Cwestiynau Cyffredin Llwybr 1
Gall buddiolwyr wneud newidiadau i’w prosiect trwy gydol ei gyflwyniad os oes angen. Mae manylion llawn y rheolau gwneud cais am newid i’w gweld yn Atodlen 8 eich Llythyr Cytundeb Grant, ac yn y canllawiau ar y ffurflen Cais am Newid. Os mae’r newidiad yn syrthio tu allan i’r trothwy yn Atodlen 8, bydd rhaid i’r newidiad cael ei gymeradwyo gan Taith. Mae ragor o wybodaeth hefyd o dan yr adran Cais am Newid Prosiect.
Fel tystiolaeth am yr holl gynhaliaeth a theithio, ar gyfer yr holl gyfranogwyr (allanol a mewnol), dylai datganiad, neu dystysgrif presenoldeb gael ei lofnodi a’i ddyddio ar ddiwrnod olaf y symudedd gan y sefydliad anfon neu dderbyn, gan gadarnhau’r enw y cyfranogwr, pwrpas y gweithgaredd a’r dyddiad dechrau a gorffen a gadarnhawyd. Mae templed ar gael yma. Bydd angen i wariant ar gyfer Teithio Gwyrdd, Costau Eithriadol (2022 yn unig) a Chymorth Cynhwysiant gael ei gymeradwyo a’i awdurdodi gan Taith drwy’r broses gwneud cais am Gyllid Ychwanegol. Mae’r rhain yn gostau gwirioneddol, y mae’n rhaid eu cefnogi gyda derbynneb ddilys (neu gyfwerth). Heb hyn, ni fydd taliad gan Taith.
Rydym ni’n deall y gall fod yn anodd casglu mathau penodol o dystiolaeth ar gyfer cyllid ychwanegol am sawl rheswm. Mewn amgylchiadau lle na ellir darparu neu gael y dystiolaeth angenrheidiol, byddem ni’n gofyn i sefydliadau ddarparu manylion prosesau mewnol a ddefnyddir i nodi cyfranogwyr o gefndiroedd dan anfantais. Gallai hyn naill ai fod drwy adran les neu dîm gofal bugeiliol sy’n darparu’r cadarnhad angenrheidiol, ond i sefydliadau nad oes ganddynt adrannau arbenigol tebyg, bydd angen tystysgrif arnom gan arweinydd y prosiect Taith, y cyfranogwr a’r rhiant/gofalwr lle bo’n berthnasol.
Gellir gwneud ceisiadau am gyllid ychwanegol i Taith ar gyfer Teithio Gwyrdd a Chymorth Cynhwysiant, dim mwy na 30 diwrnod ar ôl i’r symudedd ddigwydd. Mae’r ffurflen gais a’r canllawiau i wneud cais am gyllid ychwanegol i’w gweld yn yr adran ‘Cyllid ychwanegol’ yr ardal Derbynnydd Grant.
Yn gyffredinol, disgwylir y bydd cyfranogwyr symudedd mewnol yn cael cyfraddau cynhaliaeth Grŵp 1, a grant teithio ar yr un lefel â’r cyfraddau a ddiffinnir ar gyfer y symudedd allanol cyfatebol.
Yn achos pob sector ac eithrio Addysg Uwch, os nad yw sefydliad partner ar gyfer gweithgareddau symudedd allanol eisiau cymryd rhan mewn ymweliad dwyffordd, gellir nodi partneriaid eraill. Ar gyfer AU yn unig: Ar gyfer prosiectau Llwybr 1 (2022), mae gan sefydliadau Buddiolwr Addysg Uwchradd yr hyblygrwydd i gyflwyno cyfradd safonol ar gyfer symudedd mewnol, y mae’n rhaid ei chymhwyso mewn modd teg a chyson a gwrthsefyll craffu archwilio. Mae’n rhaid i fathau o symudedd mewnol gyfateb i’r symudedd allanol gan gynnwys gwlad y gyrchfan a’r sefydliad partner.
Mae’r cyllid ar gyfer cyfranogwyr mewnol yn dibynnu’n uniongyrchol ar nifer y cyfranogwyr wedi’i gynnwys yn y symudedd allanol. Os yw’r nifer o gyfranogwyr allanol yn lleihau, bydd swm y cyllid y gall prosiectau ei gael ar gyfer symud i mewn hefyd yn lleihau. Os byddwch yn dewis cynnal mwy o gyfranogwyr mewnol yn eich ffurflen gais, ni fyddwch yn derbyn unrhyw gyllid ychwanegol.Mae Gwariant Cymwys yn cyfeirio at swm y Grant (yn nodweddiadol yn seiliedig ar gyfradd uned) y gellir ei ddefnyddio mewn perthynas â chyflawni Gweithgareddau Grant, a’r math o wariant a ganiateir gan Taith o dan y Cytundeb hwn. Mae Gwariant Cymwys yn cynnwys:
• Cynhaliaeth i ddysgwyr, staff a phobl sy’n mynd gyda nhw.
• Grantiau teithio (heb gynnwys Teithio Gwyrdd).
• Costau eraill megis ffioedd cwrs/hyfforddi a chostau datblygu cyfnewidiadau rhithwir (sylwyr bod y rhain yn seiliedig ar gostau gwirioneddol hyd at derfyn uchaf).
• Cymorth Sefydliadol i Dderbynnydd y Grant (ar gyfer symudeddau allanol a mewnol).
Mae taliadau Cymorth Sefydliadol yn gyfraniad at unrhyw gostau yr eir iddynt gan y sefydliad(au) wrth helpu unigolion i ymgymryd â symudedd wyneb-yn-wyneb neu rithwir, rhai mewnol ac allanol. Mae’r cyfrifiad o Gymorth Sefydliadol yn seiliedig ar gyfanswm y cyfranogwyr symudedd mewnol ac allanol fesul prosiect a ni ellir bod yn fwy na’r gyllideb gymeradwy wreiddiol.
Mae costau cymwys o dan Cymorth Sefydliadol yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i,:
• Cwrs iaith i gefnogi dysgu iaith y wlad westeio
• Rhwydweithio, digwyddiadau cymdeithasol a diwylliannol ar gyfer cyfranogwyr symudedd o fewn y wlad westeio
• Teithiau diwylliannol o fewn Cymru wedi’u trefnu ar gyfer cyfranogwyr symudedd mewnol
• Cyfraniad at ffioedd yswiriant a fisa
• Digwyddiadau i hyrwyddo cyfranogiad yn Taith
• Deunyddiau hyrwyddo, gan gynnwys y rhai a gynhyrchir gan gyfranogwyr symudedd
• Gweithgareddau llysgenhadon Taith
• Costau staff sydd eu hangen i redeg y prosiect
• Cyfraniad at ôl-lenwi staff, e.e., athrawon cyflenwi
• Costau pasbort neu fisa ychwanegol
• Defnydd o arbenigwyr
• Storio eitemau personol
• Costau cymwys atodol lle mae cyfraniad cost uned yn annigonol h.y., teithio a chynhaliaeth
Bydd enghreifftiau o wariant anghymwys yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i (lle bo’n berthnasol):
• ffioedd cynhadledd neu deithio i fynychu cynadleddau rhyngwladol.
• costau y mae angen eu talu p’un a yw cyllid Taith yn cael ei dderbyn ai peidio, megis rhent neu filiau cyfleustodau.
• cyfnodau o absenoldeb a gynlluniwyd e.e. absenoldeb mamolaeth/tadolaeth, seibiant gyrfa.
• cyflogau ymchwilwyr.
• costau sy’n gysylltiedig ag ymchwil, gan gynnwys nwyddau traul, ffioedd mainc, gorbenion neu gostau ategol eraill.
• unrhyw gostau a eir iddynt mewn perthynas â symudedd mewnol ar lefel uwch na’r uchafswm a ganiateir (h.y. 30% o symudedd allanol a gyflawnwyd mewn gwirionedd).
• pryniannau cyfalaf
Ceir rhagor o wybodaeth am hyn yn Atodlen 6 eich llythyr Cytundeb Grant.Yn unol â’r llythyr Cytundeb Grant, mae’n ofynnol i’r Buddiolwr gwblhau amrywiaeth o adroddiadau trwy gydol oes eu prosiect. Mae’r gofynion adrodd i’w gweld yn Atodlen 5. Mae’r amserlen daliadau a’r dyddiadau cyflwyno adroddiadau wedi’u hamlinellu yn Atodlen 1. Dylid uwchlwytho’r adroddiadau’n uniongyrchol i ffolder adrodd y Derbynydd Grant, lle gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth. Gellir dod o hyd i dempledi hefyd yn adran Canllawiau Adrodd yr ardal Derbynnydd Grant.
Gall cyfranogwyr dderbyn ffynonellau amrywiol o gyllid i gefnogi eu rhaglen gyfnewid. Fodd bynnag, os ystyrir bod unrhyw un o’r rhai hynny’n gyllid cyhoeddus a’r bwriad fydd i’w ddefnyddio i dalu’r un mathau o gostau y byddai Taith yn eu talu hefyd (megis teithio, cynhaliaeth a chostau ychwanegol cymwys), byddai hyn yn cael ei ddiffinio fel cyllido dwbl a rhaid ei osgoi, lle bo’n bosib.
Mewn achosion lle nad yw grant Taith yn talu’r holl gostau gwirioneddol dan sylw, gall sefydliadau sy’n derbyn cyllid ychwanegu atynt o ffynhonnell gyllido amgen hyd at swm y gost wirioneddol, ond ddim y tu hwnt i’r swm hwnnw.Yn anffodus, nid yw Taith yn gallu cynnig cyngor na chymorth i Dderbynwyr Grant ar unrhyw agwedd ar gyflwyno cais am fisâu. Mae mewnfudo a fisâu i Gymru ac oddi yno yn destun rheolau a bennir gan y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu (FCDO) y mae’n rhaid cydymffurfio â nhw. Mae’r rhain yn gyfrifoldeb y sefydliad sy’n derbyn cyllid i’w dilyn. Mae gwybodaeth am ofynion mynediad ar gyfer gwahanol wledydd ar gael ar wefan FCDO https://www.gov.uk/foreign-travel-advice.
Gallai ymweld â lleoliadau lluosog yn ystod symudedd fod yn ganiataol o dan rai amgylchiadau. Yn y lle cyntaf, dylai Derbynwyr Grant gysylltu â Taith yn support@taith.wales i ofyn am ymweliadau â sawl cyrchfan. Bydd pob cais yn cael ei adolygu fesul achos, ond er mwyn i gais gael ei ystyried, rhaid iddo fodloni’r meini prawf canlynol:
• Mae’r gweithgaredd yn yr ail gyrchfan/lleoliad wedi’i gysylltu’n uniongyrchol â chynlluniau’r prosiect gwreiddio
• Mae’r ymweliad â phob lleoliad yn cyrraedd isafswm nifer diwrnodau hyd y symudedd yn unol â’r canllawiau, neu y gellir teithio i’r ail leoliad ac oddi yno mewn un o ddiwrnodau’r symudedd gwreiddiol
• Mae’r ymweliadau’n olynol heb unrhyw deithio yn ôl i’r DU yn y canol
• Mae’r symudeddau yn yr un wlad gyrchfan
Nid yw’n bosibl rhannu symudedd hir yn gyfnodau llai i’r un cyrchfan neu gyrchfannau lluosog hyd yn oed os yw’r isafswm hyd yn dal i gael ei fodloni. Mae’r dull hwn yn unol ag un o ymrwymiadau Taith i annog teithio cynaliadwy yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015), a Deddf yr Amgylchedd (Cymru).Mae cynwysoldeb a hygyrchedd yn egwyddorion allweddol i’r rhaglen Taith. Gall gwneud cais am unrhyw fath o daliad ar ffurf blaendal neu ffi gan gyfranogwr greu rhwystr i’r cyfle i ymgymryd â symudedd wedi’u cyllido gan Taith. Byddem felly yn cynghori yn erbyn sefydliadau sy’n derbyn cyllid gan Taith yn codi tâl ar y cyfranogwr, p’un a yw’n ad-daladwy ai peidio.