Bydd Llwybr 1 2025 yn dod yn fuan, cliciwch yma i ddarganfod mwy

Cysylltwch

Llawlyfr Gweithredol Taith

Mae’r canllaw hwn yn ddogfen ganllaw ar gyfer Derbynwyr Grant mewn perthynas â chyllid Llwybr 1 Taith ar gyfer prosiectau a gymeradwywyd yn rownd 1 (Mehefin 2023).A wnewch chi sicrhau eich bod chi’n darllen y ddogfen hon mewn cyfuniad â’ch Llythyr Grant Taith, gan gynnwys yr holl atodlenni sy’n gysylltiedig â Chanllaw Rhaglenni Taith 2023.

Os bydd unrhyw wybodaeth yn y llyfr canllaw hwn yn wahanol i’r Llythyr Cytundeb Grant, gan gynnwys yr atodlenni cysylltiedig neu’r Canllaw Rhaglen 2023, bydd cynnwys y Cytundeb Grant a’i atodlenni’n cymryd blaenoriaeth. Os oes gennych chi ymholiadau neu adborth am gynnwys y llawlyfr hwn, e-bostiwch cefnogaeth@taith.cymru

Adran 

Teitl 

1

Atodlenni Cytundeb Grant a Llofnodi’r Cytundeb 

2

Taliadau Grant  

3

Gweithgareddau

4

Cyllideb eich Prosiect 

5

Ceisiadau am Gyllid Ychwanegol  

6

Gwneud newidiadau i’ch prosiect

7

Diogelu 

8

Adrodd 

9

Archwilio a Sicrwydd a Chadw Cofnodion 

10

Cyhoeddusrwydd 

Atodlenni Cytundeb Grant a Llofnodi'r Cytundeb

Mae gan y llythyr Cytundeb Grant sawl atodlen, a restrir isod.

Prosiectau Llwybr 1 2023 (a gymeradwywyd ym mis Gorffennaf 2023).  

Rhif Atodlen 

Teitl 

Diben 

1

Y Broses Amserlenni Taliadau

Manylion y broses amserlenni taliadau. Mae hyn yn cynnwys esboniad o derminoleg a’r gwahanol benawdau cyllideb pan ddisgwylir gwneud taliadau a dyddiadau adrodd.

2

Gweithgareddau Grant a Phroffil Cyllideb

Yn pennu’r gweithgareddau grant a gymeradwywyd a’r gyllideb a ddyfarnwyd.

3

Rhagolwg o wariant, gweithgaredd a thargedau

Manylion o bryd y bydd gweithgaredd symudedd yn digwydd, pryd y bydd gwariant yn digwydd ac i roi syniad o wledydd dan sylw, nifer y cyfranogwyr a % y cyfranogwyr o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol

4

Cais am Arian Ychwanegol

Manylion cyllid ychwanegol sydd ar gael ar gais, gan gynnwys teithio gwyrdd a chymorth cynhwysiant o gyfranogwyr ag anghenion dysgu ychwanegol, anableddau neu sy’n dod o gefndiroedd dan anfantais.

5

Gofynion adrodd

Manylion y gwahanol fathau o adroddiadau y dylid eu cyflwyno drwy gydol cylch bywyd y prosiect.

6

Gwariant Cymwys

Manylion swm y Grant y gellir ei ddefnyddio mewn perthynas â chyflwyno gweithgareddau eich grant, y math o wariant a ganiateir gan Taith yn unol â’ch Cytundeb.

7

Tystysgrif Flynyddol o Wariant

I’w chwblhau gan Derbynwyr Grant sy’n derbyn dyfarniadau Grant sy’n fwy na £50,000 ochr yn ochr â’r adroddiad terfynol i ddarparu sicrwydd annibynnol bod cronfeydd wedi’u defnyddio at ddiben cyflwyno’r gweithgareddau a gyllidir.

8

Y Broses Newid Prosiect

Amlinellu’r rheolau ar gyfer newidiadau i’r prosiect. Mae’n cynnig esboniad o’r categorïau cyllideb wahanol ac yn rhoi manylion y newidiadau y gellir eu gwneud i brosiect heb yr angen am gymeradwyaeth gan Taith.

9

Datganiad Rheolaeth a Llywodraethu Ariannol

Cadarnhad bod y llywodraethiant ariannol, rheoli risg a rheolaethau mewnol priodol ar waith i oruchwylio’r gweithgareddau prosiect y cytunwyd arnynt.

10

Manylion Cyswllt

Crynodeb o brif gysylltiadau’r prosiect, er enghraifft y person cyswllt blaenllaw a’r Gynrychiolaeth Gyfreithiol.

11

Diogelu

Manylion cyfrifoldebau Derbynwyr Grant o ran diogelu, gan gynnwys amddiffyn plant ac oedolion agored i niwed ac yswiriant.

12

Eiddo Deallusol

Yn darparu copi o logo Taith y mae’n rhaid i sefydliadau sy’n derbyn cyllid ei ddefnyddio.

13

Canllawiau Brandio

Mae’n darparu canllawiau ar sut i hyrwyddo brand Taith. Mae cyflwyniad Canllawiau Brandio ar gael yn yr ardal Derbynnydd Grant.

2.0. Taliadau Grant  

Gwneir yr holl daliadau i sefydliadau mewn punnoedd sterling (GBP) a chânt eu talu i’r manylion cyfrif banc a ddarparwyd eisoes. Bydd angen nodi Taith ar unwaith am unrhyw newidiadau i fanylion banc drwy e-bostio support@taith.wales a chwblhau Ffurflen Cyflenwr Newydd a’i dychwelyd gyda datganiad banc cyfredol (o fewn y tri mis diwethaf).

Bydd angen dilysu’r manylion newydd cyn y caiff unrhyw daliadau dilynol eu gwneud.

Gweler Atodlen 1– Y Broses Amserlenni Taliadau o’ch Llythyr Cytundeb Grant sy’n rhoi manylion am bryd y disgwylir gwneud taliadau, y gwerth a chanran y taliad Grant. Gall dyddiadau a gwerthoedd talu amrywio gan ddibynnu ar ofynion adrodd a’r gwariant hyd yma ar Wariant Cymwys.

3.0. Gweithgareddau

Cyfnod y gweithgaredd

Prosiectau sy’n dechrau 01 Medi 2023 ac sy’n dod i ben ar y dyddiad dod i ben a bennwyd yng nghymal 2.5 o’r Llythyr Cytundeb Grant.  Bydd angen i’r Sefydliad ddychwelyd y Llythyr Cytundeb Grant a’r atodlenni cefnogi a bydd yn rhaid i dîm Taith  ei adolygu cyn y gellir gwneud unrhyw cyn-daliad o grant. Sylwer bod y cytundeb hwn yn rhwymo’n gyfreithiol, a bydd unrhyw wariant a wneir cyn ei lofnodi yn gyfrifoldeb y sefydliad sy’n derbyn cyllid. Er y gall gwariant ddigwydd hyd at dri mis cyn dyddiad dechrau’r prosiect (mewn perygl y bydd y sefydliad sy’n gwneud cais), rhaid i’r holl weithgareddau sy’n gysylltiedig â’r prosiect ddigwydd o fewn y cyfnod a ddiffinnir yn y Llythyr Cytundeb Grant. Bydd Derbynwyr Grant dim ond yn derbyn cyllid am y hyd gweithgaredd perthnasol yn ystod y ffenestr rhaglen gyfnewid gymwys, a bydd yn dal yn rhaid i raglenni barchu’r hyd byrraf a hiraf y rhaglen yn ystod y ffenestr prosiect er mwyn bod yn gymwys am gyllid. Os bydd gweithgaredd terfynol eich prosiect yn dod i ben cyn y dyddiad dod i ben yn eich Llythyr Cytundeb Grant, fe’ch anogir i gyflwyno adroddiad terfynol o fewn mis o’r gweithgaredd rhaglen gyfnewid terfynol hwnnw i ddod â’r prosiect i ben a derbyn taliad terfynol neu ddychwelyd unrhyw gyllid sy’n weddill os yw’n berthnasol. Am ragor o wybodaeth, gweler yr adran ‘Adrodd’.

Canslo cyn gadael

Gweler adran 6.0 Gwneud newidiadau i’ch prosiect

Dychwelyd yn gynnar

Gweler adran 6.0 Gwneud newidiadau i’ch prosiect

Hyd byr

Gweler adran 6.0 Gwneud newidiadau i’ch prosiect

Force majeure

Mae Force Majeure yn cyfeirio at achosion lle bydd rhywbeth y tu allan i’ch rheolaeth yn eich atal rhag cynnal gweithgaredd a gynlluniwyd yn eich prosiect. Gellir galw’r cymal hwn i rym pan na fydd modd i chi aildrefnu’r gweithgaredd a gynlluniwyd a byddai colled ariannol i chi o ganlyniad.

Mae angen gwblhau ffurflen gais newidiadau ar gyfer hawliau force majeure a mae chanllawiau ychwanegol ar gael yn  ardal Aelodau Sefydliadau sy’n Derbyn Cyllid ar wefan Taith. Os oes gennych chi ymholiadau, e-bostiwch cefnogaeth@taith.cymru.

Gellir dim ond cyflwyno ceisiadau mewn amgylchiadau clir a phenodol y tu hwnt i reolaeth y cyfranogwr, a lle mae effaith wedi bod ar gynnydd gweithgaredd/rhaglen gyfnewid neu les y cyfranogwr. Yn gyffredinol, bydd hyn yn cynnwys:

  • salwch neu anaf difrifol, lle mae tystysgrif feddygol yn nodi nad oedd modd i’r cyfranogwr fynychu eu gweithgareddau. Mae’n bwysig cael yr yswiriant teithio cywir gan mai bwriad unrhyw gyllid ychwanegol a ddyfernir i’r Derbynnydd Grant yw ychwanegu yswiriant teithio ac nid i’w ddisodli. Os yw’r cyfranogwr yn cael ei ystyried yn ddifreintiedig gellir hawlio cyllid ychwanegol ar gyfer yswiriant teithio.
  • profedigaeth sy’n gysylltiedig ag aelodau agos o’r teulu, megis rhieni neu fam-gu neu dad-cu
  • terfysg gwleidyddol mawr neu drychineb naturiol yn y wlad dderbyn lle mae angen teithio ar frys ac mae hyn wedi cael effaith ar y rhaglen gyfnewid
  • profiad trawmatig a allai gynnwys bod yn rhan o ddamwain difrifol neu fod yn dyst iddo, neu fod yn dyst neu’n ddioddefwr trosedd ddifrifol, ac mae hyn wedi cael effaith ar y cyfranogwr.
  • gweithgaredd prosiect yn cael ei oedi neu ei ganslo oherwydd Covid 19
  • gweithgareddau prosiect a drefnwyd cyn unrhyw newid sylweddol i fesurau lliniaru Covid-19 cenedlaethol yn y DU neu’n rhywle arall, e.e. cyfnodau cloi, y gellir eu hystyried i fod yn achos o force majeure.

Rydym ni’n disgwyl i chi ddarparu tystiolaeth lawn o’r amgylchiadau a nodwyd uchod. Rhaid cymeradwyo’r holl achosion o force majeure cyn eu cyflwyno adroddiad terfynol y prosiect.

NID yw force majeure yn cynnwys:

  • anghydfod rhwng cyfranogwyr a sefydliadau derbyn y byddai’n bosib eu datrys
  • dosbarthiadau neu sesiynau astudio sy’n cael eu canslo gan y sefydliad derbyn
  • cyfranogwyr sydd am ddychwelyd adref
  • amgylchiadau rhagweladwy y gallai naill ai’r cyfranogwr neu’r sefydliad anfon neu dderbyn eu datrys
  • anghydfod llafur, streiciau, anawsterau ariannol neu fethiant unrhyw wasanaeth, diffygion cyfarpar neu ddeunyddiau neu oedi wrth eu gwneud yn hygyrch

Sylwer nad yw’r rhestr hon yn gynhwysfawr a byddwn yn ystyried pob cais fesul achos. Os caiff cais hyd byr ei gymeradwyo, addaswch yr adroddiad misoli’r dyddiadau gwirioneddol a dreulir dramor. Mae grant Taith dim ond yn cynnwys y cyfnod gwirioneddol sy’n cael ei dreulio dramor ac mae cyfranogwyr dim ond yn gymwys i dderbyn grantiau sy’n cyfateb i hyd gwirioneddol y rhaglen gyfnewid. Rhaid ad-dalu unrhyw gyllid sy’n weddill drwy ofyn am y gwahaniaeth gan y cyfranogwr. Os bydd angen i chi ohirio rhaglen gyfnewid cyfranogwr oherwydd force majeure, rhaid caniatáu i’r cyfranogwr barhau â’r gweithgareddau yn dilyn yr oedi, ar yr amod nad yw dyddiad dod i ben y rhaglen yn mynd y tu hwnt i ddyddiad terfynol y prosiect.

Diwrnodau aflonyddwch nad ydynt yn cael eu hariannu

Os bydd  cyfranogwr yn ymgymryd â gweithgaredd nad yw’n gysylltiedig â’i raglen gyfnewid, ni chaiff hyn ei gyllido a chaiff ei ddidynnu o hyd y rhaglen. Os bydd cyfranogwr ar raglen gyfnewid am gyfnod estynedig o amser ac yn dychwelyd adref am y gwyliau, i ymweld â theulu a ffrindiau, mae’r rhain yn ddiwrnodau nad ydynt wedi’u hariannu. Neu, os bydd cyfranogwr yn estyn hyd y rhaglen gyfnewid ar gyfer gweithgaredd sydd ddim yn ymgymryd â’r rhaglen, byddai’r diwrnodau ychwanegol yn cael eu categoreiddio fel diwrnodau nad ydynt yn cael eu cyllido. Byddai’r rhaid bodloni’r hyd sylfaenol am y rhaglen gyfnewid berthnasol wedi tynnu’r diwrnodau heb eu cyllido. Dylai eich adroddiadau ddangos dyddiad dechrau a dod i ben y cyfnod rhaglen gyfnewid, gan nodi’n glir nifer y diwrnodau heb eu cyllido.

Detholiad o gyfranogwyr

Chi, sef y Derbynydd Grant, sy’n gyfrifol am ddewis cyfranogwyr ar gyfer rhaglenni cyfnewid. Rhaid bod y broses ddethol yn dryloyw, yn drefnus, yn deg ac wedi’i dogfennu. Rhaid i broffil y cyfranogwyr gyd-fynd â’r meini prawf cymhwysedd a amlinellwyd yng Nghanllaw Rhaglen Taith. Ni ddylid codi ffioedd na blaendal i sicrhau lle ar raglenni cyfnewid, boed yn ad-daladwy ai peidio.

Cyfranogwyr sy’n talu

Mae’r dyraniad cyllido ar gyfer pob cyfranogwr, tuag allan a thua i mewn, wedi’i gyfrifo yn eich offeryn cyfrifo grant a gyflwynwyd adeg cyflwyno cais. Sicrhewch fod yr holl gyfranogwyr, tuag allan a thuag i mewn, yn derbyn eu dyraniad cyllido llawn at ddibenion teithio a chynhaliaeth.

4.0. Cyllideb eich Prosiect

Mae cyllid y grant wedi’i rannu i nifer y categorïau cost, y mae manylion amdanynt isod. Mae esboniad llawn o’r gyllideb a ddyfernir ar gael yn Atodlen – Gweithgareddau Grant a Phroffil y Gyllideb eich Llythyr Cytundeb Grant. Sylwer bod yn rhaid gwario’r grant at ddiben cyflwyno eich prosiect yn unig.

Cymorth Sefydliadol
Gallech chi benderfynu sut mae defnyddio’r categori cost Cymorth Sefydliadol (OS), ar yr amod ei fod yn gysylltiedig â’r gweithgareddau y cytunwyd arnynt. Mae’r categori hwn yn gyfraniad at unrhyw gost sy’n cael ei chodi gan y sefydliad(au) mewn perthynas â gweithgareddau i gefnogi dysgwyr a staff rhaglenni cyfnewid corfforol a rhithwir, yn fewnol ac yn allanol. Dan bob prosiect, mae cyfraddau’n dechrau ar £500 y cyfranogwr ar gyfer y 10 cyfranogwr cyntaf ac yn lleihau wrth i nifer y cyfranogwyr gynyddu. Gweler Adran 6 o’ch Canllaw Rhaglen sy’n benodol i’ch sector am ddadansoddiad llawn o gyfraddau cymorth sefydliadol. Mae cyfrifiad Cymorth Sefydliadol yn seiliedig ar gyfanswm nifer y rhaglenni cyfnewid allanol a mewnol fesul prosiect.

Mae costau cymwys ar gyfer Cymorth Sefydliadol yn cynnwys, heb fod yn gyfyngedig i, y canlynol:
• Cwrs iaith, i gefnogi dysgu iaith y wlad gynnal
• Digwyddiadau rhwydweithio, cymdeithasol a diwylliannol ar gyfer cyfranogwyr rhaglenni cyfnewid
• Teithiau diwylliannol lleol a drefnir i gyfranogwyr rhaglenni cyfnewid
• Cyfraniad tuag at ffioedd yswiriant fisa
• Digwyddiadau i hyrwyddo cyfranogiad yn Taith
• Deunyddiau hyrwyddo, gan gynnwys y rhai hynny mae cyfranogwyr rhaglenni cyfnewid yn eu cynhyrchu
• Gweithgareddau llysgenhadon Taith
• Costau staff rheoli prosiect Taith
• Cyfraniad i gynnwys cyflenwad staff.e.e. athrawon cyflenwi
• Costau pasbort neu fisa ychwanegol
• Y defnydd o arbenigwyr
• Costau Archwiliad Allanol ar gyfer cwblhau’r dystysgrif wariant flynyddol

Cynhaliaeth
Mae’r grant hwn (wedi’i gyfrifol fel cyfraniad uned gost) yn seiliedig ar hyd y rhaglen gyfnewid gorfforol a’r wlad dderbyn. Mae’r cyfraddau wedi’u grwpio i’r tri chategori canlynol: Grŵp 1 (cost byw uwch), Grŵp 2 (cost byw gymedrol) a Grŵp 3 (cost byw is). Caiff y gost uned ei thalu yn ei chyfanrwydd gan Taith i’r Derbynwyr Grant. Rhaid i bob cyfranogwr dderbyn yr hyn mae’n gymwys ar ei gyfer yn ariannol yn llawn, naill ai drwy daliad uniongyrchol gan y Derbynnydd Grant neu daliadau ar eu rhan. Rhaid i bob Derbynnydd Grant wirio eu rheoliadau ariannol eu hunain mewn perthynas â’r angen i gael derbynebau at ddibenion archwilio mewnol.

Teithio
Mae’r cyllid hwn tuag at y gost uniongyrchol o deithio ac mae’n dibynnu ar y pellter rhwng Cymru a’r wlad gyrchfan. Mae hwn yn gyfranogiad cost uned tuag at gost taith ddwy ffordd. Bydd swm grant teithio uwch ar gael i gyfranogwyr sy’n defnyddio opsiynau ‘Teithio Gwyrdd’ sy’n gynaliadwy’n amgylcheddol. Gweler Atodlen 4– Cais am Gyllid Ychwanegol y Llythyr Cytundeb Grant am ragor o wybodaeth am sut i hawlio’r taliad ychwanegol ‘Teithio Gwyrdd’. Caiff y gost uned ei thalu yn ei chyfanrwydd gan Taith i’r Derbynnydd Grant. Rhaid i bob cyfranogwr dderbyn yr hyn mae’n gymwys ar ei gyfer yn ariannol yn llawn, naill ai drwy daliad uniongyrchol gan y derbynnydd grant neu daliadau ar eu rhan. Rhaid i Derbynnydd Grant wirio eu rheoliadau ariannol eu hunain mewn perthynas â’r angen i gael derbynebau at ddibenion archwilio mewnol.

Bydd yr holl gyfranogwyr yn derbyn grant teithio. Bydd y swm yn dibynnu ar y pellter sy’n cael ei deithio hyd at 12,000km. Gweler Atodlen 6 – Gwariant Cymwys o’r Canllaw Rhaglen perthnasol am gyfraddau grant.
Byddai’n rhaid i gyfranogwyr (allanol a mewnol) sy’n derbyn cronfeydd cyllid eraill, sydd wedi eu dyfarnu at yr un diben â chyllid Taith e.e. teithio a chynhaliaeth, ddatgan y cronfeydd hyn i’r Derbynnydd Grant a fyddai wedyn yn ei ddidynnu’n o’r grant .

5.0. Cais am Gyllid Ychwanegol

Gellir cyflwyno cyllid ychwanegol i Taith ar gyfer Teithio Gwyrdd, Costau Ychwanegol a Chymorth Cynhwysiant. Dylid cyflwyno ceisiadau o leiaf 30 niwrnod cyn cynhaliaeth gweithgaredd y prosiect ac maent yn amodol ar gymeradwyaeth Taith. Ni fydd ceisiadau a dderbynnir ar ôl 30 diwrnod yn cael eu hystyried oni bai bod amgylchiadau eithriadol. Dylai’r holl geisiadau am gyllid ychwanegol gynnig gwerth am arian a dylid bod yn gysylltiedig â’r cyfranogwr unigol sy’n cyflwyno cais am y cyllid ychwanegol. Mae esiampl isod:

I gyflwyno cais, cwblhewch y ffurflen Cais am Gyllid Ychwanegol Llwybr 1 – mae dolen a chanllawiau cefnogi ar gael yn Ardal Aelodau Derbynwyr Grant ar wefan Taith. Mae Atodlen 4– Cais am Gyllid Ychwanegol i’r Llythyr Cytundeb Grant yn cyfeirio at yr holl gyllid ychwanegol sydd ar gael.

Esiampl cais am gyllid ychwanegol

Mae pedwar cyfranogwr yn cynllunio teithio o Gaerdydd i Faes Awyr Bryste; mae nifer o opsiynau wedi cael eu hystyried, a phenderfynir bod bws cyhoeddus yn cynnig y gwerth gorau am arian. Y cyfanswm a delir gan y sefydliad ar gyfer y pedwar cyfranogwr yw £100, neu £25 y pen; ystyrir bod un o’r cyfranogwyr hyn i fod dan anfantais, felly mae’r Derbynnydd Grant yn cyflwyno cais i Taith am gyllid ychwanegol i bris tocyn bws y cyfranogwr (£25).

Teithio Gwyrdd  

At ddibenion Taith a’r Cytundeb hwn, mae “Teithio Gwyrdd” yn cael ei ddeall fel teithio lle defnyddir dull trafnidiaeth isel ei allyriadau yn hytrach na hedfan. Er enghraifft, mae hyn yn digwydd pan fyddwch yn teithio ar feic, trên, coets neu rannu ceir am y rhan fwyaf o’r daith gron. Mae Taith yn ystyried fferïau i fod yn ddull cludiant uchel ei allyriadau.

Caiff cyfraddau teithio eu cyfrifo’n awtomatig yn seiliedig ar y pellter a deithir fel a amlinellwyd yn Nhabl 1 isod.

Tabl 1


Teithio / Teithio Gwyrdd Pellter (Km)

Cyfraddau Ieuenctid, Ysgolion, AB a VET, ac Addysg i Oedolion (£)

Cyfraddau Ieuenctid, Ysgolion, AB a VET, ac Addysg i Oedolion (£)

Cyfraddau Addysg Uwch (£)

Cyfraddau Addysg Uwch (£)

f

10-99km

20

Dd/B

Dd/B

Dd/B

f

100-499km

150

180

150

180

f

500-1999km

230

270

230

270

f

2000-2999km

300

350

300

350

f

3000-3999km

450

520

450

520

f

4000-7999km

700

Dd/B

350

Dd/B

f

8000-12000km

1200

Dd/B

600

Dd/B

f

12000km+

1400

Dd/B

700

Dd/B

f

Costau Eithriadol 

Mae costau eithriadol yn cwympo i dri chategori, fel a amlinellir isod.

A) Teithio Eithriadol o Ddrud – i ardal anghysbell

Cyfraniad at gost teithio i/o ardal anghysbell (dim ond i’r bobl hynny sy’n gymwys i dderbyn grant teithio). Caiff Teithio Eithriadol o Ddrud ei ddiffinio fel teithio i/o ardal lle nad oes seilwaith trafnidiaeth sefydledig i gyrraedd neu’r adael cyrchfan.  Mae seilwaith trafnidiaeth yn golygu’r holl brif ffyrdd, ffyrdd, llwybrau beicio, palmentydd, meysydd awyr, rheilffyrdd a chyfleusterau docio, yn ogystal â thrafnidiaeth a chyfleusterau cludiant.

Mewn perthynas â theithio eithriadol o ddrud o/i ardal anghysbell, gall yr holl gyfranogwyr fod yn gymwys am daliad ychwanegol.

Gall cyfranogwyr o gefndiroedd difreintiedig dderbyn hyd at 100% o’r costau cymwys gwirioneddol. Gall yr holl gyfranogwyr dderbyn hyd at 80% o’r gost wirioneddol (os nad yw’r swm gwreiddiol yn cynnwys o leiaf 70%).

B) Teithio i Ganolfan Drafnidiaeth yn y DU – cyfranogwyr sy’n ddysgwyr yn unig

Cyfraniad at gost teithio i ganolfan drafnidiaeth yn y DU fel rhan o raglen gyfnewid ryngwladol. Mae canolfan drafnidiaeth yn y DU yn cael ei diffinio gan Taith fel man ymadael lle mae’r unigolyn ar raglen gyfnewid yn gadael i’w gyrchfan ryngwladol. Er enghraifft, maes awyr, gorsaf drenau, porthladd neu orsaf fysiau. Mae enghreifftiau o ddulliau teithio cymwys yn cynnwys, heb fod yn gyfyngedig i, drenau, bysiau a llongau. Yn achos teithiau ar drên, gall cyfranogwyr hawlio am gost wirioneddol y tocyn trên yn ogystal â cherdyn rheilffyrdd, ar yr amod bod cyfanswm y gost y ddau yn is na chost wreiddiol y tocyn trên yn unig. Disgwylir i gyfranogwyr rhwng 16 a 21 oed sy’n teithio ar fws ddefnyddio Fy Ngherdyn Teithio. Y gyfradd am gyfraniad at betrol yw £0.45 y filltir.

Mae’r cyfraddau fel a ganlyn:

Rhaglenni Cyfnewid Grŵp: Hyd at £500 fesul grŵp rhaglen gyfnewid, hyd at uchafswm o £1,200 fesul prosiect, yn seiliedig ar gostau gwirioneddol.  Dyma’r gost gymwys ar gyfer Ysgolion, Ieuenctid, Addysg i Oedolion, a’r sectorau Addysg Bellach a Hyfforddiant Addysg Alwedigaethol. Nid oes cost gymwys ar gyfer Addysg Uwch.

Rhaglenni cyfnewid Unigol: Mae cyfranogwyr o gefndiroedd difreintiedig yn gymwys i gael hyd at £100 fesul cyfranogwr fesul rhaglen gyfnewid, yn seiliedig ar gostau gwirioneddol sy’n rhoi gwerth am arian. Dyma’r gost gymwys ar gyfer yr holl sectorau.

C) Costau Eithriadol sy’n Ymwneud â Covid

Gellir hawlio’r costau ychwanegol hyn mewn achosion lle mae statws y wlad gyrchfan yn newid yn ystod rhaglen gyfnewid, gan achosi i’r cyfranogwr fynd i gostau ychwanegol sylweddol oherwydd gofyniad i gwarantîn mewn cyfleuster pwrpasol, cydymffurfio â gofynion profi uwch neu debyg. Dylid cael yswiriant perthnasol, gan gynnwys yswiriant teithio, ar gyfer pob rhaglen gyfnewid, nid bwriad y gost eithriadol hon yw disodli yswiriant Covid.

Cymorth Cynhwysiant 

Mae hyn ar gyfer yr holl gyfranogwyr ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY), anableddau neu’r rhai hynny o gefndir difreintiedig. Hefyd, gellir darllen gwybodaeth am gyllid ychwanegol yn y Canllaw i’r Rhaglen, ac Atodlen 4– Cais am Gyllid Ychwanegol ac Atodlen 6– Gwariant Cymwys  eich Llythyr Cytundeb Grant.

Gall cyfranogwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) a/neu anableddau dderbyn hyd at 100% o’ costau cysylltiedig cymwys. Gellir talu hyn i gyfranogwyr sy’n staff ac sy’n ddysgwyr. Caiff cyllid ei ddal yn ganolog gan Taith ar y cam dyfarnu grant at y diben hwn.

Diffiniad ADY yw: Fel a ddiffiniwyd gan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (y Ddeddf ADY), Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021 (y Cod ADY)

Diffiniad anabledd yw: ‘Diffiniad person anabl yw rhywun â nam corfforol neu feddyliol sydd ag effaith ‘sylweddol’ a ‘thymor hir’ ar eu gallu i gyflawni gweithgareddau beunyddiol (Deddf Cydraddoldeb 2010)’.

Gall cyfranogwyr sy’n ddysgwyr o gefndiroedd difreintiedig dderbyn hyd at 100% o’r costau gwirioneddol am gostau sy’n gysylltiedig â theithio ychwanegol cymwys e.e., fisâu, pasbortiau, yswiriant teithio, bagiau (lle bo’n ofynnol).

Gall cyfranogwyr o gefndiroedd difreintiedig dderbyn hyd at 50% o grant teithio ychwanegol os ydynt yn teithio i gyrchfannau ymhellach na 4000km i ffwrdd – sylwer bod hyn yn berthnasol yn y sector Addysg Uwch yn unig oherwydd bod cyfraddau sectorau eraill wedi cael eu gosod i lefel er mwyn bod yn gynhwysol.

Gweler y tabl isod, sy’n amlinellu meini prawf cymhwysedd Cyfranogwyr Dan Anfantais i gyfranogwyr sy’n staff ac yn ddysgwyr sy’n dymuno hawlio cyllid ychwanegol.

Tabl 2


Meini prawf

Ysgolio

AB/VET/AA

AU/RE

Ieuenctid

Tystiolaeth ofynnol

Cyfanswm incwm yr aelwyd dan £25,000

Datganiadau banc am y tri mis diwethaf, sy’n dangos yr holl incwm mae’r aelwyd yn ei dderbyn; rhaid bod yr enw a’r cyfeiriad yn weladwy ar y datganiad. Os oes gan y sefydliad broses fewnol am bennu statws dan anfantais ariannol, byddem ni’n disgwyl derbyn cadarnhad o hyn.

 

Os yw’r cyfranogwr yn byw mewn tŷ a rennir, nid gyda’i deulu, ac mae’n gyfrifol am ei filiau ei hun, dim ond ei incwm ef byddai’n cael ei ystyried.

Cyfranogwr sy’n derbyn Credyd Cynhwysol neu fudd-daliadau sy’n gysylltiedig ag incwm yn ei enw ei hun

Dd/B

Cyfanswm incwm yr aelwyd – cyflogau a/neu fudd-daliadau/pensiynau at ei gilydd – rhaid bod hyn dan £25,000

 

Credyd Cynhwysol – sgrinluniau o lyfr cyfrifon sy’n rhoi manylion y swm a dalwyd ynghyd ag unrhyw ddidyniadau am y tri mis diwethaf; rhaid bod yr enw a’r cyfeiriad yn weladwy ar y datganiad.

 

Budd-daliadau – datganiadau banc am y tri mis diwethaf sy’n dangos swm y budd-daliadau sy’n cael eu derbyn

Cyfranogwyr sydd â phrofiad o fod mewn gofal, sy’n derbyn gofal ar hyn o bryd neu sy’n dod o gefndir derbyn gofal

Llythyr gan weithiwr cymdeithasol, gweithiwr cymorth, cynorthwy-ydd personol, awdurdod lleol, cymdeithas tai neu elusen, sy’n cadarnhau sefyllfa’r cyfranogwr – yn y gorffennol neu ar hyn o bryd.

Mae hyn yn cyfeirio at unrhyw un sydd mewn neu sydd wedi bod unrhyw gam o’i fywyd, waeth pa mor fyr. Mae hyn yn cynnwys plant a fabwysiadwyd a oedd yn derbyn gofal yn y gorffennol, neu’r rhai hynny sydd wedi cael profiad o ofal ac sy’n cyrchu bwrsariaethau sy’n gysylltiedig â gofal mewn rhannau eraill o’r DU cyn symud i Gymru.

Cyfranogwyr â chyfrifoldebau gofalu am blentyn ag anabledd, neu oedolyn  nad yw’n gallu ymdopi heb ei gymorth oherwydd salwch, anabledd, problemau iechyd meddwl neu ddibyniaeth.

Llythyr sy’n dangos bod y cyfranogwr yn derbyn Lwfans Gofalwr.

 

Llythyr gan weithiwr cymdeithasol, gweithiwr cymorth, gweithiwr iechyd proffesiynol neu sefydliad elusennol sy’n cadarnhau bod y cyfranogwr yn ymgymryd â chyfrifoldebau i aelod agos o deulu.

 

Tystysgrif gan y sefydliad sy’n cyflwyno cais fel a amlinellwyd yn y canllawiau uchod.

Ceiswyr Lloches neu Ffoaduriaid

Cerdyn Cofrestru Cais neu lythyr gan y Swyddfa Gartref.

Mae’r cyfranogwr wedi’i ddieithrio o’i rieni

Dd/B

Dd/B

Dd/B

Angen tystiolaeth yn unol â CMC/Stand Alone

Yn gymwys am Brydau Ysgol Am Ddim

Dd/B

Llythyr o’r ysgol neu’r cyngor sy’n cadarnhau cymhwysedd

Am ragor o wybodaeth am gyllid ychwanegol, e-bostiwch ni at: cefnogaeth@taith.cymru

6.0. Gwneud newidiadau i'ch prosiect

Gallwch wneud newidiadau i’ch prosiect drwy gydol ei ddarpariaeth lle maent yn ofynnol. Ni ddylai unrhyw ddiwygiadau prosiect newid y nodau a’r amcanion sylfaenol na’r sail ar gyfer dyfarnu cyllid i’r prosiect yn y Cais am Grant.

Dylid gofyn am newidiadau lle mae angen cymeradwyaeth gan Taith drwy’r ffurflen gais newidiadau i brosiect yn ardal aelodau’r wefan (mae hyn yn cynnwys newidiadau sy’n ofynnol oherwydd achosion Force Majeure). Cwblhewch y ffurflen gais am newidiadau o leiaf 30 niwrnod cyn dechrau’r rhaglen gyfnewid neu os bydd digwyddiadau anrhagweladwy megis dychwelyd yn gynnar, hyd byr neu Force Majeure cyn gynted ag y byddwch chi’n ymwybodol o’r newid.

Newidiadau lle mae angen cymeradwyaeth Taith

Newid cynrychiolydd cyfreithiol, prif swyddog cyllid neu berson cyswllt

Yn ystod hyd oes y prosiect, gellir newid y cynrychiolydd cyfreithiol neu’r person/pobl gyswllt. I wneud hyn, cwblhewch y ffurflen newid prosiect cyn gynted ag y byddwch chi’n ymwybodol o newid. Er mwyn newid cynrychiolydd cyfreithiol neu prif swyddog cyllid, rhaid i chi hefyd anfon hysbysiad ffurfiol (ar ffurf dogfen PDF) o ffynhonnell awdurdodedig/a ddilyswyd ar bapur swyddogol i gadarnhau bod gan y llofnodwr newydd yr awdurdod i lofnodi dogfennau cyfreithiol ar ran y sefydliad.

Newidiadau consortiwm

Os ydych chi am ychwanegu partner newydd i gonsortiwm presennol, bydd angen i ni gymeradwyo’r newid hwn. Byddwn ni’n asesu goblygiadau’r newid i’r consortiwm, yn gwirio bod yr holl feini prawf cymhwysedd wedi’u bodloni ac nad oes effaith ar gwmpas ac ansawdd cyffredinol y consortiwm cyn cadarnhau ein penderfyniad. Cwblhewch y ffurflen gais i newid prosiect cyn gynted ag y byddwch chi’n ymwybodol o newid.

Hyd y prosiect

Os hoffech orffen eich prosiect yn gynharach na’r hyn a nodwyd yn wreiddiol, rhowch wybod i Daith cyn gynted ag y bo modd er mwyn cyhoeddi eich adroddiad terfynol.

Dychwelyd yn gynnar

Dim ond hyd gwirioneddol y symudedd y gall cyllid ei gwmpasu a rhaid dychwelyd unrhyw ordaliad a wneir i’r cyfranogwr, ac eithrio o dan yr amgylchiadau penodol a amlinellir isod sydd wedi’u cymeradwyo gan Taith. Gweler yr adran ‘Adennilliadau’ am fwy o wybodaeth.

Hyd byr

Mae cais hyd byr yn berthnasol i gyfranogwyr nad ydynt yn bodloni’r hyd sylfaenol sy’n ofynnol ar gyfer eu harhosiad, oherwydd force majeure. Os caiff cais hyd byr ei gymeradwyo, bydd y Derbynnydd Grant yn derbyn swm y grant ar gyfer hyd gwirioneddol y rhaglen gyfnewid. Os bydd cais hyd byr yn cael ei wrthod, rhaid i chi ddileu cofnod y rhaglen gyfnewid a dychwelyd y grant i’r prosiect drwy gyflwyno cais am y gwahaniaeth gan y cyfranogwr.

Canslo cyn gadael

Os caiff rhaglen gyfnewid ei chanslo cyn dechrau oherwydd force majeure, bydd Taith yn talu’r costau gwirioneddol a godwyd hyd at swm y grant y cytunwyd arno’n wreiddiol, mewn achosion a gymeradwywyd. Yn gyntaf, bydd yn rhaid i’r Derbynwyr Grant hawlio’r costau hyn yn erbyn eu polisi yswiriant (gweler Atodlen 8– Y Broses Newid Prosiect  eich Llythyr Cytundeb Grant am fanylion). Byddai’n rhaid i fanylion yr unigolyn gael eu nodi yn yr adroddiad misol, ac eithrio dyddiadau, gyda thestun cryno yn yr adran sylwadau sy’n esbonio na wnaeth y rhaglen gyfnewid gael ei chynnal. Bydd yn rhaid cyflwyno cais am unrhyw gostau nad yw premiwm yr yswiriant wedi’u talu yn unol â’r broses cyflwyno cais am gyllid ychwanegol.

Newidiadau i brosiectau a chyfranogwyr a throsglwyddo cyllidebau

Efallai y bydd adegau pan fydd angen i chi wneud newidiadau i’ch prosiect.  O fewn eich prosiect Taith, asesir y newidiadau hyn fesul math o weithgaredd e.e. symudedd dysgwyr unigol.  Mae’r holl weithgareddau cymeradwy ym mhob math o weithgaredd yn cael eu cyfuno i wneud un ffigur cyfan fesul pob math o weithgaredd.

  • Rhaid i Daith gymeradwyo unrhyw gynnydd neu ostyngiad yn nifer y categorïau canlynol, dros 10% o’r rhifau cymeradwy gwreiddiol fesul math o weithgaredd, e.e. symudedd dysgwyr unigol: Nifer y Cyfranogwyr
  • Nifer y bobl gysylltiedig
  • Nifer y staff
  • Dyddiau rhaglen gyfnewid
  • Ffioedd cwrs – hyd at uchafswm y lwfans
  • Newidiadau i gyrchfannau lle nad yw’r prosiect yn cael ei ariannu gan y llinynnau Llwybr 1, AU (Addysg) neu AU (Ymchwil)

Ar gyfer unrhyw newidiadau lle mae angen cymeradwyaeth Taith, cwblhewch y Ffurflen Gais am Newid Llwybr 1 o leiaf 30 niwrnod calendr cyn i unrhyw newid ddod i rym, y mae dolen iddi ar ardal Aelodau sy’n Derbyn Cyllid ar wefan Taith. Mae canllawiau ar sut i gwblhau’r ffurflen hefyd ar gael ar y wefan. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu os hoffech chi gymorth wrth gwblhau’r ffurflen, e-bostiwch cefnogaeth@taith.cymru

Gweler Atodlen 8 – Y Broses Newid Prosiect yn eich Llythyr Cytundeb Grant am ragor o wybodaeth am drosglwyddiadau cyllideb.

Newidiadau nad oes angen cymeradwyaeth Taith arnynt

Mae newidiadau y gallwch eu gwneud yn eich prosiect nad oes angen cymeradwyaeth gan Taith.  Mae hefyd yn cael ei ystyried yn ôl math o weithgaredd e.e. symudedd dysgwyr unigol.  Mae’r holl symudiadau cymeradwy yn cael eu cyfuno i wneud un ffigwr cyfan fesul math o weithgaredd.

Rhaid diweddaru unrhyw newidiadau a wneir, sy’n bodloni’r trothwyon a restrir isod, ar yr offeryn adrodd misol unwaith y bydd y symudedd wedi’i gwblhau.

Newidiadau i brosiectau a chyfranogwyr a throsglwyddo cyllidebau

Os ydych yn dymuno cynyddu, neu ostwng, unrhyw un o’r canlynol o lai na 10% neu’n hafal i hynny, rhaid gofyn am hyn drwy’r ffurflen gais newid:

  • Nifer y cyfranogwyr
  • Nifer y bobl gysylltiedig
  • Nifer y staff
  • Dyddiau rhaglen gyfnewid
  • Ffioedd cwrs – hyd at uchafswm y lwfans
  • Newidiadau i gyrchfannau lle mae’r prosiect yn cael ei ariannu gan y llinynnau Llwybr 1, AU (Addysg) neu AU (Ymchwil) ac yn dilyn y canllawiau isod:
    1. Nid oes unrhyw effaith ar nodau ac amcanion y prosiect gwreiddiol a gymeradwywyd;
    2. Rhoddir gwybod i Bwyllgor Gwaith Rhaglen Taith sut y bydd y costau ychwanegol yn cael eu talu o fewn cyllideb y prosiect os yw’r newid i gostau cyrchfan yn uwch na’r cyrchfan gwreiddiol;
    3. Mae isafswm hyd y rhaglen gyfnewid yn dal i gael ei fodloni;
    4. Nid effeithir yn andwyol ar niferoedd y cyfranogwyr ar gyfer ehangu cyfranogiad.

Mae Taith yn cadw’r hawl i gynyddu neu leihau’r trothwy can 10% os oes rheswm gweithredol i wneud hynny a bydd yn cyfathrebu unrhyw newidiadau i’r Sefydliadau sy’n Derbyn Cyllid yn brydlon.

Rhaid cydymffurfio ag unrhyw gyngor teithio gan Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu (FCDO) llywodraeth y DU. Ni fydd Taith yn cyllido teithio i wledydd/rhanbarthau lle mae’r FCDO yn cynghori yn erbyn teithio tramor. Pan fydd amgylchiadau’n newid mewn gwlad lle mae Derbynwyr Grant yn cynllunio rhaglen gyfnewid, gan arwain at gyngor gan y FCDO yn erbyn teithio rhyngwladol, rhaid i’r Derbynnydd Grant wneud trefniadau amgen, megis aildrefnu’r rhaglen gyfnewid i wlad gyrchfan wahanol. Cyn gwneud unrhyw addasiadau, dylai Derbynwyr Grant gysylltu â Taith I drafod/dod i gytundeb. Dydy hwn ddim yn berthnasol i Derbynwyr Grant Addysg Uwch.

Cyllideb Rhaglen Gyfnewid sy’n Derbyn

Sylwer, gan fod eich cyllideb ar gyfer rhaglenni cyfnewid derbyn wedi’i chyfrifo fel canran o’ch cyllideb rhaglenni cyfnewid anfon, bydd unrhyw leihad i  chyfranogwyr ar gyfer rhaglenni cyfnewid anfon hefyd yn lleihau swm eich grant rhaglen gyfnewid dderbyn.   Yn ogystal, mae Cymorth Sefydliadol yn seiliedig ar nifer y cyfranogwyr a bydd hefyd yn lleihau os bydd nifer y cyfranogwyr yn lleihau.

Enghreifftiau o newidiadau sy’n bosib heb ein cymeradwyaeth

Senario: Prosiect sydd â 5 symudiad grŵp gyda chyfanswm o 100 o gyfranogwyr a 100 o gyfranogwyr yn mynd ar symudedd unigol. Symudedd grŵp gydag 20 o gyfranogwyr.

Angen newid: Mae un cyfranogwr yn disgyn allan o symudedd grŵp heb unrhyw ddisodli. Bydd cyfranogwyr 9 o symudiadau’r grŵp yn cael eu symud i symudedd unigol (math gwahanol o weithgaredd).

Canlyniad: Mae’r newid hwn yn bosibl heb ein cymeradwyaeth, gan mai cyfanswm y cyfranogwyr ym mhob math o weithgaredd wedi’u effeithio gan lain a 10%.

Enghraifft o newidiadau lle mae angen ein cymeradwyaeth

Senario: Symudedd unigol gyda 50 o gyfranogwyr. Prosiect sydd â 5 symudiad grŵp gyda chyfanswm o 100 o gyfranogwyr a 50 o gyfranogwyr yn mynd ar symudedd unigol.

Angen newid: Bydd 9 6 o gyfranogwyr o symudiadau’r grŵp yn cael eu symud i symudedd unigol (math gwahanol o weithgaredd). Mae angen ei ailddyrannu i fath gwahanol o weithgaredd.

Canlyniad: Byddai angen ein cymeradwyaeth ar y newid hwn, gan fod cyfanswm nifer y cyfranogwyr o fewn y math o weithgaredd symudedd unigol wedi eu effeithio gan lain a 10%.

7.0. Diogelu

Yn unol ag Atodlen 11– Diogelu y Llythyr Cytundeb Grant, bydd yr holl Derbynwyr Grant wedi cwblhau rhestr wirio Diogelu fel rhan o dderbyn y cyllid yn ffurfiol. Mae’r rhestr wirio yn nodi’r gofynion mae’n rhaid cydymffurfio â nhw wrth weithio’n uniongyrchol gyda’r cyfranogwyr sydd dan 18 oed a/neu oedolion hyglwyf/sy’n agored i niwed, neu wrth ddarparu gwaith sydd ag effaith ar gyfranogwyr sydd dan 18 oed a/neu oedolion sy’n agored i niwed.

Mae gan yr holl Derbynwyr Grant gyfrifoldeb i ddiogelu lles cyfranogwyr dan 18 oed neu sy’n oedolion sy’n agored i niwed (fel y diffiniwyd o dan Ran 7 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014), yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol a’r canllawiau sy’n dod gyda hi.

Gall Gweithdrefnau Diogelu Cymru helpu’r Sefydliadau sy’n Derbyn Cyllid i ddeall y dyletswyddau a amlinellwyd yn y ddeddfwriaeth hon a’i chanllawiau, a’u rhoi ar waith.

Mae gan yr holl leoliadau addysg yng Nghymru ddyletswydd gyfreithiol i sicrhau bod gan blant fynediad at amgylchedd dysgu diogel. Mae’n bwysig bod lleoliadau addysg yn glir am sut maent yn parhau i fodloni eu dyletswyddau statudol ar gyfer diogelu plant a phobl ifanc wrth wneud trefniadau ar gyfer ymweliadau cyfnewid dramor, fel a amlinellwyd yn y canllawiau statudol Cadw Dysgwyr yn Ddiogel.

Yn ogystal, rhaid i’r holl Derbynwyr Grant ystyried y ddeddfwriaeth berthnasol sy’n ymwneud â diogelu yn y wlad/tiriogaeth y maent yn anfon cyfranogwyr iddynt a, lle bo’n briodol, cynnwys hyn yn eu prosesau/gweithdrefnau.

Mae’n ofynnol i’r holl Sefydliadau sy’n Derbyn Cyllid a Chyfranogwyr Consortiwm (os yn berthnasol) sy’n cymryd rhan yn y rhaglen Taith gael y canlynol ar waith:

  • Polisi diogelu wedi’i ddiweddaru a pholisïau priodol eraill, e.e. polisi diogelu plant, polisi cwynion, polisi chwythu’r chwiban, gwrth-aflonyddu a pholisi bwlio, polisi diogelu data
  • Gweithdrefnau recriwtio diogel
  • Cofnodion hyfforddi diweddar
  • Cod ymddygiad i gyfranogwyr
  • Cod ymddygiad i staff a gwirfoddolwyr
  • Dull clir ar gyfer adrodd am unrhyw bryderon diogelu
  • Dull clir ar gyfer cynnal gwiriadau addas ar deuluoedd cynnal a gweithdrefnau priodol ar waith ar gyfer ymweliadau a chynllunio (lle bo’n berthnasol)
  • Unigolyn dynodedig sy’n ddeiliad swydd uwch yn y sefydliad ac sydd â chyfrifoldeb am ddiogelu
  • Asesiadau a gwiriadau risg priodol, gan gynnwys gwiriadau cofnodion troseddol a/neu GDG lle bo hynny’n briodol
  • Yswiriant addas, gan gynnwys yswiriant teithio

Mae’n rhaid i’r holl Derbynwyr Grant a Chyfranogwyr Consortiwm (os yn berthnasol) a fydd yn cynnal Gweithgareddau Grant (gan gynnwys rhaglenni cyfnewid rhithwir) sy’n cynnwys plant dan 18 oed a/neu oedolion hyglwyf/sy’n agored i niwed gwblhau rhestr wirio fel rhan o’r Llythyr Cytundeb Grant.  Rhaid cwblhau’r holl ofynion sy’n rhan o’r rhestr wirio cyn y gall gweithgaredd gael ei gynnal.

Mae angen i gonsortia a arweinir gan drydydd partïon yn y sector Ysgolion, sy’n gyfrifol am ddiogelu lles disgyblion, sicrhau bod ganddynt gymeradwyaeth i gymryd rhan gan yr Awdurdod Lleol cyn cynnal rhaglen gyfnewid. Mae angen cyflwyno’r gymeradwyaeth i Taith cyn y rhaglen gyfnewid.

Adrodd am ddigwyddiadau diogelu

Os bydd digwyddiad diogelu’n codi, rhaid i chi roi gwybod i Taith. Gallwch gysylltu â ni drwy’r blwch post cymorth cefnogaeth@taith.cymru Fel arall, os hoffech siarad yn gyfrinachol â Swyddog Diogelu gallwch gysylltu ag un o’r tîm isod:

Bydd un o’n tîm diogelu yn cysylltu â chi cyn gynted â phosib ar ôl i chi gysylltu.

Bydd Taith yn gofyn i chi lenwi ffurflen adroddiad digwyddiad cychwynnol a fydd yn gofyn am y wybodaeth ganlynol:

  1. Amlinelliad o’r digwyddiad;
  2. Y camau rydych chi wedi’u cymryd;
  3. Os yw’r digwyddiad wedi cau neu’n parhau;
  4. Unrhyw gamau pellach sydd eu hangen.

Byddwn yn cadw mewn cysylltiad â chi hyd nes y bydd y digwyddiad ar gau, a phryd hynny byddwn yn gofyn i chi gwblhau adroddiad terfynol.

Cyfrifoldeb derbynnydd y grant yw sicrhau bod protocol diogelu priodol yn cael ei weithredu a bod yr holl ddeddfwriaeth/canllawiau yn cael eu dilyn. Bydd Taith yn ystyried unrhyw gamau y gallai fod angen i ni eu cymryd. Gall hyn gynnwys, ond nid yw’n gyfyngedig i:

  • Logio a chau’r digwyddiad;
  • Gofyn am ragor o wybodaeth/ceisio sicrwydd mae’r gweithdrefnau cywir wedi eu dilyn;
  • Parhau i fonitro’r digwyddiad hyd nes y bydd ar gau’n foddhaol;
  • Sefydlu grŵp Ymateb Digwyddiad Diogelu Taith;
  • Atal y prosiect a’r taliadau tra ceisir rhagor o wybodaeth, h.y. cyfarwyddo’r sefydliad i beidio â chyflawni unrhyw weithgaredd/symudedd pellach tra bo’r digwyddiad yn cael ei drin.
  • Terfynu’r grant a gofyn am unrhyw danwario/crafanc yn ôl y grant cyfan
  • Cyfeirio’r mater at yr awdurdodau (yr heddlu, gwasanaethau cymdeithasol ac ati).

Cwblhewch ffurflen adroddiad digwyddiad cychwynnol

Cwblhewch ffurflen adroddiad digwyddiad terfynol

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â’r tîm at: cefnogaeth@taith.cymru

8.0. Adrodd

Mae holl brosiectau Taith yn cynnwys cyflwyno mathau gwahanol o adroddiadau drwy gydol cylch oes y prosiect.

Adrodd Misol  

Bydd angen i Derbynwyr Grant Cyllid gyflwyno adroddiadau misol i Taith am ddata a manylion cyllid ychwanegol cyfranogwyr a gymeradwywyd gan Taith. Dylid cyfeirio at y canllawiau gofynion adrodd.

Adroddiadau Chwarterol

Gellir gofyn i Sefydliadau sy’n Derbyn Cyllid gyflwyno adroddiad chwarterol sy’n seiliedig ar hyd prosiect a/neu sgôr risg prosiect a rhaid cyflwyno eu hadroddiad erbyn y dyddiad cau fel y nodwyd yn  Atodlen 1 – Y Broses Amserlenni Taliadau. Caiff taliadau eu gwneud yn amodol ar gymeradwyaeth Rhaglen Weithredol Taith o adroddiadau boddhaol. Bydd angen cwblhau a chyflwyno adroddiadau chwarterol yn electronig. Mae canllawiau ar sut i gwblhau a chyflwyno’r adroddiad interim ar gael ar ardal y Derbynwyr Grant. Caiff yr adroddiad ei ddefnyddio i asesu i ba raddau mae prosiect yn cael ei gyflwyno’n unol â’r Cais Grant gwreiddiol. Pan fydd adroddiad chwarterol Derbynnydd Grant wedi’i adolygu, bydd y Sefydliad sy’n Derbyn Cyllid yn derbyn adborth, ynghyd â chadarnhad ynghylch unrhyw cyn-daliad pellach. Efallai bydd hefyd argymhellion neu bwyntiau gweithredu i Derbynwyr Grant fynd i’r afael â nhw o fewn amserlenni gosod.

Adroddiad Interim 

Gellir gofyn i Sefydliadau sy’n Derbyn Cyllid gyflwyno adroddiad interim sy’n seiliedig ar hyd prosiect a/neu sgôr risg prosiect a chyflwyno eu hadroddiad erbyn y dyddiad cau fel y nodwyd yn  Atodlen 1 – Y Broses Amserlenni Taliadau. Caiff taliadau eu gwneud yn amodol ar gymeradwyaeth Rhaglen Weithredol Taith o adroddiadau boddhaol. Bydd angen cwblhau a chyflwyno adroddiadau interim yn electronig. Mae canllawiau ar sut i gwblhau a chyflwyno’r adroddiad terfynol ar gael ar ardal y Derbynwyr Grant. Caiff canllawiau ychwanegol am sut i gwblhau a chyflwyno’r adroddiad interim eu darparu i Sefydliadau sy’n Derbyn Cyllid yn nes ar ddiwedd y cyfnod adrodd. Caiff yr adroddiad ei ddefnyddio i asesu i ba raddau mae prosiect yn cael ei gyflwyno’n unol â’r Cais Grant gwreiddiol. Pan fydd adroddiad interim Sefydliad sy’n Derbyn Cyllid wedi’i adolygu, bydd y Derbynnydd Grant yn derbyn adborth, ynghyd â chadarnhad ynghylch unrhyw cyn-daliad pellach. Efallai bydd hefyd argymhellion neu bwyntiau gweithredu i Sefydliadau sy’n Derbyn Cyllid fynd i’r afael â nhw o fewn amserlenni gosod.

Adroddiad Terfynol 

Bydd angen cwblhau a chyflwyno adroddiadau terfynol yn electronig. Rhaid cyflwyno’r adroddiad o fewn 30 niwrnod o ddyddiad dod i ben y prosiect fel y nodwyd yn Atodlen 1 – Y Broses Amserlenni Taliadau ond gellir ei gyflwyno cyn gynted ag y bydd holl weithgareddau’r prosiect wedi’u cwblhau. Mae canllawiau ar sut i gwblhau a chyflwyno’r adroddiad terfynol ar gael ar ardal y Derbynwyr Grant. Bydd canllawiau pellach ar sut i gwblhau a chyflwyno adroddiadau terfynol eu darparu i Sefydliadau sy’n Derbyn Cyllid yn agos at ddyddiadau dod i ben prosiectau. Caiff yr adroddiad ei ddefnyddio i asesu i ba raddau cafodd y prosiect ei gyflwyno’n unol â’r cais gwreiddiol. Pan fydd adroddiad terfynol Derbynnydd Grant wedi cael ei asesu, bydd y Derbynnydd Grant yn derbyn adborth ynghyd â chadarnhad o swm unrhyw daliad terfynol sy’n ddyledus iddynt  neu unrhyw ad-daliad sy’n ddyledus i Taith.

Bydd yn rhaid i’r holl brosiectau Llwybr gyflwyno adroddiad terfynol datganiad gan y Derbynnydd Grant sy’n cadarnhau y darparwyd y Gweithgareddau Grant yn unol â’r amcanion a nodwyd yn y Cais Grant neu newidiadau a gymeradwywyd yn ystod y prosiect o fewn amserlen fel y cytunwyd arno gan Taith. Caiff canllawiau ychwanegol am sut i gwblhau a chyflwyno’r adroddiad terfynol a’r ffurflen ddatganiad eu darparu i Sefydliadau sy’n Derbyn Cyllid yn nes ar ddiwedd y cyfnod adrodd. Bydd yn ofynnol i brosiectau sydd â chyfanswm dyfarniad grant o fwy na £50,000 gyflwyno tystysgrif gwariant yn flynyddol ac ar ôl cwblhau’r prosiect. (Cyfeiriwch at Atodlen 7 – Ardystiad Blynyddol o Wariant a’r adran isod.)

Pwrpas yr adroddiad terfynol yw cynnig darlun cyflawn terfynol o’r Gweithgareddau Grant a ddarparwyd a’r gwariant a gafwyd, gan ei gwneud hi’n bosib cysoni’r gyllideb. Gallai methu â bodloni’r dyddiad cau ar gyfer ei gyflwyno arwain at gynnal pwerau Taith i ddal taliad yn ôl, ei ohirio neu ad-daliad Grant yn unol â’r Cytundeb. Caiff swm y taliad terfynol i’w wneud i’r Derbynnydd Grant ei gadarnhau’n seiliedig ar adroddiad terfynol i’w gyflwyno erbyn y dyddiad cau fel y nodwyd yn Atodlen 1– y Broses Amserlenni Taliadau. Yn unol â’r Cytundeb, os a) na chafodd Gweithgareddau’r Grant eu cynnal neu os cânt eu cynnal mewn ffordd sy’n wahanol i’r hyn a gynlluniwyd; neu b) mae’r Gwariant Cymwys a godwyd gan y Derbynnydd Grant yn is na’r hyn a gynlluniwyd adeg cyflwyno’r cais, neu c) nid yw ansawdd y gweithgareddau/allbynnau a gadwyd yn ddigonol, gellir gwneud didyniadau cyfatebol i’r Grant neu, lle bo’n berthnasol, efallai y bydd yn rhaid i’r Derbynnydd Grant ad-dalu unrhyw symiau dros ben a dderbyniwyd eisoes.

Tystysgrifau Blynyddol o Wariant

Rhaid i’r holl Derbynwyr Grant sy’n derbyn dyfarniadau Grant sy’n fwy na £50,000 gwblhau’r datganiad tystysgrif (Atodlen 7– Tystysgrif Flynyddol o Wariant) yn flynyddol a’I gyflwyno o fewn 30 niwrnod calendr o ddyddiad dod i ben y prosiect ynghyd a’r adroddiad terfynol. Sylwch fod yn rhaid i archwilydd / cyfrifydd annibynnol / allanol gwblhau hyn a bydd cost yn codi. Gall costau cymorth sefydliadol derbynnydd grant dalu’r gost hon.

Bydd cymeradwyaeth Rhaglen Weithredol Taith yn sbarduno’r broses talu’r Grant. Bydd Sicrwydd am Grantiau sy’n is na £50,000 drwy gwblhau datganiad fydd yn rhan o adroddiad terfynol y Derbynnydd Grant.

*Ar gyfer prosiectau sydd dros 12 mis ac sy’n llai na 24 mis o hyd mae’r gofynion ar gyfer y dystysgrif wariant flynyddol fel a ganlyn:

  • Senario 1 – Mae’n ofynnol cyflwyno un dystysgrif gwariant flynyddol ar ôl 12 mis o weithgarwch, os yw 70% neu fwy o werth cyffredinol y grant wedi’i wario, ni fydd angen cyflwyno tystysgrif gwariant flynyddol arall gyda’r adroddiad terfynol;
  • Senario 2 – Mae’n ofynnol cyflwyno un dystysgrif gwariant flynyddol yn dilyn 12 mis o weithgaredd, os yw llai na 70% o werth cyffredinol y grant wedi’i wario, cyflwynir tystysgrif gwariant flynyddol arall gyda’r adroddiad terfynol;
  • Senario 3 – Mae’n ofynnol cyflwyno un dystysgrif gwariant flynyddol ar ôl 12 mis o weithgarwch, os nad oes gweithgaredd neu wariant wedi digwydd, rhaid cyflwyno datganiad cadarnhad ysgrifenedig ar bapur pennawd gan y Prif Swyddog Ariannol/Cynrychiolydd Cyfreithiol yn lle’r dystysgrif gwariant flynyddol. Rhaid cyflwyno tystysgrif gwariant flynyddol gyda’r adroddiad terfynol.

Adborth gan Gyfranogwyr

Bydd gwybodaeth bellach yn dilyn yn hwyrach i Derbynwyr Grant.

10.0. Cyhoeddusrwydd

Dylai Derbynwyr Grant ddilyn y canllawiau yng Nghanllawiau Brandio Taith i Derbynwyr Grant wrth hyrwyddo’r prosiect, gan nodi’r gofynion ar hyrwyddo dwyieithog.