - Cyd-bennaeth yr Uned Strategaeth, Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM

Ben Coates

Cyd-bennaeth yr Uned Strategaeth, Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM

Mae Ben Coates – dringwr a rhedwr brwdfrydig o Gaerdydd sydd wrth ei fodd yn yr awyr agored – yn was sifil sydd wedi gweithio yn Whitehall mewn ystod o rolau, gan gynnwys Pennaeth Staff y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ac, ar hyn o bryd, Cyd-bennaeth Strategaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF. Ond daeth yn angerddol am addysg ryngwladol a chyfnewid dysgu pan oedd yn Bennaeth Ysgoloriaethau yn Swyddfa Dramor y DU, lle bu’n arwain rhaglenni Chevening a Marshall. Mae hefyd yn ynad cyfraith droseddol, yn Gyfarwyddwr Anweithredol ar Fwrdd Plas y Brenin, y Ganolfan Awyr Agored Genedlaethol yng Ngogledd Cymru – a chyn bo hir bydd yn rhoi’r gorau i fod yn Ymddiriedolwr i Diverse Cymru, elusen cydraddoldeb yng Nghymru, ar ôl 4 blynedd. Mae’n Hyfforddwr Gweithredol cymwysedig ac yn fentor gyda’r Sefydliad Symudedd Cymdeithasol.

Piet Van Hove - Llywydd yr EAIE ac Uwch Gynghorydd Polisi Rhyngwladoli ym Mhrifysgol Antwerp

Piet Van Hove

Llywydd yr EAIE ac Uwch Gynghorydd Polisi Rhyngwladoli ym Mhrifysgol Antwerp

Piet Van Hove yw Llywydd (2022-24) Cymdeithas Ewropeaidd ar gyfer Addysg Ryngwladol (www.eaie.org) ac Uwch Gynghorydd Polisi ar gyfer Rhyngwladoli ym Mhrifysgol Antwerp, lle bu’n astudio’r Gyfraith yn flaenorol. Mae wedi bod yn weithgar ym maes rhyngwladoli addysg uwch ers 1995, gan ddelio â llunio polisi ar wahanol agweddau ar ryngwladoli a’i weithredu mewn prifysgolion, gan gynnwys symudedd myfyrwyr a staff, cydweithredu datblygu, gwasanaethau ar gyfer staff a myfyrwyr rhyngwladol, prosiectau addysgol rhyngwladol a rhwydweithio strategol. Mae Piet wedi bod yn weithgar wrth arwain sawl cymdeithas broffesiynol a nid er elw ar lefel genedlaethol a rhyngwladol ers blynyddoedd lawer, megis Ardal Wybodaeth Fflandrys, y Gymdeithas Cydweithredu Academaidd, sefydliad anllywodraethol APOPO a’r EAIE. Mae’n cyflwyno’n aml ar ystod eang o bynciau sy’n ymwneud â rhyngwladoli addysg uwch.

Yr Athro Rudolf Allemann - Rhag Is-Ganghellor, Gweithgarwch Rhyngwladol a Recriwtio Myfyrwyr, a Phennaeth Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg, Prifysgol Caerdydd

Yr Athro Rudolf Allemann

Rhag Is-Ganghellor, Gweithgarwch Rhyngwladol a Recriwtio Myfyrwyr, a Phennaeth Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg, Prifysgol Caerdydd

Mae’r Athro Rudolf Allemann yn Athro Ymchwil Nodedig, Rhag Is-Ganghellor Gweithgarwch Rhyngwladol a Recriwtio Myfyrwyr a Phennaeth Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg ym Mhrifysgol Caerdydd.
Derbyniodd ei radd gyntaf gan ETH Zurich, ac yna cwblhaodd waith PhD ym Mhrifysgol Harvard ac ETH Zurich. Dechreuodd ei yrfa yn ymchwilydd ôl-ddoethurol a Gwyddonydd Staff yn Sefydliad Cenedlaethol Ymchwil Feddygol y Cyngor Ymchwil Feddygol yn Mill Hill, Llundain. Yn ddiweddarach daeth yn Arweinydd Grŵp Ymchwil a Darlithydd yn yr Adran Cemeg yn ETH Zurich.
Yn 1998, symudodd yr Athro Allemann i Brifysgol Birmingham i fod yn Uwch-ddarlithydd Cemeg, cyn ymgymryd â rôl Athro Bioleg Gemegol yn 2001. Ymunodd â Phrifysgol Caerdydd yn 2005 yn Athro Ymchwil Nodedig a daeth yn Bennaeth yr Ysgol Cemeg yn 2013.
Yn 2017 cafodd eu benodi’n Rhag Is-Ganghellor ac yn Bennaeth Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg. Yn 2019 daeth yn Gadeirydd y Grŵp Strategaeth Recriwtio a Derbyn ac yn 2020 cymerodd gyfrifoldeb cyffredinol am weithgareddau ymgysylltu byd-eang y Brifysgol.
Mae’n Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru a’r Gymdeithas Frenhinol Cemeg, ac ar hyn o bryd mae’n Athro Gwadd ym Mhrifysgol Manceinion.
Mae ymchwil arloesol yr Athro Allemann ym maes cyffredinol cemeg a bioleg ac mae wedi ymddiddori mewn deall y mecanweithiau sylfaenol sy’n rheoli swyddogaeth ensymau ers blynyddoedd lawer.
Mae ei grŵp ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd yn defnyddio ystod eang o dechnegau cemegol a ffisegol i ateb cwestiynau sy’n ymwneud â phŵer catalytig eithriadol ensymau, gan ddatblygu a chymhwyso offer cemegol i archwilio a rheoli prosesau biolegol yn y labordy ac mewn celloedd byw. Mae eu gwaith yn dibynnu ar ddull rhyngddisgyblaethol, lle mae cemeg yn gorgyffwrdd â meysydd bioleg, ecoleg gemegol, gwyddoniaeth deunyddiau, meddygaeth a ffiseg.

Darren Xiberras - Prif Swyddog Ariannol, Prifysgol Caerdydd

Darren Xiberras

Prif Swyddog Ariannol, Prifysgol Caerdydd

Ar hyn o bryd Darren Xiberras yw Prif Swyddog Ariannol Prifysgol Caerdydd ac yn aelod o Fwrdd Gweithredol y Brifysgol. Mae’n goruchwylio pob agwedd ar gyllid a chyflawniad ariannol y Brifysgol. Cyn ymuno â Phrifysgol Caerdydd, Darren oedd Prif Swyddog Cyllid Prifysgol De Cymru ar ôl ymuno â nhw yn 2019. Yn union cyn hynny, roedd ganddo’r un swydd yn yr elusen addysg Teach First lle bu hefyd yn goruchwylio Adnoddau Dynol, eiddo a TG. Cyn Teach First, Darren oedd Cyfarwyddwr Cyllid adran sector cyhoeddus ENGIE UK (GDF Suez gynt) sydd â throsiant o £350 miliwn ac yn darparu gwasanaethau eiddo i nifer helaeth o gleientiaid sy’n gwmnïau o’r radd flaenaf yn y sector cyhoeddus ledled y DU. Mae Darren hefyd wedi bod yn Gyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol elusen genedlaethol yn y DU ac yn Gyfarwyddwr Cyllid Grŵp ar gyfer cwmni cyfyngedig cyhoeddus ar restr y Farchnad Buddsoddi Amgen (AIM) sy’n darparu gwasanaethau i’r sector cyhoeddus. Hyfforddodd yn gyfrifydd gyda South Wales Electricity PLC. Ar hyn o bryd Darren yw cadeirydd Grŵp Cyfarwyddwyr Cyllid Addysg Uwch Cymru (WHEFDG), ac mae’n aelod o Bwyllgor Gweithredol Grŵp Cyfarwyddwyr Cyllid Prifysgolion Prydain (BUFDG). Mae Darren yn un o Ymddiriedolwyr Difference Education Limited sydd â’r nod o leihau allgáu disgyblion o addysg prif ffrwd. Mae hefyd yn aelod o Fwrdd y Gwasanaeth Dinasyddion Cenedlaethol ac mae’n gadeirydd ar eu pwyllgor archwilio a risg.

Kirsty Williams - Cadeirydd Bwrdd Ymgynghorol Taith

Kirsty Williams

Cadeirydd Bwrdd Ymgynghorol Taith

Gwasanaethodd Kirsty Williams am 22 mlynedd yn y Senedd.  Yn 2008 cafodd ei hethol yn arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, y fenyw gyntaf i arwain un o’r pedair prif blaid wleidyddol yng Nghymru.  Rhwng 2016 a 2021 hi oedd y Gweinidog Addysg, gan arwain cenhadaeth genedlaethol o ddiwygio addysg. Ymddeolodd o wleidyddiaeth rheng flaen ym mis Mai 2021. Ochr yn ochr â’i rolau yn Taith, mae hi’n Is-gadeirydd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys ac yn gwasanaethu ar nifer o fyrddau sefydliadau cymunedol ac elusennol yn y sir. Mae’n byw ar y fferm y teulu yng nghanol Bannau Brycheiniog ac yn wirfoddolwr brwdfrydig yng Nghlwb Ffermwyr Ifanc Pontfaen a Samariaid Powys.

Logo Taith

Laura Davies

Cyfarwyddwr Cyfathrebu, Marchnata a Recriwtio Myfyrwyr, Prifysgol Caerdydd

Cyfarwyddwr Cyfathrebu, Marchnata a Recriwtio Myfyrwyr

Helen Gentle - Rheolwr Cyllid

Helen Gentle

Ysgrifennydd y Cwmni ar gyfer

Ysgrifennydd y Cwmni ar gyfer

Cofnodion cyfarfod y Bwrdd

10fed Chwefror 2023 – Cofnodion y Bwrdd (crynodeb)

13fed Ebrill 2023 – Cofnodion y Bwrdd (crynodeb)

13fed Gorffennaf 2023 – Cofnodion y Bwrdd (crynodeb)

12fed Hydref 2023 – Cofnodion y Bwrdd (crynodeb)

Dewch ar daith gyda ni

Cofrestrwch i fod ar ein rhestr bostio i gael y newyddion diweddaraf ynglŷn â’r rhaglen.

Drwy gofrestru, rydych chi’n cytuno â’n polisi preifatrwyddy, gan gynnwys trosglwyddo eich gwybodaeth i’n platfform marchnata, Mailchimp. Gallwch ddad-danysgrifio ar unrhyw adeg.