5. Ceisio am Lwybr 2

5.1. Llinell amser
18fed Medi 2025: Agor galwad ariannu Llwybr 2 (2025).
6ed Tachwedd 2025, 12yp: Dyddiad cau. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir ar ôl y dyddiad cau yn cael eu hasesu.
Mawrth 2026 : Anfonir hysbysiad o ganlyniadau i’r sefydliadau sy wedi ymgeisio.
1af Mai 2026: Gall prosiectau gychwyn.
5.2. Cyn i chi ymgeisio
Mae yna rai camau i’w dilyn cyn dechrau paratoi cais:
- cadarnhau bod y sefydliad yn gymwys i wneud cais. Gallwch weld cymhwysedd sefydliad ar gyfer pob sector yn adran 2.1
- darllen y canllaw hwn yn drylwyr, a gwnewch yn siwr bod Llwybr 2 yn addas i’ch sefydliad a phrosiect arfaethedig
- gwirio bod gan y sefydliad ddigon o gapasiti ariannol a gweithredol yma
- darllen y ddogfen gymorth Llwybr 2 – yno ceir y cwestiynau ansoddol fydd rhaid I chi ateb fel rhan o’r cais ynghyd â gwybodaeth ychwanegol
- ymuno â’n gweminarau neu wyliwch y recordiadau pwrpasol ar ein gwefan
Cysylltu â thîm Taith os oes gennych chi unrhyw gwestiynau (ymholiadau@taith.cymru ) Rydyn ni bob tro’n barod i helpu!
5.3. Llenwi ffurflen gais
I wneud cais am gyllid ar gyfer Llwybr 2, rhaid i chi ddefnyddio ffurflen gais Llwybr 2 a chyfrifydd grant sydd ar gael ar wefan Taith.
Mae’r ffurflen gais yn gofyn am ymatebion i ystod o gwestiynau gan gynnwys crynodeb o’r prosiect, manylion y gweithgareddau arfaethedig ac allbwn y prosiect, sut caiff y dysgu ei ledaenu, rheolaeth prosiect ac ariannol, a sut a pham dewisoch chi’r partneriaid rhyngwladol. Mae’r cwestiynau, ynghyd â rhywfaint o wybodaeth ategol a thestun cymorth, i’w gweld yma.
Bydd hefyd yn ofynnol i chi gwblhau cyfrifydd grant, a fydd yn cyfrifo cyfanswm y grant y gofynnir amdano yn seiliedig ar y gweithgareddau amrywiol y gwneir cais amdanynt. Yr uchafswm y gallwch wneud cais amdano fesul prosiect yw £40,000. Bydd angen i chi ddarparu cyfiawnhad clir yn y ffurflen gais am yr holl gostau a ofynnir amdanynt. Gwnewch yn siŵr bod y costau yn y ffurflen gais yn cyfateb yn union â’r hyn rydych chi wedi’i roi yn eich cyfrifydd grant.
Gallwch chi wneud cais am gyllid ar gyfer eich partner rhyngwladol hyd at 30% o gyfanswm y grant y gofynnoch chi amdano – bydd angen i chi ofyn am hyn fel rhan o’ch cyfrifydd grant. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n glir yn eich ffurflen gais faint o gyllid rydych chi’n ei roi i’ch partner rhyngwladol, a beth yw pwrpas y cyllid. Bydd angen i chi ofyn am gyllid ar gyfer gweithgareddau partneriaid rhyngwladol yn y cyfrifydd grant.
Dim ond un cais y gall sefydliadau ei gyflwyno fesul sector fesul galwad ariannu Llwybr.
Byddwn yn cynnal amrywiaeth o weminarau i roi cyngor a chymorth ar y broses ymgeisio. Gallwch chi gofrestru ar gyfer y sesiynau hyn ar wefan Taith. Os ydych am gael sgwrs 1-1 gydag aelod o’r tîm cysylltwch â ni ar ymholiadau@taith.cymru