Croeso i Hwb Digwyddiad Dathlu Taith
Rydyn ni’n gobeithio i chi gael amser ysbrydoledig a chofiadwy yn nigwyddiad Taith!
Ar y dudalen hon fe welwch chi wybodaeth a data ychwanegol am raglen Taith i chi eu harchwilio yn eich amser eich hun. Yn ogystal, o dan y data fe welwch chi’r dolenni i rannu unrhyw ddelweddau neu fideos rydych chi wedi’u cymryd o’r diwrnod.
Diolch am fod yn rhan o’n taith!
Archwiliwch Siwrnai Taith
Croeso i’n dangosfwrdd data rhyngweithiol. Dyma’ch cyfle i blymio i stori Taith hyd yn hyn.
Ydych chi’n chwilfrydig ynghylch faint o brosiectau rydyn ni wedi’u cefnogi ym mhob sector? Ydych chi eisiau gweld sut mae gwahanol siroedd ledled Cymru wedi ymgysylltu â Taith? Mae’r cyfan yma, yn barod i chi ei archwilio.
Cymerwch gipolwg o gwmpas a darganfyddwch yr effaith rydyn ni wedi’i chreu gyda’n gilydd!
Ydych chi wedi dal moment arbennig?
Bydden ni wrth ein bodd yn ei gweld! Rhannwch eich lluniau neu fideos o’r diwrnod gan ddefnyddio’r nodwedd uwchlwytho isod – mae eich persbectif yn helpu i adrodd stori lawn y digwyddiad.
*Gwnewch yn siŵr bod gennych ganiatâd i rannu’r delweddau a’r fideos rydych chi wedi’u tynnu cyn eu rhannu gyda Taith*
Uwchlwythwch eich delweddau a'ch fideosDiolch am fynychu digwyddiad dathlu Taith. Byddem yn ddiolchgar pe gallech dreulio ychydig funudau yn cwblhau arolwg byr i’n helpu i werthuso effaith y digwyddiad. Ni ddylai gymryd mwy na 5 munud i’w gwblhau.
