Diolch am rannu’ch stori gyda Taith a thynnu sylw at rym trawsnewidiol addysg fyd-eang.
Pam Mae’ch Stori’n Bwysig
-
Arddangos effaith: Arddangos y profiadau dysgu unigryw a’r cyfnewidiadau diwylliannol y mae eich grŵp yn dod ar eu traws.
-
Hybu gwelededd: Codi proffil eich sefydliad a’ch grŵp gan arddangos eich ymrwymiad i addysg fyd-eang.
-
Ysgogi cyfranogiad: Ysbrydoli eraill drwy rannu posibiliadau a chanlyniadau cadarnhaol rhaglenni cyfnewid rhyngwladol.
-
Dathlu Cymru: Rhannu sut mae’ch profiadau dramor yn dod â gwerth yn ôl i Gymru.
Sut y Defnyddir Eich Stori
Gellir defnyddio’r straeon a rennir gyda Taith mewn amryw ffyrdd. Yn aml caiff straeon eu troi yn astudiaethau achos a fydd yn ymddangos ar dudalen ‘Straeon’ gwefan Taith. Gall y rhain fod mewn amryw o fformatau gan gynnwys astudiaethau achos ysgrifenedig ac astudiaethau achos fideo. Efallai y byddwn hefyd yn tynnu detholiadau o’ch stori, megis dyfyniadau, neu grynodebau / paragraffau i’w defnyddio ar gyfryngau cymdeithasol, cyflwyniadau neu ddeunydd hyrwyddo. Mae hyn yn aml yn cynnwys unrhyw gyfryngau rydych chi wedi’u rhannu gyda ni.
Beth os Nad Ydw i Eisiau i Fy Stori neu Ddelwedd / Fideo gael eu Defnyddio mwyach?
Os nad ydych chi eisiau i’ch stori neu ddelwedd / fideo gael eu defnyddio gan Taith mwyach, bydd angen i chi anfon e-bost at ymholiadau@taith.cymru i roi gwybod i ni. Rhowch fanylion er mwyn i ni allu adnabod eich stori neu ddelwedd/fideo i sicrhau ein bod yn tynnu’r wybodaeth gywir o’n gwefan ac yn rhoi’r gorau i’w defnyddio ar gyfryngau cymdeithasol, cyflwyniadau a deunydd hyrwyddo. Dylid nodi nad ydym yn gallu tynnu unrhyw gynnwys o gyfryngau cymdeithasol sydd wedi’u cyhoeddi’n barod. Bydd copïau caled o ddeunydd hyrwyddo yn cael eu diwygio cyn unrhyw ail-argraffu, ond eto gallai fersiynau blaenorol a allai gynnwys eich stori / delwedd fod mewn cylchrediad o hyd.