Gallwch wneud newidiadau i’ch prosiect tra’i fod yn mynd yn ei flaen, os oes angen. Mae’r rhain wedi’u gwahanu i geisiadau i Newid Prosiect a cheisiadau i Newid Gweithgaredd.
Mae Ceisiadau i Newid Prosiect ar gyfer diweddariadau i sut mae’ch prosiect yn cael ei reoli — megis newid y prif gyswllt neu’r cynrychiolydd cyfreithiol. Rhaid i chi ddweud wrth Taith cyn gynted ag y byddwch yn gwybod amy newid drwy anfon llythyr PDF wedi’i lofnodi ar bapur pennawd at cefnogaeth@taith.cymru.
Rhaid i Taith gymeradwyo ceisiadau i newid consortiwm a dylid eu hanfon drwy e-bost at cefnogaeth@taith.cymru
Rhaid nodi ceisiadau i Newid Gweithgaredd yn y profforma cais am newid yn eich ffolder adrodd cyn gynted ag y byddwch yn gwybod amdano ac o leiaf 30 diwrnod cyn i’r gweithgaredd ddigwydd. Bydd Taith yn adolygu’r profforma yn rheolaidd a naill ai’n cymeradwyo neu’n gwrthod y newid. Bydd Taith yn cysylltu â chi os oes angen unrhyw wybodaeth bellach. Nid yw hyn yn berthnasol i brosiectau Addysg Uwch.
Ar gyfer newidiadau gweithgareddau, mae canllawiau pellach ar sut a phryd i gofnodi’r newidiadau hyn yn eich ffolder offeryn adrodd ar gael ar yn ardal Derbynyddion Grantiau gwefan Taith
Camau nesaf