Bydd Llwybr 1 2025 yn dod yn fuan, cliciwch yma i ddarganfod mwy

Cysylltwch

Creu amgylchedd cynhwysol a theg

Grŵp o staff Taith yn dal tystysgrif
Mae Taith wedi derbyn y Wobr Arian yng Nghynllun Ardystio Cymhwysedd Diwylliannol Diverse Cymru. Walter Brooks, Rheolwr Rhaglen ac arweinydd Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI), Taith, sy’n dweud mwy wrthyn ni.

Yn Taith, rydyn ni wedi ymrwymo i hyrwyddo amgylchedd cynhwysol, a arweiniodd at gymryd rhan yng Nghynllun Ardystio Cymhwysedd Diwylliannol Diverse Cymru.

Mae’r adnodd arobryn hwn i ddatblygu’r gweithle yn helpu sefydliadau i roi arferion da ar waith yn y gweithle, gan sicrhau bod gwasanaethau’n deg ac yn gyfartal i bobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig.

Mae’r Cynllun Ardystio yn cefnogi gweithleoedd i ‘ddechrau taith’ i archwilio rhagfarn anymwybodol gyffredin ac i ddatblygu eu cymhwysedd diwylliannol.

Er mwyn cael ardystiad, roedd angen i Taith ddangos ei hymrwymiad i ymwybyddiaeth ddiwylliannol a dangos tystiolaeth o’r hyn yr ydyn ni’n ei roi ar waith i sicrhau ein bod yn rhoi arferion gwaith da ar waith.

Enghreifftiau o hyn yw ein strategaeth ar ei newydd wedd, sy’n canolbwyntio ar annog cyfranogiad gan bobl o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol – gan gynnwys y rhai o gefndiroedd difreintiedig, cefndiroedd lleiafrifoedd ethnig, pobl anabl a phobl ag anghenion dysgu ychwanegol.

Mae holl staff Taith hefyd wedi mynychu sawl sesiwn hyfforddi i’n helpu i werthuso a chael trafodaethau agored am hil a sut i gefnogi polisïau a gweithdrefnau gwrth-hiliaeth. Bydd y dysgu a’r ymwybyddiaeth hon yn sicrhau bod pob unigolyn y byddwn ni’n ymgysylltu ag ef yn cael ei drin â pharch ac yn teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi.

Roedd y broses hon nid yn unig yn addysgiadol ond hefyd yn ddylanwadol. Fe wnaeth ein hannog i fyfyrio ar ein cynnydd mewn perthynas â chymhwysedd diwylliannol ac agorodd sgyrsiau am gamau pellach y gallwn ni eu cymryd. Rydyn ni’n cydnabod bod gwrth-hiliaeth yn daith barhaus, ac rydyn ni’n ymroddedig i barhau â’r gwaith hwn i greu amgylchedd mwy cynhwysol a theg.

Dysgwch fwy am enillwyr Gwobrau Cynllun Cymhwysedd Diwylliannol Diverse Cymru ar gyfer 2024

Dewch ar daith gyda ni

Cofrestrwch i fod ar ein rhestr bostio i gael y newyddion diweddaraf ynglŷn â’r rhaglen.

Drwy gofrestru, rydych chi’n cytuno â’n polisi preifatrwyddy, gan gynnwys trosglwyddo eich gwybodaeth i’n platfform marchnata, Mailchimp. Gallwch ddad-danysgrifio ar unrhyw adeg.