Mae ceisiadau Llwybr 1 ar agor nawr! 

Ardal derbynwyr grantiau
Cyhoeddi Digidol

Taith Llwybr 1 - Symudedd cyfranogwyr - 2026

Addysg Uwch Fersiwn 1.0, Ionawr 2026

4. Cymhwysedd

Mae’r adran hon yn cynnwys yr holl wybodaeth am sefydliadau cymwys, symudedd, hyd, cyfranogwyr a chostau ar gyfer y sector Addysg Uwch. Mae gwybodaeth am sectorau eraill yng Nghanllaw Llwybr 1 y sector perthnasol.

4.1. Hyd prosiectau

Mae prosiectau Llwybr 1 2026 yn para 12 mis. Dyma flwyddyn olaf cyllid Taith ac felly rhaid cwblhau pob prosiect erbyn 31 Awst 2027. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gallu cwblhau eich gweithgareddau arfaethedig o fewn yr amserlen hon.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall gofynion fisa’r wlad (gwledydd) ble rydych chi’n bwriadu anfon eich cyfranogwyr a chaniatewch ddigon o amser ar gyfer y broses ymgeisio am fisa (os yn berthnasol).

Nid yw Taith yn gallu rhoi cyngor ar fisâu na darparu cefnogaeth gyda cheisiadau am fisâu.

4.2. Sefydliadau cymwys

Dim ond un cais gall sefydliadau ei gyflwyno fesul sector fesul galwad ariannu Llwybr. Dylech chi sicrhau nad yw ceisiadau lluosog i’r un galwad ariannu Llwybr yn cael eu cyflwyno gan bartïon gwahanol yn yr un sefydliad. Gall sefydliadau sy’n gweithio ar draws mwy nag un sector gyflwyno un cais fesul sector os ydyn nhw yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer y sectorau hynny.

Gall sefydliadau wneud cais yn unigol neu fel rhan o Gonsortiwm (grŵp) o sefydliadau. Rhaid i bob sefydliad sy’n ymwneud â’r consortiwm fodloni’r meini prawf cymhwysedd a ddangosir isod.

Nid yw cyfranogwyr unigol yn gymwys i wneud cais yn uniongyrchol i Taith.

4.2.1 Sefydliadau cymwys i ymgeisio (sector Addysg Uwch):

Unrhyw sefydliad sy’n bodloni’r diffiniad o sefydliad o fewn y sector addysg uwch o dan adran 91(5) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (“Deddf 1992”) fel mae’n gymwys i Gymru. Ar adeg cyhoeddi’r wybodaeth hon, y sefydliadau o fewn y diffiniad hwn yw:

  • prifysgolion sy’n derbyn cymorth ariannol o dan adran 65 o Ddeddf 1992;
  • prifysgolion sy’n sefydliadau rheoleiddiedig, fel y’u diffinnir yn adran 91(5A) o Ddeddf 1992;
  • sefydliadau yng Nghymru a gynhelir gan gorfforaethau addysg uwch;
  • sefydliadau dynodedig at ddibenion Rhan II o Ddeddf 1992 (fel y’u diffinnir yn adran 72(3) o Ddeddf 1992).

Rydyn ni bob amser yn hapus i helpu i roi gwybod a fyddech chi’n gymwys i gael cyllid. Os nad ydych chi’n sicr ac eisiau gwirio eich cymhwyster sector, cysylltwch â ni ymholiadau@taith.cymru

4.2.2 Sefydliadau rhyngwladol gallwch chi bartneru â nhw:
Darlun yn dangos dwy law yn ysgwyd o flaen symbol y byd

Yn gyffredinol, gall eich sefydliad anfon cyfranogwyr i’r sefydliadau rhyngwladol canlynol y tu allan i’r DU a’r tiriogaethau dibynnol ar y Goron:

  • unrhyw sefydliad cyhoeddus neu breifat sy’n darparu addysg uwch, wedi’i gydnabod a’i reoleiddio gan awdurdodau cymwys y wlad lle mae’r darparwr yn gweithredu ac wedi’i ymgorffori a/neu wedi’i leoli
  • unrhyw sefydliad cyhoeddus neu breifat sy’n gweithredu ym meysydd addysg, hyfforddiant ac addysg uwch.

Nid yw cartrefi plant amddifad yn sefydliadau partner rhyngwladol cymwys.

4.3. Symudeddau a chyfranogwyr cymwys a’r gyllideb sydd ar gael

Os yw’ch sefydliad yn gymwys i dderbyn cyllid, yna mae’n bwysig eich bod chi’n gwirio bod y bobl rydych chi am eu hanfon ar symudedd hefyd yn gymwys.  Mae yna wahanol ofynion ar gyfer gwahanol fathau o symudedd felly gwiriwch yr opsiynau perthnasol sydd ar gael.  Mae manylion cymhwysedd y cyfranogwr yn rhagdybio bod eich sefydliad yn gymwys i dderbyn cyllid o fewn y sector hwn. Os ydych chi’n ansicr a yw eich sefydliad neu gyfranogwyr yn gymwys, cysylltwch â ni ymholiadau@taith.cymru.  Rhaid i o leiaf 25% o ddysgwyr neu bobl ifanc sy’n cymryd rhan yn y prosiect arfaethedig fod o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol a bydd disgwyl i chi ddangos byddwch yn cyrraedd y targed hwn yn eich cais.

Os nad yw dysgwyr neu bobl ifanc yn cymryd rhan yn y prosiect, bydd angen i chi esbonio pam nad yw hyn yn bosibl a sut bydd eich prosiect arfaethedig yn creu buddion uniongyrchol a pharhaol i ddysgwyr neu bobl ifanc, yn enwedig y rhai o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.

Rhaid i sefydliadau sy’n gwneud cais fod â hepgoriadau ffioedd dysgu ar gyfer symudeddau allanol a mewnol sy’n dwyn credydau, lle byddai cyfranogwyr fel arall yn gorfod talu ffioedd dysgu. Nid yw hyn yn ofyniad ar gyfer gweithgareddau sydd ddim yn dwyn credydau nac ysgolion haf sy’n dwyn credydau.

Gall cyfranogwyr fod yn derbyn sawl ffynhonnell o gyllid i gefnogi eu symudedd. Fodd bynnag, os yw unrhyw un o’r rhain yn gyllid cyhoeddus a’r bwriad yw eu defnyddio i dalu’r un costau symudedd a fyddai hefyd yn cael eu talu gan Taith (megis teithio, cynhaliaeth a chostau ychwanegol cymwys), byddai hyn yn cael ei ddiffinio fel cyllid dwbl a rhaid ei osgoi, lle bo modd.

Mae’n bosibl i unigolyn ymgymryd â symudeddau lluosog (e.e. symudedd unigol 6 mis yn Sbaen, ac yna symudedd 6 mis yn Ffrainc yn uniongyrchol), ar gyfer lleoliadau blwyddyn o hyd. Fodd bynnag, mae cyfranogwyr wedi’u cyfyngu i uchafswm o 12 mis o gyfranogiad ar gyfer pob rhaglen astudio benodol sy’n arwain at gymhwyster/gradd cydnabyddedig.

Yn achos symudeddau hirdymor, cyfrifir y cyfnod symudedd o’r diwrnod cyntaf y cynhelir y gweithgaredd cyfnewid dysgu a’r dyddiad gorffen yw dyddiad olaf y gweithgaredd cyfnewid dysgu. Os yw’r cyfnod symudedd yn cynnwys seibiannau hir fel gwyliau haf neu aeaf pan nad oes darpariaeth i fyfyrwyr yn y sefydliad cynnal, ystyrir y dyddiau hynny fel dyddiau heb eu hariannu. Nid yw hyn yn berthnasol i benwythnosau na gwyliau cyhoeddus sy’n torri ar draws y cyfnod symudedd.

Rhaid i gyfranogwyr fod wedi cofrestru ar gampws yng Nghymru i gael eu hystyried yn gymwys ar gyfer cyllid Taith, gan gynnwys yr achosion hynny lle mae gan SAUau Cymru gampysau y tu allan i Gymru (DU neu ryngwladol).

Cyllid myfyrwyr

Teithio

Pan fydd cyfranogwr yn gymwys i gael grant teithio gan y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr (SLC), dylech chi ddefnyddio cyllid Taith ar gyfer teithio yn gyntaf bob amser. Gall cyfranogwyr wneud cais i’r SLC am gostau ychwanegol cymwys sydd ddim wedi’u talu gan gyllid Taith, megis teithio rhwng eu llety a’u lleoliad/sefydliad tra byddan nhw dramor, neu deithiau dychwelyd ychwanegol.

Cyllid ychwanegol ar gyfer cyfranogwyr anabl a/neu anghenion dysgu ychwanegol

Pan mae cyfranogwr yn gymwys i gael Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA) drwy’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr, dylech chi geisio cyllid ychwanegol sydd ei angen i gefnogi eu cyfranogiad yn Taith drwy’r llwybr hwn yn gyntaf. Er mwyn caniatáu digon o amser i brosesu unrhyw hawliadau DSA, rhaid i sefydliadau sy’n derbyn grantiau sicrhau eu bod nhw’n hysbysu cyfranogwyr cyn gynted â phosibl bod eu symudedd yn digwydd a dylen nhw ddarparu digon o gefnogaeth/cyfeiriadau i’r tîm sefydliadol perthnasol i’w galluogi i fwrw ymlaen â’r hawliad. Gallwch chi gael gwybodaeth am opsiynau cyllid myfyrwyr sydd ar gael i fyfyrwyr o Loegr, yr Alban, Cymru neu Ogledd Iwerddon ar wefan pob corff cyllid myfyrwyr.

Os nad yw DSA yn talu’r cyllid ychwanegol sydd ei angen i gefnogi cyfranogwr i gael mynediad at gyfle Taith, gall y sefydliad sy’n derbyn y grant wneud cais i Taith am gyllid ychwanegol i dalu’r costau hyn. Gallwch chi ddod o hyd i ragor o wybodaeth am gyllid ychwanegol ar gyfer cyfranogwyr Anabl a/neu anghenion dysgu ychwanegol yn Atodiad 1.

Gallwch chi ddod o hyd i gyfraddau grant a chost gymwys yn adran 5.

Sylwch fod cyllid Taith yn gyfraniad tuag at y costau sy’n gysylltiedig â mynd ar gyfnewid dysgu rhyngwladol.

4.3.1 Gweithgareddau dysgwyr

Symudedd Grwp

Symudedd grŵp: Isafswm o 12 diwrnod – uchafswm o 4 wythnos (ni all diwrnodau teithio cyfrannu tuag at leiafswm cyfnod y symudedd).

Mae symudedd grŵp yn gyfle i grwpiau o o leiaf 3 o fyfyrwyr gael profiad o gyfnewid dysgu rhyngwladol, ynghyd â staff a all eu cefnogi ac arwain y profiad dysgu. Rhaid i ddarlithwyr neu staff cymwys eraill o’r SAU fynd â’r myfyrwyr drwy gydol y gweithgaredd. Os oes angen, gall oedolion eraill hefyd weithredu fel pobl sy’n cyd-fynd i gefnogi’r darlithwyr sy’n cyd-fynd. Rhaid i weithgareddau gynnwys canlyniadau dysgu wedi’u diffinio’n glir a dylen nhw ganolbwyntio ar brofiadau, gwybodaeth a sgiliau’r cwricwlwm academaidd. Gall y dysgu fod yn ffurfiol neu’n anffurfiol ond rhaid iddo gynnwys cyfnewid a chydweithio â chyfoedion o SAU neu sefydliad partner rhyngwladol, gan alluogi myfyrwyr i ddatblygu sgiliau, cymwyseddau, ymwybyddiaeth a dealltwriaeth ryngddiwylliannol.

Nid yw symudedd nad yw’n cynnwys cyfnewid â chyfoedion o wlad/gwledydd arall yn gymwys i gael cyllid.

Costau cymwys

Cyllid ar gael o Lwybr 1 (Dysgwyr a phobl sy’n gwmni):

Mae gwybodaeth fanwl am gostau cymwys a chyfraddau grant yn adran 5.

  • grant cynhaliaeth (ar gyfer llety, bwyd ac unrhyw gostau eraill pan fyddwch chi yn eich cyrchfan rhyngwladol)
    grant teithio.
  • 100% o’r costau gwirioneddol ar gyfer costau ychwanegol sy’n gysylltiedig â theithio yn achos cyfranogwyr o gefndiroedd difreintiedig (gallwch chi wneud cais am hwn unwaith y bydd eich prosiect wedi dechrau)
  • 100% o’r costau gwirioneddol a nodwyd o ran cynhwysiant ar gyfer Pobl Anabl neu bobl ag anghenion dysgu ychwanegol (gallwch chi wneud cais am hwn unwaith y bydd eich prosiect wedi dechrau)
  • grant cymorth sefydliadol ar gyfer pob cyfranogwr allanol (a mewnol)

Ar gyfer myfyrwyr o gefndiroedd difreintiedig:

  • ychwanegiad o 50% at y grant cynhaliaeth
  • ychwanegiad o 50% at y grant teithio ar gyfer cyrchfannau y tu hwnt i 4,000km

Cyfranogwyr cymwys

Dysgwyr:

  • pob myfyriwr sydd wedi cofrestru mewn sefydliad addysg uwch ac wedi cofrestru mewn rhaglen israddedig neu ôl-raddedig a addysgir sy’n arwain at radd gydnabyddedig
  • pob myfyriwr sydd wedi cofrestru ar gwrs Gradd Sylfaen, Diploma Cenedlaethol Uwch (HND) neu Dystysgrif Addysg Uwch

Rhaid i symudedd grŵp gynnwys o leiaf 3 dysgwr.

Pobl sy’n gwmni:

Staff a gyflogir gan y SAU – boed yn staff addysgu neu beidio. Os oes angen, gall oedolion eraill  sy’n cael eu cymeradwyo gan y SAU hefyd weithredu fel pobl sy’n dod gyda nhw i gefnogi’r staff sy’n dod gyda nhw.

4.3.2 Gweithgareddau Staff:

Dylai pob symudedd staff (heblaw am weithgareddau Ymchwil) greu buddion uniongyrchol a pharhaol i ddysgwyr, yn enwedig y rhai o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol. Disgwylir i chi ddarparu manylion ar sut bydd hyn yn cael ei gyflawni o dan ‘Amcan 1 – Sicrhau bod Cyfnewidiadau yn Darparu’r Effaith Fwyaf’ o feini prawf asesu Llwybr 1.

Cysgodi Swydd a Lleoliadau

Isafswm 2 ddiwrnod – uchafswm 8 wythnos.

Lleoliadau addysgu ar gyfer staff academaidd mewn unrhyw faes astudio i addysgu a chydweithio mewn sefydliad partner dramor. Gall lleoliadau addysgu academaidd hefyd gynnwys darparu hyfforddiant ar gyfer datblygiad y sefydliad partner mewn maes penodol.

Bydd cysgodi swyddi yn cynnwys cyfleoedd symudedd i staff gwasanaethau academaidd neu broffesiynol ymgymryd â symudedd cysgodi swyddi, gan hwyluso arfer gorau, cyfnewid gwybodaeth, datblygu gyrfa a datblygiad proffesiynol parhaus.

Gallwch chi gyfuno lleoliadau a chysgodi swyddi yn ystod un cyfnod dramor.

Costau cymwys

Cyllid ar gael o Lwybr 1 (Staff):

Mae gwybodaeth fanwl am gostau cymwys a chyfraddau grant yn adran 5.

  • grant cynhaliaeth (ar gyfer llety, bwyd ac unrhyw gostau eraill pan fyddwch chi yn eich cyrchfan rhyngwladol)
  • grant teithio
  • 100% o’r costau gwirioneddol ar gyfer costau ychwanegol sy’n gysylltiedig â theithio yn achos cyfranogwyr o gefndiroedd difreintiedig (gallwch chi wneud cais am hwn unwaith y bydd eich prosiect wedi dechrau)
  • 100% o’r costau gwirioneddol a nodwyd o ran cynhwysiant ar gyfer Pobl Anabl neu bobl ag anghenion dysgu ychwanegol (gallwch chi wneud cais am hwn unwaith y bydd eich prosiect wedi dechrau)
  • grant cymorth sefydliadol ar gyfer pob cyfranogwr allanol (a mewnol)

Cyfranogwyr cymwys

Ar gyfer lleoliadau addysgu academaidd:

Pob aelod o staff sydd â chontract addysgu neu addysgu ac ymchwil gweithredol (tymor penodol neu benagored) gyda’r sefydliad addysg uwch sy’n gwneud cais.

Ar gyfer cysgodi swyddi:

Pob aelod o staff sydd â chontract cyflogaeth gweithredol (tymor penodol neu benagored) gyda’r sefydliad addysg uwch sy’n gwneud cais.

4.3.3 Ymweliadau paratoadol a Symudedd mewnol

Wrth gyflwyno cais am brosiect, gallwch chi gynnwys ymweliadau paratoadol a symudeddau mewnol fel rhan o’ch cynllun.

Mae ymweliadau paratoadol yn rhoi’r cyfle i chi ymweld â phartneriaid rhyngwladol newydd neu rai presennol. Mae’r ymweliadau hyn yn eich helpu i gefnogi symudeddau Taith wedi’u cynllunio neu sydd yn digwydd ac a restrir yn y cais hwn.

Mae symudeddau mewnol yn caniatáu i chi groesawu eich partneriaid rhyngwladol yng Nghymru, gan roi cyfle iddyn nhw brofi eich amgylchedd dysgu a chryfhau cydweithio ymhellach.

Ymweliadau paratoadol

Isafswm 2 ddiwrnod – uchafswm 7 diwrnod.

Ymweliadau â phartneriaid rhyngwladol newydd neu bresennol i gefnogi teithiau arfaethedig neu barhaus o fewn yr un cais. Rhaid i bob ymweliad paratoadol fod â sail resymegol glir a rhaid iddo wella cynhwysiant, cwmpas ac ansawdd gweithgareddau symudedd. Er enghraifft, gellir trefnu ymweliadau paratoadol i helpu i baratoi ar gyfer symudedd cyfranogwyr ag anghenion ychwanegol, i ddechrau gweithio gyda sefydliad partner newydd neu i baratoi symudedd am gyfnod hwy. Gellir eu trefnu hefyd i ddarparu cymorth i ddysgwyr ar symudedd unigol tymor hwy. Gellir trefnu ymweliadau paratoadol i baratoi ar gyfer unrhyw fath o symudedd dysgwyr, ac ar gyfer symudedd staff lle mae sail resymegol glir.  Rhaid cwblhau’r ymweliad paratoadol cyn i’r dysgwr neu’r staff symud i fod yn berthnasol iddo.  Yr unig eithriad fyddai ymweliadau cymorth bugeiliol â symudedd dysgwyr unigol hirdymor.

Bydd Taith yn ariannu hyd at uchafswm o dri ymweliad paratoadol fesul cais a hyd at uchafswm o ddau gyfranogwr fesul ymweliad. Mewn amgylchiadau eithriadol, gall sefydliadau sy’n gwneud cais ofyn am fwy na dau gyfranogwr ar gyfer pob ymweliad lle darperir rhesymeg a chyfiawnhad clir.

Rhaid i’r gweithgaredd y bwriedir i’r ymweliad(au) paratoadol ei gefnogi hefyd gael ei gynnwys yn y cais.

Costau cymwys

Cyllid ar gael o Lwybr 1 (Staff):

Mae gwybodaeth fanwl am gostau cymwys a chyfraddau grant yn adran 5.

  • grant cynhaliaeth (ar gyfer llety, bwyd ac unrhyw gostau eraill pan fyddwch chi yn eich cyrchfan rhyngwladol)
  • grant teithio
  • 100% o’r costau gwirioneddol ar gyfer costau ychwanegol sy’n gysylltiedig â theithio yn achos cyfranogwyr o gefndiroedd difreintiedig (gallwch chi wneud cais am hwn unwaith y bydd eich prosiect wedi dechrau)
  • 100% o’r costau gwirioneddol a nodwyd o ran cynhwysiant ar gyfer Pobl Anabl neu bobl ag anghenion dysgu ychwanegol (gallwch chi wneud cais am hwn unwaith y bydd eich prosiect wedi dechrau)

Ni fydd y gweithgaredd hwn yn cynhyrchu taliadau cymorth sefydliadol.

Cyfranogwyr cymwys

  • Pob aelod o staff sydd â chontract cyflogaeth gweithredol (tymor penodol neu benagored) gyda’r sefydliad addysg uwch sy’n gwneud cais.