Atodiad 2
Atodlen 2 – Categorïau grwpiau gwledydd / tiriogaethau
Bydd ceisiadau llwyddiannus yn derbyn cyllid tuag at ddarparu symudeddau rhyngwladol, gan gynnwys grantiau cynhaliaeth i gyfranogwyr i dalu costau byw mewn gwlad gyrchfan.
Mae gwledydd cyrchfan yn cael eu dosbarthu yn dri grŵp gwlad yn seiliedig ar eu costau byw cymharol. Ar gyfer y symudedd, bydd cyfranogwyr yn derbyn y swm cynhaliaeth perthnasol (a gyfrifir fel cyfradd ddyddiol), yn dibynnu ar gyfanswm hyd symudedd a gwlad gyrchfan.
Gofynnir i sefydliadau sy’n gwneud cais nodi cyfanswm nifer y symudedd a ragwelir fesul gwlad gyrchfan a chânt eu grwpio i’r tri chategori canlynol:
- Grŵp 1 (Costau byw uwch)
- Grŵp 2 (Costau byw canolig)
- Grŵp 3 (Costau byw is)
Bydd Cymru (at ddibenion symudedd mewnol) a’r DU (mewn achosion lle caniateir symudedd domestig) yn cael eu dosbarthu fel gwledydd Grŵp 1 i adlewyrchu costau byw uwch yn y Deyrnas Unedig.
Mae rhaglen Taith yn agored i bob gwlad yn y byd, ond rhaid dilyn cyngor teithio gan lywodraeth y DU Foreign, Commonwealth and Development Office (FCDO).
Gweler isod ddosbarthiad llawn ar gyfer pob gwlad neu ranbarth:
Grŵp 1 | Grŵp 2 | Grŵp 3 |
---|---|---|
Andorra | Bahrain | Albania |