Adroddiadau gan y Buddiolwyr
Mae’n rhaid i’r Buddiolwyr gyflawni nifer o ofynion adrodd.
Adroddiad Misol
Mae’n ofynnol i Sefydliadau sy’n Fuddiolwr adrodd yn fisol i Taith ynglŷn a gwariant y prosiect ac a gyflawnwyd targedau’r prosiect drwy ddefnyddio Offeryn Adrodd Taith.
Bydd y Sefydliad sy’n Fuddiolwr yn cael dolen i Offeryn Adrodd Taith.
Dylai unrhyw weithgarwcha/neu wariant ar gyfer pob mis gael ei fewnbynnu erbyn diwrnod cyntaf y mis dilynol (e.e. dylid cofnodi’r holl weithgarwch ym mis Ionawr yn yr offeryn erbyn 1 Chwefror). Os bydd diwrnod cyntaf y mis dilynol yn disgyn ar benwythnos neu ŵyl banc, bydd yn rhaid cwblhau’r adroddiad erbyn y diwrnod gwaith nesaf.
Os nad yw unrhyw weithgareddau a/neu wariant wedi digwydd yn ystod y mis, dylid rhoi gwybod i dîm Taith erbyn diwrnod cyntaf y mis nesaf (neu’r diwrnod gwaith nesaf os bydd hyn yn disgyn ar benwythnos neu ŵyl banc) na wnaed yr un gweithgareddau drwy ebostio cefnogaeth@taith.cymru
Yr hyn y mae angen ei adrodd
Yn yr adroddiad, dim ond y symudedd sydd wedi digwydd neu’r gwariant mewn perthynas ag unrhyw gostau ychwanegol a gymeradwywyd y dylid ei gynnwys.
Dynodwyr y Sefydliad sy’n cymryd rhan
Bwriad yr Offeryn Adrodd yw rhoi gwybod am wybodaeth heb adnabod y sawl sy’n cymryd rhan. Fodd bynnag, disgwylir i Sefydliadau sy’n Fuddiolwr allu adnabod y sawl sy’n cymryd rhan yn y prosiect a rhoi rhagor o wybodaeth os bydd angen. Er mwyn sicrhau bod Sefydliadau sy’n Fuddiolwyr yn gallu gwneud hyn, cynghorir bod pawb sy’n cymryd rhan yn cael dynodwr unigryw (cyfeirnod) fel y gellir ei ddefnyddio os bydd ymholiadau. Gall hyn gyd-fynd â system gyfeirnodi’r Sefydliad sy’n Fuddiolwr megis rhif myfyriwr.
Pan fydd rhywun yn cymryd rhan mewn mwy nag un symudedd, dylai fod ganddo’r un dynodwr cymryd rhan ar gyfer pob symudedd a gofnodir. Bydd hyn yn galluogi Taith i roi gwybod am union nifer y bobl sy’n cymryd rhan yn ogystal â nifer y prosiectau symudedd sydd wedi digwydd.
Er enghraifft, os rhoddir cyfeirnod 1234 i rywun sy’n cymryd rhan a’i fod yn cymryd rhan mewn mwy nag un symudedd, dylid defnyddio’r un cyfeirnod ar gyfer y person hwnnw.
Ni ddylid cofnodi enwau yn yr offeryn adrodd.
Os oes gennych ymholiadau, cysylltwch â’r tîm ar cefnogaeth@taith.cymru
Adrodd yn unol â Gofynion Llythyr y Cytundeb Grant
Adroddiadau Chwarterol
Mae’n ofynnol i rai Buddiolwyr gyflwyno adroddiadau chwarterol.
Gweler y templed ar gyfer yr adroddiad chwarterol.
Adroddiadau Interim
Mae’n ofynnol i rai Buddiolwyr gyflwyno adroddiadau interim.
Gweler y templed ar gyfer yr adroddiad interim.
Adroddiadau Terfynol
Mae’n ofynnol i bob Buddiolwr gyflwyno adroddiadau terfynol.