Mae ceisiadau Llwybr 1 ar agor nawr! 

Ardal derbynwyr grantiau

Llawlyfr Gweithredol (Llwybr 1 - 2024)

Mae’r canllaw hwn i sefydliadau y dyfarnwyd cyllid iddynt yn sgil galwad am gyllid Llwybr 1 Taith 2024. Darllenwch ef ynghyd â’ch llythyr Cytundeb Grant Taith a Chanllawiau Rhaglen Taith 2024. 

Os bydd rhywbeth yn y llawlyfr hwn nad yw’n gwbl cyd-fynd â’ch Cytundeb Grant neu Ganllawiau’r Rhaglen, mae hynny’n iawn, bydd eich Cytundeb Grant (a’i atodlenni) bob amser yn cymryd blaenoriaeth. 

Os oes gennych chi gwestiynau neu os hoffech chi roi adborth, e-bostiwch: cefnogaeth@taith.cymru 

Adran 

Teitl 

1

Atodlenni Cytundeb Grant a Llofnodi’r Cytundeb 

2

Taliadau Grant  

3

Gweithgareddau

4

Cyllideb eich Prosiect 

5

Ceisiadau am Gyllid Ychwanegol  

6

Gwneud newidiadau i’ch prosiect

7

Diogelu 

8

Adrodd 

9

Archwilio a Sicrwydd a Chadw Cofnodion 

10

Hyrwyddo eich Prosiect a Gyllidir Gan Taith: Canllawiau Brandio a Disgwyliadau Cyhoeddusrwydd

1. Atodlenni Cytundeb Grant a Llofnodi'r Cytundeb

Mae gan y Cytundeb Grant sawl atodlen, sydd wedi’u rhestru isod. 

Prosiectau Llwybr 1 2024 (a gymeradwywyd yn haf 2024). 

Rhif Atodlen 

Teitl 

Diben 

1

Y Broses Amserlenni Taliadau

Manylion y broses amserlenni taliadau. Mae hyn yn cynnwys esboniad o derminoleg a’r gwahanol benawdau cyllideb pan ddisgwylir gwneud taliadau a dyddiadau adrodd.

2

Gweithgareddau Grant a Phroffil Cyllideb

Yn pennu’r gweithgareddau grant a gymeradwywyd a’r gyllideb a ddyfarnwyd.

3

Rhagolwg o Weithgarwch Gwario a Thargedau 

Manylion am bryd y bydd gweithgaredd symudedd yn digwydd, pryd y bydd gwariant yn digwydd ac i roi syniad o wledydd dan sylw, nifer y cyfranogwyr a % y cyfranogwyr o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol

4

Cais am Arian Ychwanegol

Manylion cyllid ychwanegol sydd ar gael ar gais, gan gynnwys teithio gwyrdd a chymorth cynhwysiant o gyfranogwyr ag anghenion dysgu ychwanegol, anableddau neu sy’n dod o gefndiroedd dan anfantais.

5

Gofynion adrodd

Manylion am y mathau gwahanol o adroddiadau y dylid eu cyflwyno drwy gydol cylch oes y prosiect.

6

Gwariant Cymwys

Manylion swm y Grant y gellir ei ddefnyddio mewn perthynas â chyflwyno gweithgareddau eich grant, y math o wariant a ganiateir gan Taith yn unol â’ch Cytundeb.

7

Tystysgrif o Wariant 

I‘w chwblhau gan Derbynwyr Grant sy’n derbyn dyfarniadau Grant sy’n fwy na £50,000 ochr yn ochr â’r adroddiad terfynol i ddarparu sicrwydd annibynnol bod cronfeydd wedi’u defnyddio at ddiben cyflwyno’r gweithgareddau a gyllidir.

8

Y Broses Newid Prosiect

Amlinellu’r rheolau ar gyfer newidiadau i’r prosiect. Mae’n cynnig esboniad o’r categorïau cyllideb wahanol ac yn rhoi manylion y newidiadau y gellir eu gwneud i brosiect heb yr angen am gymeradwyaeth gan Taith.

9

Rheolaeth Ariannol a Datganiad Rheoli 

Cadarnhau bod y rheolaeth ariannol briodol a’r rheoliadau rheoli risg a rheoliadau mewnol ar waith i oruchwylio’r gweithgareddau prosiect y cytunwyd arnynt.

10

Manylion Cyswllt

Crynodeb o brif gysylltiadau’r prosiect, er enghraifft y person cyswllt blaenllaw a’r Gynrychiolaeth Gyfreithiol.

11

Diogelu

Manylion eich cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelugan gynnwys diogelu plant ac oedolion sy’n agored i niwed ac yswiriant. 

12

Eiddo Deallusol

Ydarparu copi o logo Taith mae’n rhaid i chi ei ddefnyddio. 

13

Canllawiau Brandio

Yn darparu canllawiau ar sut i hyrwyddo brand Taith. Mae cyflwyniad Canllawiau Brandio ar gael yn yr ardal Derbynnydd Grant

2.0. Taliadau Grant  

Bydd Taith yn eich talu mewn punnoedd Prydeinig (GBP) ac yn anfon yr arian i’r cyfrif banc a roddwyd i ni gennych.  

I weld pryd bydd y taliadau’n cael eu gwneud, faint, a pha ganran o’ch grant y byddwch yn ei dderbyn, gwiriwch Atodlen 1 – Proses Amserlen Taliadau yn eich llythyr Cytundeb Grant. Sylwer y gall dyddiadau taliadau a’r symiau newid gan ddibynnu ar eich adroddiadau a faint o’r grant rydych wedi’i wario hyd yma. 

Os bydd eich manylion banc yn newid, rhaid i chi ddweud wrth Taith yn syth drwy e-bostio cefnogaeth@taith.cymru. Bydd angen i chi lenwi Ffurflen Cyflenwr Newydd ac anfon datganiad banc diweddar (o’r 3  mis diwethaf). Bydd Taith yn gwirio’r manylion newydd cyn anfon unrhyw daliadau ychwanegol. 

3.0. Gweithgareddau

Cyfnod y gweithgaredd 

Mae prosiectau yn dechrau ar 01 Medi 2024 a bydd y dyddiad dod i ben wedi’i ddangos yng nghymal 2.5 eich llythyr Cytundeb Grant.

Cyn y gall Taith anfon unrhyw daliad o flaen llaw, rhaid i chi ddychwelyd eich Cytundeb Grant ac unrhyw atodlenni. Bydd Taith yn gwirio popeth yn gyntaf.

Mae’r cytundeb hwn yn rhwymo’n gyfreithiol, felly os byddwch chi’n gwario arian cyn ei lofnodi, eich cyfrifoldeb chi fydd hynny. 

Gallwch wario arian hyd at 3 mis cyn i’r prosiect ddechrau, ond eich cyfrifoldeb chi fydd hynny. Rhaid i’r holl weithgareddau’r prosiect ddigwydd rhwng y dyddiadau yn eich Cytundeb Grant.

Byddwch chi dim ond yn cael cyllid ar gyfer gweithgareddau (a elwir yn “symudeddau” sy’n digwydd  yn ystod cyfnod y prosiect a gymeradwywyd. Rhaid i’r gweithgareddau hyn hefyd ddilyn rheolau’r rhaglen am isafswm ac uchafswm hyd. 

Os bydd eich gweithgaredd terfynol yn gorffen cyn y dyddiad dod i ben swyddogol, gallwch gyflwyno eich adroddiad terfynol yn gynnar i gau’r prosiect — ond rhowch wybod i ni oherwydd bod hyn yn eich helpu i gael eich taliad terfynol neu ddychwelyd cyllid sy’n weddill. Sylwer os bydd eich prosiect yn gorffen llawer yn gynharach na’r hyn a ddisgwylir ac nid yw’n cyd-fynd â’r amserlen a roddwyd i ni gennych yn wreiddiol, gallai achosi oedi yn eich taliad terfynol. 

Am ragor o fanylion, gwiriwch yr adran ‘Adrodd’. 

Canslo cyn gadael  

Gweler adran 6.0 Gwneud newidiadau i’ch prosiect   

Dychwelyd yn gynnar  

Gweler adran 6.0 Gwneud newidiadau i’ch prosiect   

Hyd byr   

Gweler adran 6.0 Gwneud newidiadau i’ch prosiect   

Force majeure   

Ystyr force majeure yw digwyddiad eithafol y tu allan i’ch rheolaeth sy’n eich atal rhag cynnal eich gweithgareddau prosiect a gynlluniwyd. Gallwch ofyn am gymorth force majeure dim ond os na allwch chi aildrefnu’r gweithgaredd a byddech chi’n colli arian o’i herwydd. 

Gallwch chi dim ond gofyn am force majeure mewn sefyllfaoedd clir a difrifol sy’n effeithio ar weithgaredd neu les cyfranogwr. Mae’r rhain yn cynnwys: 

  • Salwch neu anaf difrifol (gyda thystysgrif feddygol). Sicrhewch fod gennych chi’r yswiriant teithio priodol. Mae cyllid ychwanegol yn daliad ychwanegol, nid yn amnewidiad. 
  • Profedigaeth (marwolaeth aelod agos o’r teulu, megis rhieni neu fam-gu/tad-cu). 
  • Problemau gwleidyddol mawr neu drychinebau naturiol yn y wlad dderbyn. 
  • Profiadau trawmatig, megis bod yn rhan o ddamwain neu drosedd ddifrifol neu ei gweld. 
  • Problemau Covid-19, megis gweithgareddau a ganslwyd neu gyfnodau cloi a oedd yn annisgwyl. 

Rhaid i chi roi tystiolaeth lawn ar gyfer eich sefyllfa. Rhaid i Taith gymeradwyo eich cais force  majeure cyn i chi anfon eich adroddiad terfynol. 

NID yw force majeure yn cynnwys: 

  • Dadleuon rhwng cyfranogwyr a sefydliadau derbyn y gellir eu datrys. 
  • Gwersi neu sesiynau a ganslwyd. 
  • Cyfranogwyr sydd am fynd adref. 
  • Problemau y gallai’r cyfranogwr neu’r sefydliadau fod wedi’u datrys. 
  • Streiciau, problemau ariannol, offer diffygiol neu oedi wrth gael deunyddiau. 

Nid yw’r rhestr hon yn gyflawn—bydd Taith yn ystyried bob achos yn unigol. 

Os caiff hyd byr ei gymeradwyo, diweddarwch adroddiad y cyfranogwr gyda’r dyddiadau gwirioneddol roeddent dramor. Mae’r grant dim ond yn cynnwys yr amser gwirioneddol a dreulir dramor. Rhaid ad-dalu unrhyw arian ychwanegol gan y cyfranogwr. 

Os caiff symudedd ei oedi oherwydd force majeure, gall y cyfranogwr barhau’n ddiweddarach, cyhyd â bod y dyddiad dod i ben newydd yn dal i fod o fewn terfyn amser terfynol y prosiect. 

I wneud cais force mejeure: 

  • Gallwch gael help a chanllawiau yn ardal Derbynyddion Grant ar wefan Taith. 

Tarfiadau/diwrnodau heb eu cyllido  

Os bydd cyfranogwr yn gwneud rhywbeth nad yw’n gysylltiedig â’u symudedd, ni chaiff ei gyllido. Caiff y diwrnodau hyn eu didynnu o gyfanswm hyd y symudedd. 

Er enghraifft: 

  • Os bydd rhywun yn mynd adref am ymweliad byr yn ystod eu symudedd, ni chaiff y diwrnodau hynny eu cyllido. 
  • Os bydd rhywun yn estyn eu harhosiad i wneud gweithgareddau nad ydynt yn gysylltiedig, ni chaiff y diwrnodau ychwanegol hynny eu cyllido chwaith. 

Hyd yn oed ar ôl tynnu diwrnodau heb eu cyllido, rhaid i’r symudedd fodloni’r isafswm hyd gofynnol. 

Rhaid i chi: 

  • Adrodd am ddyddiadau dechrau a dod i ben y symudedd. 
  • Dangos yn glir faint o ddyddiau heb eu cyllido a gafwyd. 

Dewis cyfranogwyr 

Chi sy’n gyfrifol am ddewis pwy sy’n mynd ar symudeddau. Rhaid i’r broses fod yn: 

  • Deg 
  • Clir 
  • Wedi’i ddogfennu’n dda 

Rhaid i gyfranogwyr fodloni’r meini prawf yng Nghanllaw Rhaglen Taith. Ni allwch godi unrhyw ffi arnynt na chymryd blaendal er mwyn iddynt gymryd rhan. 

Talu cyfranogwyr  

Cyfrifwyd y swm o gyllid ar gyfer pob cyfranogwr sy’n mynd allan ar raglen gan ddefnyddio’r cyfrifiannell grant a gyflwynwyd gennych gyda’ch cais. 

I gyfrifo’r cyllid ar gyfer cyfranogwyr sy’n cael eu derbyn (os oes gennych chi rai), defnyddiwch y cyfrifiannell grant cyfranogwr a dderbynnir yn ffolder eich prosiect. 

Sicrhewch fod yr holl gyfranogwyr—y rhai sy’n mynd allan ac sy’n cael eu derbyn— n cael y swm llawn maent yn gymwys amdano ar gyfer costau teithio a byw. 

4.0. Cyllideb eich Prosiect

Caiff cyllid y grant ei rannu i gategorïau cost gwahanol. Mae dadansoddiad llawn ar gael yn Atodlen 2 – Gweithgareddau Grant a Phroffil Cyllideb yn eich llythyr Cytundeb Grant. 

Cofiwch: Rhaid i chi dim ond gwario’r grant ar bethau sy’n eich helpu i gyflawni eich prosiect. 

Cymorth Sefydliadol  

Gallwch ddewis sut i ddefnyddio’r cyllid Cymorth Sefydliadol, cyhyd a’i fod yn helpu gyda gweithgareddau cytunedig y prosiect. 

Mae’r cyllid yn helpu i dalu costau cefnogi dysgwyr a staff yn ystod eu symudedd (p’un ai eu bod yn mynd dramor neu’n dod i’r DU), gan gynnwys gweithgareddau corfforol a rhithwir. 

Mae’r cyllid yn dechrau am £500 y cyfranogwr am y 10 cyfranogwr cyntaf. Mae’r swm hwn yn lleihau wrth i nifer y cyfranogwyr gynyddu. 

I weld y dadansoddiad llawn o gyfraddau, gwiriwch Adran 6 o Ganllaw Rhaglen eich sector. 

Mae swm y Cymorth Sefydliadol yn seiliedig ar gyfanswm nifer y symudeddau (tuag allan  mewnol) yn eich prosiect. 

Gellir defnyddio cyllid Cymorth Sefydliadol ar gyfer gweithgareddau megis: 

  • Cwrs iaith, i gefnogi dysgu iaith y wlad gynnal  
  • Digwyddiadau rhwydweithio, cymdeithasol a diwylliannol ar gyfer cyfranogwyr rhaglenni symudedd  
  • Teithiau diwylliannol lleol a drefnir i gyfranogwyr rhaglenni symudedd  
  • Cyfraniad tuag at ffioedd yswiriant a fisa  
  • Digwyddiadau i hyrwyddo cyfranogiad yn Taith  
  • Deunyddiau hyrwyddo, gan gynnwys y rhai hynny mae cyfranogwyr symudedd yn eu cynhyrchu  
  • Gweithgareddau llysgenhadon Taith  
  • Costau staff rheoli prosiect Taith  
  • Cyfraniad i dalu costau staff cyflenwi, e.e., athrawon cyflenwi (nid yw hyn yn cynnwys talu am absenoldeb tymor hir)  
  • Costau pasbort neu fisa ychwanegol  
  • Y defnydd o arbenigwyr  
  • Costau Archwilio Allanol ar gyfer cwblhau’r dystysgrif flynyddol o wariant  

Cynhaliaeth  

Mae cyllido pob cyfranogwr yn seiliedig ar: 

  • Hyd ei symudedd 
  • I ble mae’n mynd (gwlad gyrchfan) 

Caiff gwledydd eu grwpio yn ôl costau byw: 

  • Grŵp 1 – Cost uchel 
  • Grŵp 2 – Cost ganolog 
  • Grŵp 3 – Cost isel 

Mae Taith yn talu’r swm cyflawn i chi.

Rhaid i bob cyfranogwr gael eu cyllid llawn, naill ai: 

  • Fel taliad uniongyrchol iddynt 
  • Neu gennych chi yn talu’r costau ar eu rhan 

Sicrhewch eich bod yn gwirio rheolau ariannol eich sefydliad i weld a oes rhaid i chi gadw derbynebau ar gyfer eich cofnodion chi. 

Teithio   

Diben: Talu costau taith mynd a dychwelyd rhwng Cymru a’r wlad gyrchfan.  

Swm: Yn seiliedig ar y pellter a deithiwyd (hyd at 12,000 cilomedr).  

Bonws Teithio Gwyrdd: Mae grant uwch ar gael am ddefnyddio trafnidiaeth sy’n eco-gyfeillgar. Gweler Atodlen 4 – Cais am Gyllid Ychwanegol eich llythyr Cytundeb Grant i weld sut i hawlio.  

Taliad: Mae Taith yn talu’r grant teithio llawn i chi.  

Dosraniad: Rhaid i bob cyfranogwr dderbyn y swm llawn sy’n ddyledus iddo—naill ai’n uniongyrchol neu drwy gostau teithio sy’n cael eu talu.  

Derbynebau: Dylech chi wirio eich rheolau ariannol eich hunain i weld a oes angen derbynebau at ddibenion archwilio.  

Cyllid Cyhoeddus Arall: Os bydd cyfranogwyr yn derbyn cyllid cyhoeddus arall at ddibenion teithio, rhaid iddynt ei ddatgan. Caiff y symiau hyn eu didynnu o’r grant Taith. 

5.0. Cais am Gyllid Ychwanegol

Gallwch chi ofyn Taith am gyllid ychwanegol ar gyfer: 

  • Teithio Gwyrdd 
  • Costau Eithriadol 
  • Cefnogaeth Cynhwysiant 

Rhaid anfon derbynebau cyn gynted â phosibl a 30 niwrnod calendr fan hwyraf yn dilyn y gweithgaredd. 

Ni chaiff ceisiadau hwyr eu derbyn oni bai bod rheswm da iawn. 

Rhaid i bob cais: 

  • Dangos gwerth am arian 
  • Bod yn gysylltiedig â’r cyfranogwr penodol ag angen am y cyllid ychwanegol 

Er mwyn gwneud cais: 

  • Llenwch Ffurflen Cais am Gyllid Ychwanegol Llwybr 1 
  • Mae’r ffurflen a chanllawiau ar gael yn adran Derbynyddion Grant gwefan Taith 

Am ragor o fanylion, gwiriwch Atodlen 4 – Cais am Gyllid Ychwanegol yn eich llythyr Cytundeb Grant. 

Enghraifft o gais  

Mae pedwar dysgwr cyfranogi ar symudedd unigol yn cynllunio teithio o Gaerdydd i Faes Awyr Bryste. Archwiliwyd sawl opsiwn teithio, a’r canlyniad yw bod coets gyhoeddus yn cynnig y gwerth gorau am arian. Cyfanswm yr hyn a dalwyd gan y sefydliad am y pedwar cyfranogwr yw £100, neu £25 y pen; ystyrir bod un o’r cyfranogwyr hyn dan anfantais, felly mae Derbynnydd y Grant yn cyflwyno cais i Taith am gyllid ychwanegol am gost tocyn coets y cyfranogwr (£25).  

Teithio Gwyrdd    

I Taith, ystyr Teithio Gwyrdd yw defnyddio cludiant allyriad isel yn lle hedfan.
Mae enghreifftiau yn cynnwys: 

  • Beic 
  • Trên 
  • Coets 
  • Bws mini 
  • Rhannu car 

Rhaid i chi ddefnyddio’r opsiynau hyn am y rhan fwyaf o’r daith mynd a dychwelyd (sef i’r gyrchfan ac oddi yno).

Nid ystyrir llongau i fod yn deithio gwyrdd am eu bod yn cynhyrchu allyriadau uchel. 

Os yw Teithio Gwyrdd yn costio mwy na’r grant teithio safonol, gallwch wneud cais am gyllid ychwanegol.
Bydd angen i chi ddangos tystiolaeth o’r gwerth gorau am arian—er enghraifft, eich bod chi wedi dewis yr opsiwn rhesymol rhataf. 

Costau eithriadol   

  • Teithio i Hyb Trafnidiaeth yn y DU – cyfranogwyr sy’n ddysgwyr yn unig  

Mae’r cyllid hwn yn helpu i dalu’r gost o gyrraedd hyb trafnidiaeth yn y DU—y lleoliad lle bydd y daith ryngwladol yn dechrau. 

Mae enghreifftiau o hybiau trafnidiaeth yn cynnwys: 

  • Meysydd awyr 
  • Gorsafoedd trenau 
  • Porthladdoedd 
  • Gorsafoedd bysus 

Gallwch ddefnyddio gwahanol fathau o drafnidiaeth, megis: 

  • Trên 
  • Bws 
  • Llong 

Ar gyfer teithio ar drên, gall cyfranogwyr hawlio: 

  • Cost y tocyn trên 
  • Cerdyn teithio trên, os yw cyfanswm y gost o’r ddau yn llai na’r tocyn ar ei ben ei hun 

Dylai cyfranogwyr 16–21 oed sy’n teithio ar fws ddefnyddio FyNgherdynTeithio 

Os yn teithio mewn car (sef o leiaf tri pherson yn rhannu), y gyfradd yw £0.45 y filltir. 

Mae’r cyfraddau fel a ganlyn:  

Symudeddau Grŵp: Gallwch hawlio £500 fesul symudedd, hyd at uchafswm o £1,500 y prosiect, yn seiliedig ar gostau gwirioneddol. 

Mae’r cyllid hwn ar gael i brosiectau yn y sectorau canlynol: 

  • Ysgolion 
  • Ieuenctid 
  • Addysg Oedolion 
  • Addysg Bellach a Hyfforddiant Addysg Galwedigaethol (AB/HAG) 

Nid yw ar gael ar gyfer prosiectau Addysg Uwch. 

Symudeddau Unigol: Gall cyfranogwyr o gefndiroedd difreintiedig gael hyd at £100fesul symudedd, yn seiliedig ar gostau gwirioneddol sy’n cynnig gwerth da am arian. 

Mae’r cyllid hwn ar gael i bob sector. 

Cefnogaeth Cynhwysiant   

Mae’r cyllid hwn ar gael i gyfranogwyr lle mae’r canlynol yn berthnasol: 

  • ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) 
  • ag Anabledd 
  • yn dod o gefndiroedd difreintiedig 

Mae rhagor o fanylion ar gael yn: 

  • Canllaw’r Rhaglen 
  • Atodlen 4 – Cais am Gyllid Ychwanegol 
  • Atodlen 6 – Gwariant Cymwys yn y llythyr Cytundeb Grant 

Cyfranogwyr ag ADY neu Anableddau 

  • Yn gallu cael hyd at 100% o gostau cynhwysiant cymwys 
  • Mae hyn yn berthnasol i staff a dysgwyr 
  • Mae Taith yn cadw’r cyllid hwn yn ganolog ac yn ei ryddhau pan fydd ei angen 

Diffiniad ADY: Fel y diffiniwyd gan Ddeddf ADY 2018 a Chod ADY i Gymru 2021 Diffiniad o Anabl: Person â chyflwr corfforol neu feddwl sydd ag effaith ddifrifol a thymor hir ar fywyd bob dydd (Deddf Cydraddoldeb 2010) 

Cyfranogwyr o gefndiroedd difreintiedig 

  • Yn gallu cael hyd at 100% o’r costau gwirioneddol am anghenion teithio ychwanegol megis:  
  • Fisâu 
  • Pasbortau 
  • Yswiriant teithio 
  • Bagiau (os bydd angen) 
  • Ym maes Addysg Uwch yn unig, gall staff / pobl sy’n dod yn gwmni iddynt wneud cais am hyd at 50% o gyllid cynhaliaeth a theithio ychwanegol am deithiau dros 4000 cilomedr. Mae Dysgwyr yn derbyn y codiad hwn yn awtomatig yn yr offeryn cyfrifiannell grant (mae gan sectorau eraill eisoes gyfraddau teithio cynhwysol). 

Gwiriwch Dabl 1 yn eich dogfennau am y rhestr lawn o bobl sy’n gymwys fel cyfranogwr dan anfantais (staff a dysgwyr). 

Tabl 1


Meini prawf 

Ysgolion 

AB/AHG/AO 

AU/Ymchwil 

Ieuenctid 

Tystiolaeth ofynnol 

Cyfanswm incwm yr aelwyd dan £26,225 

 

 

 

 

Datganiadau banc am y tri mis diwethaf, sy’n dangos yr holl incwm mae’r aelwyd yn ei dderbyn; rhaid bod yr enw a’r cyfeiriad yn weladwy ar y datganiad. Os oes gan y sefydliad broses fewnol am bennu statws dan anfantais ariannol, byddem ni’n disgwyl derbyn cadarnhad o hyn.

Cyfranogwr sy’n derbyn Credyd Cynhwysol neu fudd-daliadau sy’n gysylltiedig ag incwm yn ei enw ei hun 

Dd/B

 

 

 

Rhaid i gyfanswm incwm yr aelwyd – cyflogau a/neu fudd-daliadau/pensiynau wedi’u cyfuno – fod yn llai na £26,225.

Credyd Cynhwysol – sgrinluniau o lyfr cyfrifon sy’n rhoi manylion y swm a dalwyd ynghyd ag unrhyw ddidyniadau am y tri mis diwethaf; rhaid bod yr enw a’r cyfeiriad yn weladwy ar y datganiad. 

Budd-daliadau – datganiadau banc am y tri mis diwethaf sy’n dangos swm y budd-daliadau sy’n cael 

Cyfranogwyr sydd â phrofiad o fod mewn gofal, sy’n derbyn gofal ar hyn o bryd neu sy’n dod o gefndir derbyn gofal. 

 

 

 

 

Llythyr gan weithiwr cymdeithasol, gweithiwr cymorth, cynorthwy-ydd personol, awdurdod lleol, cymdeithas tai neu elusen, sy’n cadarnhau sefyllfa’r cyfranogwr – yn y gorffennol neu ar hyn o bryd. 

 

Mae hyn yn cyfeirio at unrhyw un sydd mewn neu sydd wedi bod unrhyw gam o’i fywyd, waeth pa mor fyr. Mae hyn yn cynnwys plant a fabwysiadwyd a oedd yn derbyn gofal yn y gorffennol, neu’r rhai hynny sydd wedi cael profiad o ofal ac sy’n cyrchu bwrsariaethau sy’n gysylltiedig â gofal mewn rhannau eraill o’r DU cyn symud i Gymru.

Cyfranogwyr â chyfrifoldebau gofalu am blentyn Anabl, neu oedolyn  nad yw’n gallu ymdopi heb ei gymorth oherwydd salwch, anabledd, problemau iechyd meddwl neu ddibyniaeth. 

 

 

 

 

Llythyr sy’n dangos bod y cyfranogwr yn derbyn Lwfans Gofalwr. 

Llythyr gan weithiwr cymdeithasol, gweithiwr cymorth, gweithiwr iechyd proffesiynol neu sefydliad elusennol sy’n cadarnhau bod y cyfranogwr yn ymgymryd â chyfrifoldebau i aelod agos o deulu. 

Tystysgrif gan y sefydliad sy’n cyflwyno cais fel a amlinellwyd yn y canllawiau uchod.

Ceiswyr Lloches neu Ffoaduriaid 

 

 

 

 

Cerdyn Cofrestru Cais neu lythyr gan y Swyddfa Gartref. 

Mae’r cyfranogwr wedi’i ddieithrio o’i rieni 

Dd/B

Dd/B

 

Dd/B

Tystiolaeth yn ofynnol yn unol â CMC/Stand Alone.

Yn gymwys am Brydau Ysgol Am Ddim Gyda Phrawf Modd 

 

Dd/B

Dd/B

 

Llythyr o’r ysgol neu’r cyngor sy’n cadarnhau cymhwysedd 

Am ragor o wybodaeth am gyllid ychwanegol, cysylltwch â ni drwy e-bostio cefnogaeth@taith.cymru 

Os na allwch chi gael tystiolaeth 

Yn Taith, rydym yn deall nad yw hi bob amser yn hawdd dod o hyd i ddogfennau penodol. Er enghraifft: 

  • Efallai bydd cyfranogwr yn ofalwr nad yw’n cael ei dalu ac efallai na fydd tystiolaeth swyddogol. 
  • Efallai na fydd cyfranogwr yn gallu cyrchu manylion ariannol ei rieni. 

Os na allwch ddod o hyd i’r dystiolaeth arferol, dyma’r hyn dylai ei wneud: 

a. Esboniwch eich proses fewnol 

Dywedwch wrth Taith sut mae eich sefydliad yn nodi cyfranogwyr dan anfantais.
Er enghraifft, os yw eich tîm Lles, Cwnsela neu Ofal Bugeiliol yn cefnogi’r dysgwyr hyn, gallant gadarnhau bod y cyfranogwr yn bodloni’r meini prawf. 

b. Ysgrifennwch lythyr ar bapur swyddogol. Dylai’r llythyr gadarnhau: 

    • Y dilynwyd eich proses fewnol
    • Bod y cyfranogwr yn bodloni meini prawf Taith ar gyfer bod dan anfantais 

c. Os nad oes gennych chi dîm cefnogi, ysgrifennwch dystysgrif ar bapur swyddogol. Rhaid iddi gael ei llofnodi gan y bobl ganlynol: 

    • Arweinydd eich Prosiect Taith 
    • Y cyfranogwr 
    • Rhiant neu ofalwr (os oes angen) 

d. Cadwch y llythyr neu’r dystysgrif. Cadwch hi gyda’ch dogfennau prosiect Taith am 12 mlynedd. Efallai bydd Taith yn gofyn i’w gweld yn hwyrach. 

Mae’r broses hon yn helpu i gefnogi eich cyfranogwyr y mae angen cyllid ychwanegol arnynt, heb ofyn am ddogfennau personol neu anodd dod o hyd iddynt. 

Cyfranogwyr staff dan anfantais 

Os yw aelod o staff yn dymuno gwneud cais am gyllid ychwanegol oherwydd ei fod dan anfantais: 

  • Rhaid iddo fodloni un neu fwy o’r meini prawf yn Nhabl 2. 
  • Rhaid i chi gadw o leiaf un darn o dystiolaeth i brofi hyn. 

Meini prawf 

Tystiolaeth ofynnol

Incwm cartref is na £26,225 

Datganiadau banc am y tri mis diwethafsy’n dangos yr holl incwm mae’r aelwyd yn ei dderbynrhaid bod yr enw a’r cyfeiriad yn weladwy ar y datganiadOs oes gan y sefydliad broses fewnol am bennu statws dan anfantais ariannolbyddem ni’n disgwyl derbyn cadarnhad o hyn. 

Cyfranogwr sy’n derbyn Credyd Cynhwysol neu fudd-daliadau sy’n gysylltiedig ag incwm yn ei enw ei hun 

Cyfanswm incwm yr aelwyd – cyflogau a/neu fudd-daliadau/pensiynau at ei gilydd – rhaid bod hyn dan £26,225 o hyd. 

Credyd Cynhwysol –  sgrinluniau o lyfr cyfrifon sy’n rhoi manylion y swm a dalwyd ynghyd ag unrhyw ddidyniadau am y tri mis diwethaf; rhaid bod yr enw a’r cyfeiriad yn weladwy ar y datganiad.    

Budd-daliadau – datganiadau banc am y tri mis diwethaf sy’n dangos swm y budd-daliadau sy’n cael eu derbyn.    

Cyfranogwyr hyd at 25 oed sydd â phrofiad o fod mewn gofalsydd mewn gofal ar hyn o bryd, neu sy’n dod o gefndir o dderbyn gofal 

Llythyr gan weithiwr cymdeithasol, gweithiwr cymorth, cynorthwy-ydd personol, awdurdod lleol, cymdeithas tai neu elusen, sy’n cadarnhausefyllfa’r cyfranogwr – yn y gorffennol neu ar hyn o bryd.    

Mae hyn yn cyfeirio at unrhyw un sydd yn profi wedi profi gofal mewn unrhyw gam o’i fywyd, waeth pa mor fyr. Mae hyn yn cynnwys plant a fabwysiadwyd a oedd yn derbyn gofal yn y gorffennol, neu’r rhai hynny sydd wedi cael profiad o ofal ac sy’n cyrchu bwrsariaethau sy’n gysylltiedig â gofal mewn rhannau eraill o’r DU cyn symud i Gymru.

Cyfranogwyr â chyfrifoldebau gofalu am blentyn ag anabledd, neu oedolyn nad yw’n gallu ymdopi heb ei gymorth oherwydd salwchanableddproblemau iechyd meddwl neu gaethiwed    

Llythyr sy’n dangos bod y cyfranogwr yn derbyn Lwfans Gofalwr.  

Llythyr gan weithiwr cymdeithasol, gweithiwr cymorth, gweithiwr iechyd proffesiynol neu sefydliad elusennol sy’n cadarnhau bod y cyfranogwr yn ymgymryd â chyfrifoldebau i aelod agos o deulu. 

Tystysgrif gan y sefydliad sy’n cyflwyno cais fel yr amlinellwyd yn y canllawiau uchod.

Ceiswyr Lloches neu Ffoaduriaid 

Cerdyn Cofrestru Cais neu lythyr gan y Swyddfa Gartref.  

Mae’r cyfranogwr wedi’i ddieithrio o’i rieni 

Dd/B 

Yn gymwys am brydau ysgol am ddim 

Dd/B 

6.0. Gwneud newidiadau i'ch prosiect

Gallwch wneud newidiadau i’ch prosiect wrth iddo redeg, os oes angen. Ond ni all y newidiadau effeithio ar y prif amcanion neu’r rheswm y rhoddwyd cyllid i’ch prosiect.

Mae dau fath o newid: 

  1. Newidiadau prosiect – newidiadau i weinyddiaeth gyffredinol y prosiect. Mae hyn yn cynnwys newidiadau o ganlyniad i Force Majeure a cheisiadau Estyniad i’r Prosiect, y mae’n rhaid eu hanfon drwy e-bost at cefnogaeth@taith.cymru. Rhaid anfon yr holl geisiadau eraill ar ffurf llythyr PDF ar bapur swyddogol eich sefydliad drwy e-bost at cefnogaeth@taith.cymru 
  2. Newidiadau i weithgaredd – newidiadau i weithgareddau symudedd penodol. I ofyn am newidiadau i weithgaredd yn y sectorau Ysgolion, Ieuenctid, AB/VET, ac  Addysg i Oedolion, rhaid i chi lenwi Profforma Cais am Newid (wedi’i gadw yn eich ffolder adrodd) o leiaf 30 niwrnod calendr cyn dechrau’r symudedd. Mae gan Addysg Uwch broses wahanol (sy’n cael ei hesbonio’n ddiweddarach yn y canllaw hwn).

Fel yr amlinellir isod, bydd angen ar rai newidiadau, ond nid yr holl newidiadau, gymeradwyaeth Taith cyn y gallwch barhau.  

Newidiadau i brosiect lle nad oes angen cymeradwyaeth Taith  

Newid Cynrychiolydd Cyfreithiol, Prif Swyddog Ariannol, neu Berson Cyswllt 

  • Os bydd rhywun yn y rolau hyn yn newid yn ystod y prosiect, anfonwch lythyr PDF wedi’i lofnodi ar bapur swyddogol eich sefydliad gan rywun awdurdodedig sy’n datgan natur y newid. Ar gyfer newidiadau i gynrychiolydd cyfreithiol neu brif swyddog ariannol, rhaid i’r llythyr hefyd gadarnhau bod gan y person newydd yr awdurdod i lofnodi dogfennau cyfreithiol. 

Newidiadau Prosiect lle mae angen cymeradwyaeth Taith  

Newidiadau Consortiwm 

  • Os ydych chi am ychwanegu partner newydd i’ch Consortiwm, rhaid i Taith gymeradwyo hyn. 
  • Byddwn yn gwirio:  
    • Effaith y newid 
    • Y bodlonir yr holl reolau cymhwysedd 
    • Bod ansawdd y consortiwm yn aros yr un peth 

Hyd y Prosiect 

  • Os ydych chi am estyn eich prosiect, anfonwch e-bost atom yn cefnogaeth@taith.cymru o leiaf 60 niwrnod calendr cyn dyddiad dod i ben a gymeradwywyd y prosiect. 
  • Os bydd eich prosiect yn dod i ben yn gynharach na’r hyn a gynlluniwyd, rhowch wybod i ni fel y gallwn ni anfon atoch dempled adroddiad terfynol i’w gwblhau. Sylwer os bydd eich prosiect yn gorffen llawer yn gynharach na’r hyn a ddisgwylir ac nid yw’n cyd-fynd â’r amserlen a roddwyd i ni gennych yn wreiddiol, gallai achosi oedi yn eich taliad terfynol. 

Gweler Atodlen 8 – Proses Newid Prosiect yn eich llythyr Cytundeb Grant am ragor o fanylion. 

Newidiadau i Weithgaredd lle mae angen cymeradwyaeth Taith   

Os bydd angen i chi newid gweithgaredd symudedd, rhaid i chi: 

  • Lenwi’r Profforma Cais i Newid (mae hyn wedi’i gadw yn eich ffolder adrodd) 
  • Dylech ei gwblhau 30 niwrnod calendr cyn y disgwylir i’r newid ddigwydd  

Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r ffurflen: 

  • Bydd Colofn Q yn dangos fel “ar y gweill” 
  • Bydd Taith yn ei diweddaru ar ôl adolygu eich cais 

Dylech chi fod wedi derbyn dolen i’ch ffolder adrodd drwy e-bost. Mae’r ffolder yn cynnwys: 

  • Profforma Cais i Newid  
  • Canllawiau ar sut i’w lenwi — darllenwch hyn cyn cwblhau 

Os bydd angen help arnoch, e-bostiwch cefnogaeth@taith.cymru 

Nodiadau Pwysig 

  • Os oes gan gyrchfan gyfradd grant uwch, bydd eich cyllideb yn newid 
  • Bydd Taith yn diweddaru eich cyfrifiannell grant byw i adlewyrchu hyn 
  • Fodd bynnag, gall Taith dim ond gyllido hyd at ddyfarniad eich grant gwreiddiol 
  • Rhaid i’r hyd newydd barhau i fodloni’r terfynau isaf ac uchaf a bennwyd gan y rhaglen. 
  • Rydych chi’n dal i fodloni’r gofyniad grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol erbyn diwedd y prosiect 

Cymorth Sefydliadol 

  • Mae’r cyllid yn seiliedig ar nifer y cyfranogwyr. 
  • Os bydd nifer y cyfranogwr yn disgyn, bydd eich cyllid Cymorth Sefydliadol yn lleihau hefyd. 

Diogelwch Teithio 

  • Rhaid i chi ddilyn cyngor teithio gan Y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu (FCDO) llywodraeth y DU. 
  • Ni fydd Taith yn cyllido teithio i leoedd lle mae’r FCDO yn cynghori yn erbyn teithio dramor. 

Os yw’r cyngor teithio yn newid i wlad lle rydych chi wedi cynllunio symudedd: 

  • Rhaid i chi wneud trefniadau amgen, fel dewis cyrchfan wahanol. 
  • Cysylltwch â Taith yn gyntaf cyn gwneud unrhyw newidiadau. 

Proses ar gyfer Derbynyddion Grant AU 

Adrodd am Newidiadau 

  • Nid oes yn rhaid i brosiectau AU hysbysu Taith ynghylch y newidiadau yn syth. Yn lle hynny, rhaid i sefydliadau gwblhau’r adran berthnasol yn eich Adroddiad o Gynnydd Chwe-misolOs na ddarperir yr holl wybodaeth benodol, gallai hyn effeithio ar daliad y grant terfynol.  
  • Mae’r templed yn yr adran Canllawiau Adrodd o’r adran Derbynyddion Grant. 

Yn yr adroddiad, rhaid i chi ddangos y canlynol: 

  • Bod nodau ac amcanion y prosiect yn dal i gael eu bodloni 
  • Bod isafswm hyd y symudedd yn dal i gael ei fodloni 
  • Rydych chi’n dal i fodloni’r gofyniad grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol erbyn diwedd y prosiect 
  • Ni all symudeddau dysgwyr gael eu newid yn symudeddau staff, heb gymeradwyaeth o flaen llawn gan Taith 
  • Os na chaiff ffioedd cyrsiau eu gwario, ni ellir trosglwyddo’r gyllideb hon i weithgaredd arall 
  • Rhaid i chi ddilyn cyngor teithio llywodraeth y DU (FCDO). Ni fydd Taith yn cyllido teithio i gyrchfannau lle mae’r FCDO yn cynghori yn erbyn teithio. 
  • Os bydd newidiadau i gyngor teithio i gyrchfan arfaethedig, rhaid i chi aildrefnu’r symudedd a chysylltu â Taith cyn gwneud newidiadau. 

Newidiadau Nad Yw Cymeradwyaeth Taith yn Ofynnol Ar Eu Cyfer 

Gallwch wneud newidiadau penodol i’ch prosiect heb yr angen am gymeradwyaeth gan Taith, cyhyd â’u bod yn aros o fewn terfynau isod. Rhaid diweddaru’r newidiadau hyn yn yr offeryn adrodd cyfranogwr pan fydd y symudedd wedi’i gwblhau. 

Cyllideb Symudedd Mewnol 

Mae eich cyllideb symudedd mewnol yn seiliedig ar ganran o’ch cyllideb symudedd allanol. 

  • Felly, os byddwch chi’n lleihau nifer y cyfranogwyr allanol, bydd eich cyllid symudedd mewnol hefyd yn lleihau. 

Mae cyllid Cymorth Sefydliadol yn gysylltiedig â nifer y cyfranogwyr. 

  • Llai o gyfranogwyr = llai o Gymorth Sefydliadol. 

7.0. Diogelu

Yn unol ag Atodlen 11 – Diogelu y llythyr Cytundeb Grant, byddwch wedi cwblhau rhestr wirio Diogelu fel rhan o dderbyniad llawn y cyllid. Mae’r rhestr wirio yn rhoi manylion y gofynion mae’n rhaid glynu wrthynt wrth weithio’n uniongyrchol gyda chyfranogwyr dan 18 oed a / neu oedolion sy’n agored i niwed a/neu sydd mewn perygl, neu wrth wneud gwaith sy’n cael effaith ar gyfranogwyr sydd dan 18 oed a / neu oedolion sy’n agored i niwed a/neu sydd mewn perygl. 

Mae gennych chi gyfrifoldeb i ddiogelu llesiant cyfranogwyr sydd dan 18 oed ac oedolion sy’n agored i niwed/mewn perygl (fel y diffiniwyd o dan Adran 7 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014), yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol a chanllawiau atodol. 

Gall Gweithdrefnau Diogelu Cymru eich helpu i ddeall a chyflawni’r dyletswyddau a amlinellir yn y ddeddfwriaeth hon a’r canllawiau hyn. 

Mae gan yr holl leoliadau addysg yng Nghymru ddyletswydd gyfreithiol i sicrhau bod gan blant fynediad at amgylchedd dysgu diogel. Mae’n bwysig bod lleoliadau addysg yn glir am sut maent yn parhau i fodloni eu dyletswyddau statudol ar gyfer diogelu plant a phobl ifanc wrth wneud trefniadau ar gyfer ymweliadau cyfnewid dramor, fel yr amlinellwyd yn y canllawiau statudol Cadw Dysgwyr yn Ddiogel. 

Mae’n hefyd rhaid i chi ystyried y ddeddfwriaeth berthnasol sy’n rheoli diogelu yn y wlad/tiriogaeth lle byddwch chi’n anfon unrhyw gyfranogwyr, a lle bo’n briodol, ymgorffori’r rhain yn eu prosesau/gweithdrefnau. 

Mae’n ofyniad i chi a sefydliadau Consortiwm (os yn berthnasol) sy’n cymryd rhan yn rhaglen Taith gael y canlynol ar waith: 

  • Polisidiogelucyfredol a pholisïau priodol eraill e.e. polisi diogelu plant, polisi cwynion, polisi chwythu’r chwiban, polisi gwrthaflonyddu a bwlio, polisi diogelu data
    • Gweithdrefnau recriwtio diogel
    • Cofnodion hyfforddi cyfredol
    • Cod ymddygiad i gyfranogwyr
    • Cod ymddygiad staff a gwirfoddolwyr
    • Dull clir er mwyn adrodd am unrhyw bryderon diogelu
    • Dull clir er mwyn cynnal gwiriadau addas ar deuluoedd derbyn a gweithdrefnau priodol ar waith ar gyfer ymweliadau a chynllunio (lle bo’n berthnasol)
    • Unigolyn a enwyd sy’n dal swydd uwch yn y sefydliad gyda chyfrifoldeb am ddiogelu
    • Asesiadau a gwiriadau risg priodol, gan gynnwys lle bo’n briodol, cofnodion troseddol a/neu wiriadau GDG
    • Yswiriant addas, gan gynnwys yswiriant teithio 

Mae’n ofynnol i holl Dderbynyddion Grant a Phartneriaid Consortiwm (os yn berthnasol) a fydd yn cynnal Gweithgareddau Grant (gan gynnwys cyfnewidion rhithwir) sy’n cynnwys pobl dan 18 oed a/neu oedolion sy’n agored i niwed/mewn perygl gwblhau rhestr wirio fel rhan o’r Llythyr Cytundeb Grant. Rhaid cydymffurfio â’r holl ofynion sy’n rhan o’r rhestr wirio cyn i unrhyw Weithgaredd Grant ddigwydd. 

Mae angen i gonsortia a arweinir gan drydydd partïon yn y sector Ysgolion, sy’n gyfrifol am ddiogelu lles disgyblion, sicrhau bod ganddynt gymeradwyaeth i gymryd rhan gan yr Awdurdod Lleol cyn cynnal symudedd. Mae angen cyflwyno tystiolaeth o’r gymeradwyaeth i Taith cyn y symudedd. 

Adrodd am ddigwyddiadau diogelu 

Os bydd digwyddiad diogelu, yn unol â’r cytundeb grant, eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau y caiff y digwyddiad ei reoli yn unol â’ch polisi a’ch gweithdrefnau Diogelu ac yn unol ag unrhyw ddeddfwriaeth berthnasol. Nid oes rhaid i chi adrodd am unrhyw ddigwyddiadau wrth Taith. Fodd bynnag, mewn amgylchiadau penodol megis lle gallai digwyddiad effeithio ar gyflawni’r prosiect neu ei ganlyniadau neu lle gallai digwyddiad fynd yn gyhoeddus, efallai y byddwch chi am gysylltu â Taith a’n diweddaru ni. 

Gallwch gysylltu â ni drwy’r mewnflwch cymorth cefnogaeth@taith.cymru neu drwy gwblhau’r ffurflen isod. Fel arall, os hoffech chi siarad â Swyddog Diogelu yn gyfrinachol, gallwch gysylltu ag un o’r tîm isod: 

Bydd un o’n tîm diogelu yn cysylltu â chi cyn gynted â phosib ar ôl i chi gysylltu. 

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau o gwbl, cysylltwch â’r tîm yn cefnogaeth@taith.cymru 

Cwblhewch ffurflen gychwynnol adrodd am ddigwyddiad  

Cwblhewch ffurflen derfynol adrodd am ddigwyddiad 

8.0. Adrodd

Rhaid i’r holl brosiectau a gyllidir gan Taith gyflwyno adroddiadau amrywiol drwy gydol eich cylch bywyd. Mae’r rhain yn helpu i fonitro cynnydd, sicrhau atebolrwydd, a phennu taliadau. 

a. Adrodd cyfranogwyr 

  • Diben: Casglu data am gyfranogwyr ar ôl i’r symudeddau gael eu cynnal. 
  • Terfyn Amser: Rhaid cyflwyno hyn o fewn 28 niwrnod calendr o gynnal symudeddau a chyn cyflwyno eich adroddiad terfynol. 
  • Lleoliad: Wedi’i gadw yn eich ffolder adrodd unigol, sy’n cynnwys canllawiau. 

b. Adroddiadauchwarterol 

  • Gofynnol: Yn seiliedig ar hyd prosiect neu sgôr risg. 
  • Terfyn amser: Fel y penodwyd yn Atodlen 1 – Proses Amserlen Taliadau. 
  • Cyflwyniad: Rhaid ei gwblhau a’i gadw yn ffolder eich prosiect. 
  • Diben: Asesiad o gynnydd y prosiect yn unol â’r cais grant gwreiddiol. 
  • Canlyniad 
    • Darperir adborth. 
    • Gall hyn gynnwys argymhellion neu weithredoedd i’w cwblhau. 
    • Mae taliadau pellach yn dibynnu ar gynnydd boddhaol o’ch prosiect a chymeradwyaeth gan Taith. 

 c. Adroddiadauinterim 

  • Gofynnol: Yn seiliedig ar hyd prosiect neu sgôr risg. 
  • Terfyn amser: Fel y penodwyd yn Atodlen 1 – Proses Amserlen Taliadau. 
  • Cyflwyniad: Rhaid ei gwblhau a’i gadw yn ffolder eich prosiect. 
  • Diben: Asesiad o gynnydd y prosiect yn unol â’r cais grant gwreiddiol. 
  • Canlyniad 
    • Darperir adborth. 
    • Gall hyn gynnwys argymhellion neu weithredoedd i’w cwblhau. 
    • Mae taliadau pellach yn dibynnu ar gynnydd boddhaol o’ch prosiect a chymeradwyaeth gan Taith. 

 ch. Adroddiadauchwe-misol AU 

  • Gofynnol ar gyfer: Prosiectau Addysg Uwch. 
  • Terfyn Amser: Yn cael ei gyfathrebu drwy e-bost. 
  • Cyflwyniad: Rhaid cwblhau hyn a’i gadw yn ffolder eich prosiect. 
  • Diben: Adolygu cynnydd ac unrhyw newidiadau i weithgareddau. 
  • Sylwer: Nid oes unrhyw daliadau’n gysylltiedig â’r adroddiad hwn. 

 d. Adroddiadterfynol 

  • Yn ofynnol i: Prosiectau pob Llwybr. 
  • Terfyn amser: O fewn 30 niwrnod calendr o ddyddiad dod i ben y prosiect (neu’n gynharach os bydd yr holl weithgareddau wedi’u cwblhau). 
  • Cyflwyniad: Rhaid ei gwblhau a’i gadw yn ffolder eich prosiect. 
  • Diben 
    • Darparu trosolwg llawn o weithgareddau a gwariant. 
    • Yn ei gwneud hi’n bosib cysoni cyllideb. 
  • Gofynion 
    • Datganiad sy’n cadarnhau cyflwyniad yr holl weithgareddau y cytunwyd arnynt. 
    • Rhaid cynnwys adroddiad terfynol a lofnodwyd yn ddigidol a Datganiad Ardystio (ar gyfer grantiau o £50,000 a llai). 
    • Tystysgrif o Wariant (ar gyfer grantiau o fwy na £50,000). 

Mae templedi ar gael yn yr adran Derbynyddion Grant. 

  • Canlyniadau Cyflwyno’n Hwyr 
    • Gallai arwain at atal neu oedi taliadau grant neu eu hailhawlio. 
  • Amodau Taliad Terfynol 
    • Yn seiliedig ar gyflwyniad a gwariant gwirioneddol. 
    • Os na chaiff y gweithgareddau grant eu cwblhau fel y cynlluniwyd neu’n costio llai na’r disgwyl gellir lleihau’r grant neu efallai y bydd yn rhaid i chi ad-dalu unrhyw arian ychwanegol a dderbyniwyd. 

 f. Datganiad Ardystio 

  • Gofynnol: Rhaid ei gwblhau o fewn 30 niwrnod calendr o ddyddiad dod i ben y prosiect. 
  • Diben: Yn cadarnhau cwblhad gweithgareddau’r grant ac yn sbarduno’r broses taliad terfynol. 
  • Cymeradwyaeth: Yn ddibynnol ar adolygiad Taith. 

 dd. Tystysgrifo Wariant 

  • Yn ofynnol ar gyfer: Grantiau mwy na £50,000. 
  • Terfyn amser: O fewn 30 niwrnod calendr o ddyddiad dod i ben y prosiect.  
  • Wedi’i gwblhau gan: Archwilydd/cyfrifydd annibynnol 
  • Cost: Gellir talu hyn gan gostau cefnogi’r prosiect 

 e. Adborthcyfranogwr 

  • Manylion: Mae rhagor o fanylion yn Atodlen 5 o’ch llythyr Cytundeb Grant. 

9. Archwilio a Sicrwydd a Chadw Cofnodion

Gall Taith gynnal archwiliadau i wirio eich bod wedi cydymffurfio â rheolau ariannol a’r rhaglen. Bydd yr archwiliadau hyn yn ystyried y canlynol: 

  • Gweinyddiaeth gyffredinol y prosiect 
  • Trefniadau bancio 
  • Tystiolaeth o wariant 
  • Gweithdrefnau talu 
  • Cymhwysedd costau 
  • Cofnodion teithio 
  • Tystiolaeth o weithgareddau a chyfarfodydd 

Os ydych chi wedi derbyn cyllid ychwanegol (e.e. Teithio Gwyrdd, Cymorth Cynhwysiant, Costau Eithriadol), byddwch yn destun archwiliad bwrdd gwaith cyn i’r prosiect gau. 

Mathau o archwiliadau 

a. Archwiliad bwrdd gwaith 

  • Wedi’i wneud o bell 
  • Gwiriad cydymffurfiaeth sylfaenol 

b. Archwiliad ar y safle (yn ystod prosiect) 

  • Adolygiad manwl o gofnodion a chyfweliadau 
  • Gallai gefnogi sefydliadau newydd 
  • Yn helpu i osgoi adenilliad cyllid yn y dyfodol 

c. Archwiliad ar y safle (yn dilyn y prosiect) 

  • Adolygiad manwl 
  • Wedi’i ysgogi gan faterion difrifol a ganfuwyd yn gynharach 
  • Gellir cymryd camau yn syth 

d. Adroddiadau  

  • Bydd angen adroddiadau chwarterol ar gyfer prosiectau risg uchel am hyd y prosiect.  
  • Bydd angen adroddiadau interim ar gyfer yr holl brosiectau.  
  • Bydd angen adroddiadau terfynol ar gyfer yr holl brosiectau.  

 

Gofynion tystiolaeth gefnogol 

Rhaid i chi gadw cofnodion clir i brofi bod y gweithgareddau a’r gwariant yn cyd-fynd â’ch Cytundeb Grant a gymeradwywyd. 

 

Ar gyfer Categorïau Cost Uned (e.e. teithio, cynhaliaeth, cymorth sefydliadol): 

  • Tystysgrif neu daenlen presenoldeb a lofnodwyd (gydag enwau’r cyfranogwyr, dyddiadau, diben) 
  • I bobl dan 18 oed, wedi’i lofnodi gan berson sy’n gwmni iddynt 
  • Yn berthnasol i symudeddau mewnol ac allanol 
  • Rhaid cynnwys ID cyfranogwr unigryw Taith 
  • Rhaid cynnwys manylion llawn a gohebiaeth gyda sefydliadau partner 

Ar gyfer Cyllid Ychwanegol a gymeradwywyd (Ar gyfer teithio gwyrdd, cymorth cynhwysiant, neu gostau eithriadol) 

Rhaid i chi gadw a darparu: 

  • Anfonebau/derbynebau sy’n dangos:  
    • Enw a chyfeiriad cyflenwr 
    • Swm ac arian cyfred 
    • Dyddiad 
    • Ar gyfer teithio: llwybr a dyddiad teithio 
  • Tystiolaeth i gyfranogwyr gydag ADY, Anabledd neu sydd dan anfantais  
    • Defnyddiwch ID y cyfranogwr, nid enwau 
  • Tystiolaeth o werth am arian:  
    • Eitemau dros £300: dyfynbrisiau ysgrifenedig 
    • Eitemau dan £300: cymhariaeth o gost 
  • Gellir gofyn am ddogfennau eraill i gefnogi eich hawliad (e.e., amcangyfrifon neu ddyfynbrisiau) 

 Os yw Taith yn gofyn am dystiolaeth: 

  • Os na chaiff ei darparu, gall Taith hawlio’r cyllid yn ôl 

Nodiadau pwysig: 

  • Nid yw datganiadau cerdyn credyd yn dystiolaeth ddilys 
  • Rhaid i dderbynebau ddangos cost yr eitem, y cyflenwr, y dyddiad, yr arian cyfred, a’r rhif TAW (os yn berthnasol) 
  • Rhaid cadw’r holl gofnodion am 12 mlynedd o leiaf ar ôl dyddiad cau eich prosiect 
  • Yn berthnasol i is-gontractwyr ac aelodau consortiwm hefyd 
  • Rhaid i chi roi mynediad i Taith i safleoedd a chofnodion yn unol â’ch Cytundeb Grant 

 Grwpiau heb Gynrychiolaeth Ddigonol 

Rhaid i chi adrodd am gynnydd yn unol â thargedau ar gyfer grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol gan ddefnyddio’r offeryn adrodd cyfranogwr. Mae canllawiau llawn ar gael yn adran Derbynyddion Grant ar wefan Taith. 

Hawlio arian yn ôl  

Sut Mae Hawlio Arian yn ôl yn Gweithio 

 Rydym yn ceisio osgoi hawlio arian yn ôl lle bo’n bosib. Os bydd angen hawlio arian yn ôl: 

  1. Gwrthbwyso: byddwn yn cyfrifo swm terfynol eich grant ac yn ei dynnu o’ch taliad sy’n ddyledus. 
  2. Anfoneb: Os ydych chi wedi derbyn taliad sy’n fwy na swm terfynol eich grant, byddwn yn anfon anfoneb atoch yn gofyn i chi ei dalu’n ôl yn syth. 
    • Bydd gennych chi 10 niwrnod gwaith i dalu. 
    • Os na fyddwch chi’n talu’r anfoneb, byddwn yn anfon llythyr terfynol atoch cyn cymryd camau cyfreithiol. 

Os na fyddwch chi’n ad-dalu’r arian sy’n ddyledus i ni, gallai effeithio ar daliadau eich prosiectau Taith eraill neu’n eich atal rhag cael cyllid gennym ni yn y dyfodol. 

Eich Cyfrifoldeb 

P’un a gymerir yr arian o daliad yn y dyfodol neu caiff ei dalu drwy anfoneb, eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod gennych chi ddigon o gronfeydd i gwblhau’r holl brosiectau Taith a gymeradwywyd. 

Rydym yn eich annog i hyrwyddo eich prosiect a gyllidir gan Taith yn rhagweithiol a rhannu eich profiadau gydag eraill. I helpu i sicrhau cysondeb a chynyddu ymwybyddiaeth o raglen Taith, rydym yn gofyn i chi ddilyn y canllawiau allweddol canlynol: 

a. Dilyn Canllawiau Brandio Taith 

  • Dylai’r holl ddeunydd hyrwyddo (digidol ac argraffedig) ddilyn canllawiau brandio swyddogol Taith i gynnal cysondeb ac eglurdeb o ran cynrychiolaeth Taith a’i phrosiectau. 
  • Sicrhewch y caiff logos Taith a Llywodraeth Cymru eu cynnwys a’u defnyddio’n gywir. Byddwch yn dod o hyd i ganllawiau defnyddio a ffeiliau logos y gellir ei lawrlwytho yn yr adran canllawiau brandio o adran Derbynyddion Grant. 
  • Os ydych chi’n gweithredu’n ddwyieithog (e.e., yng Nghymru), ystyriwch ddefnyddio’r Gymraeg yn ogystal â’r Saesneg yn eich deunyddiau lle bo’n bosib, yn unol ag arferion cyfathrebu cynhwysol. 
  • Sicrhewch fod gennych chi’r caniatâd a’r cydsyniad priodol ar gyfer unrhyw luniau sy’n cael eu defnyddio mewn deunyddiau hyrwyddo. 

 b. Defnyddiwch y Cyfryngau Cymdeithasol i Hyrwyddo eich Gweithgareddau 

  • Rhannwch ddiweddariadau, lluniau, fideos a darnau myfyrio o’ch prosiect ar sianeli cyfryngau cymdeithasol eich sefydliad. 
  • Tagiwch Taith yn yr holl bostiadau fel y gallwn ymgysylltu a chwyddleisio eich cynnwys. Mae Taith yn defnyddio: 
    • X (Twitter o’r blaen) 
    • Instagram 
    • Facebook 
    • LinkedIn 
    • BlueSky 
    • Threads 
  • Lle bo’n briodol, ystyriwch ddefnyddio hashnodau megis #Taith#TaithCymru neu rai sy’n benodol i’r prosiect i ehangu eich cyrhaeddiad. 
  • Sicrhewch fod gennych chi’r caniatâd a’r cydsyniad priodol ar gyfer unrhyw luniau sy’n cael eu defnyddio mewn deunyddiau hyrwyddo. 

 c. Rhannwch eich Stori gyda Taith 

  • Cyflwynwch eich profiad drwy ein ffurflen ar-lein ‘Rhannwch Eich Stori’. P’un a yw’n blog, yn astudiaeth achos, neu’n ddarn myfyrio gan gyfranogwr, byddem wrth ein boddau yn cael clywed sut mae Taith wedi cael effaith ar eich cyfranogwyr a’r sefydliad chi. 
  • Mae eich straeon yn helpu i arddangos effaith bywyd go iawn dysgu rhyngwladol ac ysgogi eraill i gymryd rhan, yn enwedig y rhai hynny nad ydynt wedi ystyried y cyfleoedd hyn o’r blaen. 

 d. Allgymorth gyda’r Cyfryngau 

  • Os yw eich prosiect yn derbyn sylw yn y wasg genedlaethol neu leol, dywedwch wrth dîm cyfathrebu Taith fel y gall gefnogi neu gydlynu’r negeseuon. 
  • Os hoffech chi gael help wrth greu Datganiad i’r Wasg i’w anfon i’r wasg, cysylltwch.