Bydd Llwybr 1 2025 yn dod yn fuan, cliciwch yma i ddarganfod mwy

Cysylltwch

Templedi Rheoli Prosiect – Llwybr 1 2024 CY

Mae’r adran hon yn darparu amrywiaeth o dempledi i’ch cefnogi i gyflawni a rheoli eich prosiect ag ariennir gan Taith.

Templedi Rheoli Prosiect

Mae’n ofynnol i bob derbynnydd grant Taith gadw Tystysgrif Presenoldeb wedi’i llofnodi ar gyfer pob symudiad unigol a gwblhawyd. Bydd hyn yn cael ei ddefnyddio fel tystiolaeth i ddangos bod gweithgareddau wedi wedi digwydd yn unol â’r Llythyr Cytundeb Grant. Dylai’r Dystysgrif Presenoldeb gael ei chwblhau a’i llofnodi gan gydlynydd perthnasol y sefydliad derbyn, ar neu ar ôl dyddiad olaf y symudedd. Ar gyfer symudeddau allanol, gellir ychwanegu dynodwr cyfranogwr y sefydliad yn hwyrach gan gydlynydd perthnasol y sefydliad anfon.

Fel yr amlinellir yn y Llythyr Cytundeb Grant, mae’n ofynnol i bob Derbynnydd Grant gasglu tystiolaeth ar gyfer cyfranogwyr o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, os bydd prosiect yn cael ei ddewis ar gyfer archwiliad bwrdd gwaith neu ar y safle Taith. I gael gwybodaeth lawn am y gofynion tystiolaeth hyn, gweler yr adran Gofynion Tystiolaeth ar gyfer Cyfranogwyr o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol  yr ardal Derbynyddion Grantiau.

Mae’r templedi canlynol yn adnoddau amgen i Dderbynyddion Grantiau a chyfranogwyr eu cwblhau, mewn achosion lle nad yw mathau eraill o dystiolaeth a dderbynnir ar gael.

I Dderbynyddion Grantiau eu cwblhau ar ran un neu fwy o gyfranogwyr 

Mae’r templed hwn yn adnodd amgen i Dderbynyddion Grantiau i gasglu gwybodaeth am un neu fwy o gyfranogwyr y prosiect o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, mewn achosion lle nad yw mathau eraill o dystiolaeth a dderbynnir ar gael.

I gyfranogwyr unigol (neu eu rhiant/gofalwr, fel sy’n briodol) ei gwblhau

Mae’r templed hwn yn adnodd amgen i gyfranogwyr, neu eu rhiant/gofalwr os yw’n briodol, i gadarnhau eu bod yn bodloni’r meini prawf perthnasol ar gyfer grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, mewn achosion lle nad yw mathau eraill o dystiolaeth a dderbynnir ar gael.