Proses gwneud Cais am Gyllid Ychwanegol – canllawiau i dderbynwyr grantiau
O fewn bob Llwybr ariannu y mae yna nifer o amgylchiadau ble all sefydliad geisio am gyllid ychwanegol ar ran cyfranogwyr sydd yn bodloni meini prawf penodol. Fe geir manylion y meini prawf ar dudalen un o’r ffurflen cyllid ychwanegol.
Dylai ceisiadau am gyllid ychwanegol eu gwneud drwy gwblhau’r ffurflen cyllid ychwanegol. Y mae rhaid cyflwyno’r rhain 30 dydd calendr cyn bod y symudedd neu weithgaredd y prosiect yn digwydd. Y bydd ôl-gais am gyllid ychwanegol ddim ond yn cael ei hystyried mewn amgylchiadau eithriadol. Fe geir esboniad bellach am hwn yn Atodlen 2 o’ch llythyr Cytundeb ac Atodlenni Grant
Gellir gofyn am gyllid ychwanegol am y dibenion canlynol:
- Arian ychwanegol at ddibenion Trafnidiaeth Gwyrdd
- Y mae Trafnidiaeth Gwyrdd yn golygu trafnidiaeth allyriad isel am ran fwyaf o’ch taith
- Cymorth cynhwysiant i gyfranogwyr dan anfantais
- I helpu talu costau i alluogi bod cyfranogwyr dan anfantais yn gallu cymryd rhan yn y symudedd
- Cymorth cynhwysiant i gyfranogwyr ag Anableddau, neu gyfranogwyr sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)
- Cymorth i gyfranogwyr sy’n ymwneud yn uniongyrchol a’u hanghenion ychwanegol.
- Costau eithriadol ar gyfer trafnidiaeth ddrud neu deithio i bell, neu gostau sy’n gysylltiedig â covid
- Cymorth i deithio i ganolfan drafnidiaeth yn y DU fel rhan o symudedd rhyngwladol, neu
- I dalu costau teithio i ardal bell sydd ddim a seilwaith trafnidiaeth sefydledig
Ceir eglurhad pellach ynghylch pob un o’r categorïau uchod ar dudalen 1 o’r Ffurflen Gais am Gyllid Ychwanegol.
Gellir gwneud sawl cais am gyllid ychwanegol ar gyfer yr un cyfranogwr ar yr un ffurflen. Bydd angen llenwi ffurflenni ar wahân i bawb sy’n cymryd rhan os byddant yn ymgymryd â symudedd unigol.
Cyllid ar gyfer symudedd grŵp
Os yw’r cais yn ymwneud â’r un costau, er enghraifft mae angen cyllid ychwanegol ar nifer o gyfranogwyr ar gyfer pasbort, gellir llenwi’r manylion yma ar yr un ffurflen, gan sicrhau eich bod yn manylu cyfeirnodau’r cyfranogwyr o fewn yr un cais. Ar y llaw arall, i wneud cais am gyllid ychwanegol ar gyfer yr un costau i nifer o gyfranogwyr drwy e-bost, gellir cyflwyno manylion llawn y cais yn ogystal â’r sawl sy’n cymryd rhan wrth anfon taenlen at: cefnogaeth@taith.cymru. Bydd angen cynnwys yr wybodaeth y gofynnir amdani yn y ffurflen gais yn y daenlen a anfonir drwy e-bost.
Llenwi’r ffurflen
Manylion y Derbyniwr Grant/symudedd
Wrth lenwi’r ffurflen, gofynnir ichi am eich cyfeirnod Taith unigryw. Sicrhewch fod gennych hwn wrth law, neu ni fyddwch yn gallu cwblhau’r cais. Os nad ydych yn glir ynghylch hyn, cysylltwch â support@taith.cymru
Enw’r Derbyniwr Grant yw enw eich sefydliad. Dylai manylion yr enw cyswllt gyfateb i’r rhai sydd gennym ar gofnod ac os yw’r rhain yn anghywir fe all achosi oedi wrth brosesi eich cais.
Manylion y cais
Bydd angen rhagor o wybodaeth arnom am y cyfranogwr yr ydych yn gofyn am gyllid ychwanegol ar ei gyfer. Dylai’r sefydliad sy’n gwneud cais roi dynodydd unigryw’r cyfranogwr yn unol â’r enghraifft. Dyma’r rhif y dylid ei ddefnyddio i adnabod y cyfranogwr hwn mewn unrhyw weithgaredd, prosiect neu symudedd Taith. Ni ddylid byth ddefnyddio enw’r unigolyn.
Ble fydd yn bosibl, rhowch gymaint o wybodaeth ag y gallwch i bob cwestiwn perthnasol. Er enghraifft, os byddwch yn gwneud cais am gyllid ychwanegol at drafnidiaeth gynaliadwy, cyfeiriwch at ddiffiniad Taith o Deithio Gwyrdd gan sicrhau bod eich cais yn nodi’n glir sut mae’r cais yn bodloni’r diffiniad hwn. Yn yr un modd, os gofynnir am gyllid ychwanegol i roi cymorth ariannol i gyfranogwr ag ADY, rhowch gynifer o fanylion â phosibl i ddisgrifio sut y bydd y cymorth ychwanegol yn galluogi’r cyfranogwr i gwblhau ei symudedd na fyddai fel arall yn bosibl gan ddefnyddio’r arian a ddyfarnwyd eisoes gan Taith.
Amcangyfrif Manwl o’r Gost
Gofynnir i’n Derbynwyr Grantiau roi manylion y costau sy’n gysylltiedig â’i gais. Os fydd y costau wedi eu hamcangyfrif, y mae yn ofynnol bod y Derbynwyr Grantiau wedi cymryd camau priodol i sicrhau bod yr amcangyfrifon hyn yn rhai realistig ac yn werth yr arian. Er enghraifft, yn achos:
- costau teithio sy’n dangos bod yr opsiwn teithio mwyaf cost-effeithiol wedi’i ddewis e.e., trafnidiaeth gyhoeddus o’i chymharu â thrafnidiaeth breifat. Yn achos ceisiadau sy’n ymwneud â thrafnidiaeth breifat, mae’n rhaid rhoi 3 dyfynbris a chyfiawnhad ynghylch a pam nad yw trafnidiaeth gyhoeddus yn cael ei defnyddio.
- Rhaid cynnwys tri dyfynbris fesul eitem o ddillad neu offer, o wefannau cymharu costau.
Yn achos eitemau megis llogi offer yn y wlad y mae’r cyfranogwr yn ymweld (cadeiriau olwyn, er enghraifft), rydym yn deall efallai na fydd yr union gost yn hysbys ymlaen llaw ac efallai y bydd yn newid o fewn gyfraddau cyfnewid a’u tebyg, felly cofiwch gynnwys ffigur sydd mor gywir â phosibl ar adeg cyflwyno’r cais.
Dylid gwirio costau eitemau megis fisâu a phasbortau cyn llenwi’r ffurflen fel y gellir cynnwys y swm cywir. Dylai cyfradd ddyddiol y cyllid a rhoddir i ofalwr cysylltiedig, er enghraifft, fod yn ffigur hysbys, yn unol â chyfraddau’r grantiau a amlinellir yn Atodlen 4, ac felly dylech gynnwys yr union ffigur yn yr achosion hyn.
(Nodir – er bod y disgrifiad o’r eitem yn y gyllideb wedi’i restru yn un ‘opsiynol’, mae’n ofynnol ichi gwblhau’r wybodaeth hon).
Datganiad a Rhestr Wirio
Mae’n rhaid cwblhau pob rhan o’r dudalen hon cyn cyflwyno’r ffurflen i’w hystyried.
Bydd y Derbyniwr Grant sy’n gwneud y cais yn cadw’r Dystiolaeth Ddogfennol
I gefnogi unrhyw geisiadau am Gyllid Ychwanegol, dylai Dderbynwyr Grant ofyn am dystiolaeth berthnasol sy’n dangos statws y cyfranogwr y gofynnir am Gyllid Ychwanegol ar ei gyfer, gan gadw’r dystiolaeth hon. Amlinellir y mathau gwahanol o dystiolaeth sydd eu hangen yn y Llawlyfr Gweithredol.
Yn ogystal ag unrhyw dystiolaeth sy’n cadarnhau statws yr ymgeisydd, yn achos ceisiadau am gyllid ychwanegol sy’n ymwneud â chostau a gafwyd oherwydd Covid, dylid hefyd gynnwys copïau o unrhyw ddogfennau yswiriant ynghyd â cheisiadau yswiriant a wnaed eisoes yn y cais.
Y camau nesaf
Nod Pwyllgor Rhaglenni Taith fydd prosesu ac adolygu pob cais am gyllid ychwanegol o fewn 10 diwrnod gwaith. Mae’n bosibl y byddwn yn cysylltu â chi os bydd angen rhagor o wybodaeth neu eglurhad ynglŷn â’ch cais. Os caiff eich cais ei gymeradwyo a bod angen newid y contract, bydd y tîm yn anfon hwn o fewn 15 diwrnod gwaith a bydd yn rhaid i’r sefydliad sy’n gwneud y cais ei lofnodi a’i ddychwelyd o fewn 10 diwrnod calendr.