Proses Gwneud Cais am Gyllid Ychwanegol — Canllawiau i Dderbynyddion Grantiau
O dan bob llwybr cyllid, gall sefydliadau wneud cais am gyllid ychwanegol ar gyfer cyfranogwyr sy’n bodloni amodau penodol. Mae’r amodau hyn wedi’u rhestru ar dudalen un y ffurflen cyllid ychwanegol.
I wneud cais am gyllid ychwanegol, defnyddiwch y ffurflen Cyllid Ychwanegol a chlicio’r botwm ‘Gwneud cais nawr’ ar y gwaelod. Rhaid cyflwyno’r rhain o fewn 30 diwrnod calendr ar ôl i’r symudedd neu weithgaredd prosiect ddigwydd. Bydd ceisiadau a gyflwynir ar ôl yr amser hwn ond yn cael eu hystyried mewn amgylchiadau eithriadol. Mae eglurhad pellach ar hyn i’w gael yn Atodlen 4 eich llythyr Cytundeb Grant.
Gellir gwneud cais am Gyllid Ychwanegol at y dibenion canlynol:
- Arian ychwanegol at ddibenion Trafnidiaeth Gwyrdd (y mae Trafnidiaeth Gwyrdd yn golygu trafnidiaeth allyriad isel am ran fwyaf o’ch taith)
- Cymorth cynhwysiant i gyfranogwyr dan anfantais (i helpu talu costau i alluogi bod cyfranogwyr dan anfantais yn gallu cymryd rhan yn y symudedd)
- Cymorth cynhwysiant i gyfranogwyr ag Anableddau, neu gyfranogwyr sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) (cymorth i gyfranogwyr sy’n ymwneud yn uniongyrchol a’u hanghenion ychwanegol)
- Cymorth i deithio i ganolfan drafnidiaeth yn y DU fel rhan o symudedd rhyngwladol
- Fydd cais am gyllid ychwanegol ddim ond yn cael ei dyfarnu am ddillad arbenigol i gyrchfan ble disgwylir amodau tywydd eithafol.
Mae eglurhad pellach ar bob un o’r pwyntiau uchod ar gael ar dudalen 1 y ffurflen Cais am Gyllid Ychwanegol.
Cyllid ar gyfer symudedd grŵp
Os yw’r cais am yr un costau, er enghraifft mae angen cyllid ychwanegol ar sawl cyfranogwr ar gyfer pasbort, gellir cwblhau hyn ar yr un ffurflen. Mae angen cynnwys pob cyfeirnod cyfranogwr yn y cais.
Os oes gennych lawer o gyfranogwyr neu gostau, gallwch anfon taenlen gyda manylion llawn y costau a’r cyfranogwyr at cefnogaeth@taith.cymru ynghyd â’ch cais am gyllid ychwanegol.
Cwblhau’r ffurflen
Manylion y Derbynnydd Grant/Symudedd
Wrth lenwi’r ffurflen, gofynnir i chi am eich cyfeirnod Taith unigryw. Sicrhewch fod hwn gennych wrth law, neu ni fyddwch yn gallu bwrw ymlaen â’r cais.
Enw’r Derbynnydd Grant yw enw’ch sefydliad. Dylai manylion y person cyswllt gyd-fynd â’r rhai sydd gennym ar gofnod. Os yw’n anghywir neu heb ei gwblhau, gallai arwain at oedi mewn prosesu’r cais.
Manylion y cais
Bydd angen rhagor o wybodaeth arnom am y cyfranogwr rydych chi’n gofyn am gyllid ychwanegol ar ei ran. Dylai’r sefydliad sy’n gwneud cais ddarparu’r dynodydd cyfranogwr unigryw fel yn yr enghraifft. Dyma’r rhif y dylid ei ddefnyddio i adnabod y cyfranogwr hwn ar unrhyw weithgaredd, prosiect neu symudedd Taith y maent yn rhan ohono. Ni ddylid byth defnyddio enw unigolyn, dim ond cyfeirnod unigryw’r cyfranogwr.
Lle bo modd, rhowch gymaint o wybodaeth ag y gallwch ar gyfer pob cwestiwn perthnasol. Er enghraifft, os ydych chi’n gofyn am gyllid ychwanegol i gefnogi cyfranogwr ag ADY, rhowch gymaint o fanylion â phosibl ynglŷn â sut y bydd y gefnogaeth hon yn eu helpu i gymryd rhan yn y symudedd. Esboniwch pam na fyddai hyn yn bosib gyda chyllid Taith
Amcangyfrif Cost Manwl
Gofynnir i chi ddarparu dadansoddiad o’r holl gostau sydd wedi’u cynnwys yn eu cais. Mewn achosion lle mae’r costau hyn yn amcangyfrifedig, rhaid i chi ddangos tystiolaeth bod yr amcangyfrifon hyn yn realistig ac yn cynnig gwerth am arian. Er enghraifft:
- Os ydych chi’n gofyn am arian ychwanegol ar gyfer teithio, mae angen i chi ddangos eich bod chi wedi dewis yr opsiwn rhataf—fel trafnidiaeth gyhoeddus yn lle trafnidiaeth breifat. Os ydych chi eisiau defnyddio trafnidiaeth breifat, rhaid i chi roi 3 dyfynbris ac egluro pam nad yw trafnidiaeth gyhoeddus yn addas.
- Os ydych chi’n gofyn am bethau fel dillad, bagiau, neu offer, mae angen i chi gynnwys o leiaf tair cymhariaeth pris o wefannau. Ond os yw’r cyfanswm cost o dan £20, rhestrwch yr eitemau ar y ffurflen yn unig—nid oes angen cymharu prisiau.
Byddwn yn derbyn amcangyfrifon ar gyfer unrhyw eitemau/gwasanaethau rydych chi’n bwriadu eu prynu yn ystod eich symudedd (e.e. llogi cadair olwyn). Ar gyfer dyfynbrisiau ac amcangyfrifon a restrir mewn arian cyfred arall, defnyddiwch y gyfradd gyfnewid ar y dyddiad cyflwyno.
Ar gyfer eitemau sydd â chost sefydlog (e.e., fisâu, pasbortau, a’r gyfradd ddyddiol ar gyfer gofalwr sy’n teithio gyda nhw), mae un ‘dyfynbris’ yn ddigonol.
Er bod yr eitem gyllideb wedi’i marcio fel ‘dewisol’, mae angen i chi ei llenwi o hyd.
Datganiad a Rhestr Wirio
Rhaid cwblhau pob adran o’r dudalen hon cyn cyflwyno’r ffurflen i’w hystyried.
Tystiolaeth Ddogfennol i’w chadw gan y Derbynnydd Grant sy’n gwneud y cais
I gefnogi eich cais am gyllid ychwanegol, dylech gasglu a chadw prawf o statws y cyfranogwr. Mae’r mathau o brawf sydd eu hangen arnoch wedi’u rhestru yn y Llawlyfr Gweithredol, sydd ar gael yn Ardal Derbynnydd Grant y wefan.
Camau nesaf
Anelwn at brosesu ac adolygu pob cais am gyllid ychwanegol o fewn 10 diwrnod gwaith. Mae’n bosib y byddwn yn cysylltu â chi os oes angen rhagor o wybodaeth neu eglurhad ar eich cais arnom. Os caiff eich cais ei gymeradwyo a bod angen amrywiad contract, byddwn yn anfon hwn o fewn 15 diwrnod gwaith a rhaid i chi ei lofnodi a’i ddychwelyd o fewn 10 diwrnod calendr.
Os ydych chi’n cael trafferth ag unrhyw ran o’r ffurflen hon, cysylltwch â cefnogaeth@taith.cymru
