Nid oes angen cymhwyster mewn ffotograffiaeth neu fideograffeg i greu cynnwys da o’ch ymweliadau. Darllenwch ein rhestr wirio ac awgrymiadau ymgysylltu creadigol i gael syniadau ac ysbrydoliaeth ar eiliadau i’w cofnodi.
Cofnodi'ch Taith: Rhestr Wirio
Cofiwch y canlynol wrth ddogfennu:
Mae cydsyniad yn hanfodol
Sicrhewch fod gennych gydsyniad pawb sy'n weladwy yn eich cynnwys. Os nad oes gennych ffurflen gydsynio gallwch ddefnyddio ein un ni sydd ar gael yn yr adran adnoddau cymorth.
Profiadau amrywiol
Dangoswch ystod lawn eich antur, o ddysgu yn yr ystafell ddosbarth i deithiau diwylliannol.
Cadwch bethau'n real
Eiliadau dilys, digymell sy'n adrodd y straeon mwyaf ysgogol.
Peidiwch â phoeni am berffeithrwydd
Os nad ydych chi'n hyderus gyda chamera, peidiwch â phoeni. Does dim angen safon broffesiynol. Y stori a'r teimlad y tu ôl i'r ddelwedd neu fideo sydd bwysicaf i ni.
Cyfeiriadaeth
Cipiwch ddelweddau fertigol a llorweddol a fideos llorweddol.
Meddyliwch am y golau
Defnyddiwch olau naturiol er eglurder.
Nifer o luniau
Mae'n sicrhau nad yw llygaid rhywun ar gau!
Ystyriwch y testunau
Gallwch ddefnyddio logos o fewn cynnwys cyn belled â'u bod yn briodol ac yn gysylltiedig â'ch sefydliad chi neu Taith. Fodd bynnag, byddem yn ddiolchgar iawn am gynnwys heb frandio y gallwn ei ddefnyddio ar ddeunydd hyrwyddo hefyd.
Awgrymiadau Ymgysylltu Creadigol
- Adrodd straeon: Yn aml mewn bywyd byddwn yn ceisio cofio ein heiliadau cyntaf, felly beth am wneud yn siŵr eich bod yn cofnodi pob eiliad cyntaf posib? Y tro cyntaf ar awyren, y tro cyntaf yn cyrraedd eich cyrchfan, y tro cyntaf yn cwrdd â’ch partner rhyngwladol, cwblhau’r cyflawniad dysgu cyntaf. Gall y rhestr fod yn ddiddiwedd – byddwch yn greadigol gyda lle gallwch chi ddod o hyd i’ch ‘troeon cyntaf’.
- Heriau Lluniau/Fideos: beth am gael pawb yn eich grŵp i wneud dyddiadur fideo, gallai pob un ohonynt gymryd eu tro i gofnodi eiliadau bob dydd. Nid oes rhaid bod y diwrnod yn llawn antur. Rydym am weld y dysgu, y cydweithio a’r darganfod ar y cyd yn digwydd, ond wrth gwrs dylid cynnwys teithiau sy’n rhan o’r profiad i dirnodau diwylliannol, neu safleoedd yr ymwelwyd â nhw hefyd.
- Teimladau: Ystyriwch sut ydych chi, neu’r cyfranogwyr, yn teimlo bob dydd ac a oes eiliad arbennig y gallech ei gofnodi. Gallai hynny fod y cyfranogwyr yn siarad am eu hargraffiadau cyntaf, sut maen nhw’n teimlo bod oddi cartref, beth yw’r peth mwyaf maen nhw wedi’i ddysgu hyd yn hyn.
Er ei fod yn wych eich gweld chi’n mynd allan a phrofi gwlad/diwylliant newydd (a all gynnwys bwyd, diod, gweithgareddau hwyl, ac ati) a bod hon yn agwedd bwysig o’ch symudedd/prosiect, mae’n hanfodol eich bod yn cyfleu agwedd ddysgu eich profiad.
Wrth ystyried eich delweddau a fideos, meddyliwch am:
- Effaith Addysgol
- Dysgu ar waith
- Eiliadau didwyll
- Cyfnewid diwylliannol a rhyngweithiadau cymdeithasol
- Dilysrwydd eich taith, wedi’i gofnodi drwy’ch lens, sydd bwysicaf i ni
Sut i Rannu Fideos a Lluniau â Ni
Gofynnwn fod y sefydliad yn coladu’r cynnwys cyfryngau i’w anfon at Taith. Anfonwch fideos, lluniau a ffeiliau at support@taith.wales yn uniongyrchol, gan nodi eich sefydliad a chyfeirnod prosiect yn y neges. Fel arall, rhannwch ffeil Google Drive â ni. Sylwer drwy rannu’ch fideos a lluniau â ni, rydych chi’n cydsynio i Taith ddefnyddio’r delweddau hyn ar ein platfformau cyfryngau cymdeithasol, ein gwefan, ac unrhyw ddeunydd hyrwyddo arall y byddwn yn ei greu. Os byddwch chi, neu gyfranogwr, am dynnu’ch cydsyniad e-bostiwch support@taith.wales i wneud cais.