Ardal derbynwyr grantiau

Rhannwch Eich Stori – Ll2

Rydym yn eich gwahodd i rannu eich stori Taith. Mae eich cyfraniadau yn hanfodol i rannu profiadau trawsnewidiol dysgu rhyngwladol. Trwy ddogfennu’ch taith, byddwch yn arddangos cyflawniadau’ch grŵp ac yn ysbrydoli eraill efallai na fyddent erioed wedi ystyried y gallai’r profiadau hyn fod ar eu cyfer nhw. Mae prosiectau Llwybr 2 yn cefnogi rhannu gwybodaeth, arbenigedd a dysgu cydweithredol rhwng sefydliadau Cymreig a rhyngwladol, i ddatblygu theori ac ymarfer mewn addysg yng Nghymru ac yn rhyngwladol.  Er ei fod yn wych eich gweld chi’n mynd allan a phrofi gwlad/diwylliant newydd (a all gynnwys bwyd, diod, gweithgareddau hwyl, ac ati), mae’n hanfodol eich bod yn cyfleu agwedd dysgu eich profiad ac effaith drawsnewidiol eich prosiect ar sectorau addysgol Cymru.
Wrth ystyried eich stori, meddyliwch am:
  • Effaith addysgol
  • Dysgu ar waith
  • Effaith drawsnewidiol eich prosiect ar y sector(au)
  • Cyfnewid diwylliannol a rhyngweithiadau cymdeithasol
  • Dilysrwydd eich taith sydd bwysicaf i ni

Awgrymiadau fideos a lluniau

Chwilio am awgrymiadau ar gyfer cipio delweddau a fideos o'ch profiad? Darllenwch awgrymiadau fideos a lluniau

Rhannwch Eich Stori

Oes gennych chi stori i'w rhannu â Taith? Cwblhewch y ffurflen hon a byddwn yn cysylltu â chi i drafod.

Adnoddau Cymorth

Os hoffech wybod rhagor am sut rydym yn creu ac yn defnyddio straeon yn Taith cymerwch olwg ar adnoddau cymorth

Unrhyw Gwestiynau? 

Rydym ni yma i helpu! Cysylltwch â ni yn cefnogaeth@taith.cymru