Cyn dechrau eich cais, RHAID i chi lenwi ein cyfrifydd grant. Y cyfan sy’n rhaid i chi ei wneud yw mewnbynnu faint o gyfranogwyr rydych chi am gymryd rhan ym mhob math o symudedd, i ba wlad ac am ba hyd, a byddwch chi’n gweld y swm y gallwch chi ofyn amdano yn awtomatig. Gallwch chi wylio fideo wedi’i recordio ymlaen llaw ar yr cyfrifydd grant yma.
Unwaith byddwch chi wedi llenwi’r cyfrifydd grant ac yn gwybod faint o gyllid rydych chi’n gofyn amdano, gallwch chi ddechrau’r ffurflen gais berthnasol. Mae’r ffurflen gais yn gofyn am ymatebion ysgrifenedig ar ystod o gwestiynau gan gynnwys trosolwg o’r prosiect, manylion am weithgareddau prosiect arfaethedig, rheolaeth ariannol a phrosiectau, a pherthnasedd i bwrpas ac amcanion Taith. Gallwch chi ddod o hyd i gwestiynau’r cais, a rhywfaint o wybodaeth ategol yma.