Bydd Llwybr 1 2025 yn dod yn fuan, cliciwch yma i ddarganfod mwy

Cysylltwch

Cais i Newid Prosiect

Proses gwneud cais am newid — Canllawiau i Dderbynwyr Grantiau 

Y mae yna nifer o newidiadau y gellir gwneud drwy gydol cyfnod eich prosiect. Gwahaniaethir y rhain rhwng ceisiadau i Newid Prosiect a cheisiadau i Newid Gweithgaredd. Rhaid bod bob cais wedi ei gyflwyno i Taith o leiaf 30 diwrnod calendr cyn bod y newidiad y ceisiwyd amdano yn digwydd. Ni fydd Taith yn gallu ystyried ceisiadau am weithgareddau sydd wedi digwydd, ond bod amgylchiadau eithriadol anwadadwy. 

Cais i Newid Prosiect  

I gynnig am newidiad yw’ch prosiect rhaid llenwi ffurflen Gais am Newid. Dyma’r ceisiadau am newid y gellir eu cyflwyno drwy’r ffurflen hon:  

  • Newid person cyswllt  
  • Newid cynrychiolydd cyfreithiol
  • Dylid cyflwyno’r newidiad yma gan y cynrychiolydd cyfreithiol blaenorol neu gan berson sydd ag awdurdod o fewn y sefydliad
  • Y mae rhaid bod y cais i newid y cynrychiolydd cyfreithiol yn cynnwys llythyr papur â phennawd i gadarnhau eich cais
  • Newidiadau i’r consortiwm
  • Ychwanegu partner newydd, dileu neu gyfnewid sefydliadau y enwir fel partneriaid consortiwm yn y cais wreiddiol
  • Newid i hyd y prosiect (h.y. o 12 i 18 mis)* 

*Os hoffech gynyddu cyfnod y prosiect cysylltwch â’r tîm cyn llenwi’r ffurflen a chynnig am newidiad – cefnogaeth@taith.cymru  

Cais i Newid Gweithgaredd  

Nid oes angen llenwi ffurflen Cais am Newid i gynnig cais i newid gweithgaredd. Yn ei le, cofnodwch y manylion yn y daenlen yn y ffolder offeryn adrodd pan eich bod yn eu gwybod. Gall y newidiadau o’r fath yma gynnwys:  

  • Newidiadau i dros 20% o’r canlynol, a seliwyd ar y gyllideb wreiddiol a chymeradwywyd:
    • Nifer y Cyfranogwyr  i unrhyw weithgaredd
    • Rhifau’r bobl sy’n mynd gyda nhw*
    • Rhifau’r staff i unrhyw weiddgaredd
    • Diwrnodau symudedd, ond eich bod dal yn cyflawni lleiafswm y cyfnod symudedd
  • Ellir ffeindio manylion cyfnodau symudedd yn y Canllawiau Rhaglen Newidiad i gyrchwlad neu ychwanegu gyrchwlad arall i symudedd, ble na fu’r prosiect wedi ei ariannu gan feysydd Addysg AU neu Ymchwil AU
  • Force majeure.

*os bod canllawiau’r sefydliad yn cael ei gadw, a bod anghenion y cyfranogwyr yn cael eu cynnal. Dylai newidiadau i nifer y cyfranogwyr newid rhifau’r bobl sy’n mynd gyda nhw. Ble na fydd hwn yn digwydd rhaid cysylltu gyda Taith.  

Ceir eglurhad pellach ar bob un o’r categorïau uchod ar dudalen 1 o’r rhagair y Ffurflen Gais am Newid.  

Nodwch, os ydych yn dymuno gwneud cais am gyllid ychwanegol i gyfranogwr difreintiedig neu gyfranogwr ag anabledd fel esiampl, ewch i’r Ffurflen Gais am Gyllid Ychwanegol YMA.  

Llenwi’r ffurflen 

Y bydd y ffurflen ddim ond yn dangos dewisiadau sy’n berthnasol i’r newidiad prosiect eich bod yn cynnig amdano. Os eich bod yn teimlo bod y dewisiadau ddim yn addas i’r cais eich bod yn gwneud, cysylltwch gyda ni cyn gynted ag sy’n bosibl trwy anfon neges i cefnogaeth@taith.cymru. Gwnewch yn sicr eich bod yn cynnwys y wybodaeth berthnasol a ofynnir gyda’r ffurflen fel na fydd dal wrth brosesi eich cais.  

Gyda newidiadau i weithgaredd, ellir ffeindio fwy o ganllawiau ar sut a phryd i nodi’r newidiadau yma yn y ffolder offeryn adrodd sydd yn yr Ardal Derbynwyr Grantiau ar wefan Taith.  

Y camau nesaf  

Nod Pwyllgor Gweithredol Taith fydd prosesu ac adolygu pob cais am newid cyn pen 10 diwrnod gwaith. Mae’n bosibl y byddwn yn cysylltu â chi os bydd angen rhagor o wybodaeth neu eglurhad arnom ynglŷn â’ch cais. Os caiff eich cais ei gymeradwyo a bod angen newid y contract, bydd y tîm yn anfon hwn cyn pen 10 diwrnod gwaith a bydd yn rhaid i’r sefydliad sy’n gwneud y cais ei lofnodi a’i ddychwelyd cyn pen 10 diwrnod calendr.  

Dewch ar daith gyda ni

Cofrestrwch i fod ar ein rhestr bostio i gael y newyddion diweddaraf ynglŷn â’r rhaglen.

Drwy gofrestru, rydych chi’n cytuno â’n polisi preifatrwyddy, gan gynnwys trosglwyddo eich gwybodaeth i’n platfform marchnata, Mailchimp. Gallwch ddad-danysgrifio ar unrhyw adeg.