Cysylltwch

Hyrwyddwyr Taith

TrosolwgBeth rydyn ni’n wneudEin strategaethPartneriaid RhyngwladolNewyddion

Er mwyn sicrhau bod sefydliadau sydd â diddordeb mewn gwneud cais am gyllid Taith yn cael eu cefnogi’n llawn drwy’r broses, rydym wedi penodi Hyrwyddwyr Taith  yn y sectorau ysgolion, ieuenctid ac addysg oedolion. Rôl Hyrwyddwyr Taith yw codi ymwybyddiaeth a hyrwyddo Taith ymhlith sefydliadau sydd yn y sectorau perthnasol, yn ogystal â chynghori a chynorthwyo sefydliadau i wneud cais am gyllid a chynllunio a chynnal prosiectau. Bydd yr Hyrwyddwyr Taith yn canolbwyntio’n benodol ar ymgysylltu â’r sefydliadau heb lawer o brofiad neu ddim profiad o gwbl ym maes cyfnewid rhyngwladol ac sydd â llai o adnoddau yn ogystal â helpu sefydliadau sy’n gweithio gyda’r bobl fwyaf difreintiedig, y gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig, pobl anabl a/neu pobl ag Anghenion Dysgu Ychwanegol.

Os yw eich sefydliad yn rhan o’r sector ysgolion, ieuenctid neu addysg oedolion a’ch bod yn teimlo y byddech yn elwa o gael cyngor a/neu gefnogaeth i wneud cais am gyllid Taith, cysylltwch â’r Hyrwyddwr Taith perthnasol.

Ieuenctid ac Ysgolion

Hyrwyddwr Taith y sector ieuenctid a’r sector ysgolion yw WCIA (Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru) – elusen sydd wedi bod yn trefnu prosiectau gwirfoddoli a chyfnewid rhyngwladol yng Nghymru a thramor ers 60 mlynedd. Mae WCIA  wedi ymrwymo i weithio gyda sefydliadau’r sector ieuenctid ac ysgolioni’w galluogi i ddatblygu a chyflwyno ceisiadau i Taith sydd wedi’u teilwra i’r bobl ifanc a’r disgyblion maen nhw’n gweithio gyda, ac i’w helpu i greu’r systemau a’r hyder i gydlynu symudedd rhyngwladol yn llwyddiannus

I gael rhagor o wybodaeth am sut y gall WCIA gefnogi eich mudiad, cysylltwch â:

Ieuenctid: Michi –  michaelarohmann@wcia.org.uk.

Ysgolion: Amber- amberdemetrius@wcia.org.uk

Addysg i Oedolion

Hyrwyddwr Taith y sector Addysg Oedolion yw Diverse Cymru.  Mae Diverse Cymru’n elusen yng Nghymru sy’n gweithio i gefnogi pobl sy’n wynebu anghydraddoldeb a gwahaniaethu oherwydd: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw a chyfeiriadedd rhywiol. Fel Hyrwyddwr Taith bydd  Diverse Cymru yn cefnogi sefydliadau i ddatblygu eu syniadau, ysgrifennu ceisiadau yn ogystal â rhoi cyngor ac arweiniad ar ofynion ymarferol gweithredu a rheoli rhaglen gyfnewid ryngwladol

I gael rhagor o wybodaeth am sut y gall Diverse Cymru gefnogi eich mudiad, cysylltwch â  Taith.Champions@Diverse.Cymru

Dewch ar daith gyda ni

Cofrestrwch i fod ar ein rhestr bostio i gael y newyddion diweddaraf ynglŷn â’r rhaglen.

Drwy gofrestru, rydych chi’n cytuno â’n polisi preifatrwyddy, gan gynnwys trosglwyddo eich gwybodaeth i’n platfform marchnata, Mailchimp. Gallwch ddad-danysgrifio ar unrhyw adeg.