Mae’r llawlyfr hwn yn ddogfen ganllaw i Sefydliadau sy’n Derbyn Cyllid Llwybr Taith 2 2025. A wnewch chi sicrhau eich bod chi’n darllen y ddogfen hon ynghyd â’ch Llythyr Grant Taith, gan gynnwys yr holl atodlenni sy’n gysylltiedig â Chanllaw Rhaglen Taith Llwybr 2 2025.
Os bydd unrhyw wybodaeth yn y llawlyfr hwn yn wahanol i’r llythyr Cytundeb Grant, gan gynnwys yr atodlenni cysylltiedig neu’r Canllaw Rhaglen Llwybr 2, bydd cynnwys y Cytundeb Grant a’i atodlenni’n cymryd blaenoriaeth. Os oes gennych chi ymholiadau neu adborth am gynnwys y llawlyfr hwn, e-bostiwch cefnogaeth@taith.cymru
Adran | Teitl |
|---|---|
1 | Atodlenni Cytundeb Grant a Llofnodi’r Cytundeb |
2 | Taliadau Grant |
3 | Cyfnod y Gweithgaredd |
4 | Cyllideb y Prosiect a Gweithgareddau Grant |
5 | Ceisiadau am Gyllid Ychwanegol |
6 | Canslo neu darfu ar weithgareddau a gynlluniwyd |
7 | Gwneud newidiadau i’ch prosiect |
8 | Diogelu |
9 | Adrodd |
10 | Archwilio a Sicrwydd a Chadw Cofnodion |
11 | Cyhoeddusrwydd |
1.0. Atodlenni Cytundeb Grant a Llofnodi'r Cytundeb
Mae gan y llythyr Cytundeb Grant sawl atodlen, a restrir isod. Mae’r rhain yn berthnasol i’r holl brosiectau Llwybr 2 2025 y dyrannwyd cyllid iddynt ym mis Mawrth 2026.
Rhif yr Atodlen | Teitl | Diben |
|---|---|---|
1 | Y Broses Amserlenni Taliadau | Manylion amserlen y broses taliadau. Mae hyn yn cynnwys esboniad o derminoleg a’r gwahanol benawdau cyllideb pan ddisgwylir gwneud taliadau a dyddiadau adrodd. |
2 | Gweithgareddau Grant a Phroffil Cyllideb | Yn pennu’r gweithgareddau grant a gymeradwywyd a’r gyllideb a ddyfarnwyd. |
3 | Rhagolygon Gwariant, Gweithgareddau Cyfnewid a Thargedau | Manylion am bryd y bydd gweithgaredd symudedd yn digwydd, pryd y bydd y gwariant a darparu arwydd o’r gwledydd dan sylw, nifer y cyfranogwyr a % y cyfranogwyr sy’n dod o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol. |
4 | Cais am Arian Ychwanegol | Manylion cyllid ychwanegol sydd ar gael ar gais, i dalu am deithio gwyrdd a chymorth cynhwysiant i gyfranogwyr Anabl, cyfranogwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol neu sy’n dod o gefndir difreintiedig. |
5 | Gofynion Adrodd | Manylion am y mathau gwahanol o adroddiadau y dylid eu cyflwyno drwy gydol cylch oes y prosiect. |
6 | Gwariant Cymwys | Manylion swm y grant y gellir ei ddefnyddio mewn perthynas â darparu gweithgareddau eich grant, a’r math o wariant a ganiateir gan Taith yn unol â Chytundeb eich Grant. |
7 | Datganiad ardystio | I’w gwblhau gan eich Prif Swyddog Ariannol ynghyd â’r adroddiad terfynol. Datganiad yw hwn sy’n cadarnhau bod y gwariant yn cydymffurfio â thelerau ac amodau eich Cytundeb Grant. |
8 | Y Broses Newid Prosiect | Amlinellu’r rheolau ar gyfer newidiadau i’r prosiect. Mae’n cynnig esboniad o’r categorïau cyllideb wahanol ac yn rhoi manylion y newidiadau y gellir eu gwneud i brosiect heb yr angen am gymeradwyaeth gan Taith. |
9 | Rheolaeth Ariannol a Datganiad Rheoli | Cadarnhau bod y rheolaeth ariannol briodol a’r rheoliadau rheoli risg a rheoliadau mewnol ar waith i oruchwylio’r gweithgareddau prosiect y cytunwyd arnynt. . |
10 | Manylion Cyswllt | Crynodeb o brif gysylltiadau’r prosiect, er enghraifft y person cyswllt blaenllaw a’r Gynrychiolaeth Gyfreithiol. |
11 | Diogelu | Manylion eich cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu, gan gynnwys diogelu plant ac oedolion sy’n agored i niwed, ac yswiriant. |
12 | Eiddo Deallusol | Yn darparu copi o logo Taith mae’n rhaid i chi ei ddefnyddio. |
13 | Canllawiau Brandio | Canllaw i ddefnyddio brandio Taith. Mae cyflwyniad Canllawiau Brandio ar gael yn yr ardal Derbynyddion Grant. |
2.0. Taliadau Grant
Gwneir yr holl daliadau i sefydliadau mewn punnoedd sterling (GBP) a chânt eu talu i’r manylion cyfrif banc a ddarparwyd eisoes. Bydd angen hysbysu Taith ar unwaith am unrhyw newidiadau i fanylion banc drwy e-bost cefnogaeth@taith.cymru a chwblhau Ffurflen Cyflenwr Newydd a’i dychwelyd gyda datganiad banc cyfredol. Bydd angen dilysu’r manylion newydd cyn y caiff unrhyw daliadau dilynol eu gwneud.
Gweler Atodlen 1 – Amserlen y Broses Taliadau o’ch Llythyr Cytundeb Grant sy’n rhoi manylion am bryd y disgwylir gwneud taliadau, y gwerth a chanran y taliad Grant. Gall dyddiadau a gwerthoedd talu amrywio gan ddibynnu ar ofynion adrodd a’r gwariant hyd yma ar Wariant Cymwys.
3.0. Cyfnod y Gweithgaredd
Mae’r holl brosiectau’n dechrau o 1 Mai 2026 ac maen nhw’n gallu para hyd at 14 mis (mae’r dyddiad gorffen wedi’i nodi yng nghymal 2.5 y llythyr Cytundeb Grant). Bydd angen i’r Derbynnydd Grant ddychwelyd y Llythyr Cytundeb Grant a’r atodlenni a bydd rhaid i dîm Taith ei adolygu cyn y gellir gwneud unrhyw cyn-daliad o’r grant. Sylwer bod y cytundeb hwn yn rhwymo’n gyfreithiol, a bydd unrhyw wariant a wneir cyn ei lofnodi ar risg y Derbynnydd Grant. Bydd y Derbynwyr Grant yn derbyn cyllid ar gyfer hyd prosiect a gymeradwywyd yn unig. Os bydd gweithgaredd terfynol y prosiect yn dod i ben cyn y dyddiad dod i ben yn eich llythyr Cytundeb Grant, dylech chi hysbysu Taith o fewn un mis o gwblhau gweithgaredd y prosiect fel y gellir anfon eich adroddiad terfynol atoch. Wrth gymeradwyo’r adroddiad terfynol, bydd Taith yn gallu cau’r prosiect yn gynnar a gall y sefydliadau dderbyn taliad terfynol neu ad-dalu unrhyw gyllid heb ei dalu, os yn berthnasol. Am ragor o wybodaeth, gweler yr adran ‘Adrodd‘.
4.0. Cyllideb y Prosiect a Gweithgareddau Grant
Mae cyllid y grant wedi’i rannu i nifer y categorïau cost, ac mae manylion amdanyn nhw isod. Mae esboniad llawn o’r gyllideb a ddyfernir ar gael yn Atodlen 2 – Gweithgareddau Grant a Phroffil y Gyllideb eich Llythyr Cytundeb Grant. Sylwer bod yn rhaid gwario’r grant at ddiben cyflwyno’r prosiect yn unig. Cyfanswm uchaf y cyllid y gallai sefydliad fod wedi gwneud cais amdano a chael cymeradwyaeth ar ei gyfer drwy alwad Llwybr 2 2025 oedd £40,000.
Mae gweithgareddau prosiect cymwys fel a ganlyn:
- Costau staff
- Rheoli a gweithredu prosiect
- Costau lledaenu
- Symudedd
Mae gwariant cymwys i gyfranogwyr sy’n cymryd rhan mewn symudedd fel a ganlyn:
Staff
- Grant at ddibenion cynhaliaeth
- Grant teithio, gan gynnwys ‘taliad ychwanegol gwyrdd’ ar gyfer opsiynau teithio gwyrddach.
Mae rhagor o wybodaeth am gyllid ychwanegol ar gyfer costau cynhwysiant a chyfranogwyr dan anfantais ar gael yn adran 5.
Dysgwyr
- Grant at ddibenion cynhaliaeth
- Grant teithio, sy’n dibynnu ar bellter, gan gynnwys ‘taliad ychwanegol gwyrdd’ am opsiynau teithio gwyrddach.
Mae rhagor o wybodaeth am gyllid ychwanegol ar gyfer costau cynhwysiant a chyfranogwyr dan anfantais ar gael yn adran 5.
Cynhaliaeth
Mae’r grant hwn (wedi’i gyfrifol fel cyfraniad uned gost) yn seiliedig ar hyd y symudedd corfforol a’r wlad dderbyn. Mae’r cyfraddau wedi’u grwpio i’r tri chategori canlynol: Grŵp 1 (cost byw uwch), Grŵp 2 (cost byw gymedrol) a Grŵp 3 (cost byw is). Caiff y gost uned ei thalu yn ei chyfanrwydd gan Taith i’r Derbynnydd Grant. Rhaid i bob cyfranogwr dderbyn yr hyn mae’n gymwys ar ei gyfer yn ariannol yn llawn, naill ai drwy daliad uniongyrchol gan y Derbynnydd Grant neu daliadau ar eu rhan. Rhaid i bob Derbynnydd Grant wirio eu rheoliadau ariannol eu hunain mewn perthynas â’r angen i gael derbynebau at ddibenion archwilio mewnol.
Teithio
Mae’r cyllid hwn tuag at y gost uniongyrchol o deithio rhyngwladol ac mae’n dibynnu ar y pellter rhwng y sefydliadau anfon a derbyn. Mae hwn yn gyfranogiad cost uned tuag at gost taith ddwy ffordd. Bydd swm grant teithio uwch ar gael i gyfranogwyr sy’n defnyddio opsiynau ‘Teithio Gwyrdd’ sy’n gynaliadwy’n amgylcheddol. Gweler Atodlen 4 y Llythyr Cytundeb Grant am ragor o wybodaeth am sut i hawlio’r taliad ychwanegol ‘Teithio Gwyrdd’. Rhaid i bob Derbynnydd Grant wirio eu rheoliadau ariannol eu hunain mewn perthynas â’r angen i gael derbynebau at ddibenion archwilio mewnol.
Bydd yr holl gyfranogwyr yn derbyn grant teithio. Bydd y swm yn dibynnu ar y pellter sy’n cael ei deithio hyd at 12,000km. Gweler Atodlen 6 – Gwariant Cymwys am y Llythyr Cytundeb Grant am bellteroedd a symiau grantiau.
Mae Atodlen 4 y cyfeirio at gyllid ychwanegol sydd ar gael. Gall cyfranogwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) ac Anabl dderbyn hyd at 100% o’ costau cysylltiedig cymwys.
Detholiad o gyfranogwyr
Chi, sef y Derbynnydd Grant, sy’n gyfrifol am ddewis cyfranogwyr ar gyfer symudedd. Rhaid bod y broses ddethol yn dryloyw, yn drefnus, yn deg ac wedi’i dogfennu. Rhaid i broffil y cyfranogwyr gyd-fynd â’r meini prawf cymhwysedd a amlinellwyd yng Nghanllaw Rhaglen Taith. Ni ddylid codi ffioedd na blaendal i sicrhau lle ar raglenni cyfnewid, boed yn ad-daladwy ai peidio.
Talu cyllid i gyfranogwyr
Dylid dim ond gwneud taliadau pan fydd cyfranogwr yn debygol o angen cyllid. Dylai sefydliadau sy’n anfon cyfranogwyr gyflwyno cais am eu prosesau talu’n gyson drwy gydol oed y prosiect.
Os bydd gofyn, mae cyllid ar gyfer cyfranogwyr sy’n cael eu derbyn wedi’i gyfrifo’n awtomatig drwy gyfrifydd grantiau ac wedi’i gynnwys yn y swm cyffredinol mae’r Derbynnydd Grant wedi gwneud cais amdano.
Mae hyn yn gyfraniad at y costau staffio sy’n ofynnol i’w gwneud hi’n bosib cwblhau’r prosiect. Gellir dim ond defnyddio cyllid ar gyfer y categori hwn at ddibenion costau staffio sy’n uniongyrchol gysylltiedig â datblygu, creu a dosbarthu allbwn y prosiect.. Caiff costau staff eu cyfrifo ar gyfradd ddyddiol.
Cyfraniad ar y costau i’w gwneud hi’n bosib cynnal y gweithgaredd. Gallai hyn gynnwys, heb fod yn gyfyngedig i, logi ystafell gyfarfod, lluniaeth, costau hwyluso, cyfieithu ar y pryd i gyfarfodydd, costau gweinyddol, teithio yn y Du a llety etc. Gall y categori hwn hefyd gynnwys cyflenwyr.
Cyfraniad at gostau rhannu a lledaenu allbwn y prosiect ar draws y sector(au) yng Nghymru ac yn rhyngwladol. Mae costau cymwys yn cynnwys, heb fod yn gyfyngedig i, ddigwyddiadau, marchnata, llunio adroddiadau, datblygu adnoddau ar-lein, datblygu llwyfan cyflwyno cais digidol neu ar-lein.
Rhaid bod unrhyw weithgareddau/adnoddau a grëir drwy Lwybr 2 Taith fod am ddim i’r holl gyfranogwyr gan aros felly am gyhyd y cânt eu defnyddio/rhannu. Ni ellir datblygu na defnyddio’r adnoddau hyn at ddibenion masnachol.
Mae staff a dysgwyr yn gymwys am deithio rhyngwladol. Mae enghreifftiau’n cynnwys aelod o staff sy’n teithio i sefydliad partner dramor i ddysgu, datblygu dealltwriaeth, gweithio’n gydweithredol ac yn y blaen.
Mae symudedd i ddysgwyr yn bosib lle mae rhesymeg glir dros eu cynnwys mewn datblygiad allbwn prosiect, naill ai fel cyd-grewyr neu i brofi/gwreiddio allbwn y prosiect. Mae rhaglenni cyfnewid dysgwyr cymwys yn cynnwys symudedd grŵp yn unig. Nid yw symudedd dysgwyr unigol yn gymwys.
5.0. Ceisiadau am Gyllid Ychwanegol
Rhaid gwneud ceisiadau am gyllid ychwanegol gan ddefnyddio’r ffurflen berthnasol ar wefan Taith. Dylid cyflwyno ceisiadau o fewn 30 diwrnod fan bellaf ar ôl i’r symudedd ddigwydd a rhaid iddyn nhw fod o fewn cyfnod y prosiect o 14 mis. Rhaid cyflwyno pob cais gyda’r derbynebau perthnasol cyn cyflwyno’r adroddiad terfynol. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir ar ôl yr adroddiad terfynol yn cael eu hystyried. Sylwch fod yn rhaid cyflwyno unrhyw geisiadau am gyllid ychwanegol a darparu tystiolaeth o wariant erbyn 17 Gorffennaf 2027 ynghyd ag unrhyw anfonebau neu dderbynebau er mwyn i’r cais gael ei ystyried a chyhoeddi ymateb. Rhaid cwblhau’r holl adroddiadau terfynol erbyn 31 Gorffennaf 2027. Bydd ffolderi prosiect yn cael eu cloi ar 1 Awst 2027. Ni dderbynnir unrhyw gostau ychwanegol nac anfonebau / derbynebau ar ôl yr amser hwn. Sylwch y gallai’r swm taliad terfynol gael ei effeithio os yw adroddiadau’n anghyflawn ac na ddarperir tystiolaeth o wariant o fewn yr amserlen hon. Ni ellir rhoi estyniadau ar gyfer gweithgaredd prosiect, nac i ganiatáu ar gyfer adrodd yn hwyr.
Er enghraifft:
Mae pedwar cyfranogwr yn cynllunio teithio o Gaerdydd i Fryste; mae nifer o opsiynau wedi cael eu hystyried, a phenderfynir bod bws cyhoeddus yn cynnig y gwerth gorau am arian. Y cyfanswm a delir gan y sefydliad ar gyfer y pedwar cyfranogwr yw £100, neu £25 y pen; ystyrir bod un o’r cyfranogwyr hyn i fod dan anfantais, felly mae’r sefydliad yn cyflwyno cais i Taith am gyllid ychwanegol i bris tocyn bws y cyfranogwr.
I gyflwyno cais, cwblhewch y ffurflen Cais am Gyllid Ychwanegol Llwybr 2 – mae dolen a chanllawiau cefnogi ar gael yn Ardal Aelodau sydd wedi derbyn cyllid ar wefan Taith. Mae Atodlen 4 – Cais am Gyllid Ychwanegol o’r Llythyr Cytundeb Grant yn cyfeirio at yr holl gyllid ychwanegol sydd ar gael.
Teithio Gwyrdd
At ddibenion Taith a’r Cytundeb hwn, mae “Teithio Gwyrdd” yn cael ei ddeall fel teithio lle defnyddir dull trafnidiaeth isel ei allyriadau yn hytrach na hedfan. Er enghraifft, pan fydd teithio ar feic, trên, coets neu rannu ceir (o leiaf 3 o bobl) ar gyfer y daith yn ei chyfanrwydd. Mae Taith hefyd yn ystyried fferïau fel dull trafnidiaeth uchel ei allyriadau. I gydnabod y costau uwch posibl, gall cyfranogwyr sy’n defnyddio opsiynau teithio gwyrdd ar gyfer y daith gyfan (i’r gyrchfan ac oddi yno) wneud cais am gostau gwirioneddol eu teithio (lle mae’r costau’n uwch na’r gyfradd deithio a ddyrannwyd). Bydd angen tystiolaeth o werth gorau am arian fel rhan o’r cais am arian ychwanegol hwn. Mae costau teithio gwyrdd ar gael ar gyfer pellteroedd rhwng 100km a 3999km.
Teithio i Ganolfan Drafnidiaeth yn y DU – cyfranogwyr sy’n ddysgwyr yn unig
Cyfraniad at gost teithio i ganolfan drafnidiaeth yn y DU fel rhan o rsymudedd ryngwladol. Mae canolfan drafnidiaeth yn y DU yn cael ei diffinio gan Taith fel man ymadael lle mae’r unigolyn ar symudedd yn gadael i’w gyrchfan ryngwladol. Er enghraifft, maes awyr, gorsaf drenau, porthladd neu orsaf fysiau. Mae enghreifftiau o ddulliau teithio cymwys yn cynnwys, heb fod yn gyfyngedig i, drenau, bysiau a llongau. Yn achos teithiau ar drên, gall cyfranogwyr hawlio am gost wirioneddol y tocyn trên yn ogystal â cherdyn rheilffyrdd, ar yr amod bod cyfanswm y gost y ddau yn is na chost wreiddiol y tocyn trên yn unig. Disgwylir i gyfranogwyr rhwng 16 a 21 oed sy’n teithio ar fws ddefnyddio Fy Ngherdyn Teithio. Y gyfradd am gyfraniad at betrol yw £0.45 y filltir.
Y cyfraddau yw hyd at £500 fesul grŵp symudedd, hyd at uchafswm o £1500 fesul prosiect, yn seiliedig ar gostau gwirioneddol.
Cymorth Cynhwysiant
Mae hyn ar gyfer yr holl gyfranogwyr ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY), Anabl neu’r rhai o gefndir difreintiedig. Hefyd, gellir darllen gwybodaeth am gyllid ychwanegol yn y Canllaw i’r Rhaglen, ac Atodlen 4 – Cais am Gyllid Ychwanegol ac Atodlen 6 – Gwariant Cymwys
Gall cyfranogwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) a/neu Anabl dderbyn hyd at 100% o’ costau cysylltiedig cymwys. Gellir talu hyn i gyfranogwyr sy’n staff ac sy’n ddysgwyr. Caiff cyllid ei ddal yn ganolog gan Taith ar y cam dyfarnu grant at y diben hwn.
Diffiniad ADY yw: Fel a ddiffiniwyd gan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (y Ddeddf ADY), Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021 (y Cod ADY)
Difffiniad anabledd yw: Diffiniad person Anabl yw rhywun â nam corfforol neu feddyliol sydd ag effaith ‘sylweddol’ a ‘thymor hir’ ar eu gallu i gyflawni gweithgareddau beunyddiol (Deddf Cydraddoldeb 2010)’.
Gall cyfranogwyr o gefndiroedd difreintiedig dderbyn hyd at 100% o’r costau gwirioneddol am gostau sy’n gysylltiedig â theithio ychwanegol cymwys e.e., fisâu, pasbortau, yswiriant teithio, bagiau (lle bo’n ofynnol). Gellir talu hyn i gyfranogwyr sy’n staff ac sy’n ddysgwyr.
Er mwyn i gyfranogwr gael ei ystyried yn un dan anfantais, rhaid iddo fodloni o leiaf un o’r meini prawf fel yr amlinellir yng ngholofn 1 yn y tablau canlynol. Lle bo modd, dylid darparu o leiaf un darn o’r dystiolaeth a restrir sy’n gysylltiedig â’r meini prawf i gefnogi hawliadau am gyllid ychwanegol ar gyfer cyfranogwr dan anfantais. Gellir gofyn am y dystiolaeth hon hefyd yn ystod y broses archwilio.
Tabl 1 – Cyfranogwr sy’n Ddysgwr
Meini prawf | Ysgolion | AB/AHG/AO | AU/Ymchwi | Tystiolaeth ofynnol |
|---|---|---|---|---|
Cyfanswm incwm yr aelwyd dan £26,225 | √ | √ | Yes | Datganiadau banc am y tri mis diwethaf, sy’n dangos yr holl incwm mae’r aelwyd yn ei dderbyn; rhaid bod yr enw a’r cyfeiriad yn weladwy ar y datganiad. Os oes gan Dderbynnydd y Grant broses fewnol ar gyfer pennu anfantais ariannol, byddem yn derbyn cadarnhad o hyn. Os yw’r cyfranogwr yn byw mewn tŷ a rennir, nid gyda’i deulu, ac mae’n gyfrifol am ei filiau ei hun, dim ond ei incwm ef byddai’n cael ei ystyried. |
Cyfranogwr sy’n derbyn Credyd Cynhwysol neu fudd-daliadau sy’n gysylltiedig ag incwm yn ei enw ei hun | Dd/B | √ | √ | Rhaid i gyfanswm incwm y cartref – cyflogau a/neu fudd-daliadau/pensiynau wedi’u cyfuno – fod yn llai na £26,225 Credyd Cynhwysol – sgrinluniau o lyfr cyfrifon sy’n rhoi manylion y swm a dalwyd ynghyd ag unrhyw ddidyniadau am y tri mis diwethaf; rhaid bod yr enw a’r cyfeiriad yn weladwy ar y datganiad. Budd-daliadau – datganiadau banc am y tri mis diwethaf sy’n dangos swm y budd-daliadau sy’n cael eu derbyn |
Cyfranogwyr sydd â phrofiad o fod mewn gofal, sy’n derbyn gofal ar hyn o bryd neu sy’n dod o gefndir derbyn gofal. | √ | √ | √ | Llythyr gan weithiwr cymdeithasol, gweithiwr cymorth, cynorthwy-ydd personol, awdurdod lleol, cymdeithas tai neu elusen, sy’n cadarnhau sefyllfa’r cyfranogwr – yn y gorffennol neu ar hyn o bryd. Mae hyn yn cyfeirio at unrhyw un sydd wedi bod neu sydd mewn unrhyw gam o’i fywyd, waeth pa mor fyr. Mae hyn yn cynnwys plant a fabwysiadwyd a oedd yn derbyn gofal yn y gorffennol, neu’r rhai hynny sydd wedi cael profiad o ofal ac sy’n cyrchu bwrsariaethau sy’n gysylltiedig â gofal mewn rhannau eraill o’r DU cyn symud i Gymru. |
Cyfranogwyr sydd â chyfrifoldebau dros blentyn Anabl, neu oedolyn sydd, oherwydd salwch, Anabledd, problemau iechyd meddwl neu ddibyniaeth, nad ydynt yn gallu ymdopi heb eu cymorth. | √ | √ | √ | Llythyr sy’n dangos bod y cyfranogwr yn derbyn Lwfans Gofalwr. Llythyr gan weithiwr cymdeithasol, gweithiwr cymorth, gweithiwr iechyd proffesiynol neu elusen Derbynnydd y Grant sy’n cadarnhau bod y cyfranogwr yn ymgymryd â chyfrifoldebau gofalu am aelod agos o’r teulu. Tystysgrif o Dderbynnydd y Grant sy’n gwneud cais fel yr amlinellwyd yn y canllawiau uchod. |
Ceiswyr Lloches neu Ffoaduriaid | √ | √ | √ | Cerdyn Cofrestru Cais neu lythyr gan y Swyddfa Gartref. |
Mae’r cyfranogwr wedi’i ddieithrio o’i rieni | Dd/B | Dd/B | √ | Angen tystiolaeth yn unol â CMC/Stand Alone |
Yn Gymwys am Brydau Ysgol Am Ddim Ar Sail Prawf Modd | √ | Dd/B | √ | Llythyr o’r ysgol neu’r cyngor sy’n cadarnhau cymhwysedd |
Os na allwch chi gael tystiolaeth
Yn Taith, rydym yn deall nad yw hi bob amser yn hawdd dod o hyd i ddogfennau penodol. Er enghraifft:
- Efallai bydd cyfranogwr yn ofalwr nad yw’n cael ei dalu ac efallai na fydd tystiolaeth swyddogol.
- Efallai na fydd cyfranogwr yn gallu cyrchu manylion ariannol ei rieni.
Os na allwch ddod o hyd i’r dystiolaeth arferol, dyma’r hyn dylai ei wneud:
- Esboniwch eich proses fewnol
Dywedwch wrth Taith sut mae eich sefydliad yn nodi cyfranogwyr dan anfantais.
Er enghraifft, os yw eich tîm Lles, Cwnsela neu Ofal Bugeiliol yn cefnogi’r dysgwyr hyn, gallant gadarnhau bod y cyfranogwr yn bodloni’r meini prawf. - Ysgrifennwch lythyr ar bapur swyddogol. Dylai’r llythyr gadarnhau:
- Y dilynwyd eich proses fewnol
- Bod y cyfranogwr yn bodloni meini prawf Taith ar gyfer bod dan anfantais
- Os nad oes gennych chi dîm cefnogi, ysgrifennwch dystysgrif ar bapur swyddogol. Rhaid iddi gael ei llofnodi gan y bobl ganlynol:
- Arweinydd eich Prosiect Taith
- Y cyfranogwr
- Rhiant neu ofalwr (os oes angen)
- Cadwch y llythyr neu’r dystysgrif. Cadwch hi gyda’ch dogfennau prosiect Taith am 12 mlynedd. Efallai bydd Taith yn gofyn i’w gweld yn hwyrach.
Mae’r broses hon yn helpu i gefnogi eich cyfranogwyr y mae angen cyllid ychwanegol arnynt, heb ofyn am ddogfennau personol neu anodd dod o hyd iddynt.
Cyfranogwyr staff dan anfantais
Os yw aelod o staff yn dymuno gwneud cais am gyllid ychwanegol oherwydd ei fod dan anfantais:
- Rhaid iddo fodloni un neu fwy o’r meini prawf yn Nhabl 2.
- Rhaid i chi gadw o leiaf un darn o dystiolaeth i brofi hyn.
Tabl 2
Meini prawf | Tystiolaeth ofynnol |
|---|---|
Incwm cartref is na £26,225 | Datganiadau banc am y tri mis diwethaf, sy’n dangos yr holl incwm mae’r aelwyd yn ei dderbyn; rhaid bod yr enw a’r cyfeiriad yn weladwy ar y datganiad. Os oes gan y sefydliad broses fewnol am bennu statws dan anfantais ariannol, byddem ni’n disgwyl derbyn cadarnhad o hyn. |
Cyfranogwr sy’n derbyn Credyd Cynhwysol neu fudd-daliadau sy’n gysylltiedig ag incwm yn ei enw ei hun | Cyfanswm incwm yr aelwyd – cyflogau a/neu fudd-daliadau/pensiynau at ei gilydd – rhaid bod hyn dan £26,225 o hyd. Credyd Cynhwysol – sgrinluniau o lyfr cyfrifon sy’n rhoi manylion y swm a dalwyd ynghyd ag unrhyw ddidyniadau am y tri mis diwethaf; rhaid bod yr enw a’r cyfeiriad yn weladwy ar y datganiad. Budd-daliadau – datganiadau banc am y tri mis diwethaf sy’n dangos swm y budd-daliadau sy’n cael eu derbyn. |
Cyfranogwyr hyd at 25 oed sydd â phrofiad o fod mewn gofal, sydd mewn gofal ar hyn o bryd, neu sy’n dod o gefndir o dderbyn gofal | Llythyr gan weithiwr cymdeithasol, gweithiwr cymorth, cynorthwy-ydd personol, awdurdod lleol, cymdeithas tai neu elusen, sy’n cadarnhau sefyllfa’r cyfranogwr – yn y gorffennol neu ar hyn o bryd. Mae hyn yn cyfeirio at unrhyw un sydd yn profi wedi profi gofal mewn unrhyw gam o’i fywyd, waeth pa mor fyr. Mae hyn yn cynnwys plant a fabwysiadwyd a oedd yn derbyn gofal yn y gorffennol, neu’r rhai hynny sydd wedi cael profiad o ofal ac sy’n cyrchu bwrsariaethau sy’n gysylltiedig â gofal mewn rhannau eraill o’r DU cyn symud i Gymru. |
Cyfranogwyr â chyfrifoldebau gofalu am blentyn ag anabledd, neu oedolyn nad yw’n gallu ymdopi heb ei gymorth oherwydd salwch, anabledd, problemau iechyd meddwl neu gaethiwed | Llythyr sy’n dangos bod y cyfranogwr yn derbyn Lwfans Gofalwr. Llythyr gan weithiwr cymdeithasol, gweithiwr cymorth, gweithiwr iechyd proffesiynol neu sefydliad elusennol sy’n cadarnhau bod y cyfranogwr yn ymgymryd â chyfrifoldebau i aelod agos o deulu. Tystysgrif gan y sefydliad sy’n cyflwyno cais fel yr amlinellwyd yn y canllawiau uchod. |
Ceiswyr Lloches neu Ffoaduriaid | Cerdyn Cofrestru Cais neu lythyr gan y Swyddfa Gartref. |
Mae’r cyfranogwr wedi’i ddieithrio o’i rieni | Dd/B |
Yn gymwys am brydau ysgol am ddim | Dd/B |
6.0. Canslo neu darfu ar weithgareddau a gynlluniwyd
Dychwelyd yn gynnar
Gweler adran 7.0 Gwneud newidiadau i’ch prosiect
Hyd byr
Gweler adran 7.0 Gwneud newidiadau i’ch prosiect
Canslo cyn gadael
Gweler adran 7.0 Gwneud newidiadau i’ch prosiect
Force Majeure
Mae Force Majeure yn cyfeirio at achosion lle bydd rhywbeth y tu allan i’ch rheolaeth yn eich atal rhag cynnal gweithgaredd a gynlluniwyd yn eich prosiect. Gellir galw’r cymal hwn i rym pan na fydd modd i chi aildrefnu’r gweithgaredd a gynlluniwyd a byddai colled ariannol i chi o ganlyniad.
Gellir dim ond cyflwyno ceisiadau mewn amgylchiadau clir a phendant sydd y tu hwnt i’ch rheolaeth: Yn gyffredinol, bydd hyn yn cynnwys:
- salwch neu anaf difrifol, lle darperir tystysgrif feddygol.
- profedigaeth sy’n gysylltiedig ag aelodau agos o’r teulu, megis rhieni neu fam-gu neu dad-cu.
- terfysg gwleidyddol mawr neu drychineb naturiol yn y wlad dderbyn lle mae angen teithio ar frys ac mae hyn wedi cael effaith ar weithgaredd cynlluniedig y prosiect e.e. digwyddiad rhaeadru, rhaglen gyfnewid
- profiad trawmatig a allai gynnwys bod yn rhan o ddamwain difrifol neu fod yn dyst iddo, neu fod yn dyst neu’n ddioddefwr trosedd ddifrifol, ac mae hyn wedi cael effaith ar y cyfranogwr.
- gweithgaredd prosiect yn cael ei oedi neu ei ganslo oherwydd Covid 19
- gweithgareddau prosiect a drefnwyd cyn unrhyw newid sylweddol i fesurau lliniaru Covid-19 cenedlaethol yn y DU neu’n rhywle arall, e.e. cyfnodau cloi, y gellir eu hystyried i fod yn achos o force majeure.
Rydym ni’n disgwyl i chi ddarparu tystiolaeth lawn o’r amgylchiadau a nodwyd uchod. Rhaid cymeradwyo’r holl achosion o force majeure cyn eu cyflwyno adroddiad terfynol y prosiect.
NID yw force majeure yn cynnwys:
- anghydfod rhwng sefydliad/au partner y byddai’n bosib eu datrys
- anghydfod rhwng cyfranogwyr a sefydliadau derbyn y byddai’n bosib eu datrys
- cyfranogwyr sy’n gwneud symudedd sydd am ddychwelyd adref
- amgylchiadau rhagweladwy y gellid eu datrys gan y naill sefydliad partner na’r llall, cyfranogwyr symudedd, sefydliadau sy’n anfon neu’n derbyn neu ddarparwyr gwasanaethau eraill
- anghydfod llafur, streiciau, anawsterau ariannol neu fethiant unrhyw wasanaeth, diffygion cyfarpar neu ddeunyddiau neu oedi wrth eu gwneud yn hygyrch
Sylwer nad yw’r rhestr hon yn gynhwysfawr a byddwn yn ystyried pob cais fesul achos. Ar gyfer symudeddau, mae grant Taith dim ond yn cynnwys y cyfnod gwirioneddol sy’n cael ei dreulio dramor ac mae cyfranogwyr dim ond yn gymwys i dderbyn grantiau sy’n cyfateb i hyd gwirioneddol y rhaglen gyfnewid. Rhaid ad-dalu unrhyw gyllid sy’n weddill drwy ofyn am y gwahaniaeth gan y cyfranogwr.
Dylid gofyn am unrhyw newidiadau i geisiadau oherwydd force majeure gan ddefnyddio’r ffurflen Newid Prosiect sydd ar gael yn ardal Derbynwyr Grantiau ar wefan Taith ynghyd â chanllaw cefnogi. Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau, e-bostiwch cefnogaeth@taith.cymru . Gweler hefyd adran 7 – Gwneud newidiadau i’ch prosiect.
7.0. Gwneud newidiadau i'ch prosiect
Gallwch wneud newidiadau i’ch prosiect drwy gydol ei ddarpariaeth lle maent yn ofynnol. Ni ddylai unrhyw ddiwygiadau prosiect newid y nodau a’r amcanion sylfaenol na’r sail ar gyfer dyfarnu cyllid i’r prosiect yn y Cais am Grant.
Anfonwch ebost at support@taith.wales o leiaf 30 diwrnod cyn dechrau’r rhaglen neu’r gweithgaredd prosiect a gynlluniwyd; ar gyfer amgylchiadau annisgwyl megis dychwelyd yn gynnar, newidiadau ar fyr rybudd, neu Force Majeure, gofynnir i chi ein hysbysu cyn gynted ag y byddwch yn ymwybodol o’r newid.
Newidiadau lle mae angen cymeradwyaeth Taith
Newid cynrychiolydd cyfreithiol neu berson cyswllt
Yn ystod hyd oes y prosiect, gellir newid y cynrychiolydd cyfreithiol neu’r person/pobl gyswllt. I wneud hyn, anfonwch lythyr wedi ei arwyddo ar ffurf dogfen PDF i cefnogaeth@taith.cymru pan fyddwch chi’n gwybod am y newid.
Newidiadau consortiwm
Os ydych chi’n dymuno ychwanegu partner newydd i gonsortiwm sydd eisoes yn bodoli neu newid y partner consortiwm a enwyd yn wreiddiol ar eich ffurflen gais, bydd angen i ni gymeradwyo’r newid hwn. Byddwn ni’n asesu goblygiadau’r newid i’r consortiwm, yn gwirio bod yr holl feini prawf cymhwysedd wedi’u bodloni ac nad oes effaith ar gwmpas ac ansawdd cyffredinol y consortiwm cyn cadarnhau ein penderfyniad. Cwblhewch y ffurflen gais i newid prosiect cyn gynted ag y byddwch chi’n ymwybodol o newid.
Hyd y prosiect
Ni ellir ymestyn prosiectau a ariennir o dan alwad ariannu Llwybr 2 2025. Os ydych chi’n ei chael hi’n anodd cwblhau gweithgareddau’r prosiect mewn pryd, cysylltwch â ni cyn bwrw ymlaen ag unrhyw wariant neu weithgaredd ychwanegol trwy anfon e-bost at cefnogaeth@taith.cymru
Newidiadau i’r Partner Rhyngwladol, y gyrchfan wreiddiol, neu gynnwys cyrchfan arall mewn rhaglen gyfnewid
Os ydych chi’n dymuno gofyn am newid i’r Partner Rhyngwladol gwreiddiol roeddech chi’n cynllunio gweithio gydag ef ar eich prosiect Llwybr 2, cyflwynwch hwn i Taith o leiaf 30 niwrnod cyn i unrhyw weithgaredd cynlluniedig gael ei gynnal. Os bydd newid yn y Partner Rhyngwladol yn arwain at newid i’r gyrchfan wreiddiol a nodwyd ar eich cais a gymeradwywyd, dylech chi gynnwys hwn yn eich cais i wneud newid i’r prosiect. Os nad yw eich Partner Rhyngwladol wedi newid, ond hoffech chi newid y gyrchfan, neu gynnwys cyrchfan arall yn eich rhaglen gyfnewid gynlluniedig, cyflwynwch gais i Taith cefnogaeth@taith.cymru o leiaf 30 niwrnod cyn cynnal unrhyw weithgaredd a gynlluniwyd.
Rhaid cydymffurfio ag unrhyw gyngor teithio gan Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu (FCDO) llywodraeth y DU. Ni fydd Taith yn cyllido teithio i wledydd/rhanbarthau lle mae’r FCDO yn cynghori yn erbyn teithio tramor. Pan fydd amgylchiadau’n newid mewn gwlad lle mae Derbynnydd Grant yn cynllunio rhaglen gyfnewid, gan arwain at gyngor gan y FCDO yn erbyn teithio rhyngwladol, rhaid i’r Derbynnydd Grant wneud trefniadau amgen, megis aildrefnu’r rhaglen gyfnewid i wlad gyrchfan wahanol. Cyn gwneud unrhyw addasiadau, dylai Derbynnydd Grant gysylltu â Taith i drafod/dod i gytundeb.
Rhaid parhau i fodloni nodau, amcanion ac allbynnau gwreiddiol y prosiect, neu ragori arnynt, gyda’r Partner Rhyngwladol newydd, neu yn y gyrchfan newydd. Os ydych chi’n cynllunio cynnwys ail gyrchfan mewn gweithgaredd symudedd, rhaid parhau i fodloni hyd sylfaenol y symudedd mewn un o’r cyrchfannau, yn unol â Thabl 1 Isod.
8.0. Diogelu
Yn unol ag Atodlen 11 – Diogelu y Llythyr Cytundeb Grant, bydd yr holl Dderbynwyr Grantiau wedi cwblhau rhestr wirio Diogelu fel rhan o dderbyn y cyllid yn ffurfiol. Mae’r rhestr wirio yn nodi’r gofynion mae’n rhaid cydymffurfio â nhw wrth weithio’n uniongyrchol gyda’r cyfranogwyr sydd dan 18 oed a/neu oedolion sy’n agored i niwed, neu wrth ddarparu gwaith sydd ag effaith ar gyfranogwyr sydd dan 18 oed a/neu oedolion sy’n agored i niwed.
Mae gan yr holl Dderbynwyr Grantiau gyfrifoldeb i ddiogelu lles cyfranogwyr dan 18 oed neu sy’n oedolion sy’n agored i niwed (fel y diffiniwyd o dan Ran 7 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014), yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol a’r canllawiau sy’n dod gyda hi.
Gall Gweithdrefnau Diogelu Cymru helpu’r Derbynwyr Grantiau i ddeall y dyletswyddau a amlinellwyd yn y ddeddfwriaeth hon a’i chanllawiau, a’u rhoi ar waith.
Mae gan yr holl leoliadau addysg yng Nghymru ddyletswydd gyfreithiol i sicrhau bod gan blant fynediad at amgylchedd dysgu diogel. Mae’n bwysig bod lleoliadau addysg yn glir am sut maent yn parhau i fodloni eu dyletswyddau statudol ar gyfer diogelu plant a phobl ifanc wrth wneud trefniadau ar gyfer ymweliadau cyfnewid dramor, fel a amlinellwyd yn y canllawiau statudol Cadw Dysgwyr yn Ddiogel.
Yn ogystal, rhaid i’r holl Dderbynwyr Grantiau ystyried y ddeddfwriaeth berthnasol sy’n ymwneud â diogelu yn y wlad/tiriogaeth y maent yn anfon cyfranogwyr iddynt a, lle bo’n briodol, cynnwys hyn yn eu prosesau/gweithdrefnau.
Mae’n ofynnol i’r holl Dderbynwyr Grantiau a Chyfranogwyr Consortiwm (os yn berthnasol) sy’n cymryd rhan yn y rhaglen Taith gael y canlynol ar waith:
- Polisi diogelu wedi’i ddiweddaru a pholisïau priodol eraill, e.e. polisi diogelu plant, polisi cwynion, polisi chwythu’r chwiban, gwrth-aflonyddu a pholisi bwlio, polisi diogelu data
- Gweithdrefnau recriwtio diogel
- Cofnodion hyfforddi diweddar
- Cod ymddygiad i gyfranogwyr
- Cod ymddygiad i staff a gwirfoddolwyr
- Dull clir ar gyfer adrodd am unrhyw bryderon diogelu
- Dull clir ar gyfer cynnal gwiriadau addas ar deuluoedd cynnal a gweithdrefnau priodol ar waith ar gyfer ymweliadau a chynllunio (lle bo’n berthnasol)
- Unigolyn dynodedig sy’n ddeiliad swydd uwch yn y sefydliad ac sydd â chyfrifoldeb am ddiogelu
- Asesiadau a gwiriadau risg priodol, gan gynnwys gwiriadau cofnodion troseddol a/neu GDG lle bo hynny’n briodol
- Yswiriant addas, gan gynnwys yswiriant teithio
Mae’n rhaid i’r holl Dderbynwyr Grantiau a Chyfranogwyr Consortiwm (os yn berthnasol) a fydd yn cynnal Gweithgareddau Grant (gan gynnwys rhaglenni cyfnewid rhithwir) sy’n cynnwys plant dan 18 oed ac oedolion sy’n agored i niwed gwblhau rhestr wirio fel rhan o’r Llythyr Cytundeb Grant. Rhaid cwblhau’r holl ofynion sy’n rhan o’r rhestr wirio cyn y gall gweithgaredd gael ei gynnal.
9.0. Adrodd
Mae holl brosiectau Taith yn cynnwys cyflwyno mathau gwahanol o adroddiadau drwy gydol cylch oes y prosiect.
Adroddiad Cyfranogwr
Mae adroddiad cyfranogwr yn casglu data cyfranogwr o’ch symudeddau wedi’u cwblhau. Ar ôl cwblhau eich symudedd rhaid diweddaru adroddiad y cyfranogwr o fewn 28 diwrnod calendr. Mae’r adroddiad yn cael ei gadw yn eich ffolder adrodd unigol, sy’n cynnwys canllawiau i’ch cynorthwyo i gyflwyno’ch adroddiad cyfranogwr.
Adroddiad Interim
Gellir gofyn i Dderbynwyr Grantiau gyflwyno adroddiad interim sy’n seiliedig ar hyd prosiect a/neu sgôr risg prosiect a chyflwyno eu hadroddiad erbyn y dyddiad cau fel y nodwyd yn Atodlen 1 – Y Broses Amserlenni Taliadau. Caiff taliadau eu gwneud yn amodol ar gymeradwyaeth Rhaglen Weithredol Taith o adroddiadau boddhaol. Bydd angen cwblhau a chyflwyno adroddiadau interim yn electronig. Caiff canllawiau ychwanegol am sut i gwblhau a chyflwyno’r adroddiad interim eu darparu i Dderbynwyr Grantiau yn nes ar ddiwedd y cyfnod adrodd. Caiff yr adroddiad ei ddefnyddio i asesu i ba raddau mae prosiect yn cael ei gyflwyno’n unol â’r Cais Grant gwreiddiol. Pan fydd adroddiad interim Derbynwyr Grantiau wedi’i adolygu, bydd y Derbynnydd Grant yn derbyn adborth, ynghyd â chadarnhad ynghylch unrhyw cyn-daliad pellach. Efallai bydd hefyd argymhellion neu bwyntiau gweithredu i Dderbynwyr Grantiau fynd i’r afael â nhw o fewn amserlenni gosod.
Adroddiad Terfynol
Bydd angen cwblhau a chyflwyno adroddiadau terfynol yn electronig. Mae gan bob prosiect Llwybr 2 2025 gyfnod o 14 mis. Mae angen cwblhau adroddiadau terfynol erbyn 31 Gorffennaf 2027 gyda derbynebau cost gwirioneddol y prosiect a chostau staff wedi’u llwytho i fyny erbyn 30 Mehefin 2027. Ni dderbynnir unrhyw gostau nac anfonebau / derbynebau ychwanegol ar ôl yr amser hwn. Bydd hyn yn cynnwys tystiolaeth o wariant ar gyfer unrhyw gyllid ychwanegol a ddyfernir ynghyd â datrys unrhyw ymholiadau heb eu datrys. Ni dderbynnir unrhyw gostau nac anfonebau / derbynebau ychwanegol ar ôl yr amser hwn. Mae hyn yn wahanol i alwadau cyllido blaenorol. Bu’n rhaid i ni gyflwyno hyn oherwydd cau’r rhaglen ac er mwyn gallu hawlio cyllid gan Lywodraeth Cymru. Bydd ffolderi prosiectau yn cael eu cloi ar 1 Awst 2027.
Noder y bydd taliadau terfynol yn cael eu heffeithio os na fydd adrodd a llwytho derbynebau wedi’u cwblhau erbyn yr amser hwn. Ni ellir rhoi estyniadau ar gyfer gweithgaredd prosiect, nac i ganiatáu adrodd hwyr. Os yw’ch prosiect yn dod i ben yn gynharach na’ch dyddiad a drefnwyd, gallwch chi ofyn am gyflwyno’ch adroddiad terfynol yn gynnar trwy e-bostio cefnogaeth@taith.cymru
Darperir canllawiau pellach ar sut i gwblhau a chyflwyno adroddiadau terfynol i Dderbynwyr Grantiau yn agosach at ddyddiadau diwedd y prosiect. Defnyddir yr adroddiad i asesu i ba raddau y cyflawnwyd prosiect yn unol â’r cais gwreiddiol. Unwaith y bydd adroddiad terfynol Derbynnydd Grant wedi’i asesu, bydd y Derbynnydd Grant yn derbyn adborth ynghyd â chadarnhad o swm unrhyw daliad terfynol sy’n ddyledus i’r Derbynnydd Grant neu unrhyw ad-daliad sy’n ddyledus i Taith.
Bydd gofyn i bob prosiect gyflwyno adroddiad terfynol wedi’i lofnodi’n ddigidol a datganiad ardystio (cyfeiriwch at Atodlen 7 – Datganiad ardystio a’r adran isod).
Darperir canllawiau pellach ar sut i gwblhau a chyflwyno’r adroddiad terfynol a’r ffurflen ddatganiad i’r Derbynnydd Grant yn agosach at ddiwedd y cyfnod adrodd.
Pwrpas yr adroddiad terfynol yw cynnig darlun cyflawn terfynol o’r Gweithgareddau Grant a ddarparwyd a’r gwariant a gafwyd, gan ei gwneud hi’n bosib cysoni’r gyllideb. Gallai methu â bodloni’r dyddiad cau ar gyfer ei gyflwyno arwain at gynnal pwerau Taith i ddal taliad yn ôl, ei ohirio neu ad-daliad Grant yn unol â’r Cytundeb. Caiff swm y taliad terfynol i’w wneud i’r Derbynnydd Grant ei gadarnhau’n seiliedig ar adroddiad terfynol i’w gyflwyno erbyn y dyddiad cau fel y nodwyd yn Atodlen 1 – y Broses Amserlenni Taliadau. Yn unol â’r Cytundeb, os a) na chafodd Gweithgareddau’r Grant eu cynnal neu os cânt eu cynnal mewn ffordd sy’n wahanol i’r hyn a gynlluniwyd; neu b) mae’r Gwariant Cymwys a godwyd gan y Derbynnydd Grant yn is na’r hyn a gynlluniwyd adeg cyflwyno’r cais, neu c) nid yw ansawdd y gweithgareddau/allbynnau a gadwyd yn ddigonol, gellir gwneud didyniadau cyfatebol i’r Grant neu, lle bo’n berthnasol, efallai y bydd yn rhaid i’r Derbynnydd Grant ad-dalu unrhyw symiau dros ben a dderbyniwyd eisoes. Mae templedi’r adroddiadau ar gael yn adran canllawiau adrodd yr Ardal Derbynwyr Grantiau . Bydd hyn yn rhoi cyfle i chi weld yr adroddiadau ymlaen llaw wrth i Taith eu hanfon.
Datganiad Ardystio
Rhaid i bob Derbynnydd Grant sy’n cael cyllid gwblhau’r datganiad tystysgrif isod a’i gyflwyno o fewn 30 diwrnod calendr i ddyddiad gorffen y prosiect (h.y., diwedd y Cyfnod Grant) ochr yn ochr â’r adroddiad terfynol o fewn yr amserlen a nodir yn Atodlen 1. Mae hyn yn amodol ar gymeradwyaeth Gweithredwr Rhaglen Taith a fydd yn sbarduno’r broses talu Grant.
10.0. Archwilio a Sicrwydd a Chadw Cofnodion
Gellir dewis Derbynwyr Grantiau ar gyfer archwiliadau sicrhau ansawdd i asesu eu cydymffurfiaeth â rheolau rheoli ariannol a rhaglenni drwy wirio’r cofnodion perthnasol, arferion rheoli ac unrhyw amodau ychwanegol a nodwyd yn y llythyr Cytundeb Grant. Bydd y gwiriadau ansawdd yn archwilio’r meysydd canlynol:
- gweinyddiaeth gyffredinol o’r prosiect Taith
- trefniadau bancio ar gyfer dyfarniadau grant Taith
- tystiolaeth a chofnodion o drafodion
- amseru a gweithdrefnau ar gyfer taliadau
- cymhwysedd cost
- teithio
- tystiolaeth o weithgareddau/cyfarfodydd
- costau cynhwysiant (os yn berthnasol)
- costau eithriadol (os yn berthnasol)
Bydd tri math o archwiliadau gwirio sicrwydd:
- Archwiliadau gwirio bwrdd gwaith yr ymgymerir â nhw o bell. Dyma’r lefel isaf o wiriad cydymffurfiaeth.
- Bydd gwiriadau yn y fan a’r lle yn ystod ymweliad â’r safle tra bydd y prosiect yn fyw yn lefel uwch o wirio cydymffurfiaeth. Archwiliad manwl iawn o’r prosiect a’r sefydliad, gan adolygu eu cofnodion gwreiddiol a chyfweld â staff. Gellir hefyd ymgymryd â’r archwiliad hwn fel ymweliad cefnogi i sefydliadau newydd – i fentora eu rheolwyr prosiect a sicrhau bod cydymffurfiaeth â chanllawiau’r rhaglen. Mae hyn yn galluogi sefydliadau i ymgymryd â gweithgaredd cymwys a chynyddu eu gwariant cyllideb gymwys (gan atal adferiadau’n hwyrach).
- Gwiriadau yn y fan a’r lle yn ystod ymweliad â safle pan fydd prosiect yn dod i ben. Mae’r archwiliad hwn yn adolygiad fforensig manwl o gofnodion a data sefydliad, gan gynnwys cyfweld â staff. Caiff archwiliad ei gynnal pan fydd anghysondebau difrifol – sy’n ganlyniad gwiriad bwrdd gwaith neu wiriad yn y fan a’r lle yn ystod canfyddiadau archwiliad. Caiff y canlyniadau archwiliad eu hadrodd ar unwaith a chymerir camau priodol i liniaru risg.
Tystiolaeth gefnogi
Disgwylir i chi gadw cofnodion prosiect ac ariannol digonol i ddangos bod gweithgareddau yr adroddir amdanynt neu a gynllunnir wedi’u cynnal, neu y cânt eu cynnal, yn unol â’r Llythyr Cytundeb Grant a gymeradwywyd. Gellir gwirio’r rhain fel rhan o unrhyw archwiliadau a wneir.
Ar gyfer yr holl gyllid ychwanegol a gymeradwyir, rhaid i chi gadw’r holl anfonebau, derbynebau, cofnodion cyfrifyddu ac unrhyw ddogfennaeth arall (gan gynnwys gohebiaeth) sy’n ymwneud â chostau gwirioneddol.
Rhaid cadw’r holl ddogfennaeth am gyfnod o ddeuddeg mlynedd o ddyddiad y mae’r cyfnod cyllido’n dod i ben.
Cynlluniwyd yr wybodaeth isod i gynnig arweiniad mewn perthynas â’r gofynion sylfaenol i gefnogi tystiolaeth o wariant ar brosiect:
Costau uned e.e., Teithio a Chynhaliaeth ar gyfer gweithgareddau cyfnewid
- Rhaid llofnodi a dyddio datganiad neu dystysgrif (ni all y dyddiad fod cyn dyddiad olaf y presenoldeb) gan y sefydliad sy’n anfon ac yn derbyn a’r cyfranogwr, gan nodi enw’r cyfranogwr, pwrpas y gweithgaredd a’r dyddiad dechrau a dod i ben a gadarnhawyd.
- Ar gyfer symudedd grŵp, gallai hyn fod ar ffurf taenlen sy’n nodi’r holl gyfranogwyr, a gofyn i bob cyfranogwr lofnodi’r daenlen. Pan fydd y cyfranogwr dan 18 oed, byddai taenlen presenoldeb awdurdodedig â llofnod y person cyfrifol yn ddigon.
- Rhaid bod tystiolaeth gefnogi ar gyfer cyfranogwyr sy’n cael eu derbyn a’u hanfon a chyfrifoldeb y Derbynnydd Grant fydd sicrhau y cyflwynir y dystiolaeth hon. Rhaid croesgyfeirio’r cyfeirnod cyfranogwr mewn adroddiadau i Taith ar yr holl dystiolaeth gefnogi a nodwyd uchod.
- Bydd angen darparu manylion llawn yr holl sefydliadau partner gyda’r holl ohebiaeth.
- Rhaid cyfeirio at yr holl ddogfennaeth gan ddefnyddio rhif cyfranogwr Taith a pharu’r holl ddata yn yr adroddiadau
Costau gwirioneddol
Ar gyfer yr holl gostau gwirioneddol a nodwyd isod, rhaid i chi gadw’r holl anfonebau, derbynebau, cofnodion cyfrifyddu ac unrhyw ddogfennaeth arall (gan gynnwys gohebiaeth) sy’n ymwneud â chostau gwirioneddol eich prosiect. Yn eich ffolder adrodd mae adran ‘cost wirioneddol’, dyma lle mae angen uwchlwytho derbynebau o fewn 30 diwrnod i’r gost gael ei hysgwyddo. Ar ôl i’r dderbynneb gael ei uwchlwytho i’r ffolder berthnasol, rhaid cofnodi hyn yn y daenlen cost wirioneddol. I gofnodi’r gost, mae angen i enw’r eitem fod yr un fath â’r dderbynneb a uwchlwythwyd, rhaid i chi ychwanegu disgrifiad o’r gost a’r gwerth. Dylai’r gwerth bob amser gyd-fynd â’r swm ar y dderbynneb. Ar ôl i’r dderbynneb gael ei uwchlwytho a’i fewngofnodi i’r daenlen, bydd Taith yn adolygu’r gost ac yn diweddaru’r adran gymeradwyo yn eich taenlen. Os oes angen rhagor o wybodaeth, bydd Taith yn anfon e-bost i egluro beth sydd ei angen. Os yw’r eitem wedi’i gwrthod, byddwn yn rhoi gwybod i chi pam y bernir bod y gost yn anghymwys. Fodd bynnag, os yw’r gost wedi’i chymeradwyo, ni anfonir unrhyw gyfathrebu pellach, felly gwiriwch y daenlen cost wirioneddol i wybod y canlyniad. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y broses hon, cysylltwch â cefnogaeth@taith.cymru
Costau staff
- Lle hawlir costau staff, bydd tîm Taith yn cynnal gwiriadau i gadarnhau:
- Bod yr unigolyn yn cael ei gyflogi gan eich sefydliad.
- Mae’r rôl yn cyd-fynd â’r gyfradd ddyddiol a hawlir.
- Mae tystiolaeth dderbyniol yn cynnwys:
- Cytundeb cyflogaeth
- Ffurflen hawlio wedi’i phrosesu os yw’r taliad ar gyfer staff oriau achlysurol/amrywiol sy’n cael eu talu’n fisol am oriau gwirioneddol a weithiwyd
- Taflenni amser lle nad yw staff yn gweithio 100% ar y prosiect
- Rhestrau trafodion sy’n dangos taliadau i staff a gyflogir ar y grant
- Nid bwriad y gwiriadau hyn yw gwirio’r union oriau a weithiwyd.
- Nid oes angen taflenni amser ond fe’u hystyrir yn arfer da ac maent yn helpu i sicrhau bod y costau a nodir yn y ddogfen gost cryno yn gywir yn hytrach nag wedi’u hamcangyfrif.
- Os yw rôl wedi’i llenwi’n ôl, rhaid i chi ddarparu:
- Crynodeb byr o rôl wreiddiol y staff, gan gynnwys yr oriau a weithiwyd ar y prosiect.
- Rhaid i’ch sefydliad gadw anfonebau sy’n ymwneud â threfniadau llenwi ôl.
Rheoli Prosiect, Lledaenu a Chyfieithu
- Lle defnyddir isgontractwyr ar brosiectau P2, rhaid i bob cost gael ei chefnogi gan anfoneb ffurfiol.
- Ni ellir derbyn dogfennau Word na fformatau anfonebau anffurfiol ac ni fyddant yn cael eu talu.
- Mae tystiolaeth dderbyniol yn cynnwys:
- Cytundeb (os yn berthnasol)
- Gorchymyn prynu wedi’i gymeradwyo
- Derbynneb nwyddau
- Anfoneb
- Mewnbynnu cost yn y system gyllid (wedi’i ddangos trwy restr trafodion)
- Cadarnhad archebu, yn enwedig wrth archebu ar-lein
- Tocynnau trên, pasiau bwrdd, cadarnhadau gwesty i ddangos bod y daith wedi digwydd.
- Nid yw datganiad/derbynneb cerdyn credyd yn dystiolaeth dderbyniol gan nad ydynt yn manylu ar yr hyn y mae’r pryniant yn ymwneud ag ef.
- Rhaid i bob derbynneb (gan gynnwys derbynebau electronig) gynnwys cost yr eitem, y cyflenwr, y dyddiad, yr arian cyfred a’r rhif TAW (lle bo’n berthnasol).
Esbonio Sut Mae Costau’n Cael eu Hystyried
- Ar gyfer prosiectau Llwybr 2, mae’n arbennig o bwysig eich bod yn glir ynghylch:
- A yw costau’n fewnol neu’n allanol, a
- Sut maen nhw’n dangos tystiolaeth o’r hyn sydd wedi’i wario mewn gwirionedd.
- Dylech chi esbonio’n glir pwy sy’n cyflawni’r gwaith, er enghraifft:
- Eu tîm prosiect eu hunain
- Adran arall o fewn y sefydliad
- Cyflenwr neu gontractwr allanol
Gweithredu Mewnol
- Os cyflwynir gwaith yn fewnol, gan gynnwys gan adran arall, dylech chi:
- Egluro sut mae’r gwariant yn cael ei ddangos (e.e. adroddiadau cyllid mewnol), a
- Dangos sut roedd y dull hwn yn darparu gwerth am arian, yn hytrach na defnyddio cyflenwr allanol.
Gweithredu Allanol
- Os cyflwynir gwaith yn allanol, rhaid i Dderbynwyr Grant ddarparu:
- Anfonebau a derbynebau priodol, a
- Esboniad byr o pam y dewiswyd y cyflenwr neu’r gyfradd ddyddiol.
Cyllid ychwanegol a gymeradwywyd (mae hyn yn arian ychwanegol y gofynnwyd amdano neu a gymeradwywyd ar gyfer teithio gwyrdd, cymorth cynhwysiant neu gostau eithriadol ac maent yn seiliedig ar gostau gwirioneddol)
- Anfonebau a/neu dderbynebau o’r costau cysylltiedig a gafwyd, gan nodi enw a chyfeiriad y corff sy’n cyhoeddi’r anfoneb a/neu dderbynneb, y swm a’r arian cyfredol, y dyddiad, ac mewn perthynas â theithio, y llwybr a ddefnyddiwyd a’r dyddiad teithio.
- Bydd yn rhaid darparu tystiolaeth a’i chadw mewn perthynas ag ADY, anableddau a difreintiedig, gan nodi eu rhif cyfranogwr unigryw (nid eu henw) ar y dogfennau.
- Ar gyfer unrhyw gostau ychwanegol, bydd angen tystiolaeth o werth am arian. Byddai hyn yn cymryd ffurf dyfynbrisiau ysgrifenedig sy’n fwy na £300 neu gymhariaeth o gost nwyddau neu wasanaethau tebyg os yw’n llai na’r gwerth hwn.
- Gallwn ni hefyd ofyn am unrhyw ddogfen arall rydym ni’n ei hystyried yn berthnasol, a bydd yn rhaid o’r llwybr archwilio, i nodi costau a gweithgareddau. Gallai hyn gynnwys brasamcanion neu ddyfynbrisiau fel tystiolaeth o gyfiawnhad o’r cyllid y gofynnir amdano.
- Os bydd gofyn am dystiolaeth o gostau gwirioneddol, rhaid i’r Sefydliad sy’n Derbyn Cyllid ddarparu’r wybodaeth hon i Taith o fewn pum (5) niwrnod gwaith drwy e-bostio cefnogaeth@taith.cymru Os na ddarperir tystiolaeth, gall Taith hawlio’n cyllid yn ôl os na ddarperir tystiolaeth yn unol ag Atodlen 1 – Y Broses Amserlenni Taliad.
- Dylid cadw cofnodion prosiect ac ariannol, anfonebau a/neu dderbynebau yn eu fformat gwreiddiol, boed yn gopïau electronig neu galed, a chadw’r holl gofnodion am o leiaf ddeuddeng mlynedd yn achos archwiliadau ychwanegol. Bydd hyn yn cynnwys cofnodion sy’n cael eu dal gan is-gontractwyr neu aelodau consortiwm.
- Fe’ch atgoffir eich bod chi’n cytuno i ddarparu mynediad, yn ôl yr angen, i’r holl safleoedd gweithgareddau a gyllidir a chofnodion perthnasol, yn unol â’r Llythyr Cytundeb Grant (Cymal 6.4).
- Nid yw datganiad/derbynneb cerdyn credyd yn dystiolaeth dderbyniol gan nad ydynt yn manylu ar yr hyn y mae’r pryniant yn ymwneud ag ef.
- Rhaid i bob derbynneb (gan gynnwys derbynebau electronig) gynnwys cost yr eitem, y cyflenwr, y dyddiad, yr arian cyfred a’r rhif TAW (lle bo’n berthnasol).
Hawlio arian yn ôl
Hawlio arian yn ôl yw Taith yn gofyn am unrhyw gyllid grant nad yw’n cael ei ddefnyddio neu nad yw’n gymwys gan Dderbynnydd Grant. Gellir dechrau hawlio arian yn ôl ar unrhyw adeg yn ystod hyd y prosiect dan, heb fod yn gyfyngedig i, y senarios canlynol:
- costau cymwys a godir gan y Derbynnydd Grant sy’n is na’r rhai hynny a gynlluniwyd ar adeg cyflwyno’r cais
- cyflwyno’r adroddiad terfynol yn gynnar oherwydd bod y gweithgareddau’n gorffen yn gynharach na’r hyn a ddisgwyliwyd, e.e. cyn y dyddiad dod i ben fel a amlinellwyd yn y Llythyr Cytundeb Grant.
- terfynu’r Cytundeb Grant drwy naill ai’r Derbynnydd Grant neu Raglen Weithredol Taith
- mewn achosion o ddiddymu
- pan fydd adroddiad terfynol yn cael ei gyflwyno gan y Derbynnydd Grant, ar ddyddiad dod i ben y gweithgaredd, pan fydd gwariant wedi’i gysoni neu o ganlyniad gwiriadau archwiliadau pellach
Mae gan y trefniad taliad y nod o leihau’r achosion o hawlio arian yn ôl. Os bydd angen hawlio arian yn ôl, yn y man cyntaf bydd Taith yn ceisio hawlio’r arian yn ôl drwy gydbwyso (lleihau’r swm i’w ad-dalu) yn erbyn y daliad nesaf neu derfynol. Lle na fydd hyn yn bosib, neu na chynllunnir taliad yn y dyfodol agos, caiff anfoneb hawlio’n ôl ei chreu yn gofyn am daliad ar unwaith.
Bydd gennych chi un deg pedwar diwrnod calendar i ad-dalu’r arian yn uniongyrchol a chaiff llythyron atgoffa eu hanfon. Os na fyddwch chi’n talu’r anfoneb ad-dalu arian, anfonir llythyr arall atoch chi cyn cymryd camau cyfreithiol. P’un ai bod lleihad yn eich taliad nesaf neu derfynol neu drwy anfoneb ad-dalu, eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod gennych chi’n gronfeydd digonol ar gael i gyflawni eich holl brosiectau Taith a gymeradwywyd.
11.0. Cyhoeddusrwydd
Canllawiau Cyhoeddusrwydd
Dylai Derbynwyr Grantiau ddilyn y canllawiau yng Nghanllaw Brandio Taith i Dderbynwyr Grantiau wrth hyrwyddo’r prosiect, gan nodi’r gofynion ar hyrwyddo dwyieithog.