Pwrpas hwn yw rhoi sicrwydd i Fwrdd International Exchange Programme Limited (ILEP Ltd) bod y broses wedi’i dilyn fel y nodir yn ein Canllaw Rhaglen a bod yr asesiadau wedi’u cynnal mewn modd teg, annibynnol a thryloyw. Mae’r pwyllgor cyllid yna yn argymell rhestr o geisiadau sy’n gymwys ar gyfer cyllid i Fwrdd ILEP Ltd. Mae’r sicrwydd a’r argymhellion hyn yn galluogi’r Bwrdd ILEP Ltd i drafod a gwneud y penderfyniadau cyllido.
Mae gan y pwyllgor Gadeirydd Annibynnol, Michelle Stewart, a benodwyd i’r rôl ym mis Ionawr 2024. Aelodau eraill yw Kirsty Williams (Cadeirydd Bwrdd Ymgynghorol Taith a Chyfarwyddwr y Bwrdd ILEP Ltd) a Ben Coates (Cyfarwyddwr y Bwrdd ILEP Ltd). Mae Susana Galván (Cyfarwyddwr Gweithredol Taith) a chynrychiolydd o Lywodraeth Cymru hefyd yn mynychu’r cyfarfodydd fel arsylwyr.
Mae Pwyllgor Cyllido Taith yn cyfarfod ar ôl cwblhau’r asesiadau ar gyfer pob galwad am gyllid Taith.
[Llun gan:: Daniel Vegel]