Bydd Llwybr 1 2025 yn dod yn fuan, cliciwch yma i ddarganfod mwy

Cysylltwch

Mae Taith yn lansio cynllun Grantiau Bach

Mae Taith bellach yn ei 3edd flwyddyn, ac mae wedi bod yn hynod ysbrydoledig gweld yr effaith gadarnhaol y mae ein cyllid yn ei chael ar ddysgwyr a staff ledled Cymru. Ein cenhadaeth yw ariannu cyfleoedd cyfnewid addysgol rhyngwladol cynhwysol a hygyrch i ddysgwyr a staff ledled Cymru, wrth ddarparu hefyd cyfleoedd i ddysgwyr a staff rhyngwladol ymweld â phartneriaid Cymreig. Un o elfennau craidd y genhadaeth hon yw sicrhau ein bod yn tynnu unrhyw rwystrau ychwanegol i gyfranogiad ar gyfer y rhai sy’n cefnogi ac yn gweithio gyda phobl o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol. Mae hyn yn cynnwys y rhai o gefndiroedd difreintiedig, cefndiroedd lleiafrifoedd ethnig, pobl Anabl a phobl ag anghenion dysgu ychwanegol.

Mae Taith yn cydnabod y gall sefydliadau llai, â llai o adnoddau, ddarparu cyfleoedd symudedd sy’n cael effaith aruthrol sy’n newid bywydau, a’u bod yn gwneud hynny. Fodd bynnag, mae gan lawer o’r sefydliadau hyn lai o amser ac adnoddau i gwblhau’r broses ymgeisio ‘un maint i bawb’ ac yn aml mae ganddynt lai o brofiad o wneud cais am grantiau. Mae’n amlwg fod y broses ymgeisio bresennol yn cymryd gormod o amser ac yn feichus i rai, yn enwedig i sefydliadau sy’n gwneud cais am lefelau is o gyllid.

WCIA Logo

O ganlyniad, mae Taith yn lansio ei gynllun Grantiau Bach newydd. Ar gyfer Llwybr 1 2025, gall sefydliadau wneud cais am hyd at £60,000 o fewn y cynllun newydd hwn. Gall y rhai sy’n dymuno gwneud cais am dros £60,000 (hyd at yr uchafswm sydd ar gael fesul sector) wneud hynny drwy’r broses ymgeisio bresennol . Gall sefydliadau wneud cais am un opsiwn yn unig ym mhob galwad am gyllid. Mae gan y cynllun Grantiau Bach ffurflen gais fyrrach a symlach gyda llai o gwestiynau i’r ymgeisydd eu cwblhau ac, os yw’n llwyddiannus, mae llai o ofynion o ran rheoli’r prosiect.

Yn ogystal â chyflwyno’r cynllun Grantiau Bach, rydym hefyd yn falch o gyhoeddi y bydd Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru (WCIA) yn cefnogi’r rhai sydd am wneud cais drwy’r cynllun Grantiau Bach nad ydynt wedi derbyn cyllid Taith o’r blaen. Byddant yn cefnogi ymgeiswyr o’r sectorau Ysgolion, Ieuenctid ac Addysg Oedolion. Bydd y cymorth hwn yn cynnwys ymgysylltiad un i un yn bersonol ac yn rhithwir, yn ogystal â chymorth â cheisiadau. Mae eu cyfranogiad yn rhoi cyfle i ymgeiswyr gael cymorth wedi’i deilwra i helpu i ddatblygu syniadau prosiect, cynllunio cylch bywyd y prosiect a chwblhau’r ffurflen gais.

Os teimlwch y gallech elwa o drafod prosiect Taith cynllun Grantiau Bach posib â WCIA, cysylltwch â ni yn Taith drwy ymholiadau@taith.cymru

Dewch ar daith gyda ni

Cofrestrwch i fod ar ein rhestr bostio i gael y newyddion diweddaraf ynglŷn â’r rhaglen.

Drwy gofrestru, rydych chi’n cytuno â’n polisi preifatrwyddy, gan gynnwys trosglwyddo eich gwybodaeth i’n platfform marchnata, Mailchimp. Gallwch ddad-danysgrifio ar unrhyw adeg.