Cwestiynau Cyffredin Llwybr 2
Gall sefydliadau sy’n derbyn cyllid wneud newidiadau i’w prosiectau drwy gydol ei ddarpariaeth lle maent yn ofynnol. Yn ogystal â newidiadau trosfwaol i brosiectau, megis newid manylion contractau a hyd prosiectau, gellir hefyd wneud ceisiadau i newid manylion sy’n benodol i’r rhaglen gyfnewid, megis cyrchfannau a nifer y cyfranogwyr.
Sylwer: ni ddylai unrhyw ddiwygiadau prosiect newid y nodau a’r amcanion sylfaenol na’r sail ar gyfer dyfarnu cyllid i’r prosiect yn y Cais am Grant.
Mewn rhai achosion, rhaid i Taith gymeradwyo newidiadau cyn iddynt ddod i rym. Mae manylion llawn am reolau newid ceisiadau yn Atodlen 8 o’ch Llythyr Cytundeb Grant. Mae’r ffurflen a’r canllawiau ar gael yn Ardal Aelodau gwefan Taith. Caiff cais i newid ei ystyried os yw’n cyd-fynd â’r cais a gymeradwywyd ac yn bodloni nodau ac amcanion y prosiect o hyd neu’n eu datblygu.
Mae’r holl gostau cynhaliaeth a theithio i gyfranogwyr, yn ogystal â chymorth sefydliadol, yn gyfraniad cost uned, ac yn seiliedig ar hyd y rhaglen gyfnewid a’r wlad dderbyn. Caiff yr uned gost ei thalu yn ei chyfanrwydd ac i’r holl gyfranogwyr (sy’n dod ac yn mynd). Dylai’r sefydliad anfon neu dderbyn lofnodi a dyddio datganiad neu dystysgrif o bresenoldeb ar ddiwrnod olaf y rhaglen gyfnewid, gan gadarnhau enw’r cyfranogwr diben y gweithgaredd a’r dyddiad dechrau a dod i ben a gadarnhawyd.
Ni fydd Taith yn gofyn am gopïau o dderbynebau i ddangos gwariant, lle mae cyfranogiad cost uned wedi’i gymhwyso; rhaid i bob sefydliad wirio eu rheoliadau ariannol perthnasol i wirio a oes angen derbynebau at eu dibenion archwilio eu hunain.
Bydd angen i Taith gymeradwyo Gwariant ar gyfer Teithio Gwyrdd, Costau Eithriadol a Chymorth Cynhwysiant o flaen llaw. Mae’r rhain yn gostau gwirioneddol, y mae’n rhaid eu cefnogi gyda derbyneb ddilys (neu gyfwerth). Heb hyn, ni fydd taliad gan Taith. Bydd angen derbynneb ddilys ar gyfer yr holl wariant awdurdodedig y mae’n rhaid eu cadw am ddeuddeng mlynedd. Ni thelir am unrhyw wariant anawdurdodedig.
Rydym ni’n deall y gall fod yn anodd casglu mathau penodol o dystiolaeth ar gyfer cyllid ychwanegol am sawl rheswm. Mewn amgylchiadau lle na ellir darparu neu gael y dystiolaeth angenrheidiol, byddem ni’n gofyn i sefydliadau ddarparu manylion prosesau mewnol a ddefnyddir i nodi cyfranogwyr o gefndiroedd dan anfantais. Gallai hyn naill ai fod drwy adran les neu dîm gofal bugeiliol sy’n darparu’r cadarnhad angenrheidiol, ond i sefydliadau nad oes ganddynt adrannau arbenigol tebyg, bydd angen tystysgrif arnom gan arweinydd y prosiect Taith, y cyfranogwr a’r rhiant/gofalwr lle bo’n berthnasol.
Gellir cyflwyno cyllid ychwanegol i Taith ar gyfer Teithio Gwyrdd, Costau Ychwanegol a Chymorth Cynhwysiant o leiaf 30 niwrnod cyn cynhaliaeth y symudedd. Mae’r ffurflen gais a’r canllawiau i gyflwyno cais am gyllid ychwanegol ar gael yn Ardal Aelodau gwefan Taith.
Teithio Gwyrdd
At ddibenion Taith, mae “Teithio Gwyrdd” yn cael ei ddiffinio fel teithio lle defnyddir dull trafnidiaeth isel ei allyriadau yn hytrach na hedfan. Er enghraifft, pan fydd teithio ar feic, trên, coets neu rannu ceir ar gyfer y daith yn ei chyfanrwydd. Mae Taith hefyd yn ystyried fferïau fel dull trafnidiaeth uchel ei allyriadau.
Costau Eithriadol
Gall costau eithriadol fod yn un o’r ddwy ganlynol:
- Teithio cost eithriadol yw cost teithio o/i ardal anghysbell (dim ond ar gyfer y rhai hynny sy’n derbyn grant teithio). At ddiben Taith, diffinnir ardal anghysbell fel ardal lle nad oes seilwaith trafnidiaeth sefydledig i gyrraedd neu adael y gyrchfan. Golyga seilwaith trafnidiaeth yr holl brif ffyrdd, ffyrdd, llwybrau beicio, palmentydd, meysydd awyr, rheilffyrdd a chyfleusterau docio, yn ogystal â chyfleusterau trafnidiaeth a thramwy.
- Mae costau eithriadol sy’n gysylltiedig â Covid yn cwmpasu costau sy’n gysylltiedig â Covid, yn benodol lle mae statws y wlad gyrchfan yn newid yn ystod symudedd, gan achosi i’r cyfranogwr fynd i gostau ychwanegol sylweddol oherwydd gofyniad i gwarantîn mewn cyfleuster pwrpasol, cydymffurfio â gofynion profi uwch neu debyg. Dylid cael yswiriant perthnasol ar gyfer pob symudedd, nid bwriad y gost eithriadol hon yw disodli yswiriant covid.
Cymorth Cynhwysiant
Mae hyn ar gyfer yr holl gyfranogwyr ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY), anableddau neu’r rhai hynny o gefndir difreintiedig. Hefyd, mae gwybodaeth am gyllid ychwanegol ar gael yn y Canllaw Rhaglen, Atodlen 2 ac Atodlen 6 eich llythyr Cytundeb Grant.
Diffiniad ADY yw: Fel a ddiffiniwyd gan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (y Ddeddf ADY), Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021 (y Cod ADY)
Diffiniad anabledd yw: ‘Diffiniad person anabl yw rhywun â nam corfforol neu feddyliol sydd ag effaith ‘sylweddol’ a ‘thymor hir’ ar eu gallu i gyflawni gweithgareddau beunyddiol (Deddf Cydraddoldeb 2010)’.
Ar gyfer prosiectau Llwybr 2, gellir gwario’r cyllid ar y gweithgareddau canlynol:
Rheoli a gweithredu prosiect – Cyfraniad ar y costau i’w gwneud hi’n bosib cynnal y gweithgaredd. Gallai hyn gynnwys, heb fod yn gyfyngedig i, logi ystafell gwrdd, lluniaeth, costau hwyluso, cyfieithu ar y pryd i gyfarfodydd, costau gweinyddol, teithio yn y Du a llety etc.
Costau dosbarthu – Cyfraniad at gostau rhannu a dosbarthu allbwn y prosiect ar draws y sector(au) yng Nghymru ac yn rhyngwladol. Mae costau cymwys yn cynnwys, heb fod yn gyfyngedig i, ddigwyddiadau, marchnata, llunio adroddiadau, datblygu adnoddau ar-lein, datblygu llwyfan cyflwyno cais digidol neu ar-lein. Rhaid bod unrhyw weithgareddau/adnoddau a grëir drwy Lwybr 2 Taith fod am ddim i’r holl gyfranogwyr gan aros felly am gyhyd y cânt eu defnyddio/rhannu. Ni ellir datblygu na defnyddio’r adnoddau hyn at ddibenion masnachol.
Costau Cyfieithu – Cyfraniad at gostau cyfieithu sy’n gysylltiedig â llunio a dosbarth allbwn y prosiect. Mae costau cymwys yn cynnwys cyfieithu deunyddiau sy’n gysylltiedig ag allbwn y prosiect, cyfieithu ar y pryd i ddigwyddiadau, sesiynau hyfforddi a seminarau etc.
Nid yw’r rhestrau uchod yn gynhwysfawr, ond nid yw costau staff yn gymwys o dan unrhyw un o’r categorïau uchod. Ni ddylai unrhyw aelod o staff o’r sefydliad ymgeisio dderbyn cyllid Taith ar gyfer rheoli’r prosiect, cynllunio neu reoli unrhyw weithgareddau lledaenu, nac ar gyfer ymgymryd ag unrhyw weithgareddau cyfieithu, oni bai eu bod yn cael eu cyflogi’n benodol i gefnogi gweithgareddau sy’n gysylltiedig â chyllid Taith. Ni ddylid dyrannu mwy na 70% o gyfanswm y gyllideb i’r categorïau uchod.
Costau Staff – Mae hyn yn gyfraniad at y costau staffio sy’n ofynnol i’w gwneud hi’n bosib cynnal y prosiect. Gellir dim ond defnyddio cyllid ar gyfer y categori hwn at ddibenion costau staffio sy’n uniongyrchol gysylltiedig â datblygu, creu a dosbarthu allbwn y prosiect. Bydd cyfranogiad at y gost hon yn uchafswm o 30% o ddyfarniad cyllid y prosiect yn ei gyfanrwydd. Caiff costau staff eu cyfrifo ar gyfradd ddyddiol. Mae manylion y cyfraddau dyddiol fesul categori staff ar gael yn adran 7 y Canllaw Rhaglen Llwybr 2
Ni all costau staff fod yn fwy na 30% o uchafswm y gyllideb y mae sefydliad wedi’i dyfarnu. Dylai’r 70% sy’n weddill gael ei ddyrannu i gostau Rheoli a Gweithredu Prosiectau, Lledaenu a Chyfieithu. Gellir symud costau rhwng y categorïau hyn ond ni ddylent fod yn fwy na’r cap canran.