Ardal derbynwyr grantiau

Grwpiau Rhanddeiliaid Sector

Ymunwch â’n Grwpiau Rhanddeiliaid Sector! Os ydych chi’n derbyn cyllid Taith ar hyn o bryd, byddem ni wrth ein bodd pe baech chi’n ymuno â’n Grwpiau Rhanddeiliaid Sector. Dyma’ch cyfle i ddweud wrthym ni am sut brofiad ydy rhedeg prosiect Taith a rhoi adborth ar ein prosesau a’n cyfathrebu.
Mae hefyd yn gyfle i drafod cyfnewidiadau rhyngwladol yn ehangach, rhannu arfer da a chydweithio ar draws sectorau, a lle gallwn ni ganolbwyntio trafodaethau ar flaenoriaethau allweddol.

Bydd adborth o’r cyfarfodydd hyn yn bwydo ein trafodaethau llywodraethu ehangach gyda’n Bwrdd ILEP Ltd a’n Bwrdd Cynghori, yn ogystal â’n hariannwr, Llywodraeth Cymru.
Mae’r cyfarfodydd yn cael eu cynnal ar-lein yn chwarterol, a bydd Tîm Taith yn anfon gwahoddiadau at bob Derbynnydd Grant i roi gwybod i chi pryd byddan nhw’n digwydd. Bydd y rhan fwyaf o’r cyfarfodydd yn benodol i’r sector, ond efallai byddwn ni weithiau’n cynnal cyfarfodydd pob sector er mwyn rhoi cyfle i rannu syniadau ac arferion gorau ar draws y sectorau.

Os ydych chi eisiau gwybod mwy, anfonwch e-bost at cefnogaeth@taith.cymru