Ardal derbynwyr grantiau

Canllawiau Brandio Cyllid Taith Llwybr 2

Cydnabod Cyllid Taith

Yn unol â’r Cytundeb Grant, rhaid i dderbynwyr cyllid Llwybr 2 Taith gydnabod cefnogaeth Taith ym mhob deunydd, adnodd a chyfathrebiad sydd yn cael eu datblygu drwy’r gweithgareddau a gafodd eu hariannu. Gall prosiectau sydd ddim yn cydnabod cyllid Taith yn briodol brofi oedi neu broblemau yn ystod y proses cau. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y gofynion hyn, cysylltwch â cefnogaeth@taith.cymru

Gofynion allweddol

Rhaid cydnabod cyllid Taith ar draws cyfathrebiadau ac allbynnau’r prosiectau, gan gynnwys:

  • Allbynnau prosiect (e.e. adroddiadau, cyhoeddiadau, pecynnau cymorth, allbynnau ymchwil a chyflwyniadau)
  • Gwefannau a thudalennau gwe prosiectau
  • Datganiadau i’r wasg a chyhoeddiadau
  • Cynnwys cyfryngau cymdeithasol a deunyddiau ymgyrchoedd

Rhaid i chi ddefnyddio logo Taith a Llywodraeth Cymru’n gywir ac yn unol â’r canllawiau brandio.

Guide Book Icon / Eicon llyfr canllaw

Darllenwch y canllawiau brandio cyflawn

Lawrlwythwch y Logos

Mae gwybodaeth ychwanegol yma:

Os oes gennych ymholiadau ynglŷn â brandio, deunyddiau marchnata neu gyfathrebu yn gyffredinol, cysylltwch â cefnogaeth@taith.cymru