Llwybr 2 2024 yn agor 3 Hydref a bydd y dyddiad cau ar 21 Tachwedd

Cysylltwch

Llawlyfr Gweithredol Taith Llwybr Taith 2 2022

Tudalen Cynnwys 

Mae’r L hwn yn ddogfen ganllaw i Sefydliadau sy’n Derbyn Cyllid Llwybr Taith 2 2022 A wnewch chi sicrhau eich bod chi’n darllen y ddogfen hon mewn cyfuniad â’ch Llythyr Grant Taith, gan gynnwys yr holl atodlenni sy’n gysylltiedig â’r Canllaw Rhaglenni Llwybr 2 Taith. 

Os bydd unrhyw wybodaeth yn y llyfr canllaw hwn yn wahanol o’r llythyr Cytundeb Grant, gan gynnwys yr atodlenni cysylltiedig neu’r Canllaw Rhaglen Llwybr 2, bydd cynnwys y Cytundeb Grant a’i atodlenni’n cymryd blaenoriaeth. Os oes gennych chi ymholiadau neu adborth am gynnwys y llawlyfr hwn, e-bostiwch support@taith.wales 

Adran 

Teitl 

1

Atodlenni Cytundeb Grant a Llofnodi’r Cytundeb 

2

Taliadau Grant  

3

Cyfnod y Gweithgaredd 

4

Cyllideb y Prosiect a Gweithgareddau Grant 

5

Ceisiadau am Gyllid Ychwanegol  

6

Canslo neu darfu ar weithgareddau a gynlluniwyd 

7

Gwneud newidiadau i’ch prosiect 

8

Diogelu 

9

Adrodd 

10

Archwilio a Sicrwydd a Chadw Cofnodion 

11

Cyhoeddusrwydd 

1.0. Atodlenni Cytundebau Grant a Llofnodi'r Cytundeb

Mae gan y llythyr Cytundeb Grant sawl atodlen, a restrir isod. Mae’r rhain yn berthnasol i’r holl brosiectau Llwybr 2 (2022) y dyrannwyd cyllid iddynt ym mis Mawrth 2023. 

Rhif Atodlen 

Teitl 

Diben 

1

Y Broses Amserlenni Taliadau 

Manylion y broses amserlenni taliadau. Mae hyn yn cynnwys esboniad o derminoleg a’r gwahanol benawdau cyllideb pan ddisgwylir gwneud taliadau a dyddiadau adrodd 

2

Gweithgareddau Grant a Phroffil Cyllideb 

Yn pennu’r gweithgareddau grant a gymeradwywyd a’r gyllideb a ddyfarnwyd 

3

Rhagolygon Gwariant, Gweithgareddau Cyfnewid a Thargedau 

Manylion gan sefydliad ar niferoedd cyfranogwyr rhaglenni cyfnewid tuag allan a derbyn, % y cyfranogwyr o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli, arwydd o’r gwledydd dan sylw, a darparu manylion am allbynnau prosiect, gweithgareddau a gynllunnir a digwyddiadau dosbarthu.   

4

Cais am Arian Ychwanegol 

Manylion cyllid ychwanegol sydd ar gael ar gais, gan gynnwys teithio gwyrdd a chymorth cynhwysiant o gyfranogwyr ag anghenion dysgu ychwanegol, anableddau neu sy’n dod o gefndiroedd dan anfantais.   

5

Gofynion Adrodd 

Manylion am y mathau gwahanol o adroddiadau y dylid eu cyflwyno drwy gydol cylch oes y prosiect  

6

Gwariant Cymwys 

Manylion swm y Grant y gellir ei ddefnyddio mewn perthynas â chyflwyno gweithgareddau eich grant, y math o wariant a ganiateir gan Taith yn unol â’ch Cytundeb. 

7

Tystysgrif Flynyddol o Wariant 

I’w chwblhau gan sefydliadau sy’n derbyn cyllid sy’n derbyn dyfarniadau Grant sy’n fwy na £50,000 ochr yn ochr â’r adroddiad terfynol i ddarparu sicrwydd annibynnol bod cronfeydd wedi’u defnyddio at ddiben cyflwyno’r gweithgareddau a gyllidir 

8

Y Broses Newid Prosiect 

Amlinellu’r rheolau ar gyfer newidiadau i’r prosiect. Mae’n cynnig esboniad o’r categorïau cyllideb wahanol ac yn rhoi manylion y newidiadau y gellir eu gwneud i brosiect heb yr angen am gymeradwyaeth gan Taith. 

9

Rheolaeth Ariannol a Datganiad Rheoli 

Cadarnhau bod y rheolaeth ariannol briodol a’r rheoliadau rheoli risg a rheoliadau mewnol ar waith i oruchwylio’r gweithgareddau prosiect y cytunwyd arnynt 

10

Manylion Cyswllt 

Crynodeb o brif gysylltiadau’r prosiect, er enghraifft y person cyswllt blaenllaw a’r Gynrychiolaeth Gyfreithiol 

11

Diogelu 

Manylion cyfrifoldebau’r sefydliadau sy’n derbyn cyllid mewn perthynas â diogelu gan gynnwys amddiffyn plant ac oedolion sy’n agored i niwed ac yswiriant 

12

Eiddo Deallusol 

Yn darparu copi o logo Taith y mae’n rhaid i sefydliadau sy’n derbyn cyllid ei ddefnyddio. 

2.0. Taliadau Grant  

Gwneir yr holl daliadau i sefydliadau mewn punnoedd sterling (GBP) a chânt eu talu i’r manylion cyfrif banc a ddarparwyd eisoes. Bydd angen nodi Taith ar unwaith am unrhyw newidiadau i fanylion banc drwy e-bostio support@taith.wales a chwblhau Ffurflen Cyflenwr Newydd a’i dychwelyd gyda datganiad banc cyfredol. Bydd angen dilysu’r manylion newydd cyn y caiff unrhyw daliadau dilynol eu gwneud.  

Gweler Atodlen 1 – Y Broses Amserlenni Taliadau o’ch Llythyr Cytundeb Grant sy’n rhoi manylion am bryd y disgwylir gwneud taliadau, y gwerth a chanran y taliad Grant. Gall dyddiadau a gwerthoedd talu amrywio gan ddibynnu ar ofynion adrodd a’r gwariant hyd yma ar Wariant Cymwys.    

3.0. Cyfnod y Gweithgaredd

Mae’r holl brosiectau’n dechrau o 1 Mai 2023 ac yn dod i ben ar y dyddiad dod i ben a bennwyd yng nghymal 2.5 y llythyr Cytundeb Grant. Bydd angen i’r Sefydliad ddychwelyd y Llythyr Cytundeb Grant a’r atodlenni cefnogi a bydd yn rhaid i dîm Taith  ei adolygu cyn y gellir gwneud unrhyw cyn-daliad o grant. Sylwer bod y cytundeb hwn yn rhwymo’n gyfreithiol, a bydd unrhyw wariant a wneir cyn ei lofnodi yn gyfrifoldeb y sefydliad sy’n derbyn cyllid. Bydd sefydliadau sy’n derbyn cyllid dim ond yn derbyn cyllid ar gyfer hyd prosiect a gymeradwywyd. Os bydd gweithgaredd terfynol y prosiect yn dod i ben cyn y dyddiad dod i ben yn eich llythyr Cytundeb Grant, dylech hysbysu Taith o fewn un mis o gwblhau gweithgaredd y prosiect fel y gellir anfon eich adroddiad terfynol atoch. Wrth gymeradwyo’r adroddiad terfynol, bydd Taith yn gallu cau’r prosiect yn gynnar a gall y sefydliadau dderbyn taliad terfynol neu ad-dalu unrhyw gyllid heb ei dalu, os yn berthnasol. Am ragor o wybodaeth, gweler yr adranAdrodd‘. 

4.0. Cyllideb y Prosiect a Gweithgareddau Grant

Mae cyllid y grant wedi’i rannu i nifer y categorïau cost, y mae manylion amdanynt isod. Mae esboniad llawn o’r gyllideb a ddyfernir ar gael yn Atodlen 2Gweithgareddau Grant a Phroffil y Gyllideb eich Llythyr Cytundeb Grant. Sylwer bod yn rhaid gwario’r grant at ddiben cyflwyno’r prosiect yn unig. Cyfanswm uchaf y cyllid y gallai sefydliad fod wedi gwneud cais amdano a chael cymeradwyaeth ar ei gyfer drwy alwad Llwybr 2 2022 oedd £75,000. 

 Mae gweithgareddau prosiect cymwys fel a ganlyn:  

  • Costau staff 
  • Rheoli a gweithredu prosiect 
  • Costau dosbarthu 
  • Costau cyfieithu 
  • Rhaglenni cyfnewid  

Mae hyn yn gyfraniad at y costau staffio sy’n ofynnol i’w gwneud hi’n bosib cynnal y prosiect. Gellir dim ond defnyddio cyllid ar gyfer y categori hwn at ddibenion costau staffio sy’n uniongyrchol gysylltiedig â datblygu, creu a dosbarthu allbwn y prosiect. Bydd cyfranogiad at y gost hon yn uchafswm o 30% o ddyfarniad cyllid y prosiect yn ei gyfanrwydd. Caiff costau staff eu cyfrifo ar gyfradd ddyddiol. Mae manylion y cyfraddau dyddiol fesul categori staff ar gael yn adran 7 y Canllaw Rhaglen Llwybr 2 

Cyfraniad ar y costau i’w gwneud hi’n bosib cynnal y gweithgaredd. Gallai hyn gynnwys, heb fod yn gyfyngedig i, logi ystafell gwrdd, lluniaeth, costau hwyluso, cyfieithu ar y pryd i gyfarfodydd, costau gweinyddol, teithio yn y Du a llety etc. Bydd cyfranogiad at y gost hon yn uchafswm o 25% o ddyfarniad cyllid y prosiect yn ei gyfanrwydd. Nid yw costau staff yn gymwys dan y gweithgaredd hwn. 

Cyfraniad at gostau rhannu a dosbarthu allbwn y prosiect ar draws y sector(au) yng Nghymru ac yn rhyngwladol. Mae costau cymwys yn cynnwys, heb fod yn gyfyngedig i, ddigwyddiadau, marchnata, llunio adroddiadau, datblygu adnoddau ar-lein, datblygu llwyfan cyflwyno cais digidol neu ar-lein.  

Rhaid bod unrhyw weithgareddau/adnoddau a grëir drwy Lwybr 2 Taith fod am ddim i’r holl gyfranogwyr gan aros felly am gyhyd y cânt eu defnyddio/rhannu. Ni ellir datblygu na defnyddio’r adnoddau hyn at ddibenion masnachol. Bydd cyfranogiad at y gost hon yn uchafswm o 35% o ddyfarniad cyllid y prosiect yn ei gyfanrwydd.  Nid yw costau staff yn gymwys dan y gweithgaredd hwn. 

Cyfraniad at gostau cyfieithu sy’n gysylltiedig â llunio a dosbarth allbwn y prosiect. Mae costau cymwys yn cynnwys cyfieithu deunyddiau sy’n gysylltiedig ag allbwn y prosiect, cyfieithu ar y pryd i ddigwyddiadau, sesiynau hyfforddi a seminarau etc. Bydd cyfranogiad at y gost hon yn uchafswm o 10% o ddyfarniad cyllid y prosiect yn ei gyfanrwydd. Nid yw costau staff yn gymwys dan y gweithgaredd hwn. 

Nid oes terfyn i ganran y cyllid y gellir ei defnyddio at ddibenion rhaglenni cyfnewid, ar yr amod bod y rhain yn hwyluso datblygiad a chwblhad allbwn y prosiect yn glir. Mae staff a dysgwyr yn gymwys am deithio rhyngwladol. Mae enghreifftiau’n cynnwys aelod o staff sy’n teithio i sefydliad partner dramor i ddysgu, datblygu dealltwriaeth, gweithio’n gydweithredol ac yn y blaen.  

Mae rhaglenni cyfnewid i ddysgwyr yn bosib lle mae rhesymeg glir dros eu cynnwys mewn datblygiad allbwn prosiect, naill ai fel cyd-grewyr neu i brofi/gwreiddio allbwn y prosiect. Mae rhaglenni cyfnewid dysgwyr cymwys yn cynnwys rhaglenni cyfnewid grŵp yn unig. Nid yw rhaglenni cyfnewid dysgwyr unigol yn gymwys 

Mae gwariant cymwys i gyfranogwyr sy’n cymryd rhan mewn rhaglenni cyfnewid fel a ganlyn:  

Staff 

  • Grant at ddibenion cynhaliaeth 
  • Grant teithio, gan gynnwys ‘taliad ychwanegol gwyrdd’ ar gyfer opsiynau teithio gwyrddach. Bydd costau eithriadol ar gyfer teithio i/oddi ardal anghysbell hefyd yn cael eu hystyried 

Mae rhagor o wybodaeth am gyllid ychwanegol ar gyfer costau cynhwysiant a chyfranogwyr dan anfantais ar gael yn adran 5. 

Dysgwyr 

  • Grant at ddibenion cynhaliaeth 
  • Grant teithio, sy’n dibynnu ar bellter, gan gynnwys ‘taliad ychwanegol gwyrdd’ am opsiynau teithio gwyrddach Caiff costau eithriadol teithio o/i ardal anghysbell eu hystyried hefyd 

Mae rhagor o wybodaeth am gyllid ychwanegol ar gyfer costau cynhwysiant a chyfranogwyr dan anfantais ar gael yn adran 5. 

Cynhaliaeth 

Mae’r grant hwn (wedi’i gyfrifol fel cyfraniad uned gost) yn seiliedig ar hyd y rhaglen gyfnewid gorfforol a’r wlad dderbyn. Mae’r cyfraddau wedi’u grwpio i’r tri chategori canlynol: Grŵp 1 (cost byw uwch), Grŵp 2 (cost byw gymedrol) a Grŵp 3 (cost byw is). At ddibenion rhaglenni cyfnewid cyfunol, caiff grant ei greu’n unig am hyd a chyrchfan yr agwedd gorfforol ar y rhaglen – mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y Canllaw Rhaglen perthnasol. Caiff y gost uned ei thalu yn ei chyfanrwydd gan Taith i’r sefydliadau sy’n derbyn cyllid. Rhaid i bob cyfranogwr dderbyn yr hyn mae’n gymwys ar ei gyfer yn ariannol yn llawn, naill ai drwy daliad uniongyrchol gan y sefydliad sy’n derbyn cyllid neu daliadau ar eu rhan. Rhaid i bob sefydliad sy’n derbyn cyllid wirio eu rheoliadau ariannol eu hunain mewn perthynas â’r angen i gael derbynebau at ddibenion archwilio mewnol.   

Teithio  

Mae’r cyllid hwn tuag at y gost uniongyrchol o deithio rhyngwladol ac mae’n dibynnu ar y pellter rhwng y sefydliadau anfon a derbyn. Mae hwn yn gyfranogiad cost uned tuag at gost taith ddwy ffordd. Bydd swm grant teithio uwch ar gael i gyfranogwyr sy’n defnyddio opsiynau ‘Teithio Gwyrdd’ sy’n gynaliadwy’n amgylcheddol. Gweler Atodlen 4 y Llythyr Cytundeb Grant am ragor o wybodaeth am sut i hawlio’r taliad ychwanegol ‘Teithio Gwyrdd’.  Caiff y gost uned ei thalu yn ei chyfanrwydd. Rhaid i bob sefydliad sy’n derbyn cyllid wirio eu rheoliadau ariannol eu hunain mewn perthynas â’r angen i gael derbynebau at ddibenion archwilio mewnol.   

Bydd yr holl gyfranogwyr yn derbyn grant teithio. Bydd y swm yn dibynnu ar y pellter sy’n cael ei deithio hyd at 12,000km. Gweler Atodlen – Gwariant Cymwys am y Llythyr Cytundeb Grant am bellteroedd a symiau grantiau.  

Mae Atodlen 4  y cyfeirio at gyllid ychwanegol sydd ar gael.  Gall cyfranogwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) ac anableddau dderbyn hyd at 100% o’ costau cysylltiedig cymwys.  

Detholiad o gyfranogwyr 

Chi, sef sefydliad sy’n derbyn cyllid, sy’n gyfrifol am ddewis cyfranogwyr ar gyfer rhaglenni cyfnewid. Rhaid bod y broses ddethol yn dryloyw, yn drefnus, yn deg ac wedi’i dogfennu. Rhaid i broffil y cyfranogwyr gyd-fynd â’r meini prawf cymhwysedd a amlinellwyd yng Nghanllaw Rhaglen Taith. Ni ddylid codi ffioedd na blaendal i sicrhau lle ar raglenni cyfnewid, boed yn ad-daladwy ai peidio. 

Talu cyllid i gyfranogwyr 

Dylid dim ond gwneud taliadau pan fydd cyfranogwr yn debygol o angen cronfeydd. Dylai sefydliadau sy’n anfon cyfranogwyr gyflwyno cais am eu prosesau talu’n gyson drwy gydol oed y prosiect.  

Os bydd gofyn, mae cyllid ar gyfer cyfranogwyr sy’n cael eu derbyn wedi’i gyfrifo’n awtomatig drwy offeryn cyfrifol grant ac wedi’i gynnwys yn y cwm cyffredinol mae’r sefydliad wedi gwneud cais amdano. 

5.0. Ceisiadau am Gyllid Ychwanegol

Gellir cyflwyno cyllid ychwanegol i Taith ar gyfer Teithio Gwyrdd, Costau Ychwanegol a Chymorth Cynhwysiant. Dylid cyflwyno ceisiadau o leiaf 30 niwrnod cyn cynhaliaeth gweithgaredd y prosiect ac maent yn amodol ar gymeradwyaeth Taith. Dylai’r holl geisiadau am gyllid ychwanegol gynnig gwerth am arian a dylid bod yn gysylltiedig â’r cyfranogwr unigol sy’n cyflwyno cais am y cyllid ychwanegol. Er enghraifft: 

Mae pedwar cyfranogwr yn cynllunio teithio o Gaerdydd i Fryste; mae nifer o opsiynau wedi cael eu hystyried, a phenderfynir bod bws cyhoeddus yn cynnig y gwerth gorau am arian. Y cyfanswm a delir gan y sefydliad ar gyfer y pedwar cyfranogwr yw £100, neu £25 y pen; ystyrir bod un o’r cyfranogwyr hyn i fod dan anfantais, felly mae’r sefydliad yn cyflwyno cais i Taith am gyllid ychwanegol i bris tocyn bws y cyfranogwr. 

I gyflwyno cais, cwblhewch y ffurflen Cais am Gyllid Ychwanegol Llwybr 2 – mae dolen a chanllawiau cefnogi ar gael yn Ardal Aelodau sydd wedi derbyn cyllid ar wefan Taith. Mae Atodlen 4 – Cais am Gyllid Ychwanegol i’r Llythyr Cytundeb Grant yn cyfeirio at yr holl gyllid ychwanegol sydd ar gael. 

Teithio Gwyrdd   

At ddibenion Taith a’r Cytundeb hwn, mae “Teithio Gwyrdd” yn cael ei ddeall fel teithio lle defnyddir dull trafnidiaeth isel ei allyriadau yn hytrach na hedfan. Er enghraifft, pan fydd teithio ar feic, trên, coets neu rannu ceir ar gyfer y daith yn ei chyfanrwydd. Mae Taith hefyd yn ystyried fferïau fel dull trafnidiaeth uchel ei allyriadau.  

Caiff cyfraddau teithio eu cyfrifo’n awtomatig yn seiliedig ar y pellter a deithir fel a amlinellwyd yn Nhabl 1isod. 

Tabl 1 


Teithio / Teithio Gwyrdd Pellter (Km) 

Cyfraddau Teithio Safonol 

Cyfraddau Teithio Gwyrdd 

10-99km  

20

Dd/B 

100-499km  

150

180  

500-1999km  

230

270  

2000-2999km

300 

350  

3000-3999km  

450

520  

4000-7999km

700  

Dd/B 

8000-12000km  

1200  

Dd/B 

12000km +  

1400  

Dd/B 

Costau Eithriadol  

Mae costau eithriadol yn cwympo i dri chategori, fel a amlinellir isod. 

a. Teithio Eithriadol o Ddrud – i/o ardalanghysbell 

Cyfraniad at gost teithio i/o ardal anghysbell (dim ond i’r bobl hynny sy’n gymwys i dderbyn grant teithio). Caiff Teithio Eithriadol o Ddrud ei ddiffinio fel teithio i/o ardal lle nad oes seilwaith trafnidiaeth sefydledig i gyrraedd neu adael cyrchfan.  Mae seilwaith trafnidiaeth yn golygu’r holl brif ffyrdd, ffyrdd, llwybrau beicio, palmentydd, meysydd awyr, rheilffyrdd a chyfleusterau docio, yn ogystal â thrafnidiaeth a chyfleusterau cludiant. Mewn perthynas â theithio eithriadol o ddrud o/i ardal anghysbell, gall yr holl gyfranogwyr fod yn gymwys am daliad ychwanegol. 

Gall cyfranogwyr o gefndiroedd difreintiedig dderbyn hyd at 100% o’r costau cymwys gwirioneddol. Gall yr holl gyfranogwyr dderbyn hyd at 80% o’r gost wirioneddol (os nad yw’r swm gwreiddiol yn cynnwys o leiaf 70%). 

 b. Teithio i Ganolfan Drafnidiaeth yn y DU – cyfranogwyr sy’n ddysgwyr yn unig 

Cyfraniad at gost teithio i ganolfan drafnidiaeth yn y DU fel rhan o raglen gyfnewid ryngwladol. Mae canolfan drafnidiaeth yn y DU yn cael ei diffinio gan Taith fel man ymadael lle mae’r unigolyn ar raglen gyfnewid yn gadael i’w gyrchfan ryngwladol. Er enghraifft, maes awyr, gorsaf drenau, porthladd neu orsaf fysiau. Mae enghreifftiau o ddulliau teithio cymwys yn cynnwys, heb fod yn gyfyngedig i, drenau, bysiau a llongau. Yn achos teithiau ar drên, gall cyfranogwyr hawlio am gost wirioneddol y tocyn trên yn ogystal â cherdyn rheilffyrdd, ar yr amod bod cyfanswm y gost y ddau yn is na chost wreiddiol y tocyn trên yn unig. Disgwylir i gyfranogwyr rhwng 16 a 21 oed sy’n teithio ar fws ddefnyddio Fy Ngherdyn Teithio. Y gyfradd am gyfraniad at betrol yw £0.45 y filltir. 

Mae’r cyfraddau hyd at £500 fesul grŵp rhaglen gyfnewid, hyd at uchafswm o £1,200 fesul prosiect, yn seiliedig ar gostau gwirioneddol. 

c. Costau Eithriadolsy’n Ymwneud  â Covid 

Gellir hawlio’r costau ychwanegol hyn mewn achosion lle mae statws y wlad gyrchfan yn newid yn ystod rhaglen gyfnewid, gan achosi i’r cyfranogwr fynd i gostau ychwanegol sylweddol oherwydd gofyniad i gwarantîn mewn cyfleuster pwrpasol, cydymffurfio â gofynion profi uwch neu debyg. Dylid cael yswiriant perthnasol, gan gynnwys yswiriant teithio, ar gyfer pob rhaglen gyfnewid, nid bwriad y gost eithriadol hon yw disodli yswiriant covid.  

Cymorth Cynhwysiant 

Mae hyn ar gyfer yr holl gyfranogwyr ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY), anableddau neu’r rhai hynny o gefndir difreintiedig. Hefyd, gellir darllen gwybodaeth am gyllid ychwanegol yn y Canllaw i’r Rhaglen, ac Atodlen 4 – Cais am Gyllid Ychwanegol ac Atodlen 6 – Gwariant Cymwys 

Gall cyfranogwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) a/neu anableddau dderbyn hyd at 100% o’ costau cysylltiedig cymwys. Gellir talu hyn i gyfranogwyr sy’n staff ac sy’n ddysgwyr. Caiff cyllid ei ddal yn ganolog gan Taith ar y cam dyfarnu grant at y diben hwn. 

Diffiniad ADY yw: Fel a ddiffiniwyd gan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (y Ddeddf ADY), Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021 (y Cod ADY)  

Ffiniad anabledd yw: Diffiniad person anabl yw rhywun â nam corfforol neu feddyliol sydd ag effaith ‘sylweddol’ a ‘thymor hir’ ar eu gallu i gyflawni gweithgareddau beunyddiol (Deddf Cydraddoldeb 2010)’.  

Gall cyfranogwyr o gefndiroedd difreintiedig dderbyn hyd at 100% o’r costau gwirioneddol am gostau sy’n gysylltiedig â theithio ychwanegol cymwys e.e., fisâu, pasbortau, yswiriant teithio, bagiau (lle bo’n ofynnol). Gellir talu hyn i gyfranogwyr sy’n staff ac sy’n ddysgwyr. 

Gweler y tabl isod, sy’n amlinellu meini prawf cymhwysedd Cyfranogwyr Dan Anfantais i gyfranogwyr sy’n staff ac yn ddysgwyr sy’n dymuno hawlio cyllid ychwanegol. <table to be inserted once staff criteria has been agreed> 

Am ragor o wybodaeth am gyllid ychwanegol, e-bostiwch ni yn support@taith.wales 

Cyllideb Rhaglen Gyfnewid sy’n Derbyn  

Ar Lwybr 2, gallwch chi ddyfarnu hyd at, a chan gynnwys, 50% o’ch cyllid rhaglen gyfnewid tuag at raglenni cyfnewid sy’n derbyn cyfranogwyr. Rhaid bod rhesymeg glir am yr holl raglenni cyfnewid a gynhelir ac ni all rhaglenni cyfnewid fynd dros gyfanswm nifer y rhaglenni cyfnewid sy’n derbyn. 

Costau Cyfatebol 

Ar Lwybr 2, gallwch chi ddyrannu hyd at, a chan gynnwys, 30% o’ch cyllid at gostau Staff a chostau Rheoli a Gweithredu Prosiect i’ch partner rhyngwladol.  

7.0. Gwneud newidiadau i'ch prosiect

Gallwch wneud newidiadau i’ch prosiect drwy gydol ei ddarpariaeth lle maent yn ofynnol. Ni ddylai unrhyw ddiwygiadau prosiect newid y nodau a’r amcanion sylfaenol na’r sail ar gyfer dyfarnu cyllid i’r prosiect yn y Cais am Grant.  

Dylid gofyn am newidiadau lle mae angen cymeradwyaeth gan Taith drwy’r ffurflen gais newidiadau i brosiect yn ardal aelodau’r wefan (mae hyn yn cynnwys newidiadau sy’n ofynnol oherwydd achosion Force Majeure). Cwblhewch y ffurflen gais am newidiadau o leiaf 30 niwrnod cyn dechrau’r rhaglen neu’r gweithgaredd prosiect a gynlluniwyd; ar gyfer digwyddiadau anrhagweladwy megis dychwelyd yn gynnar, hyd byr a Force Majeure, gofynnir i chi ein hysbysu ni cyn gynted ag y byddwch chi’n ymwybodol o’r newid.  

Newidiadau lle mae angen cymeradwyaeth Taith 

Newid cynrychiolydd cyfreithiol neu berson cyswllt 

Yn ystod hyd oes y prosiect, gellir newid y cynrychiolydd cyfreithiol neu’r person/pobl gyswllt. I wneud hyn, cwblhewch y ffurflen newid prosiect cyn gynted ag y byddwch chi’n ymwybodol o newid. Er mwyn newid cynrychiolydd cyfreithiol, rhaid i chi hefyd anfon hysbysiad ffurfiol (ar ffurf dogfen PDF) o ffynhonnell awdurdodedig/a ddilyswyd ar bapur swyddogol i gadarnhau bod gan y llofnodwr newydd yr awdurdod i lofnodi dogfennau cyfreithiol ar ran y sefydliad.   

Newidiadau consortiwm  

Os ydych chi’n dymuno ychwanegu partner newydd i gonsortiwm sydd eisoes yn bodoli neu newid y partner consortiwm a enwyd yn wreiddiol ar eich ffurflen gais, bydd angen i ni gymeradwyo’r newid hwn. Byddwn ni’n asesu goblygiadau’r newid i’r consortiwm, yn gwirio bod yr holl feini prawf cymhwysedd wedi’u bodloni ac nad oes effaith ar gwmpas ac ansawdd cyffredinol y consortiwm cyn cadarnhau ein penderfyniad. Cwblhewch y ffurflen gais i newid prosiect cyn gynted ag y byddwch chi’n ymwybodol o newid.  

Hyd y prosiect 

Os bydd angen i chi leihau neu estyn hyd gwreiddiol y prosiect, dywedwch wrth Taith o leiaf 60 mlynedd cyn dyddiad dod i ben y prosiect.  

Newidiadau i’r Partner Rhyngwladol, y gyrchfan wreiddiol, neu gynnwys cyrchfan arall mewn rhaglen gyfnewid 

Os ydych chi’n dymuno gofyn am newid i’r Partner Rhyngwladol gwreiddiol roeddech chi’n cynllunio gweithio gydag ef ar eich prosiect Llwybr 2, cyflwynwch hwn i Taith o leiaf 30 niwrnod cyn i unrhyw weithgaredd cynlluniedig gael ei gynnal. Os bydd newid yn y Partner Rhyngwladol yn arwain at newid i’r gyrchfan wreiddiol a nodwyd ar eich cais a gymeradwywyd, dylech chi gynnwys hwn yn eich cais i wneud newid i’r prosiect. Os nad yw eich Partner Rhyngwladol wedi newid, ond hoffech chi newid y gyrchfan, neu gynnwys cyrchfan arall yn eich rhaglen gyfnewid gynlluniedig, cyflwynwch gais i Taith o leiaf 30 niwrnod cyn cynnal unrhyw weithgaredd a gynlluniwyd. 

Rhaid cydymffurfio ag unrhyw gyngor teithio gan Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu (FCDO) llywodraeth y DU. Ni fydd Taith yn cyllido teithio i wledydd/rhanbarthau lle mae’r FCDO yn cynghori yn erbyn teithio tramor. Pan fydd amgylchiadau’n newid mewn gwlad lle mae Sefydliadau sy’n Derbyn Cyllid yn cynllunio rhaglen gyfnewid, gan arwain at gyngor gan y FCDO yn erbyn teithio rhyngwladol, rhaid i’r Sefydliad sy’n Derbyn Cyllid wneud trefniadau amgen, megis aildrefnu’r rhaglen gyfnewid i wlad gyrchfan wahanol. Cyn gwneud unrhyw addasiadau, dylai Sefydliadau sy’n Derbyn Cyllid gysylltu â Taith i drafod/dod i gytundeb.  

Rhaid parhau i fodloni nodau, amcanion ac allbynnau gwreiddiol y prosiect, neu ragori arnynt, gyda’r Partner Rhyngwladol newydd, neu yn y gyrchfan newydd. Os ydych chi’n cynllunio cynnwys ail gyrchfan mewn gweithgaredd rhaglen gyfnewid, rhaid parhau i fodloni hyd sylfaenol y rhaglen gyfnewid mewn un o’r cyrchfannau, yn unol â Thabl 1 Isod. 

Tabl 1 


Math o raglen gyfnewid/gweithgaredd 

Ysgolio 

Ieuenctid 

Addysg i Oedolion 

AB a VET 

Rhaglenni cyfnewid grŵp o ddysgwyr 

3 diwrnod – 1 mis (28 diwrnod) 

3 diwrnod – 1 mis (28 diwrnod) 

3 diwrnod – 1 mis (28 diwrnod) 

3 diwrnod – 1 mis (28 diwrnod) 

Rhaglenni gyfnewid i staff 

2 ddiwrnod – 1 mis (28 diwrnod) 

2 ddiwrnod – 1 mis (28 diwrnod) 

2 ddiwrnod – 1 mis (28 diwrnod) 

2 ddiwrnod – 1 mis (28 diwrnod) 

Dychwelyd yn gynnar 

Os bydd cyfranogwr yn dychwelyd yn gynnar o raglen gyfnewid ond yn bodloni’r gofyniad hyd sylfaenol, dylech chi adrodd y newid hwn i Taith. Gall cyllid dim ond cynnwys hyd gwirioneddol y rhaglen gyfnewid a dylid ad-dalu unrhyw ordaliad, ac eithrio dan yr amgylchiadau penodol a amlinellwyd isod. Gweler yr adran ‘Ad-daliadau’ am ragor o wybodaeth. 

Hyd byr  

Mae cais hyd byr yn berthnasol i gyfranogwyr nad ydynt yn bodloni’r hyd sylfaenol sy’n ofynnol ar gyfer eu harhosiad, oherwydd force majeure. Os caiff cais hyd byr ei gymeradwyo, bydd y Sefydliad sy’n Derbyn Cyllid yn derbyn swm y grant ar gyfer hyd gwirioneddol y rhaglen gyfnewid. Os bydd cais hyd byr yn cael ei wrthod, rhaid i chi ddileu cofnod y rhaglen gyfnewid a dychwelyd y grant i’r prosiect drwy gyflwyno cais am y gwahaniaeth gan y cyfranogwr.  

Canslo cyn gadael 

Os caiff rhaglen gyfnewid ei chanslo cyn dechrau oherwydd force majeure, bydd Taith yn talu’r costau gwirioneddol a godwyd hyd at swm y grant y cytunwyd arno’n wreiddiol, mewn achosion a gymeradwywyd. Yn gyntaf, bydd yn rhaid i’r Sefydliadau sy’n Derbyn Cyllid hawlio’r costau hyn yn erbyn eu polisi yswiriant (gweler Atodlen 8 – Y Broses Newid Prosiect  eich Llythyr Cytundeb Grant am fanylion). Byddai’n rhaid i fanylion yr unigolyn gael eu nodi yn yr adroddiad misol, ac eithrio dyddiadau, gyda thestun cryno yn yr adran sylwadau sy’n esbonio na wnaeth y rhaglen gyfnewid gael ei chynnal. Bydd yn rhaid cyflwyno cais am unrhyw gostau nad yw premiwm yr yswiriant wedi’u talu yn unol â’r broses cyflwyno cais am gyllid ychwanegol. 

Newid i allbwn prosiect 

Ffocws Llwybr 2 yw creu allbynnau prosiect diriaethol, a gynlluniwyd yn dda sy’n fesuradwy, sydd o werth i sefydliadau eraill a/neu’r sector(au) ar draws Cymru. Rhaid trafod unrhyw newidiadau i’r prosiect gwreiddiol y mae’r cais wedi’i gymeradwyo ar eu cyfer â Taith cyn i unrhyw newidiadau ddod i rym 

Newid gweithgareddau lledaenu a gynlluniwyd 

Agwedd allweddol ar Lwybr 2 yw’r gofyniad i allbynnau prosiect gael eu rhannu a’u lledaenu. Bydd yn rhaid i sefydliadau sy’n cyflwyno cais ddangos yn glir sut maent yn bwriadu rhannu canlyniadau eu prosiect, ac â phwy. Rhaid i’r gweithgaredd lledaenu fod yn briodol ac yn hygyrch i’r sector(au), ac yn berthnasol i fformat a bwriad allbwn y prosiect. Rhaid trafod unrhyw newidiadau i’r prosiect gwreiddiol y mae’r cais wedi’i gymeradwyo ar eu cyfer â Taith cyn i unrhyw newidiadau ddod i rym 

Newidiadau i brosiectau a chyfranogwyr a throsglwyddo cyllidebau 

Rhaid i Taith gymeradwyo unrhyw newidiadau neu drosglwyddiadau rhwng y categorïau o weithgareddau hyn, sy’n 10% neu’n fwy o’r gyllideb wreiddiol a gymeradwywyd: 

  • Niferoedd staff ar raglenni cyfnewid 
  • Niferoedd grŵp o ddysgwyr
  • Nifer y bobl gysylltiedig
  • Dyddiau rhaglen gyfnewid
  • Costau staff
  • Categorïau gweithgaredd prosiect e.e., Rheoli a Gweithredu Prosiect, Lledaenu a Chyfieithu 

Ni all costau staff fod yn fwy na 30% o gyfanswm y gyllideb a gymeradwywyd. Ni all categorïau gweithgaredd prosiect fod yn fwy na 70% o gyfanswm y gyllideb a gymeradwywyd. 

Ar gyfer unrhyw newidiadau lle mae angen cymeradwyaeth Taith, cwblhewch y Ffurflen Gais am Newid Llwybr 3 o leiaf 30 niwrnod calendr cyn i unrhyw newid ddod i rym, y mae dolen iddi ar ardal Aelodau sy’n Derbyn Cyllid ar wefan Taith. Mae canllawiau ar sut i gwblhau’r ffurflen hefyd ar gael yma. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu os hoffech chi gymorth wrth gwblhau’r ffurflen, e-bostiwch support@taith.wales 

Gweler Atodlen 8 – Y Broses Newid Prosiect eich Llythyr Cytundeb Grant am ragor o wybodaeth am drosglwyddiadau cyllideb. 

Newidiadau nad oes angen cymeradwyaeth Taith arnynt  

Rhaid diweddaru’r rhain ar yr adroddiadau perthnasol cyn gynted ag y byddant yn hysbys.  

Newidiadau hyd at 10% o’r canlynol yn seiliedig ar y gyllideb gymeradwy wreiddiol:  

  • Niferoedd staff ar raglenni cyfnewid 
  • Niferoedd grŵp o ddysgwyr 
  • Nifer y bobl gysylltiedig 
  • Dyddiau rhaglen gyfnewid 
  • Costau staff
  • Categorïau gweithgaredd prosiect e.e., Rheoli a Gweithredu Prosiect, Lledaenu a Chyfieithu
  • Tanwariant ar gostau uned fesul cyfranogwr, fesul rhaglen gyfnewid h.y. cyfraniad costau teithio a chynhaliaeth. Er enghraifft, os ydych yn tanwario ar y naill neu’r llall o’r ddau gategori hyn gallwch ei ddefnyddio i ychwanegu at y llall os oes angen, neu ar gyfer gwariant cysylltiedig arall i alluogi’r rhaglen gyfnewid i ddigwydd.  

Fel uchod, ni all costau staff fod yn fwy na 30% o gyfanswm y gyllideb a gymeradwywyd.  Ni all categorïau gweithgaredd prosiect fod yn fwy na 70% o gyfanswm y gyllideb a gymeradwywyd. 

Mae Taith yn cadw’r hawl i gynyddu neu leihau’r trothwy can 10% os oes rheswm gweithredol i wneud hynny a bydd yn cyfathrebu unrhyw newidiadau i’r Sefydliadau sy’n Derbyn Cyllid yn brydlon.    

Enghreifftiau o newidiadau i brosiectau  

Newidiadau i gategorïau gweithgaredd prosiect 

Enghreifftiau o newidiadau sy’n bosib heb ein cymeradwyaeth 

Senario:  Bydd tanwariant o ran y gyllideb ar gyfer costau cyfieithu y gellid ei drosglwyddo i dalu costau ychwanegol mewn gweithgaredd rhaeadru.   

Newid y mae ei angen: Symud £500 o’r gyllideb ar gyfer cyfieithu i’r gyllideb raeadru.  

Canlyniad: Mae’r newid hwn yn bosib heb ein cymeradwyaeth, oherwydd nad yw’r cyfanswm y swm yn cael ei symud o Gyfieithu i Raeadru yn fwy na 10% o’r gyllideb a ddyrannwyd yn wreiddiol ar gyfer Cyfieithu (£5,000) ac nad yw’r gyllideb uwch newydd ar gyfer Rhaeadru yn fwy na 35% o ddyfarniad cyllid cyffredinol y prosiect chwaith. 

Enghraifft o newidiadau lle mae angen ein cymeradwyaeth  

Senario:  Mae angen tanwariant yn y gyllideb Raeadru i dalu am gostau cyfieithu anrhagweladwy, gan fynd â’r costau cyfieithu yn uwch na’r cap 10% a ddyrannwyd 

Y newid mae ei angen:  Symud £600 o Raeadru i Gyfieithu, sy’n arwain at gostau Cyfieithu o 12% o’r gyllideb gyffredinol yn lle’r 10% y cytunwyd arno. 

 Canlyniad:  Byddai angen cymeradwyaeth gan Taith ar gyfer y newid hwn, oherwydd bod hyn uwchben y terfyn cyllidebol ar gyfer Cyfieithu. Mewn achosion lle byddai allbwn y prosiect yn cael ei beryglu heb drosglwyddo’r cyllidebau a mynd dros y terfyn cyllidebol wedi hynny, gall Taith ddefnyddio ei ddisgresiwn i ganiatáu’r trosglwyddiad hwn. Gellir dim ond ymwneud â cheisiadau o’r natur hon fesul achos. 

Newidiadau i weithgareddau cyfnewid  

Enghreifftiau o newidiadau sy’n bosib heb ein cymeradwyaeth 

Senario: Mae rhaglen gyfnewid i grŵp o ddysgwyr i Ffrainc gydag 20 o gyfranogwyr 

Y newid mae ei angen: mae 1 cyfranogwr yn tynnu’n ôl, heb fod rhywun i gymryd ei le yn dod i’r amlwg 

Canlyniad: Mae’r newid hwn yn bosib heb ein cymeradwyaeth, oherwydd bod cyfanswm nifer y cyfranogwyr ar gyfer y gweithgaredd hwn wedi’i leihau gan lai na 10% o nifer wreiddiol y cyfranogwyr. 

Enghraifft o newidiadau lle mae angen ein cymeradwyaeth 

Senario: Mae prosiect sydd â phartner yn Tsieina yn cynnwys rhaglen gyfnewid i grŵp o ddysgwyr gyda phum cyfranogwr, a rhaglen gyfnewid i staff gyda thri chyfranogwr. 

Y newid mae ei angen: nid yw un cyfranogwr yn gallu mynd ar y rhaglen gyfnewid i’r grŵp o ddysgwyr ac mae’r Sefydliad sy’n Derbyn Cyllid am anfon aelod ychwanegol o staff ar y rhaglen gyfnewid yn lle’r cyfranogwr hwn. 

Canlyniad: Byddai angen cymeradwyaeth ar gyfer y newid hwn, oherwydd bod cyfanswm nifer y cyfranogwyr ar gyfer pob gweithgaredd wedi’i leihau gan fwy na 10% o nifer wreiddiol y cyfranogwyr. 

8.0. Diogelu

Yn unol ag Atodlen 11 – Diogelu y Llythyr Cytundeb Grant, bydd yr holl Sefydliadau sy’n Derbyn Cyllid wedi cwblhau rhestr wirio Diogelu fel rhan o dderbyn y cyllid yn ffurfiol. Mae’r rhestr wirio yn nodi’r gofynion mae’n rhaid cydymffurfio â nhw wrth weithio’n uniongyrchol gyda’r cyfranogwyr sydd dan 18 oed a/neu oedolion sy’n agored i niwed, neu wrth ddarparu gwaith sydd ag effaith ar gyfranogwyr sydd dan 18 oed a/neu oedolion sy’n agored i niwed.   

Mae gan yr holl Sefydliadau sy’n Derbyn Cyllid gyfrifoldeb i ddiogelu lles cyfranogwyr dan 18 oed neu sy’n oedolion sy’n agored i niwed (fel y diffiniwyd o dan Ran 7 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014), yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol a’r canllawiau sy’n dod gyda hi.  

Gall Gweithdrefnau Diogelu Cymru helpu’r Sefydliadau sy’n Derbyn Cyllid i ddeall y dyletswyddau a amlinellwyd yn y ddeddfwriaeth hon a’i chanllawiau, a’u rhoi ar waith. 

Mae gan yr holl leoliadau addysg yng Nghymru ddyletswydd gyfreithiol i sicrhau bod gan blant fynediad at amgylchedd dysgu diogel. Mae’n bwysig bod lleoliadau addysg yn glir am sut maent yn parhau i fodloni eu dyletswyddau statudol ar gyfer diogelu plant a phobl ifanc wrth wneud trefniadau ar gyfer ymweliadau cyfnewid dramor, fel a amlinellwyd yn y canllawiau statudol Cadw Dysgwyr yn Ddiogel. 

Yn ogystal, rhaid i’r holl Sefydliadau sy’n Derbyn Cyllid ystyried y ddeddfwriaeth berthnasol sy’n ymwneud â diogelu yn y wlad/tiriogaeth y maent yn anfon cyfranogwyr iddynt a, lle bo’n briodol, cynnwys hyn yn eu prosesau/gweithdrefnau.  

Mae’n ofynnol i’r holl Sefydliadau sy’n Derbyn Cyllid a Chyfranogwyr Consortiwm (os yn berthnasol) sy’n cymryd rhan yn y rhaglen Taith gael y canlynol ar waith: 

  • Polisi diogelu wedi’i ddiweddaru a pholisïau priodol eraill, e.e. polisi diogelu plant, polisi cwynion, polisi chwythu’r chwiban, gwrth-aflonyddu a pholisi bwlio, polisi diogelu data 
  • Gweithdrefnau recriwtio diogel 
  • Cofnodion hyfforddi diweddar 
  • Cod ymddygiad i gyfranogwyr 
  • Cod ymddygiad i staff a gwirfoddolwyr
  • Dull clir ar gyfer adrodd am unrhyw bryderon diogelu
  • Dull clir ar gyfer cynnal gwiriadau addas ar deuluoedd cynnal a gweithdrefnau priodol ar waith ar gyfer ymweliadau a chynllunio (lle bo’n berthnasol)
  • Unigolyn dynodedig sy’n ddeiliad swydd uwch yn y sefydliad ac sydd â chyfrifoldeb am ddiogelu
  • Asesiadau a gwiriadau risg priodol, gan gynnwys gwiriadau cofnodion troseddol a/neu GDG lle bo hynny’n briodol
  • Yswiriant addas, gan gynnwys yswiriant teithio 

Mae’n rhaid i’r holl Sefydliadau sy’n Derbyn Cyllid a Chyfranogwyr Consortiwm (os yn berthnasol) a fydd yn cynnal Gweithgareddau Grant (gan gynnwys rhaglenni cyfnewid rhithwir) sy’n cynnwys plant dan 18 oed ac oedolion sy’n agored i niwed gwblhau rhestr wirio fel rhan o’r Llythyr Cytundeb Grant.  Rhaid cwblhau’r holl ofynion sy’n rhan o’r rhestr wirio cyn y gall gweithgaredd gael ei gynnal. 

9.0. Adrodd

Mae holl brosiectau Taith yn cynnwys cyflwyno mathau gwahanol o adroddiadau drwy gydol cylch oes y prosiect.   

Adroddiad Interim  

Gellir gofyn i Sefydliadau sy’n Derbyn Cyllid gyflwyno adroddiad interim sy’n seiliedig ar hyd prosiect a/neu sgôr risg prosiect a chyflwyno eu hadroddiad erbyn y dyddiad cau fel y nodwyd yn  Atodlen 1 – Y Broses Amserlenni Taliadau. Caiff taliadau eu gwneud yn amodol ar gymeradwyaeth Rhaglen Weithredol Taith o adroddiadau boddhaol. Bydd angen cwblhau a chyflwyno adroddiadau interim yn electronig. Caiff canllawiau ychwanegol am sut i gwblhau a chyflwyno’r adroddiad interim eu darparu i Sefydliadau sy’n Derbyn Cyllid yn nes ar ddiwedd y cyfnod adrodd. Caiff yr adroddiad ei ddefnyddio i asesu i ba raddau mae prosiect yn cael ei gyflwyno’n unol â’r Cais Grant gwreiddiol. Pan fydd adroddiad interim Sefydliad sy’n Derbyn Cyllid wedi’i adolygu, bydd y Sefydliad sy’n Derbyn Cyllid yn derbyn adborth, ynghyd â chadarnhad ynghylch unrhyw cyn-daliad pellach. Efallai bydd hefyd argymhellion neu bwyntiau gweithredu i Sefydliadau sy’n Derbyn Cyllid fynd i’r afael â nhw o fewn amserlenni gosod.  

Adroddiad Terfynol  

Bydd angen cwblhau a chyflwyno adroddiadau terfynol yn electronig. Rhaid cyflwyno’r adroddiad o fewn 30 niwrnod o ddyddiad dod i ben y prosiect fel y nodwyd yn Atodlen 1 – Y Broses Amserlenni Taliadau ond gellir ei gyflwyno cyn gynted ag y bydd holl weithgareddau’r prosiect wedi’u cwblhau. Bydd canllawiau pellach ar sut i gwblhau a chyflwyno adroddiadau terfynol eu darparu i Sefydliadau sy’n Derbyn Cyllid yn agos at ddyddiadau dod i ben prosiectau. Caiff yr adroddiad ei ddefnyddio i asesu i ba raddau cafodd y prosiect ei gyflwyno’n unol â’r cais gwreiddiol. Pan fydd adroddiad terfynol Sefydliad sy’n Derbyn Cyllid wedi cael ei asesu, bydd y Sefydliad sy’n Derbyn Cyllid yn derbyn adborth ynghyd â chadarnhad o swm unrhyw daliad terfynol sy’n ddyledus i’r Sefydliad sy’n Derbyn Cyllid neu unrhyw ad-daliad sy’n ddyledus i Taith.  

Bydd yn rhaid i’r holl brosiectau Llwybr gyflwyno adroddiad terfynol, tystysgrif gwariant (gweler Atodlen 7 – Tystysgrif Flynyddol o Wariant a’r adran isod) a datganiad gan y Sefydliad sy’n Derbyn Cyllid sy’n cadarnhau y darparwyd y Gweithgareddau Grant neu’r newidiadau a gymeradwywyd yn unol â’r amcanion a nodwyd yn y Cais Grant neu newidiadau a gymeradwywyd yn ystod y prosiect o fewn amserlen fel y cytunwyd arno gan Taith. Caiff canllawiau ychwanegol am sut i gwblhau a chyflwyno’r adroddiad terfynol a’r ffurflen ddatganiad eu darparu i Sefydliadau sy’n Derbyn Cyllid yn nes ar ddiwedd y cyfnod adrodd.  

Pwrpas yr adroddiad terfynol yw cynnig darlun cyflawn terfynol o’r Gweithgareddau Grant a ddarparwyd a’r gwariant a gafwyd, gan ei gwneud hi’n bosib cysoni’r gyllideb. Gallai methu â bodloni’r dyddiad cau ar gyfer ei gyflwyno arwain at gynnal pwerau Taith i ddal taliad yn ôl, ei ohirio neu ad-daliad Grant yn unol â’r Cytundeb. Caiff swm y taliad terfynol i’w wneud i’r Sefydliad sy’n Derbyn Cyllid ei gadarnhau’n seiliedig ar adroddiad terfynol i’w gyflwyno erbyn y dyddiad cau fel y nodwyd yn Atodlen 1 – y Broses Amserlenni Taliadau. Yn unol â’r Cytundeb, os a) na chafodd Gweithgareddau’r Grant eu cynnal neu os cânt eu cynnal mewn ffordd sy’n wahanol i’r hyn a gynlluniwyd; neu b) mae’r Gwariant Cymwys a godwyd gan y Sefydliad sy’n Derbyn Cyllid yn is na’r hyn a gynlluniwyd adeg cyflwyno’r cais, neu c) nid yw ansawdd y gweithgareddau/allbynnau a gadwyd yn ddigonol, gellir gwneud didyniadau cyfatebol i’r Grant neu, lle bo’n berthnasol, efallai y bydd yn rhaid i’r Sefydliad sy’n Derbyn Cyllid ad-dalu unrhyw symiau dros ben a dderbyniwyd eisoes.   

Tystysgrifau Blynyddol o Wariant 

Rhaid i’r holl Sefydliadau sy’n Derbyn Cyllid sy’n derbyn dyfarniadau Grant sy’n fwy na £50,000 gwblhau’r datganiad tystysgrif (Atodlen 7 – Tystysgrif Flynyddol o Wariant) a’i gyflwyno o fewn 30 niwrnod calendr o ddyddiad dod i ben y prosiect ynghyd â’r adroddiad terfynol. Bydd cymeradwyaeth Rhaglen Weithredol Taith yn sbarduno’r broses talu’r Grant. I brosiectau sy’n fwy na blwyddyn o hyd, rhaid i’r holl Sefydliadau sy’n Derbyn Cyllid gwblhau’r datganiad tystysgrif yn flynyddol (wedi dyddiad dechrau’r prosiect) a’i gyflwyno i Taith.  Bydd Sicrwydd am Grantiau sy’n is na £50,000 drwy gwblhau datganiad fydd yn rhan o adroddiad terfynol y Sefydliad sy’n Derbyn Cyllid.

Adborth am y Prosiect 

Bydd gwybodaeth bellach yn dilyn yn hwyrach i Sefydliadau sy’n Derbyn Cyllid.  

11.0. Cyhoeddusrwydd

Canllawiau Cyhoeddusrwydd 

Dylai Sefydliadau sy’n Derbyn Cyllid ddilyn y canllawiau yng Nghanllaw Brandio Taith i Sefydliadau sy’n Derbyn Cyllid wrth hyrwyddo’r prosiect, gan nodi’r gofynion ar hyrwyddo dwyieithog.