Cwestiynau Cyffredin Llywbr 1 2023
Gallwch wneud newidiadau i’ch prosiect tra’i fod yn mynd yn ei flaen, os oes angen. Mae’r newidiadau hyn yn disgyn i ddau fath:
- Ceisiadau i Newid Prosiect
Dyma newidiadau i sut mae’ch prosiect yn cael ei reoli — megis diweddaru’r prif gyswllt neu’r cynrychiolydd cyfreithiol.
- Rhaid i chi roi gwybod i Taith cyn gynted â phosib drwy e-bostio llythyr PDF wedi’i lofnodi ar bapur pennawd at cefnogaeth@taith.cymru
Gall mathau eraill o newidiadau prosiect gynnwys:
- Estyniadau i brosiectau – rhaid gwneud cais amdanynt o leiaf 60 diwrnod cyn dyddiad gorffen y prosiect.
- Newidiadau consortiwm – mae angen cymeradwyaeth Taith ar gyfer y rhain.
Rhaid cyflwyno’r rhain i gyd drwy e-bost i cefnogaeth@taith.cymru
- Ceisiadau i Newid Gweithgaredd
Newidiadau i’r gweithgareddau a gynlluniwyd o fewn eich prosiect yw’r rhain.
- Dylech gofnodi’r rhain yn y profforma cais am newid yn eich ffolder adrodd o leiaf 30 diwrnod cyn i’r gweithgaredd ddigwydd.
- Bydd Taith yn adolygu’r profforma yn rheolaidd ac yn rhoi gwybod i chi os yw’r newid wedi’i gymeradwyo neu os oes angen rhagor o wybodaeth.
Sylwer: Nid yw hyn yn berthnasol i brosiectau Addysg Uwch.
I brofi costau teithio a chynhaliaeth i’r holl gyfranogwyr (p’un a ydynt yn teithio’n allanol neu’n fewnol i Gymru), mae angen tystysgrif neu ddatganiad presenoldeb wedi’i lofnodi a’i ddyddio. Dylai’r sefydliad anfon neu dderbyn gwblhau hwn ar ddiwrnod olaf y symudedd. Rhaid iddo gynnwys enw’r cyfranogwr, pwrpas y gweithgaredd, a’r dyddiadau dechrau a gorffen wedi’u cadarnhau. Mae templed ar gael yma.
Ar gyfer Teithio Gwyrdd, Costau Eithriadol (2022 yn unig), a Chymorth Cynhwysiant, rhaid i chi gael cymeradwyaeth Taith drwy ddefnyddio’r broses gwneud cais am Gyllid Ychwanegol. Mae’r rhain yn gostau gwirioneddol y mae’n rhaid eu cefnogi gyda derbynneb ddilys neu dystiolaeth debyg — fel arall, ni fydd Taith yn talu amdanynt.
Rydyn ni’n deall y gall fod yn anodd casglu mathau penodol o dystiolaeth ar gyfer cyfranogwyr y mae angen cyllid ychwanegol arnynt. Os na allwch gael y dogfennau arferol, bydd angen i chi esbonio sut mae’ch sefydliad yn nodi cyfranogwyr o gefndiroedd difreintiedig. Gallai hyn fod yn gadarnhad gan dîm lles neu ofal bugeiliol. Os nad oes un gan eich tîm, bydd angen tystysgrif wedi’i lofnodi gan yr arweinydd prosiect Taith, y cyfranogwr a’u rhiant/gofalwr (lle bo’n berthnasol).
Gellir gwneud ceisiadau am gyllid ychwanegol i Taith ar gyfer Teithio Gwyrdd a Chymorth Cynhwysiant, cyn i symudedd ddigwydd a dim mwy na 30 diwrnod ar ôl i symudedd ddigwydd. Mae’r ffurflen gais a’r canllawiau i wneud cais am gyllid ychwanegol i’w gweld yn adran ‘Cyllid ychwanegol’ yr ardal Derbynnydd Grant.
Mae Gwariant Cymwys yn golygu swm yr arian grant y gallwch ei ddefnyddio ar gyfer eich gweithgareddau prosiect, yn seiliedig ar gyfradd benodol. Mae hefyd yn cyfeirio at y mathau o gostau y mae taith yn cytuno eu talu o dan eich Cytundeb Grant. Mae Gwariant Cymwys yn cynnwys:
- Cynhaliaeth i ddysgwyr, staff a phobl sy’n mynd gyda nhw.
- Grantiau teithio (heb gynnwys Teithio Gwyrdd).
- Costau eraill megis ffioedd cwrs/hyfforddi a chostau datblygu cyfnewidiadau rhithwir (sylwer bod y rhain yn seiliedig ar gostau gwirioneddol hyd at derfyn uchaf).
- Cymorth Sefydliadol i’r Derbynnydd Grant (ar gyfer symudeddau allanol a mewnol).
Mae rhestr gynhwysfawr, ond nid hollgynhwysol, o gostau cymwys ac anghymwys i’w gweld yn Atodlen 6 eith llythyr Cytundeb Grant.
Fel y nodir yn eich llythyr Cytundeb Grant, bydd angen i chi gwblhau sawl adroddiad yn ystod eich prosiect. Mae’r rhestr o adroddiadau yn Atodlen 5. Mae Atodlen 1 yn dangos pryd y caiff taliadau eu gwneud a phryd mae adroddiadau’n ddyledus. Dylech uwchlwytho’ch adroddiadau i’ch ffolder adrodd, ac mae rhagor o wybodaeth ar gael yno hefyd. Mae templedi i’ch helpu i gwblhau’r adroddiadau ar gael yn adran Canllawiau Adrodd eich ardal Derbynnydd Grant.
Gall cyfranogwyr dderbyn arian o wahanol ffynonellau i helpu â’u teithio, ond os yw unrhyw ran o’r arian hwnnw yn dod o gronfeydd cyhoeddus ac yn cael ei ddefnyddio ar gyfer yr un costau y mae Taith yn eu talu (megis teithio, bwyd, neu dreuliau cymeradwy eraill), gelwir hyn yn gyllido dwbl a dylid ei osgoi os oes modd. Os nad yw’r grant Taith yn talu am gost yn llawn, gallwch ddefnyddio cyllid arall i dalu’r gwahaniaeth — ond dim ond hyd at y gost wirioneddol, nid mwy.
Yn anffodus, nid yw Taith yn gallu cynnig cyngor na chymorth i chi ar unrhyw agwedd ar wneud cais am fisâu. Mae mewnfudo a fisâu i Gymru ac oddi yno yn destun rheolau a bennir gan y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu (FCDO) y mae’n rhaid cydymffurfio â nhw. Eich cyfrifoldeb chi yw eu dilyn. Mae gwybodaeth am ofynion mynediad ar gyfer gwahanol wledydd ar gael ar wefan FCDO https://www.gov.uk/foreign-travel-advice.
Mae’n bosib y cewch ymweld â mwy nag un lleoliad yn ystod symuded, ond bydd yn rhaid i chi ofyn i Taith yn gyntaf drwy e-bostio cefnogaeth@taith.cymru Ystyrir pob cais fesul achos. I gael ei ystyried, rhaid i’ch cais fodloni’r meini prawf canlynol:
• Mae’r gweithgaredd yn yr ail gyrchfan/lleoliad wedi’i gysylltu’n uniongyrchol â chynlluniau’r prosiect gwreiddiol
• Mae’r ymweliad â phob lleoliad yn cyrraedd isafswm nifer diwrnodau hyd y symudedd yn unol â’r canllawiau, neu gellir teithio i’r ail leoliad ac oddi yno mewn un o ddiwrnodau’r symudedd gwreiddiol
• Mae’r ymweliadau’n olynol heb unrhyw deithio yn ôl i’r DU yn y canol
• Mae’r symudeddau yn yr un wlad gyrchfan
Ni allwch rannu symudedd hir yn deithiau byrrach i’r un cyrchfan neu wahanol leoedd — hyd yn oed os yw pob taith yn bodloni’r isafswm hyd gofynnol. Mae’r dull hwn yn unol ag un o ymrwymiadau Taith i annog teithio cynaliadwy yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015), a Deddf yr Amgylchedd (Cymru).Mae Taith wedi ymrwymo i fod yn gynhwysol ac yn hygyrch. Gallai gofyn i gyfranogwyr dalu blaendal neu ffi atal rhai unigolion rhag cymryd rhan. Dyna pam rydym yn cynghori sefydliadau’n gryf i beidio â chodi unrhyw fath o ffi ar gyfranogwr – hyd yn oed os yw’n ad-daladwy.
Mae diwrnod teithio yn cyfeirio at y diwrnod y mae sefydliad yn teithio i neu o gyrchfan eu symudedd a gynlluniwyd. Gall y diwrnod teithio fod yn unrhyw nifer o ddyddiau cyn neu ar ôl i’r gweithgaredd symudedd ddechrau neu ddod i ben, ond rhaid nodi unrhyw ddyddiau nad ydynt yn cael eu treulio’n teithio neu’n ymgymryd â gweithgaredd symudedd fel dyddiau heb eu hariannu yn eich adroddiadau cyfranogwyr.