
Rydym yn falch o gyhoeddi y bydd Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru (WCIA) yn cefnogi’r rhai sydd am wneud cais drwy’r cynllun Grantiau Bach nad ydynt wedi derbyn cyllid Taith o’r blaen. Byddant yn cefnogi ymgeiswyr o’r sectorau Ysgolion, Ieuenctid ac Addysg Oedolion. Bydd y cymorth hwn yn cynnwys ymgysylltiad un i un yn bersonol ac yn rhithwir, yn ogystal â chymorth â cheisiadau. Mae eu cyfranogiad yn rhoi cyfle i ymgeiswyr gael cymorth wedi’i deilwra i helpu i ddatblygu syniadau prosiect, cynllunio cylch bywyd y prosiect a chwblhau’r ffurflen gais.
Os teimlwch y gallech elwa o drafod prosiect Taith cynllun Grantiau Bach posib â WCIA, cysylltwch â ni yn Taith drwy ymholiadau@taith.cymru