Pam cymryd rhan?
Dangoswyd bod profiadau rhyngwladol yn cael effeithiau cadarnhaol ar ddatblygiad personol dysgwyr, canlyniadau dysgu a chyflogadwyedd yn y dyfodol, yn enwedig i’r rhai o gefndiroedd difreintiedig. Maent yn caniatáu i ddysgwyr ddatblygu gwybodaeth a sgiliau gwerthfawr wrth brofi diwylliannau ac ieithoedd Newydd. Mae dysgwyr yn dychwelyd gyda mwy o hyder, annibyniaeth a chymhelliant i ddysgu.
Drwy weithio mewn partneriaethau ledled y byd, mae athrawon yn cael safbwyntiau ffres, yn arsylwi dulliau addysgu arloesol ac yn darganfod adnoddau ac offer newydd i’w dwyn yn ôl i’r ystafell ddosbarth. Mae’r profiadau hyn yn cyfoethogi addysg dysgwyr ac yn cefnogi datblygiad parhaus Cwricwlwm i Gymru.
Mae cyfleoedd hefyd ar gael i staff nad ydynt yn addysgu gydweithio’n rhyngwladol, gan alluogi rhannu arfer gorau a datblygiad proffesiynol.
Mae Taith yn annog cyfranogiad gan bobl o grwpiau dan gynrychiolaeth ac mae wedi ymrwymo i gael gwared ar rwystrau i gyfranogiad. Mae cymorth ariannol ychwanegol ar gael i ddysgwyr a staff o gefndiroedd difreintiedig, i bobl anabl a phobl ag anghenion dysgu ychwanegol.
Bydd ysgolion sy’n cwblhau prosiect Taith yn llwyddiannus yn cael eu dyfarnu Lefel Sylfaen Gwobr Ysgol Ryngwladol y British Council. Mae’r wobr hon yn cydnabod ysgolion sy’n dangos ymrwymiad i ymgorffori ymwybyddiaeth a dealltwriaeth ryngwladol ar draws yr ystafell ddosbarth a chymuned ehangach yr ysgol. Bydd ysgolion sy’n cael eu gwobrwyo yn derbyn tystysgrif cyflawniad, ynghyd ag adborth arbenigol ac arweiniad gan y British Council i helpu i ddatblygu a chynnal eu gwaith rhyngwladol ymhellach.
Angen cefnogaeth?
Ydych chi'n teimlo bod angen mwy o gefnogaeth arnoch chi, neu eisiau trafod eich syniad gyda Taith? Llenwch y ffurflen fer hon a byddwn ni mewn cysylltiad yn fuan iawn i drefnu cyfarfod un i un.
Cliciwch yma i drefnu cyfarfod un i unOes gennych chi brosiect Taith byw eisoes?
Ardal derbynwyr grantiau
Yn yr ardal derbynwyr grantiau gallwch chi gael mynediad at bopeth sydd ei angen arnoch chi i'ch helpu chi i redeg eich prosiect Taith. Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n dewis y Llwybr a'r Flwyddyn gywir i sicrhau eich bod chi'n cael mynediad at y wybodaeth berthnasol.
Dysgu mwy
Cysylltwch â ni
Os oes angen rhywfaint o gefnogaeth ychwanegol arnoch chi, neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau.
Cysylltwch â niArchwiliwch
Hafan
Pwy sy’n gallu cymryd rhan?
Pwy sy’n gallu cyflwyno cais?
Straeon
We are pleased to share the stories from some participants of the Taith programme across the Schools sector, who have visited countries all over the world.
View Stories

