Mae Llwybr 1 2025 ar agor

Cysylltwch

Llwybr 1 - Adnoddau cymorth a gweminarau

Os ydych chi angen mwy o gefnogaeth, neu eisiau trafod eich syniad gyda Taith,  llenwch y ffurflen fer hon a byddwn ni mewn cysylltiad yn fuan iawn i drefnu cyfarfod un-i-un.

Cliciwch yma

Adnodd cymorth neu weminar

Manylion

Canllaw Llwybr 1 (2025) a Chwestiynau’r Cais

Mae’r ddogfen hon yn nodi’r cwestiynau rydyn ni’n eu gofyn yn ein cais ac yn rhoi rhywfaint o gyngor ar yr hyn rydyn ni’n edrych amdano yn eich atebion.

Cyflwyniad i Llwybr 1

Mae’r fideo hwn yn rhoi trosolwg o alwad ariannu Taith Llwybr 1 2025. Mae’n cynnwys manylion o’r meini prawf cymhwysedd a’r cyllid sydd ar gael, yn ogystal â rhoi arweiniad ar sut i baratoi ar gyfer eich cais.

Llwybr 1 Cyfrifydd Grant

Bydd y fideo hwn yn eich arwain trwy gwblhau’r Cyfrifydd Grant i baratoi cyllideb eich prosiect Llwybr 1.

Gweminar – Cyflwyniad i Llwybr 1 2025

Yn y weminar hon byddwn yn darparu trosolwg o alwad ariannu Taith Llwybr 1 2025.  Byddwn yn rhannu manylion y meini prawf cymhwysedd, gweithgareddau a chostau cymwys yn ogystal â darparu arweiniad ar sut i baratoi am eich cais.

Bydd cyfle hefyd i godi unrhyw gwestiynau gyda thîm Taith.

Taith Llwybr 1 2025 (Sesiwn Saesneg) 05 Chwefror 2025 12:00-13:00

Taith Llwybr 1 2025 (Sesiwn Cymraeg) 05 Chwefror 2025 16:00-17:00

Taith Llwybr 1 2025 (Sesiwn Cymraeg) 12 Chwefror 2025 12:00-13:00

Taith Llwybr 1 2025 (Sesiwn Saesneg) 12 Chwefror 2025 16:00-17:00

Gweminar – Sesiwn holi ac ateb gyda tîm Taith.

Ymunwch â ni ar gyfer y sesiwn agored hon i ofyn unrhyw gwestiynau sy’n ymwneud â’ch Cais Llwybr 1 2025

Sesiwn ddwyieithog fydd hon.

Sesiwn holi ac ateb gyda tîm Taith (Sesiwn ddwyieithog) 05 Mawrth 2025 12:00-13:00

Hyrwyddwyr Taith

Bydd Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru (WCIA) yn cefnogi’r rhai sydd am wneud cais drwy’r cynllun Grantiau Bach nad ydynt wedi derbyn cyllid Taith o’r blaen. Byddant yn cefnogi ymgeiswyr o’r sectorau Ysgolion, Ieuenctid ac Addysg Oedolion. Bydd y cymorth hwn yn cynnwys ymgysylltiad un i un yn bersonol ac yn rhithwir, yn ogystal â chymorth â cheisiadau. Mae eu cyfranogiad yn rhoi cyfle i ymgeiswyr gael cymorth wedi’i deilwra i helpu i ddatblygu syniadau prosiect, cynllunio cylch bywyd y prosiect a chwblhau’r ffurflen gais.

Os teimlwch y gallech elwa o drafod prosiect Taith cynllun Grantiau Bach posib â WCIA, cysylltwch â ni yn Taith drwy ymholiadau@taith.cymru

Guide Book Icon / Eicon llyfr canllaw

Canllawiau Llwybr 1

A line of people smiling and laughing. Some are wearing Basotho (mokorotlo) hats.

Mynd yn ôl i dudalen Llwybr 1

Computer Icon / Eicon Cyfrifiadur

Dechreuwch eich cais yma

Dewch ar daith gyda ni

Cofrestrwch i fod ar ein rhestr bostio i gael y newyddion diweddaraf ynglŷn â’r rhaglen.

Drwy gofrestru, rydych chi’n cytuno â’n polisi preifatrwyddy, gan gynnwys trosglwyddo eich gwybodaeth i’n platfform marchnata, Mailchimp. Gallwch ddad-danysgrifio ar unrhyw adeg.