Croeso i Ardal Derbynwyr Grant gwefan Taith
Mae’r adran hon ar gyfer Derbynwyr Grant sydd wedi derbyn cyllid Llwybr 2 ac sydd bellach yn y broses o gyflawni eu prosiectau.
Rydym wedi paratoi ystod o adnoddau defnyddiol i’ch helpu i gyflwyno eich prosiect sydd wedi’i ariannu gan Taith. Mae rhai o’r tudalennau hyn yn cael eu hadeiladu ar hyn o bryd ac rydym yn gwerthfawrogi eich amynedd wrth i ni barhau i adeiladu’r adrannau hyn o’r wefan.
Cadwch olwg ar y tudalennau hyn yn rheolaidd oherwydd bydd dogfennaeth yn cael ei diweddaru’n gyson a dylech eu hystyried yn ddogfennau ‘byw’. Gyda hyn mewn golwg, rydym yn eich cynghori i edrych ar y tudalennau hyn yn rheolaidd yn hytrach na lawrlwytho dogfennau i wneud yn siŵr bod gennych y fersiynau diweddaraf.
Yn ôl yr arfer, mae ein tîm yma i gynnig cymorth ac ateb unrhyw gwestiynau, felly cysylltwch â cefnogaeth@taith.cymru