Llwybr 2 2024 yn agor 3 Hydref a bydd y dyddiad cau ar 21 Tachwedd

Cysylltwch

Rhannwch Eich Stori

Rydym yn eich gwahodd i rannu eich stori Taith. Mae eich cyfraniadau yn hanfodol i rannu profiadau trawsnewidiol dysgu rhyngwladol. Trwy ddogfennu’ch taith, byddwch yn arddangos cyflawniadau’ch grŵp ac yn ysbrydoli eraill efallai na fyddent erioed wedi ystyried y gallai’r profiadau hyn fod ar eu cyfer nhw.  Er ei fod yn wych eich gweld chi’n mynd allan a phrofi gwlad/diwylliant newydd (a all gynnwys bwyd, diod, gweithgareddau hwyl, ac ati) a bod hon yn agwedd bwysig o’ch symudedd/prosiect, mae’n hanfodol eich bod yn cyfleu agwedd ddysgu eich profiad. 
 Wrth ystyried eich stori, meddyliwch am:  
  • Effaith Addysgol 
  • Dysgu ar waith 
  • Cyfnewid diwylliannol a rhyngweithiadau cymdeithasol 
  • Dilysrwydd eich taith sydd bwysicaf i ni 

Awgrymiadau fideos a lluniau

Chwilio am awgrymiadau ar gyfer cipio delweddau a fideos o'ch profiad? Darllenwch awgrymiadau fideos a lluniau

Rhannwch Eich Stori

Oes gennych chi stori i'w rhannu â Taith? Cwblhewch y ffurflen hon a byddwn yn cysylltu â chi i drafod.

Adnoddau Cymorth

Os hoffech wybod rhagor am sut rydym yn creu ac yn defnyddio straeon yn Taith cymerwch olwg ar adnoddau cymorth

Unrhyw Gwestiynau? 

Rydym ni yma i helpu! Cysylltwch â ni yn cefnogaeth@taith.cymru