Mae Llwybr 1 2025 ar agor

Cysylltwch

Cyfle i fod yn Weithiwr Cymorth Hygyrchedd i Taith

Golyga o ddynes yn eistedd wrth ddesg gyda gluniadur, ffeiliau a nodiadau papur. Mae hi’n adolygu’r testun ar y papur.

Cyfle i fod yn Weithiwr Cymorth Hygyrchedd i Taith

Rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan unigolion profiadol sydd â diddordeb i ymuno â’n cronfa o weithwyr cymorth hygyrchedd i gefnogi pobl sydd â rhwystr i gyrchu brosesau ymgeisio neu reoli prosiect Taith. Bydd gwaith yn ôl yr angen.

Rôl gweithiwr Cymorth Hygyrchedd

Rydyn ni’n chwilio am unigolion sydd yn gallu cefnogi darpar ymgeiswyr ar hyd y gwahanol gamau wrth ymgysylltu â Taith, megis

  • deall y broses ymgeisio
  • llenwi ffurflen gais
  • cefnogi rhywun sydd eisoes wedi derbyn cyllid i gwblhau adroddiadau

Cynigir cyfradd ddiwrnod o hyd at £300.

Gofynion rôl gweithiwr Cymorth Hygyrchedd

Os bydd y math hwn o waith o ddiddordeb i chi, byddwn ni angen tystiolaeth o’r canlynol:

  • gwiriad llawn y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
  • profiad o waith cymorth hygyrchedd
  • peth profiad o gefnogi pobl i gwblhau ffurflenni
  • argaeledd am isafswm o 2 ddiwrnod y flwyddyn
  • cyfrif banc yn y DU

Mae gan y cyfle hwn ddyddiad cau treigl a gellir cyflwyno ceisiadau ar unrhyw adeg.

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â swyddfa@taith.cymru neu i ymgeisio, anfonwch CV a llythyr eglurhaol (dim mwy nag 1 dudalen A4) at swyddfa@taith.cymru

Dewch ar daith gyda ni

Cofrestrwch i fod ar ein rhestr bostio i gael y newyddion diweddaraf ynglŷn â’r rhaglen.

Drwy gofrestru, rydych chi’n cytuno â’n polisi preifatrwyddy, gan gynnwys trosglwyddo eich gwybodaeth i’n platfform marchnata, Mailchimp. Gallwch ddad-danysgrifio ar unrhyw adeg.